Chwedlau'r Aelwyd/Y Llew ar y Ffordd

Y Paun Chwedlau'r Aelwyd
Corff y llyfr
gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Corff y llyfr
Dymuniad George Fychan

Y Llew ar y Ffordd.

GAN DR. ALDEN.

"OES, y mae llew ar y ffordd yn wastadol,"meddai Mr. Hall wrth foneddwr gyda'r hwn yr oedd yn ymddyddan yn y parlwr. Daeth ei fab Justin i mewn ar y pryd. Clywodd sylw ei dad, ond yn ei fyw nis gallai ddeall ei feddwl. Yr oedd wedi darllen am lewod yn fynych, a theimlai ddyddordeb mawr yn eu hanes, fel y gwna plant yn gyffredin, Buasai yn cerdded ymhellach i weled llew nag un creadur arall.

Hiraethai yn fawr gael gwybod at bwy y cyfeiriai ei dad yn y sylw a wnaeth, ond ataliodd rhag gofyn iddo tra yr ydoedd yn siarad a'r boneddwr. Buasai rhai bechgyn mor anfoesgar a gofyn ar draws yr ymddyddan, "Am bwy yr ydych chwi yn siarad?" Ond addysgwyd Justin i ymddwyn yn amgenach, yn gystal a bod syniad lled gywir am weddeidd-dra yn reddfol yn ei natur. Felly, efe a eisteddodd yn llonydd, gan obeithio y clywai rhywbeth a'i galluogai gael allan yr hyn a hoffai wybod. Yn y cyffredin arferai feddwl drosto ei hun, yn lle trafferthu o'i gydnabod â chwestiynau diddiwedd. Yr oodd hyn yn elfen ganmoladwy yn ei nodweddiad.


Ond er gwrando, methodd Justin a chael allan yr hyn a hoffai wybod. Yna efe a ddaeth at ei dad, "wedi myned o'r boneddwr ymaith, gan bwyso ar ei lin, a dangos trwy ei ymddygiad foJ rhywbeth ar ei feddwl, ond ei fod yn petruso ei amlygu.

" A oes arnat eisieu gwybod rhywbeth, Justin?" meddai Mr. Hall.

" Oes, syr; hoffwn wybod am bwy yr oeddych chwi yn son, pan y dywedasoch fod llew ar ei ffordd yn wastadol? "

Deallodd Mr. Hall, oddiwrth ymddangosiad ei fab, ei fod yn cymeryd ei eiriau yn llythyrenol. Teimlai barodrwydd i chwerthin am ei ben, ond ataliodd, rhag i hyny archolli ei deimladau, neu ddigaloni ei chwilfrydedd canmoladwy. Atebodd, "Am Mr. Harris yr oeddwn i yn siarad, Justin, ond rhaid i tithau gymeryd gofal rhag i lew ddod ar dy ffordd."

"Ond beth a allwn i wrtho os mynai ddyfod?— nid wyf fi yn ddigon cryf i wrthwynebu llew."

"Pa fath ysgolhaig ydyw Robert Carr?"

Nis gallai Justin ddyfeisio beth oedd dyben ei dad yn gofyn y fath gwestiwn, a chymaint oedd ei syndod fel nad atebodd y gofyniad gyda'i barodrwydd arferol. O'r diwedd dywedodd, gyda gradd o betrusder. "Wn i ddim." "Wyddost ti ddim—onid wyt fi yn yr un dosbarth ag ef?"

"Ydwyf, syr."

"Sut, ynte, yr wyt ti heb wybod pa fath ysgolhaig ydyw?"

"Meddwl yr oeddwn na ddylwn ddweud dim yn erbyn fy nghyd ysgolorion."

"Mae hyny yn bur wir, ni ddylit ar un cyfrif ddweud dim a fyddo yn anfantais i neb, heb ei fod yn wir, a bod genyt hefyd resymau digonol dros ei hysbysu. Ond wrth geisio gochelyd un drwg, rhaid i ti beidio cyflawni drwg arall, trwy ddweud anwiredd. Fe wn i nad yw Robert yn ysgolhaig da, er fod ganddo feddwl cryf. A wyddost ti yr achos nad yw yn well ysgolhaig?"

"O herwydd nad oes ganddo benderfyniad, syr. Os gwel ef y wers yn hir fe ddywed, 'Dalla i mo'i dysgu hi, ac ni cheisiaf i ddim ychwaith,' ac os daw at le anhawdd, fe'i rhydd o'r neilldu yn y fan."

"Y mae llew ar ei ffordd ef, ynte,"meddai Mr. Hall.

Gloywodd llygaid Justin ; yr oedd yn deall erbyn hyn paham y gofynodd ei dad yn nghylch Robert, ac hefyd y dywediad fod "llew ar y ffordd." Gwn yn awr beth oeddych yn feddwl wrth ddweud wrthyf am beidio gadael i lew ddod ar fy ffordd :— wedi i mi ddechreu gorchwyl, rhaid peidio digaloni a'i roddi i fyny."

"Dyna fe."

"Beth os bydd y peth yn bechadurus?"

"Rhaid i ti beidio ei ddechreu."

"Beth os byddaf heb wybod hyny nes ar ol ei ddechreu?"

"Rho ef i fyny ar unwaith."

"Mae ambell i lew bychan yn dyfod ar dy ffordd di, Justin, weithiau, onid oes?" meddai ei fam, yr hon a ddaeth i mewn i'r parlwr mewn pryd i glywed y rhan olaf o'r ymddyddan.

"Wn i ddim, mam,"meddai Justin yn amheus.

"A orphenaist ti dy farcutan? "

"Naddo, mam."

"A orphenaist ti chwynu y gwely blodau yn yr ardd?"

"Naddo yn gwbl."

"A wyt ti wedi gorphen darllen dy lyfr newydd"

"Darllenais ran o hono."

"Beth a'th rwystrodd—ai'r llewod bychain?"

"Yr wyf yn meddwl mai ê,"meddai Justin, gan wenu, er ei fod yn teimlo y cerydd i'r byw.

Yr oedd Justin, fel llawer o fechgyn, yn dechreu lluaws bethau nad oedd byth yn eu gorphen. Mae hyn yn arferiad tra niweidiol. Ni ddylid byth ei ffurfio, ac os ydym wedi ei ffurfio eisioes, dylid ei ddiwygio heb oedi. Mae rhai dynion na wiw ymddiried iddynt orphen dim, a hyny am ddarfod iddynt ffurfio yr arferiad, pan yn ieuanc, o ddechreu pethau, heb eu gorphen.

"Sut y gallaf fi gadw y llewod bychain draw?" meddai Justin.

"Trwy orphen pob peth a gymeri mewn llaw" meddai ei dad.

"Ond yr wyf yn blino ar rai pethau."

"Hidia mo hyny, gorphen hwynt er mwyn ffurfio yr arferiad. Os bydd i ti gadw at y rheol hon, ti fyddi yn fwy gofalus beth a ddechreui. Ti ddysgi foddwl mwy cyn gweithredu, a chynllunio gyda mwy o ddoethineb. Yr oeddwn i yn debyg iawn i ti'pan yn ieuanc. Gelwid fi yn fawr am ddechreu, ond anfynych y gorphenais ddim. Sylwodd fy nhad ar hyn, a phenderfynodd y gwnai fy ngorfodi, hyd y gallai, i orphen pob peth a gymerwn mewn llaw, ac felly cefais oruchafiaeth ar yr arferiad. Hoffwn dy weled ti, fy mab, yn diwygio yn hyn, heb i mi arfer unrhyw orfodaeth."

Penderfynodd Justin y gwnai ddylyn esiampl ei dad.