Chwedlau'r Aelwyd/Gweddi Plentyn
← Ymddygiad wrth Fwyta | Chwedlau'r Aelwyd Corff y llyfr gan Hughes a'i Fab, Wrecsam Corff y llyfr |
Paid a'i Sathru → |
Gweddi Plentyn.
BOED i mi fod yn ddoeth fel Daniel, Dan.i. 17,20.
Yn dduwiol fel y bachgen Samuel; 1 Sam. ii. 18.
Mewn sel a ffydd fel Stephan ferthyr, Act. vi. 8.
Fy nghynllun fyddo Paul mewn llafur; 2'Ti.iv.1.
Cymdeithas agos gaffwyf fi,
Fel Ioan gynt â'r Iesu cu; Ioan xiii. 23.
Sel fel Martha, cariad Mair,
I hoffi yn mlaenaf peth y gair; Luc x. 38, 42.
Yn fwyn fel Moses, proffwyd Duw, Num. xii. 3.
Fel Lazarus, myn'd i'r nef i fyw; Luc xvi. 22.
Amynedd Job dan chwerw wynt, Iago v. 11
A chalon dyner Lydia gynt; Act. xvi. 14
Cywirdeb Pedr fyddo'm rhan,
A ddeil olygon Iesu glân; Ioan xxi. 15, 17.
Fel Tmotheus, O na chawn ras,
I ffoi rhag chwantau ffiaidd cas; 2 Tim. ii. 22.
Fel Joseph dan demtasiwn gref, Gen. xxxix. 9.
A Jacob pan ymdrechodd ef; Gen. xxxii. 24, 28.
Fel Isaac mewn myfyrdod llwyr,
Tra'n cerdded yn ei faes yr hwyr; Gen. xxiv. 63.
Yn gyfaill Duw boed i'm gael bod,
Fel Abra'm gynt oedd fawr ei glod; Iago ii. 23.
Ond o flaen pawb fe gymrai'n awr
Esiampl berffaith Iesu mawr. 1 Pedr ii. 21,
Ymdrechaf wneuthur ar bob pryd,
Yr hyn wnaeth ef pan yn y byd;
Dylynaf gamrau Mab y dyn,
Nes bod yn berffaith ar ei lun.