Cerddi a Baledi/Yr Eos
← Y Cudyll Coch | Cerddi a Baledi Caneuon gan I. D. Hooson Caneuon |
Y Wennol → |
YR EOS
NI wn pwy daenai'r stori
Fod eos rhwng y drain
Yn canu'i chalon allan
Ym mherthi Bryn-y-brain;
Ond cerddem yn finteioedd
Dan olau'r lleuad fain,
I wrando cân yr eos
Ym mherthi Bryn-y-brain.
Ni wn a glywodd undyn
O'r dyrfa honno 'rioed
Y mwyn aderyn cefnllwyd
Yn canu yn y coed;
Ond gwn mor llon y teithiem
Ar draws y caeau glas,
A'r hyfryd ddisgwyl wedyn
Dan gysgod coed y plas.
I dawel lys yr hafnos
Ni ddaeth y cantor pêr,
Ond melys oedd yr aros
A'r disgwyl dan y sêr;
Disgwyl y gerdd nis canwyd,
Gwrando y gân ddi-lef—
A gobaith yn creu nefoedd
O'r addawedig nef.