Cerddi a Baledi/Tobi
← Cynhebrwng | Cerddi a Baledi Caneuon gan I. D. Hooson Caneuon |
Wil → |
TOBI
HEDDIW mi gollais gyfaill,
Hen gyfaill dengmlwydd oed,
Na welwyd mo'i ffyddlonach
Ar ddau na phedwar troed.
Gwelais y golau cyfrin
Yn cilio o'r llygaid têr—
Golau a fflam nad adnabu
Heuliau na disglair sêr,
"Enaid nid oedd i'th gyfaill"—
Dyna a ddywed rhai;
Sut bu i'r fath ffyddlondeb
Ddeilliaw o ddim ond clai?
"Nefoedd nì wnaed i'r cyfryw;
Yn wir, od oes nef i mi,
Mynnwn i'm cyfaill hefyd
Gael cyfran ohoni hi.