Cerddi'r Eryri/Myfyrdod ar lanau Conwy
← Caniad y Gog i Arfon | Cerddi'r Eryri Cerddi gan William John Roberts (Gwilym Cowlyd) Cerddi |
Can y Bardd wrth Farw → |
MYFYRDOD AR LANAU CONWY.
Ton—Earl of Moira.
Ar lanau Conwy ar fy nhro,
Pan byddwy'n rhodio ar hynt,
Ni fedraf lai na dwyn ar go ',
Wrth gofio'r dyddiau gynt:
Pa le mae'n hen gyfeillion llon,
A'm cyd-chwaryddion res;—
Er chwilio yma amser hir,
Ni byddai'n wir ddim nes;
Ond gwaith ffol—dyddiau'n ol,
Ni wiw eu 'morol mwy.
Bum yno ganwaith ar fy nhro,
Yn rhodio ar ei hyd,
Pan oedd difrifwch heb fy nal,
Heb ofal yn y byd;
A'm cyd-gyfeillion, wiwlon wedd,
Un tuedd oeddynt hwy;
Ffarwel yn awr i'r dyddiau gynt,
Ni welir mo'nynt mwy;
Ond pa les—nid wyf nes,
Nid oes dim o'u hanes hwy.
Fe ddarfu'm hen gyfeillion hael,
Fy ngadael braidd i gyd;
Mae rhai yn gorwedd dan y gwys
Yn llwyr o bwys y byd;
A'r rhai sy'n fyw gwasgarant oll
Ar goll i'r pedwar gwynt;
Mae hyny bron a dwyn fy ngho'.
Wrth gofio'r dyddiau gynt:
Aent ar hynt fel y gwynt,
Ac ni welir mo'nynt mwy.
PYLL