Cerddi'r Eryri/Yr hen amser gynt pan oedd Bess yn teyrnasu
← Y Morwr Mwyn | Cerddi'r Eryri Cerddi gan William John Roberts (Gwilym Cowlyd) Cerddi |
Ysgubor Rhysyn → |
YR HEN AMSER GYNT PAN OEDD BESS YN TEYRNASU.
Ton—The happy Days of Queen Bess
Os oes yma rai o hil yr hen Gymry,
Yn hoffi'r hen iaith, ac hefyd glywed canu;
Hyfryd i ni feddwl am yr amser aeth heibio,
Pan oedd y byd yn dda, a'r bobl heb rwystro.
BYRDWN.
O! faint o gyfnewid
Yn awr sydd yn Nghymru,
Er yr amser gynt
Pan oedd Bess yn teyrnasu.
Nid oedd yr amser hyny fawr o eisiau arian,
Pawb yn byw yn enwog, ar ei dir ei hunan;
Croesawu cerddorion y byddid wythnosau,
Rhai i ganu hâf, a'r lleill i ganu gwyliau.
O faint o gyfnewid, &c.
Llawer math ar gân a fyddai gan y rhei'ny,
Y Symblen Ben Bys, a'r hen Hob y Deri,
Plygiad y Bedol Bach, a Marged fwyn ach Ifan,
Ar hyd y Nos, a'r hen Forfa Rhuddlan.
O faint o gyfnewid, &c.
Nid oedd yr oes hono fawr o son am drethi,
Na mesur y tiroedd, na chodi y rhenti;
Ond undeb a chariad oedd yn mhob cym'dogaeth,
A gadael i Satan gyflogi gwyr y gyfraith.
O faint o gyfnewid, &c.
Ar brydnawn gwyliau myned byddai'r llanciau,
I ganol llanerch dêg i gadw chwareufa gampau;
Rhedeg a neidio y byddai'r rhai gwrol,
'Maflyd codwm clos, a thaflu maen a throsol.
O faint o gyfnewid, &c.
Nid oedd yr oes hono ond ' chydig o falchder,
Ni welwyd yn Llundain nemawr Haberdasher;
A phawb hyd wlad Cymru'n byw'n ddigon llawen,
A’u dillad i gyd o frethyn ac o wlanen.
O faint o gyfnewid, &c.
'Doedd gan modryb Alis, na chwaith modryb Modlen,
Ond bacsen am y goes, a charai i g’lymu r glocsen,
Pais o ddu'r ddafad, a chrys o wlanen deueu,
Het o frethyn tew, a chap o lian cartre'.
O faint o gyfnewid, &c.
Nid oedd gan fewyrth Shôn, ap Meurig ap Morgan
Ond cryspais o wlanen, a chlos o frethyn herpan,
Ffon o dderwen gref a fyddai yn ei ddwylaw,
Gwregys am ei ganol i rodio ar ol ciniaw,
O faint o gyfnewid, &c,
Ni bu yr hen bobl erioed yn yfed.brandi,
Ni cha'dd yr hen wragedd fawr o dea a chofee
Bara ceirch cadarn o flawd wedi rhuddo,
Ychydig o 'fenyn ac enwyn i ginio,
O faint o gyfnewid, &c.
Er hyny 'roedd cwrw i'w gael yn rhai cyrau,
I yfed at y beirdd am wneyd carol gwyliau;
'Roedd yr amser hyny ganu digon cymwys,
A chân pawb o'r goreu cyn cychwyn i Gaerwys.
O faint o gyfnewid, &c.
Ni wiw i'r beirdd 'rwan feddwl gwneuthur canu,
Na b'o chwech neu saith mor groes am eu barnu;
Er iddynt wneyd englyn, a hwnw'n broest cadwynog,
Ni thal o mo'i ddarllen oni bydd e'n gyfochrog.
O faint o gyfnewid, &c.
Ond twrch a cherdd Seis'neg, na thal hi mo'i gwrando
Hwn a gaiff barch p'le byna y byddo,
A llawer Cymro balch sy'n deall canu Saes'neg,
Ofer yn Gymraeg yw canu dim yn 'chwaneg.
O faint o gyfnewid, &c.
Ni ganwn Gymraeg er gwaetha'r rhai beilchion,
Er cymaint eu brad, a thwyll y cyllill hirion;
Er cymaint yw hunan a dichell y Saeson,
Ni ganwn iaith ein mam er gwaetha'r ynfydion.
Boed eto gyfnewid
Trwy holl siroedd Cymru,
Gwell na'r amser gynt,
Pan oedd Bess yn teyrnasu.