Cerddi a Baledi/Yr Ysgyfarnog

Y Daran Cerddi a Baledi
Caneuon
gan I. D. Hooson

Caneuon
Y Llwynog

YR YSGYFARNOG

CLUSTIAU hirfain, llygaid gloyw—
Dacw hi, y geinach hoyw;
Cyfarth pell a sydyn lam,
Ffwrdd â hi drwy'r gwyrdd fel fflam.

Edrych arni'n croesi'r tir—
Dwy goes gwta, dwy goes hir—
A dacw Fiflach, y milgi main,
Ar ei hôl drwy'r grug a'r drain.

Yn ei blaen heb wyro dim,
Yn ei blaen yn chwim, yn chwim;
Llygaid gwylltion, clustiau tal,
A phedair hirgoes am ei dal.

Trwy y grug a'r glaswellt llaith,
Disglair yw ei siaced fraith;
Ac odani'r galon bitw
Gura'n gyflym bore heddiw.

Ar y gwastad wele'r milgi
Ar ei hôl a'i hirnaid heini,
Hithau'n llamu llethrau'r thiw;
Dal di ati'r goch dy liw!


Trwy yr eithin, heibio i'r prysgwydd,
Drwy y grug y rhed y trywydd;
Heibio i'r wal lle bu am oriau
Neithiwr dan y lleuad olau.

Heddiw nid oes le yn unman
Iddi droi, ffoadur truan,
Ond y ffin ddiadlam olaf;
Gyr fod Angau ar ei gwarthaf.

Hirnaid eto, hirnaid heini-
(Y mae Fflach yn siŵr ohoni!).
Hirnaid eto, ac mae'r glustfain
Yn ei afael tyn yn gelain.

Cyfarth cwn a gweiddi croch,
Mwy ni flina'r geinach goch;
Rhag eu hofn byth mwy ni lam
Ar y gweunydd megis fflam.