Cerddi a Baledi/Hen Fynwent
← Y Cysgwyr | Cerddi a Baledi Caneuon gan I. D. Hooson Caneuon |
Tanau → |
HEN FYNWENT
PORTHWYD i newyn gwancus
Ar ysbail brasa'r fro
Llyncodd yr hen a'r ifanc
I'w chrombil yn eu tro.
Ymbesgodd ar fireinder
Ac irder mab a bun;
Esgyrn yr hen ŵr musgrell
 sugnodd iddi'i hun.
Bellach syrffedodd hithau,
Caeodd ei hirsafn rhwth;
Wele, daeth arni dynged—
Penyd di-wrthdro'r glwth.
Afiach ei hwyneb chwyddog,
Aflan y wisg fu'n hardd:
Mieri lle bu myrtwydd,
Ac anial lle bu gardd.