Cerddi'r Eryri/Sion Prys

Gogangerdd Dirmygwyr Cyfarfodydd Llenyddol Cerddi'r Eryri
Cerddi
gan William John Roberts (Gwilym Cowlyd)

Cerddi
Y Byd yn Powlio

SION PRYS.

Roedd hen wr ers talm, a gyfenwid Sion Prys,
Gwr parchus mewn llawer golygiad;
'Roedd ganddo fo Dyddyn heb ddegwm na threth,
Ac wmbreth o wartheg a defaid,
Ac wmbreth o weision, (rhwng dynion a hogs)
Mewn closau pengliniau, a byclau'n eu clocs.

'Roedd Sionyn mot enwog a'r Pab mewn un peth,
Yn gwbl ddi feth anffaeledig;
Ac mor ddigyfnewid a'r Quacker ei hun
Oddiwrth bob hen gynllun cyntefig;
Hen wladwr oedd Sion, os bu gwladwr erioed,
Bob blewyn o'i ben, a phob ewin o'i droed.

'Roedd beudy fan yma a man draw hyd y tir,
Gryn filltir o'r fan'r oedd e'n trigo;
Lle carid y gwellt a'r holl borthiant ar gefn,
Er helpu cyfundrefn y teilo;
Can's Teiliai'r hen bobl ers talm, clywais ddweyd,
Mewn cewyll ar gefn, cyn i drol gael ei gwneyd.

Pan welid y gwanwyn yn chwerthin mewn dail
Yn llygad yr haul gwyneb felyn,
Rho'id iau ar y Bustych, darperid yr ioc,
A thresi godidog o wdyn;
Ac ambell i glwt, o le teg a phur hawdd,
Pob un yn gawellwr cynhefin,
Yn tuthio o'r domen i'r cae, ac yn ol,
Am ddyddiau olynol bob blwyddyn;
A dyna fel byddent os gwir ddywed rhai,
Yn cario, ac yn cario, a'r domen fawr lai.


O dipyn i beth, daeth arferiad i'r byd.
Ceffylau, ac erydr, a throliau;
Ond fynai Sion Prys ddim i droliau un dyn
Gael llwytho'n yr un o'i domenau;
Can's tybiai'r hen frawd fod y ceffyl a'r drol,
Yn llyncu'r holl dail ar rhy 'chydig o lol.

'Doedd dim fynai ef, ond y cawell ar gefn,
A chadw'r hen drefn yn dragywydd;
Ffolineb a rhodres, medd ef, oedd wrth wraidd
Y cynllun Seisnigaidd a newydd;
Waeth beth dd'wedai rheswm na phrofiad o'i phlaid,
Cawellu wnai Sion am mai felly gwnai' i Daid.

Mae llawer o feibion Sion Prys,—o ran ffydd,
I'w gweled bob dydd ar hyd Cymru;
Rhai'n sefyll yn erbyn pob amcan trwy'r wlad
Fo'n groes i arferiad y teulu;
Rhyw hurtiaid hunanol, i'w heinioes yn bla,
Yn ddall i bob rhinwedd, a chroes i bob da.

Adwaenir y tylwyth gan laesder eu hael,
A'u nodwedd iselwael a bawlyd;
Oddiwrth bob diwylliant ymgadwant ymhell,
Can's gwell ganddynt gawell na cherbyd I
Mae dysg, a llenyddiaeth, a chanu mewn trefn,
I'r rhai'n megys trol—yn lle'r cawell ar gefn.

ERGYD Y DDAMEG

Os oes yn bresenol rhyw rai'n digwydd bod
Heb hoffi'r cyfarfod Llenyddol,
Ac heb weld y gwelliant mewn symledd a chwaeth
Yn null ein caniadaeth grefyddol,
Mae'r oes yn myn'd rhagddi, dowch allan ar frys,
Rbag ofn cael eich rhestru'n ddisgyblion Sion Prys.
GWILYM COWLYD

Nodiadau

golygu