Cerddi'r Bwthyn/Y Porthladdoedd Prydferth
← Fy Nhaid | Cerddi'r Bwthyn gan Dewi Emrys |
Breuddwyd Glyndŵr → |
Y PORTHLADDOEDD PRYDFERTH
PAN ddêl awr dduaf hirnos afar,
 llefain gwylain fel sŵn galar,
Diau, gwyrth yr enaid gwâr—a'u ceisio
Ydyw mordwyo ym merw daear.
Wrth hwylio atynt, yn bêr y sieryd
Ei ymestyn hir am asbri'r ysbryd:
Cyrchu'r gorwel rhag carchar y gweryd,
A sôn am ryw gilfach harddach o hyd.
Na chlywid banllef hefyd,—ambell dro,
Neu eglur grio iddo gyrhaeddyd!
Ond odid, melysach trais eu ceisio
Na bywyd ar ffin byd a orffenno;
Dwyn erddynt gri'r heliwr a ymwrio,
A'i wynias aidd yn flys einioes iddo ;
Coledd, a hwythau'n cilio,—ar lif noeth
Nwyd awen boeth a chyndyn obeithio.
O! enaid bach aflonydd!—Ai dyheu
Fydd dy hoen dragywydd?
Mae'r ysfa am rodfa rydd
Yn dy boeni di beunydd.
Eurodd byd hafaidd oriau—dy hiraeth
Â'i derydr a'i flodau;
Ond yn dy gell, rhyw bell bau
A bair it rwygo'r barrau.
Ar dy wib, ai dechrau dawn—dy gynnydd
Yw dy gwyno tristlawn,
Ernes gorfoledd eurnawn
Y Cariad Llwyr a'r Cord Llawn?
Hanes dy yrfa yn nos daearfyd
Yw troi o hafan i hafan o hyd;
Ceisio dy lwysnef, a phrofi hefyd
Winoedd y duwiau gan aidd dihewyd;
Hedfan rhag chwalfa'r adfyd—a'r ymladd
O borthladd i borthladd mewn tecach byd.
Bu lleisio mewn chwedl a chân amdanynt,
Rhinio a harddu cyrff meirwon erddynt,
Breuddwydio yn nhiroedd y gadfloedd gynt
A gwyll fforestydd am wynddydd ynddynt.
Ym mhob cur, ym mhob corwynt,—drwy'r oesoedd,
Oni lŷn nerthoedd hen lewion wrthynt?
Valhala, tref adfod cadweilch Odin,
Ei urddo a drengo yn nhwrf y drin;
Ail ennyn miri hen gewri gerwin,
Rhoi iddynt benglogau yn gawgiau gwin.
Gan amlder nerth, bydd chwerthin—mawr yno
A dwyn yr eildro hen dân yr heldrin.
Yr Heldir Hapus, coedle'r plesera,
Tir esmwyth luest a gloddest gwledda;
Rhoddi i heliwr cawraidd ei wala
Ar ros a mynydd heb gur hwsmona.
Ar drywydd yr hydd yr â—fel ysbryd,
 hyder ei fywyd ar ei fwa.
Nirfana, hafn gydryw rhwng byw a bod,
A'i hen dawelwch yn ddwfn diwaelod.
Yn hon y try glewion, â'u marw yn glod,
O wyll anobaith i gell anwybod.
Hedd eu cwsg fydd eu cysgod,—hedd perffaith,
A'u diwedd hirfaith yn falm diddarfod.
Elysium, bro liwiog dan heulog nen,
A'i thiroedd yn lleoedd beirddion llawen.
Fel tegwch gardd ei choetgae a'i chardden,
A swyn ei heurffyrdd yn ias anorffen.
Ni thry i'w llannerch berchen—llawryfoedd
Na ddaw i wynfaoedd nwyf ei awen.
Afallon, ynys pob hud yw honno,
Ynys Arthur heb wae arni'n syrthio.
Hafan ei enaid, â'i laif yn huno,
Llain heb liw henaint, na phall, na blino.
Gan rin nad yw'n llychwino—purdeb bron,
Mae'r hen farchogion yn wynion yno.
El Dorado. Bydd yno ddinas,
A'i nos gan aur yn llosgi'n eirias,
Tân ei meini'n gwreichioni'n wynias,
Ei gemau'n oddaith mewn brodwaith bras,
A'i golau aur, uwch môr glas—a'i ebyr,
Yn rhuddo gwely'r dyfroedd golas.
Paradwys, tawelfro'r gorffwys a'r gân,
Noddfa rhinweddau a dyddiau diddan,
Lle rhoir i'r sant llwyd, a dynnwyd i dân
Yr hen, hen aflwydd, goron anniflan.
A ddwg yr efrydd egwan—faich a thid
Na fawl o'i ofid y Nefol Hafan?
Er honno y llosgodd anniffodd nwyd
Hen arwyr preiffion ym more'r proffwyd;
A'i golud rhyfedd yw'r hedd a roddwyd
I alltudion Cred ar dyle dulwyd.
'Roedd ei Hun ar ruddiau llwyd—merthyri
A lwybrai iddi yng ngolau breuddwyd.
Fel dall a gais wên y ceisiaf heno
Weld hardd gymdeithas y Wenwas honno,
Neu gaethfab dyfal a ymbalfalo,
 muriau cyndyn yn dynn amdano,
Neu heliwr a ddisgwylio—ymwared
O hen bwll abred lle ni bu llwybro.
Na cheisied Hiraeth ddullwedd ei thraethau
Na llun tenantiaid ei heuraid erwau,
Cans ni ddaeth yn ôl drwy'r dwfn anolau
Nebun a gefnodd ar boen ac ofnau.
Ymgyll ein gweiddi ninnau—mewn llynclyn
Yn nyfroedd hygryn hen fôr o ddagrau.
Gwelir, gan daerni gweddi a gwaith,
Ambell wên hybell yn troi'n obaith,—
Rhyw sant a ŵyl, uwch drysni talaith,
Yn rhoi trem enaid i'r llygaid llaith;
Gweld gwawr fwyn, a dal mwyniaith—gwynnach byd,
A dychwelyd i'r duwch eilwaith.
Hwylio'n ôl, yn flin gan ddrycinoedd,
Ar för dilewych o'r hyfryd leoedd;
Dihuno yn nhlodi'r anialdiroedd,
Colli'r gerddi a llwyni gwinllannoedd;
Colli hedd heirdd gynteddoedd gan drallod
Ym merw difrod y fflamau a'r dyfroedd.
Gweld ffrwyth cymhelri a'i ynni anwar,—
Hir ochain a gwae a throchion gwyar,
Ynfydu heol, troi nef a daear
Yn ffwrn o lid gan uffernol adar,
Ysgwyd y byd a gwasgar—dinasoedd,
Taro miloedd gan storom o alar.
Plant yn gyrff gŵyrgam, trefydd yn fflamio,
Oesau o werthoedd dwyfol yn syrthio;
Tŷ Gweddi yn garn heb nenbren arno,
Eithr myglyd dduwch yn dristwch drosto;
Heddwch y byd yn suddo—gyda'r Grog
I greision halog . . . a'r Iesu'n wylo!
Baradwys lwys! Lle bu pêr leisio
Ei henw annwyl, mae'n uffern heno,
Tlysni'r "Hyfryd Wlad" yn ymado,
A'i chenhadon yn ocheneidio.
Fel lle'r chwain a'r puteinio,—pentwr llwyd
Yw'r fan lle cysegrwyd breuddwyd bro.
Try'r sant, o'i anfodd, a'r byd yn oddaith,
I wyll anhyder ar dyle'r dalaith;
Amau'r hen gred a leddfodd galedwaith
A'i ddwyn i uchelion gwynion ganwaith;
Holi, â'r caddug eilwaith—ar bob crib,
Ai seren wib oedd llusern ei obaith.