Chwedl y Torrwr Beddau (Mynyddog)

Roedd y lleuad yn ieuanc, a’r flwyddyn yn hen,
A natur gan oerfel yn colli ei gwên,
Fe rewai’r dwfr fel gweren oer,
Tra prudd edrychai yr ieuanc loer
Cydrhwng canghennau’r coed;
Yng ngolau’r nos, mewn mynwent laith,
’Roedd torrwr beddau wrth ei waith;
Un hen oedd ef, ac wrth ei ffon,
A’i esgyrn oeddynt cyn syched bron
A’r esgyrn dan ei droed.


Ymgodai’r gwynt,—a’i anadl ef
A fferrai lwynau natur gref,
A’r torrwr beddau yn ddifraw,
Wrth bwyso’n bruddaidd ar ei raw,
Besychai am ryw hyd,
Ryw “beswch mynwent” dwfn a blin;
’Roedd ei groen a’i gob yn rhy deneu i’r him,
Ac yna fe dynnodd ryw botel gron
O’i logell,—ond potel wag oedd hon;
A churai ’i ddaint ynghyd.


Ond llawen oedd pawb yn yr “Eryr Mawr,”
Y dafarn hyna’n y dref yn awr,
Fe chwyrnai’r tegell ar y tân,
A chwyrnai’r gath ar yr aelwyd lân
Tra’n gorwedd ar gefn y ci.
’Roedd mab yr yswain yno mor hyf,
Yr hwn oedd yn llencyn gwridog, cryf,
A gŵr Tyddyn Uchaf, ynghyd a’r aer,
A’r gôf, a’r teiliwr, a’r crydd, a’r saer,
Cyn dewed a dau o’r rhai tewa’n y wlad
Yn siarad â dau neu dri.


Y torrwr beddau edrychai’n glau,
A gwelai y goleu, a’r drws heb ei gau,
Ac yntau’n hen ŵr go lon yn ei ddydd
Yn hoffi pibell, ae yfed fel hydd,
’Doedd ryfedd fod arno fo flŷs;—
“Waeth i mi roi fyny,” ebe’r sexton yn syn,—
“Peth caled yw tirio trwy esgyrn fel hyn,
A ch’letach fyth pan deimlwch chwi’ch hun
Yn taro ynghyd âg asgwrn pen dyn!
Felly ’rwy am fynd i’r ‘Eryr Mawr,’
Mae’r gwynt yn ddigon a tharo dyn lawr.”
Ac i mewn ag ef ar frys.


Fe wenai pawb wrth ei weled e’
Y torrwr beddau yn cymeryd ei le
O dan y fantell simnai fawr,
(A chwarddai y tân dan ruo’n awr),
Oblegid ’roedd pawb yn ei garu ef,
O fab yr yswain i’r tlota’n y dref.


“Wel, dowch a stori,” ebe gŵr y tŷ,
“Rhyw chwedl ddifyr am bethau a fu.”
’Roedd pawb yn gwybod mai ef oedd tad
Adroddwr chwedlau yr holl wlad.
Fe wyddai am bob yspryd bron
Fu’n tramwy hyd y ddaear hon;
Fe fedrai ddychryn calon wan,
A’i gwneud yn ysgafn yn y fan;
Fe allai gau ac agor clwy’,
A medrai ddynwared pawb yn y plwy’.


“Mae’r torrwr beddau mewn syched braidd,
Rhowch iddo gornied o gwrw brag haidd,”
Ebe gŵr y tŷ yn awr;
“Mae stori sych yn ddigon o bla
Os na fydd llymaid o ddiod dda
Yn helpu y stori lawr.”