Y Conach Cerddi Hanes

gan Thomas Gwynn Jones

Geirfa

NODIADAU.

Merch y Mynydd. Mewn aml fan yng Nghymru, ceir y chwedl am ŵr yn priodi un o'r Tylwyth Teg, tan yr amod na threwid moni â haearn. Pan ddigwyddai hynny, diflannai hithau. Yn y gerdd hon cymerir mai un o'r bobl oedd yn byw yn y wlad o flaen y Brython- iaid oedd y ferch. Teitl y gerdd yn yr argraffiadau cyntaf oedd "Merch yr Iberiad." Gan nad ydys bellach mor sicr am yr Iberiaid, newidiwyd y teitl rhag camarwain.

Caradog. Y dewraf o frenhinoedd y Brythoniaid a fu'n ymladd yn erbyn y Rhufeiniaid. Tacitus sy'n adrodd yr hanes amdano'n garcharor yn Rhufain.

Arthur Gawr. Adroddir y chwedl am dynnu'r cleddyf o'r maen gan Sieffre o Fynwy, ac eraill. Y mae ystori debyg mewn gwledydd eraill hefyd.

Ogof Arthur. Y mae'r chwedl fod Arthur a'i wyr yn cysgu mewn ogof i'w chael ar hyd a lled Cymru, a cheir ystori debyg am ryw arwr neu gilydd mewn gwledydd eraill. Maelgwn Gwynedd. Brenin Gwynedd yn y chweched ganrif. Gweler y traddodiad y seiliwyd y gerdd arno yn Hanes Cymru, Syr Owen Edwards, Caernarfon, 1895, Cyf. I, td. 62.

Coron Cadwaladr. Ceir yr ystori y seiliwyd y gerdd arni yng ngwaith Sieffre o Fynwy.

Cynfrig Hir a'r Brenin. Adroddir ystori'r gerdd hon yn Hanes Gruffudd ap Cynan." Gweler The Hist. of Gr. ap Cynan, Arthur Jones. Manchester, 1910, td. 132-4.

Owain a Nest. Mab i Gadwgan, tywysog Powys, oedd Owain, a merch i Rys ap Tewdwr oedd Nest. Gŵr gwyllt, anwadal, oedd Owain. Bu'n codi'r Cymry yn erbyn y Normaniaid; bu ar ffo yn Iwerddon, a throes wedyn i hela ei gydwladwyr ei hun a'u dwyn yn garcharorion i'w feistriaid. Ym Mrut y Tywysogion ceir ei hanes yn llosgi Castell Cenarth ac yn dwyn Nest oddi ar ei gŵr, Gerallt Ystiward. Lladdwyd ef yn y diwedd gan y Fflemisiaid mewn brwydr yn y nos.

Gwenllian. Gwraig Gruffudd ap Rhys, tywysog Deheubarth, merch Gruffudd ap Cynan, tywysog Gwynedd, oedd Gwenllian. Tra'r oedd Gruffudd ap Rhys yng Ngwynedd yn gofyn cymorth, ymosododd y Normaniaid a'r Fflemisiaid ar ei gastell, a lladdwyd Gwenllian yn arwain byddin fechan ddewr yn eu herbyn.

Ednyfed Fychan. Seiliwyd y gerdd ar ystori am Ednyfed Fychan, o Dre Garnedd ym Môn, yn dychwelyd adref wedi bod yn y Groesgad, ar ddydd priodas ei wraig â gŵr arall. Ceir ystorïau tebyg mewn gwledydd eraill.

Nodiadau

golygu