Chwedlau'r Aelwyd/Chwareuon Plant
← Gweddi Hwyrol Plentyn | Chwedlau'r Aelwyd Corff y llyfr gan Hughes a'i Fab, Wrecsam Corff y llyfr |
Y Wers Fyw → |
Chwareuon Plant,
PETH dymunol iawn yw gweled plant yn ddedwydd, Os ceir hwynt yn ddiwyd a chyson gyda'u gwersi, ac yn dychwelyd o'r ysgol neu o neges heb sefyllian a cholli amser, nid oes neb mor afresymol a'u rhwystro i fwynhau eu hunain mewn chwareuon diniwed, gyda phlant rhinweddol a da. Ond y mae yn dygwydd yn fynych fod pethau annymunol yn cymeryd lle mewn cysylltiad â'u chwareuon, a hyny o herwydd eu hymddygiadau fuag at eu gilydd, gan hyny rhoddir yma ychydig reolau y bydd yn fanteisiol iddynt sylwi arnynt a'u cofio.
1. Ymdrechwch foddhau ereill, a chael boddhad eich hunain.
2. Peidiwch a thramgwyddo wrth bethau bychain
3. Ymgedwch rhag castiau drwg.
4. Na fyddwch am eich ffordd eich hun.
5. Peidiwch a chyffroi tymer neb.
6. Rhoddwch heibio chwareu yn ewyllysgar pan elwir am danoch.
I'r dyben o ymddwyn yn iawn, ymdrechwch feithrin ysbryd caruaidd. Cofiwch fod yr hwn a ddengys yn ei chwareuon a'i gyfeillgarwch ei fod yn teimlo yn dirion, yn meddu ar un o briodoleddau hawddgaraf nodweddiad.