Cerddi'r Eryri/Ewyllys Adda

Ysgoldy Rhad Llanrwst Cerddi'r Eryri
Cerddi
gan William John Roberts (Gwilym Cowlyd)

Cerddi
Cerdd y Fwyall

TRAETH-ODL AR EWYLLYS ADDA

Os gellwch chwi wrando chwedel,
Rwy'n deisyf cael dweyd yn isel,
Fel yr aeth y byd i gyd o'i go',
Fe fy nychir am floeddio'n uchel.

Geill llawer ddweyd wrth ddechreu,
Am danaf fy mod i'n ben denau;
Ond daliwch sylw wrth wrando'n hir,
A glywch chwi ddim gwir o'r geiriau.

Fe luniodd Adda ei 'wyllys
Yn fulaidd ac yn anfelus;
Fe aeth ei feibion, pa fodd bynag fu,
Ar ol ei gladdu i radd g'wilyddus.

Gosododd rai ar orsedd—feingciau
I wisgo porphor a sidanau;
Eraill i fatogi, ac i geibio'n g'oedd,
Mewn glynoedd hyd ben eu gliniau,

Rhoes deyrnwiail i rai o'i feibion,
I eraill ffust a golchffon;
A'r cwbl yn frodyr un ben a gwaed,
R'un dwylo a thraed yn union.

Ac i'r neb sy'n gweithio leia'
Y rhoes e'r peth goreu i'w fwyta;
A'r gwaca ei fol, fel mae gwaetha'r drefn,
Yw'r lluman a'r cefn llwma.

Ond rhoes gymaint o dwyll, rhagrith a chelwydd,
Ac o chwantau'r galon i bawb fel eu gilydd;
A rhoes bawb 'run bellder oddiwrth y ne',
Yn y gole tan yr un g'wilydd,

A rhoes gymaint balchder i'r tlota o'i deulu,
Ag i'r brenin, ond ni roes e' ddim i'w brynu;
Mi row'n genad, rw'n meddwl, i dori 'mys,
Cyn lluniwn i f'wyllys felly.


A'i blant pan ddechreusant gynt ymlwybraeth,
Gosododd hwy redeg gyrfa naturiaeth,
Rhoes bawb yr un bellder oddiwrth y ne',
A'u hwynebau i 'le anobaith.

Dyna lle'u gadawodd i gyd-ymdrabaeddu,
A'r llaid ar eu dillad a'r lle wedi ei d'wyllu,
I sathru traed eu gilydd yn y byd,
Yn filoedd wrth gyd drafaelu.

Ni cherdda'r cybydd mo lwybr oferwr,
Na rhegwr gwaetha mo lwybr rhagrithiwr,
A'r cwbl yn rhedeg yn bur rhwydd,
Rhwyg-afiwydd o'r un gyflwr.

A dyma fel yr aeth y ffordd mor llydan,
Fod pawb mor hynod am ei lwybr ei hunan,
A phob un a'i drachwant gydag e',
A'i bleserau a blys arian.

Yn awr mae dysgawdwyr llawn eu dysgleidiau,
Gan dewder a bloneg yn dadwrdd o'u blaenau;
"Ffordd uffern yw hon, dim pellach dowch,
Gochelwch, trowch yn eich olau."

Ac mae ffyrdd y rhain i'r nef cyn groesed,
Fel un ar i fyny, a'r llall ar i waered;
Yn ddigon er moedro menydd dyn gwan,
Heb wybod pa fan i fyned.

Meddai'r Papistiaid, "Cymʻrwch Pedr apostol,
Addefwch a thelwch, chwi fyddwch etholol,
Chwi gewch fynd i'r nef ar haner gair,
Heb fyn'd ddim pellach na Mair i morol."

Meddai'r Methodistiaid, "Ewch hyd y ffordd dosta
Ni feddwch dda'ch hunain, addefwch eich ana;
Ac os na'th etholwyd, 'dewch chwi byth i'r ne',
Ac uffern fydd eich lle, cewch goffa."


Na, meddai'r Baptist, "Nid dyna'r ffordd nesa,
Ewch dros fryn y wyntyll, a thrwy bant yr olchfa,
Gadewch foty bedydd plant ar y llaw chwith,
A chwi fydd y gwenith gwyna."

Na, meddai'r Wesleys, " Mae hono'n ffordd dd'ryslyd,
Mae llwybr i'r buarth trwy dref glendid bywyd;
Nac oes, meddai'r Cwacers, " dewch chwi fyth yn ffri
Heb gynhwrf ac asbri'r Ysbryd."

Na, Meddai hen Eglwys Loegr, " Ewch yn bur ddigyffro,
Rhwng dwy lech Foses, does le i chwi fisio,
A gymero dir, degymed yn deg,
Dim chwaneg. byddwch iach yno."

Wel, bellach oʻr werin, pa ddewin eill wirio,
Pwy sydd ar gelwydd, a phwy ellir goelio?
Mae'n ddigon er ammeu dan y rhod,
A oes uffern yn bod neu beidio.

Minau a roʻf gynghor yn debyg i'r Person,
Mae hanes ddiogel mai hyny sy ddigon;
Car dy gymmydog fel ti dy hun,
A Duw tri yn un oʻth galon.
NANTGLYN

Nodiadau

golygu