Cerddi a Baledi/Castell Conwy

Y Carcharor Cerddi a Baledi
Caneuon
gan I. D. Hooson

Caneuon
Y Pryf

CASTELL CONWY

TEITHIAIS heibio i Gastell Conwy
Ym Mehefin, gyda'r wawr,
Ac mi welais rhwng y meini
Ryw ysmotiau cochion mawr,
A thafodau tân yn chwarae
Ar y mur ac ar y llawr,

"Gwaed y ddewrion," meddwn innau,
"Gwaed y gwŷr a gwympodd gynt";
Ac 'r oedd siffrwd eu baneri
Yno'n aros y gwynt,
A llef utgyrn hen ryfeloedd
Yn fy nilyn ar fy hynt.

"Fflamau," meddwn, "fflamau'r goelcerth
A gyneuwyd ddyddiau fu,
Ac yn para i olau eto
Er i Angau oeri'r llu
A'u cyneuodd"; ac mi glyw-wn
Glecian rhwng y trawstiau du.


Syllais wedyn—yna gwelais,
Yno'n glir yng ngolau dydd,
Mai Mehefin a fu'n gwisgo
Muriau'r gaer â'i flodau rhudd.
Unlliw'r fflam â gwaed y dewrion;
Ac fe ffodd fy mreuddwyd prudd.