Cerrig y Rhyd/Blodau Arian
← Y Goedwig Ddu | Cerrig y Rhyd gan Winnie Parry |
Fy Ffrog Newydd → |
BLODAU ARIAN.
I. HEULWEN A CHWMWL.
YSTALWM iawn, iawn, mewn tref yng ngwlad Rhywle, trigai gŵr cyfoethog. Yr oedd ganddo wraig a thair o ferched, ac yr oeddynt yn byw yn un o dai harddaf y dref.
Cathrin, Elin, a Gwen, oedd enwau y tair chwaer. Yr oedd Cathrin ac Elin yn efeilliaid, ac yn hŷn na Gwen o ddwy flynedd. Ac yr oeddynt yn ddedwydd iawn i gyd yn eu ty gwych. Ond nid oedd yr ieuengaf o’r chwiorydd yn cael ei dedwyddwch yn yr un pethau a’r ddwy arall. Ymhyfrydai Cathrin ac Elin mewn gwisgo eu hunain mewn dillad gwychion a gemau drudfawr, a harddu eu hunain ymhob modd; ac yna elent allan i gyngherddau a chynhulliadau eraill oedd yn cael eu cynnal er mwyn pleseru pobl y dref. Ac yno byddent yn tynnu sylw yr edrychwyr trwy wychder eu dillad, a disgleirdeb eu gemau, a thrwy eu gwallt melynaur a’u llygaid gloew, oedd yr un lliw a’r blodau dyfai ar ochr y ffordd. Ac yr oeddynt yn ymfalchio am fod pawb yn eu hedmygu.
Ond yr oedd Gwen yn wahanol. Nid oedd yn hoff o fyned i’r lleoedd hynny, a theimlai yn anedwydd pan fyddai llawer yn edrych arni. Dywedai y bobl fyddai yn ymgasglu at eu gilydd fel hyn i bleseru eu hunain, mai y ddwy chwaer hynaf oedd y prydferthaf. Ond yr oedd eraill nad aent i’r cwmni yma yn dweyd fod Gwen yn rhagori yn fawr ym mhrydferthwch ei gwynepryd ar Cathrin ac Elin; oherwydd yr oedd ei llygaid yn fwyn fel sêr yr haf, a chyffyrddiad ei dwylaw yn dyner fel y goleuni. Ni wisgai ddillad gwych yn awr, ni roddai em ar ei mynwes ac yn ei gwallt sidanaidd. Ond gwyn a syml fyddai ei gown, a gwisgai rosyn yn ei gwallt fel addurn.
Yr oedd wedi bod yn gwisgo fel ei chwiorydd; ond ryw ddiwrnod yr oedd yn cerdded ar hyd yr heol pan ddaeth i'w chyfarfod blentyn bychan troednoeth, a’i gorff bychan i’w weled drwy y tyllau yn ei ddillad carpiog. Yr oedd yn wylo yn chwerw, a gofynnodd Gwen iddo beth oedd yn ei boeni.
“Isio bwyd sy arna i” oedd yr atebiad, a pharhai i wylo.
Safodd Gwen am ennyd yn syllu ar ben y bachgen carpiog, ac yna trodd ei llygaid ar ei gwisg drudfawr ac ar y gemau oedd yn disgleirio ar ei dwylaw. Wedi sefyll yn synfyfyrio fel hyn am ychydig, cymerodd afael yn llaw y plentyn, ac meddai yn dyner,—
“Dewch hefo fi gartref.”
Wedi cyrraedd y ty rhoddodd fwyd a dillad iddo, ac nid efe oedd y diweddaf iddi gynorthwyo yn y fath fodd; ac er mwyn gallu gwneyd hynny, gwerthodd ei gemau bob un, ac ni phrynnodd ychwaneg o ddillad gwychion.
Yr oedd gardd brydferth yn ymestyn tu ol i dŷ ei thad, er mai yng nghanol y dref yr oedd yn sefyll, a dyna hoff fan Gwen. Yr oedd yn caru y blodau, y coed, y dail, yn caru pob blewyn gwyrdd a dyfai o’r ddaear. Ac yr oedd yn llawenychu yn y wennol fyddai yn nythu dan y tô, ac yn y frongoch oedd a’i nyth yn y goeden afalau; a chan ei bod yn caru y blodau gymaint, treuliai lawer awr yn eu gwylio ac yn eu meithrin, oherwydd nid oes diofalwch mewn cariad, a chludai hwynt yn ei dwylaw i lonni y rhai fyddai yn glaf a diobaith, ac yn byw mewn tlodi ac amhrydferthwch. A dyma y bobl a ddywedent fod Gwen yn rhagori ar ei chwiorydd mewn prydferthwch, oherwydd yr oeddynt yn gwybod natur y llewyrch oedd yn ei llygaid, ac yn adnabod tynerwch ei dwylaw.
Ond daeth cwmwl mawr du dros dŷ gwych y gŵr cyfoethog, a thros yr ardd brydferth lle nythai y frongoch. Collodd y gŵr ei gyfoeth mewn un diwrnod, ac yr oedd raid iddo ef a'i deulu adael eu cartref urddasol, a myned i fyw i fwthyn bach mewn pentref gwledig filltiroedd o ffordd o'r dref. Ond y diwrnod cyn iddynt gychwyn i'w cartref newydd, tarawyd y tad â chlefyd marwol; ac ymhen ychydig ddyddiau yr oedd yn wir wedi ymadael â'i dŷ hardd, ond nid am y bwthyn bach yn y pentref. Yr oedd wedi myned i wlad nad oes neb yn dod yn ol oddiyno; a gorfu i'w wraig a'r tair chwaer fyned hebddo i'w cartref gwledig, a chalonnau trist yn eu mynwesau oherwydd colli un oedd anwyl ganddynt,—pur iawn oedd galar Gwen a'i mam; ond am y ddwy eneth arall, nid marwolaeth eu tad yn unig oedd yn peri i'r dagrau lifo mor chwerw dros eu gruddiau,—na, nid dros eu gruddiau chwaith, achos sychent hwy cyn iddynt dreiglo i lawr, rhag ofn i'w cyffyrddiad hallt wneyd ei ol ar eu gwynebau dirychau. Yr oeddynt yn wylo am golli eu gemau, eu dilladau gwych, am eu bod yn gorfod byw yn y bwthyn bach mewn pentref bychan gwledig, lle nad oedd cyngherddau a chynhulliadau eraill iddynt fyned i ddangos eu harddwch, ac yr oeddynt yn blino eu mam yn feunyddiol â'u grwgnach ac â'u tymer ddrwg am nad oedd ganddi fodd i roddi arian iddynt i gael gynau newydd, ac yr oedd eu grwgnach yn gadael ol ar eu gwynebau yn fwy o lawer na phe buasant yn gadael i'r dagrau lifo drostynt. Ac nid oedd yr un o fewn y pentref fuasai yn dweyd eu bod yn brydferth yn awr, tra y sonient beunydd am brydferthwch ac anwylwch Gwen. A'r dirgelwch oedd hyn,—carai Gwen bawb o'i hamgylch, tra y carai y ddwy arall neb ond eu hunain.
Er bod Gwen yn hiraethu ar ol ei thad, ac yn gofidio am ei bod wedi gadael yr ardd brydferth am byth, eto ymegniai i fod yn galonnog er mwyn cysuro ei mam, yr hon oedd fel yn gwanychu gan ei galar. Ac yn wir cafodd Gwen, er ei bod wedi colli yr ardd, cafodd fod yn y wlad flodau a choed lle y nythai llawer o adar, ac yr oedd hefyd aml i blentyn tlawd. Ond nid oedd gan Gwen yn awr ddim ond geiriau caredig a'i dagrau i roddi iddynt, a charent hi am hyn gymaint ag a wnai y rhai yn y dref, ac yr oedd llawer un claf yn hoffi iddi ei wylio wrth ochr ei wely yn y nos, am fod cyffyrddiad ei llaw fel balm.
Yn y pentref lle y trigai y fam a'i thair merch yn awr, yr oedd hanes rhyfedd yn cael ei adrodd. Dywedid fod yn tyfu yn yr amgylchoedd flodau rhyfedd,—galwent hwy yn flodau arian. Elai yr hwn oedd mor ffodus a chael hyd i rai ohonynt yn gyfoethog tuhwnt i ddychymyg. Yr oedd llawer o geisio wedi bod am y blodau hyn; ond ychydig iawn oedd wedi eu cael. Yr oedd dau neu dri o deuluoedd wedi dod i feddiant o rai ohonynt, a synnai y rhai oedd yn chwilio yn ddibaid ymhob man, ac yn crwydro milltiroedd er mwyn dod o hyd iddynt, mai y rhai hynny na fyddent byth yn gadael eu goruchwylion i'w ceisio oedd wedi eu cael. A mawr oedd yr holi oedd arnynt, ond ysgydwai y rhai ffortunus hyn eu pennau. Nid oedd ganddynt ddim i'w ddweyd am hyn, nid am nad oeddynt yn ewyllysio i'w cymdogion gael yr un daioni, ond am fod y llecyn neu'r man y cawsent hwy wedi diflannu o'u cof ar ol cyrraedd eu cartrefì.
II. YN Y DYFFRYN TYWYLL.
Pan glywodd y ddwy chwaer Cathrin ac Elin yr hanes yma, penderfynasant ar unwaith fynd i geisio y blodau rhyfedd drudfawr hyn, a chychwynasant un bore gyda'u gilydd, yn fwy calonnog nag y gwelwyd hwy ers amser, gan eu bod yn tybio yn sicr y caent y blodau, ac nid oeddynt am ddychwelyd hebddynt. Buasai Gwen hefyd yn hoffi myned i'w ceisio, achos yr oedd yn gweled fod ar ei mam angen am ymborth gwell nag oedd yn gael yn awr.
Yr oedd Gwen yn gweithio aml i ddiwrnod ar y ffermydd wrth ymyl, yn teneuo y rwdins a rhyw oruchwylion eraill fyddent yn arfer roddi i ferched a bechgyn, ond ychydig allai ennill yn y modd yma, a gwariai yr ychydig arian am ryw ddanteithfwyd i'w mam, ond yn awr ni allai wneyd cymaint a hyn, oherwydd, gan bod ei dwy chwaer yn myned oddicartref, ni allai adael ei mam, yr hon oedd yn dal yn glaf am gyhyd o amser. Ceisiodd gan un ohonynt aros, ond ni wnaent; dywedent y byddent yn ol yn fuan gyda'r blodau, ac yna y cawsai eu mam ddigonedd o bob peth at wella.
Ar ol ymadawiad y ddwy chwaer, gwaethygodd y fam gymaint fel y gwelodd Gwen bod raid iddi gael meddyg i'w gweled ar unwaith. Yn y nos y daeth i deimlo hyn. Nid oedd wedi myned i'w gwely, eithr gwyliai wrth ochr ei mam, ac oddeutu deuddeg o'r gloch yr oedd wedi mynd mor wael fel yr ofnai yr eneth, os na chaffai gynorthwy meddyg rhag blaen, na byddai iddi weled toriad diwrnod arall, a phenderfynodd fyned i'w gyrchu yno ar unwaith. Rhedodd i'r ty nesaf, a chafodd gan y wraig ddod i aros gyda'i mam tra yr elai ar ei neges.
Trigai y meddyg mewn tref oddeutu tair milltir o'r pentref,—tair milltir wrth fyned ar hyd y ffordd fawr, ond yr oedd ffordd arall agosach o gryn filltir a hanner. Arweiniai hon i lawr gallt serth, a thrwy nant gul, oedd fel agen rhwng dau fur o graig. Ni fyddai neb yn cymeryd y ffordd hon byd yn oed yn y dydd, gan y dywedid fod ysbrydion gwynebau dychrynllyd i'w gweled yno, ac y gellid clywed eu swn wrth wrando ar ben un o'r ddwy graig. Cofiai Gwen am bob un o'r hanesion hyn, am bob desgrifiad erchyll o'r ysbrydion, ond ni phetrusai pa ffordd i'w chymeryd; buasai cael y meddyg hanner awr yn gynt yn beth mawr yn y cyflwr yr oedd ei mam ynddo. Yr oedd yn dywyll pan gychwynnodd o'r tŷ; ond pan gyrhaeddodd waelod yr allt oedd yn arwain i'r nant gul, cododd y lleuad dros ysgwydd un o'r ddwy graig, a disgleiriodd i mewn i'r agen dywyll. Cychwynnodd Gwen redeg ar hyd y llwybr mwsoglyd, ac yr oedd ei chalon yn curo yn gyflym gan ofn yr ysbrydion. Pan yng nghanol y nant, gwelai o'i blaen, yn gorchuddio y llwybr, wely o flodau gwynion yn disgleirio yng ngoleu gwyn y lloer. Yn ei brys mawr aeth Gwen ychydig gamrau o'i ffordd rhag sathru y blodau oedd mor brydferth yn gwenu arni, yng nghanol y lle anedwydd hwnnw, ac wrth fyned heibio gwyrodd i lawr a thynnodd ddyrnaid, ond heb aros munud. gan feddwl y buasent yn diddanu ei mam â'u gwynder pur. Ni sylwodd Gwen fod pob blodeuyn wedi cau wrth iddi eu tynnu, ond fel y prysurai yn ei blaen, synnai fod cymaint o bwysau ynddynt, a gwyrodd ei llygaid i edrych arnynt, ond yr oedd y lleuad wedi myned tu ol i'r graig arall erbyn hyn, ac ni allai weled dim o'i blaen.
Cyrhaeddodd dŷ y meddyg yn ddiogel, ac heb gymeryd ond ychydig iawn o amser i wneyd hynny, ac wedi aros yno ychydig funudau, cafodd ei chludo ganddo yn ei gerbyd yn ol i dŷ ei mam.
III. DEDWYDDWCH.
Pan aeth Gwen i'r tŷ, rhoddodd y dyrnaid blodau ar fwrdd bychan o'r neìlldu heb edrych arnynt, ac aeth a'r meddyg i fyny y grisiau i ystafell ei mam. O dan ei driniaeth fedrus lliniarodd poenau y wraig glaf, ac erbyn y boreu yr oedd wedi syrthio i gwsg tawel; a phan ddeffrodd yn hwyr y dydd canlynol, yr oedd ei chlefyd wedi troi, a dywedodd y meddyg y byddai iddi wella yn fuan. Wrth drefnu yr ystafell ychydig ddyddiau ar ol hyn, cofiodd Gwen am y blodau hynny oedd wedi dynnu yn y nant, ac aeth at y bwrdd bychan i'w ceisio gan ofidio ei bod wedi anghofio eu rhoddi mewn dwfr, ac ofnai y byddent wedi gwywo cymaint na fuasai modd eu hadferyd. Ond beth oedd ei syndod pan y gwelodd hwynt yn disgleirio o'i blaen mor brydferth ag erioed; ond wrth iddi eu codi yn ei llaw, disgynnodd pob dalen oddiwrth eu gilydd, a syrthiasant yn gawod dew ar y bwrdd gyda swn rhyfedd, a daliai Gwen swpyn o goesau sychion yn ei llaw. Cyfeiriodd ei llygaid oddiwrth y rhai hyn at y dalennau oedd wedi weled yn disgyn oddi arnynt, ac er mwy o syndod fyth iddi gwelai bentyrrau o arian, a deallodd mai y blodau arian oedd wedi dynnu mor ddifater. Ni arhosodd i'w cyfrif, ond rhedodd i fyny i ddweyd wrth ei mam, a'u dangos iddi. Ond pan ofynnodd honno iddi ym mha le yr oedd wedi eu cael ni allai ddweyd dim ond mai o'r blodau arian y daethant.
Ni fu ei mam yn hir heb wella ar ol hyn, gan ei bod yn gallu prynnu bwydydd nerthol a phob anghenrhaid â'r arian; ac yna aeth hi a Gwen yn ol i'w hen dŷ yn y dref, ac unwaith eto cafodd Gwen rodio drwy lwybrau yr ardd a gwrando ar y frongoch oedd a'i nyth yn y goeden afalau, a meddyliai fod y blodau yno yn brydferthach na'r blodau oedd yn y wlad, an chân y robin yn felusach na'r un glywodd wrth ymyl y bwthyn. Ond ni fu iddynt adael y pentref heb aros peth amser gan ddisgwyl y deuai Cathrin ac Elin yn ol. Ni ddaethant, fodd bynnag, y pryd hynny; a gadawodd y ddwy y lle gan erfyn ar wraig y tŷ nesaf ddweyd wrthynt lle yr oedd eu mam a'u chwaer wedi myned os byth y deuent at ddrws y bwthyn.
Aeth yr amser heibio yn ddedwydd i Gwen a'i mam yn yr hen gartref. Gwyliai Gwen ei blodau yn yr ardd, ac hefyd yr oedd ganddi ei hen ddedwyddwch o allu cynorthwyo eraill.
Un boreu yr oedd yn sefyll wrth borth yr ardd, a gwelodd ddwy ddynes a'u pwys âr y clawdd wrth ymyl. Yr oedd eu gwedd yn hagr, a'u gwisg yn garpiog. Yr oedd yr esgidiau am eu traed yn dyllau, ac nid oedd ganddynt unrhyw orchudd ar eu pennau rhag gwres yr haul neu erwinder y gwlaw. Agorodd Gwen y porth, a gofynnodd iddynt ddod i mewn gan feddwl eu cynorthwyo yn eu hangen; ond beth oedd ei syndod pan aeth i'w hymyl, ac y clywodd eu llais, i ganfod mai ei chwiorydd Cathrin ac Elin oeddynt, a chymaint a'i syndod oedd ei llawenydd, oherwydd yr oedd yn gofidio yn aml na fuasent yn gallu mwynhau cyfoeth y blodau arian gyda hi a'i mam. Ac felly yr oedd ei chroesaw yn gynnes, ond yn cael ei derbyn gyda dagrau gan y ddwy chwaer. Ac o hynny allan yr oedd pawb yn hapus yn y ty hwnnw, a'r un ffordd y gymerent i fod felly i gyd.
Yr oedd yr ofer chwilio ymhlith blinderau y byd, a'r croesau yr oeddynt wedi gyfarfod ar y ffordd, wedi newid tymer y ddwy chwaer, a chyda gostyngeiddrwydd a diolchgarwch y dilynent Gwen ar hyd llwybrau addfwynder a charedigrwydd at eraill, a chawsant felly lawenydd newydd, yr hwn a ddisgleiriai ar eu gwynebau, gan eu gwneyd yn brydferthach nag erioed.