Cerddi Hanes/Gweinidog Llan y Mynydd
← Yr Hen Lafurwr | Cerddi Hanes gan Thomas Gwynn Jones |
Y Bardd → |
Gweinidog Llan y Mynydd
GWEINIDOG Llan y Mynydd,
Ei fywyd, llonydd fu,
Ond gwelodd ambell ddiwrnod teg
A llawer cwmwl du.
Bu ugain mlynedd wrthi
Yn torri'r gloyn du,
A gwelid ôl ei galed waith
Mewn llawer craith tra fu.
Ni ddysgodd Roeg na Lladin,
Ni wybu'r hen Hebraeg,
Ac ni cheid llun ar frawddeg gron
Ymron, yn ei Gymraeg.
Ni wyddai ond ychydig
O bethau yn y byd,
Ac ni fynasai gredu mwy—
Ond credodd hwy i gyd.
Ni byddai ar ei bregeth
Ol dysg na golau dawn,
Ond byddai'n llawn cynghorion gwiw
A ffydd ddiniwed iawn.
Nid oedd yn Llan y Mynydd
Ond cant o deios mân,
Cartrefi gweithwyr gwael eu ffawd,
Yn ddigon tlawd, ond glân.
Y cyflog, bychan fyddai,
A'r teulu yntau'n fawr,
A gwyddai'r gweithwyr beth oedd bod
Heb obaith lawer awr.
Pan fyddai'r gaea'n erwin,
A'r gwaith yn brin ryw bryd,
Y bugail druan oedd eu tŵr
A'u swcwr hwy i gyd.
Ymwelai a'r cartrefi,
Gwrandawai'r stori brudd,
A rhoddai swllt i lawer un,
A'r deigryn ar ei rudd.
Pan ddeuai angau heibio
A'i law ar dro yn drwm,
Fe geisiai roddi cysur llon,
A'i galon fel y plwm.
Wrth erchwyn gwely angau
Bu'n sefyll lawer gwaith,
A'i law a'i lygad yn rhoi help
Nas gallai unrhyw iaith.
Bedyddiai blant yr ardal,
Priodai gyplau'r fro,
Efô anfonai weddi fry
Uwch ben y gwely gro.
Pan ddôi alarus newydd.
Am un o blant y fro,
A fai ar led, lle bynnag bai,
Fe ddeuai iddo fo.
Fe fedrai dorri'r newydd
Mewn geiriau tyner, mwyn,
A phery felly fod y loes.
A'r groes yn haws i'w dwyn.
Pan fyddai'r plant yn chwarae,
A'r chwarae 'n troi yn chwith,
Fe ddygai gair y bugail wên
Fel heulwen ar y gwlith.
A phan ddigwyddai gweryl,
Neu helbul yn y fro,
Ei air a ddygai gymod iach
Ar chydig bach o dro.
Bu fyw flynyddoedd meithion.
Mewn llety bychan llwyd,
Llom a chyffredin oedd ei wisg,
Cartrefol oedd ei fwyd.
'Roedd ganddo fwrdd a chadair,
A silffoedd, un neu ddwy,
I ddal ei lyfrau digon prin,
Ei ddodrefn, dyna hwy.
Nid ydoedd ei anghenion
Ond bychain iawn yn wir;
A gaffai, rhannodd ef ar hyn
Am lawer blwyddyn hir.
Os gwybu'r wlad amdano,
Fe wybu am fod rhai
Yn sôn mai bychan oedd ei ddawn,
A bod ei ddysg yn llai.
Ond gwybu llawer truan
Ei fod er hynny'n ddyn,
A bod ei galon a'i hystôr
Yn fwy na nemor un.
Mae rhai ar led y gwledydd
Yn llwyddo ar eu hynt,
Yn cofio'r gŵr bonheddig tlawd
Fu'n gefn mewn anffawd gynt.
Ni ddysgodd lawer iddynt
O bethau rhyfedd byd,
Ond dysgodd hwynt i fod yn ddewr
Eu bron a hael eu bryd.
Newidiodd rhai eu crefydd,
A chollodd eraill hi,
Aeth rhai yn erbyn llawer ton
Ac eraill gyda'r lli.
Ond nid oes un ohonynt
Nad annwyl ganddo'r co
Am fugail Llan y Mynydd gynt
Lle bynnag byth y bo.
Gweinidog Llan y Mynydd,
Gwn am dy feddrod llwyd,
Ond od oes nef tu draw i'r bedd,
Mi wn mai yno'r wyd.