Cerddi Hanes/Arthur Gawr
← Caradog | Cerddi Hanes gan Thomas Gwynn Jones |
Ogof Arthur → |
Arthur Gawr.
MAE galar drwy Ynys Brydain,
Nid dewr y gelyn, ond bas—
Gwenwyn yn nwfr y ffynnon a roed,
Ac Uthr Bendragon a las.
O goedydd duon y gogledd,
O nentydd dyfnion y de,
O'r dwyrain llyfn a'r gorllewin llwyd,
Daw'r gri "Pwy a leinw ei le?
Prysur y cyrch y penaethiaid
Gaer Ludd o gyrrau y wlad,
I ddewis unben Prydain a rhoi
Y goron i lyw y gad.
Daw rhai o dueddau'r gogledd
A'u gwisg yn felyn a glas,
Fel blodau'r banadl a dail y pîn,
I'w canlyn mae llawer gwas.
O diroedd y de daw eraill
A'u gwisg yn goch ac yn ddu,
Coch fel y gwaed a du fel y nos;
I'w canlyn hwythau mae llu.
Daw eraill o duedd y dwyrain
A'u gwisg yn wineu a rhudd,
Gwineu a rhudd fel gwenau'r haul
O'r dwyrain ar doriad dydd.
Daw llawer o du'r gorllewin
A'u dillad yn wyrdd a gwyn,
Gwyrdd fel irddail ar lwyni'r haf,
Gwyn fel ôd gaeaf ar fryn.
Ond ofer yw cymryd cyngor,
Nid ydyw'r penaethiaid gytûn;
Gwych gan bob un pe gallasai ef
Ennill y goron ei hun.
Dair gwaith bu gyfarfod a chyngor,
A theirgwaith oferwaith fu,
Ac yna y dywaid Myrddin air,
A doeth oedd ym marn y llu.
Gosteg, benaethiaid," medd Myrddin,
"Mawr yw caledi ein gwlad,
A'r gelyn du yn anrheithio'n tir,
Pwy a fydd flaenor y gad?
"Bydded i chwi yr offeiriaid
Heno weddïo ar Dduw
Ar roddi ohono arwydd gwir
Pwy a fydd inni yn llyw.
"Ac yno dewiswn hwnnw
A thyngwn yn enw'r ffydd
Y mynnwn drechu'r gelyn traws,
A chadw y deyrnas yn rhydd."
Gorffwys a wnaeth y penaethiaid
Bob un ar ei darian gref,
A'r gwŷr o grefydd a'u gweddi'n daer
Ar Dduw am ei arwydd ef.
A threiglodd y noswaith honno
A cherdded ei horiau'n hir,
A phawb yn disgwyl am wawr y dydd
I ddangos yr arwydd gwir.
Ac weithian y daw'r rhai dewrion
A'r wawr ar eu harfau'n glaer;
A daw'r offeiriaid o'r eglwys draw
Yn araf at borth y gaer.
Ar lawnt agored y castell
Saif maen megis darn o fur,
Ac eingion dur yng nghanol y maen,
A chledd hyd ei garn yn y dur.
Ac ar y maen ysgrifen,
Ysgrifen aur ydyw hi,—
"A dynno'r cledd o ganol y dur,
Hwnnw a fydd y rhi."
Yno i dynnu'r cleddyf
Daw enwog a chedyrn wŷr,
Ond nid oes un a all lacio'r llafn
Yng nghanol yr eingion dur.
Brenhinoedd gogledd a deau,
Gorllewin a dwyrain dud,
Ceisiant yn ofer a throant draw
A siom ar eu gwedd i gyd.
A dywed y pen offeiriad:―
Am nad oes a'i tynno ef,
Nid oes a haeddai yn frenin fod
Yn ôl dangosiad y nef."
Ond cyn eu myned ymaith,
Un arall a ddaw ymlaen,
A chwardd y penaethiaid o weled llanc.
Yn neidio i ben y maen.
Yntau a blyg yn ystwyth
A chydio yng ngharn y cledd,
A'i dynnu a'i chwyfio uwch ei ben,
A gwên yn goleuo'i wedd.
"Wele ein teyrn," medd Myrddin,
Arthur fab Uthr ydyw ef,
Gwledig yr ynys o union dras
Yn ôl dangosiad y nef!"
A gwaedd a rydd y penaethiaid,
A'r llu a'u hetyb yn awr-
"Byth bydded ynys Brydain yn rhydd,
A byw fyddo Arthur Gawr!"