Cerddi a Baledi/Yr Hen Dwm

Mynwent Bethel Cerddi a Baledi
Baledi
gan I. D. Hooson

Baledi
Y Breuddwyd

YR HEN DWM

UN garw yw Twm. A glywaist-ti Twm
Yn dweud fel y listiodd
Pan glywodd y drwm
Yn chwarae Gwŷr Harlech, a'r miri a'r row,
Ac yntau'n pendwmpian yng nghegin y Plow?

A gadael y pentre' a wnaeth yr hen Dwm,
Mewn gwisg o ysgarlad ar alwad y drwm;
Yng ngwledydd y dwyrain, yr Airt a'r Swdan,
Mewn llawer ysgarmes cymerodd ei ran.

O wersyll i wersyll â'i fidog a'i wn
Ymdeithiodd filltiroedd yn flin dan ei bwn,
Ei draed yn ddolurus, yn boenus ei gam,
Heb ddwr yn ei lestr, a'i dafod yn flam.

Dros lwybrau lle cerddodd ieuenctid y byd
Cyn siglo Assyria a'r Aifft yn eu crud,
A lledu y babell rhwng cyfnos a gwawr
Lle gynt y gorweddodd gwŷr Cyrus i lawr.


Ac wedyn ben bore drwy'r anial drachefn,
Y gwyr a'r camelod â'u pwn ar eu cefn,
A theithio a theithio heb ddyfod yn nes
At byrth hen ddinasoedd y tywod a'r tes.

Ac yna y seibiant i gamel a gŵr
O dan y balmwydden yn ymyl y dŵr;
Y beichiau yn disgyn, a'r nos yn nesáu,
Y lludded yn cilio, a'r llygaid yn cau.

• • • • • • •

"Rhyw fywyd go lwm a gefaist ti, Twm?,
'R ôl gadael y pentre
Ar alwad y drwm;
Ac lfan, dy gefnder, a Robin a Now
Yn canu bob Sadwrn yng nghegin y Plow.

"A'r hogiau fel arfer yn porthi yn fras
O'r afon a'r llynnoedd a llwyni y plas—
A thithau'n ymdeithio yn boenus dy gam,
Heb ddŵr yn dy lestr, a'th dafod yn fflam."

"Er brwydro yn galed, a theithio yn flin,
Anghofiwn y cwbwl yn hwyl y cantîn,
Ond rhedai fy meddwl yn amal i'r Plow
At Ifan fy nghefnder a Robin a Now.


"At lawer nos Saboth yng nghanol yr ha',
A Mot yn fy ymyl a'i drwyn fel yr ia,
A'r clychau o'r pellter yn galw yn fwyn,
A ninnau yn loetran yng nghysgod y llwyn.

"Mi welais forynion llygad-ddu a llon
Yn dawnsio a chanu tu arall i'r don,
Lliw'r gwin ar eu gwefus, lliw'r mêl ar eu grudd,
A'u lleisiau fel dyfroedd rhedegog a chudd.

"Anghofiais," medd Twm, "holl ferched y Cwm,
Y Cyrnol a'r Serjiant
A galwad y drwm—
A chyda'r morynion a llanc o Gaerdydd
Y bûm ar ddisberod am lawer i ddydd."

"Fe'i cefaist yn drwm, 'r wy'n stor, yr hen Dwm."
"Do, do," meddai yntau,
"A bywyd go lwm
Mewn cell am rai dyddiau, a'm baeddu yn flin,
Am ddilyn hudoles y wefus o win.

"Mi welais yr Arab ar farch oedd yn gynt
Na fflachiad y fellten a rhuthr y gwynt,
Ar fintai gamelod yn plygu eu glin
Gerllaw y pydewau, yn llwythog a blin.


"Mi welais ddinasoedd y dwyrain a'r de,
A themlau a thyrau yn estyn i'r ne',
A blin bererinion, ar derfyn y dydd,
Yn mynd dros y gorwel i Ddinas y Ffydd.

"Fem llethwyd gan syched, a gwingodd fy nghnawd
Dan filangell y pethwynt ysgubol ei rawd,
Ond profais o wynfyd rhyw nefoedd ddi-stŵr
O dan y balmwydden yn ymyl y dŵr."

• • • • • • • • •

'R wyt gartref ers talwm yn awr, yr hen Dwm,
A'th wallt wedi gwynu, a'th ysgwydd yn grwm;
A garit ti eto ymdeithio dan bwn,
Mewn gwisg o ysgarlad â'th fidog â'th wn?"

"Ni chrwydraf byth eto—'r wy'n araf lescáu,
A'm llygaid yn pallu, a'm clust yn trymhau;
Ond clywaf yn aml dwrf meirch a gwŷr traed,
Ac ias o lawenydd a gerdd drwy fy ngwaed.

"Mi glywaf swyddogion yn gweiddi yn gras,
A Chyrnol a Serjiant yn dwrdio yn gas—
A minnau'n ymsythu yn dalgryf o'u blaen,
Heb rwd ar un botwm, a'm gwisg heb ystaen.


"Ac weithiau pan fyddaf yn gysglyd a blin,
Caf fyned mewn breuddwyd yn ol i'r cantîn,
A chlywaf y chwerthin a'r miri a'r row,
Ac yna deffroaf yng nghegin y Plow.

“O drothwy fy mwthyn, ymhell dros y dŵr
Mi welaf yn aml ryw demel a thŵr,
A blin bererinion, ar derfyn y dydd,
Yn mynd dros y gorwel i Ddinas y Ffydd.

"Daw'r olaf orchymyn i minnau cyn hir,
A cherddaf fel milwr nes cyrraedd y tir;
A chaf gan fy Mrenin ryw lecyn, 'r wy'n siŵr,
O dan y balmwydden yn ymyl y dŵr."