Chwedlau'r Aelwyd/Y Tri Dyrnaid Yd

At y Ddarllenwyr Chwedlau'r Aelwyd
Corff y llyfr
gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Corff y llyfr
Y Dewr a'r Llwfr

CHWEDLAU YR AELWYD.

Y Tri Dyrnaid Yd.

UN diwrnod yn nechreu y flwyddyn, galwodd Gerard Steimer ei dri mab ato, Adolphus, Henry, a Bernard fychan. Yn ei law yr oedd llythyr agored. Gyda dagrau yn ei lygaid, dywedodd â llais galarus :—

"Fy mhlant, clywsoch fi yn son yn fynych am fy mrawd Bernard, yr hwn a adawodd ei gartref lawer blwyddyn yn ol, i fasnachu mewn gwlad beill

"O do," meddynt, gan edrych yn syn ar eu tad.

"Wel, fy mhlant," chwanegai, "wedi i'ch ewythr Bernard lwyddo o'r diwedd i gasglu swm helaeth o arian, penderfynodd ddychwelyd i'w bentref gen- edigol, a gwneud ei gartref gyda myfì, gan nad oes," meddai, gan sychu ei ddagrau â'i law, "ond efe a minau o deulu dedwydd o saith brawd a phum chwaer."

"A ydyw fy ewythr yn dyfod yn fuan ynte?" gofynai Henry yn fywiog.

"Dylasai fod yma cyn hyn, fy mab, ond trefnodd Rhagluniaeth ddoeth yn wahanol. Yr wyf yn ofni na chewch ei weled byth, gan fod y llythyr hwn yn fy hysbysu ei fod yn gorwedd yn glaf mewn dinas bell, ac yn erfyn arnaf ddyfod ato yn ddioed, iddo fy ngweled unwaith yn rhagor, a chael fy ngwasanaeth i drefnu ei amgylchiadau."

"A ewch chwi yno, 'nhad?" gofynai Bernard yn bryderus.

"Af yn siwr, fy mab; a chan y bydd raid i mi deithio ymhell, ac o bosibl na ddeuaf adref cyn mis Hydref, fe gymer fy nghefnder Jacob Reimmer a'i wraig ofal am y tŷ yn fy absenoldeb. Ac os cymer marwolaeth eich ewythr le, y mae yn debyg y bydd genyf lawer o bethau i ofalu am danynt."

"Hwyrach y bydd iddo wella a dyfod yn ol gyda chwi."

"Yr wyf yn ofni na chymer hyny le, oblegyd dywed yn ei lythyr fod y meddyg yn anobeithiol o'i adferiad. Yn awr, fy mhlant, gwrandewch yn astud, tra y mynegaf genadwri eich ewythr atoch chwi oddiar ei wely angau. Fe ddywed, "Rhoddwch ddyrnaid o ŷd i'ch tri phlentyn, pan yn eu gadael i ddyfod ataf, gyda gorchymyn fod i bob un ei ddefnyddio yn y dull a farno efe yn oreu; ac ar eich dychweliad gartref cewch chwithau benderfynu pa un o'r tri a wnaeth y defnydd goreu o hono, a hwnw a wobrwyir fel y bydd i mi drefnu. ”

* * * * * *

Dyma Hydref wedi d'od. Ac fel yr oedd Bernard fychan yn edrych trwy y ffenestr agored, prysurodd cerbyd at y drws, a daeth yr hen Gerard allan, yn dwyn blwch yn ei law.

"O dyna 'nhad, dyna 'nhad," gwaeddai y bachgen.

Yna y tri phlentyn a redent allan ac a'i cofleidient yn eu breichiau.

"O, 'nhad, yr ydym yn hoff o'ch gweled, wedi i chwi fod mor hir i ffwrdd."

"Yr ydwyf finau yn falch o'ch gweled chwithau, fy mhlant, ac oll yn ymdJangos mor iach," meddai yr hen wr, gan blygu i roddi cusan i bob un.

Yna daeth ei gefnder, Jacob Reimmer, a'i wraig ymlaen i'w groesawu; a gofynodd y tad ynghylch ymddygiad y plant yn ei absenoldeb,

"Yn wir, y maent wedi bod yn blant pur dda," atebai yntau. Yna aethant olli'r tŷ. Rhoddodd Gerard Steimer y blwch o'i law ar y bwrdd; ac wedi cymeryd agoriad o'i locell ac agor y blwch, tynodd allan ewyllys ddiweddaf ei frawd Bernard Steimer.

Edrychai pawb yn drist ar yr hen wr pan oedd yn ei hagor. Yna dywedodd wrthynt:—

"Cefais yr hyfrydwch galarus, fy anwyl blant, o weled eich ewythr yn marw mewn tangnefedd, ac o osod ei weddillion marwol i orphwys yn y bedd. Yn yr ewyllys hon, gadawodd ei holl eiddo i'r un, yn ol fy marn i, a wnaeth y defnydd goreu o'r dyrnaid ŷd a roddais iddo cyn myned oddicartref, Yn awr, gadewch i mi glywed pa ddefnydd a wnaethoch o hono.

"Yr ydwyf fi,"meddai Adolphus, "wedi cadw fy un i yn ddyogel. Rhoddais ef yn ofalus mewn blwch pren mewn lle sych; y mae mor werthfawr heddyw â'r dydd y rhoisoch chwi ef i mi."

Atebodd ei dad ef â llais sarug, "Fy mab, ti a gedwaist y grawn heb ei ddefnyddio, a pha beth a enillaist? Dim. Felly y mae gyda chyfoeth. Trysorwch ef, ac ni ddyry nac elw na phleser. Tithau, Henry, pa beth a wnaethost ti â'r dyrnaid grawn?"

"Wedi i mi ei falu yn flawd, mi a'i gwneuthum yn deisen felus, yr hon a fwytëais." "Y bachgen ynfyd,"meddai y tad, ar ol munud o fwynhad dyna ddarfod am dano. Felly yn gymhwys y mae gydag arian. Treuliwch hwynt ar bleserau, nid yw y rhai hyny ond darfodedig."

Trôdd yr hen Gerard ar hyn at ei fab ieuengaf, a chan ei gymeryd yn nês ato gofynai, "Ond beth a wnaeth Bernard fychan â'r dyrnaid ŷd a roddais iddo?"

Y plentyn dan wenu a gymerodd law ei dad yn ei law ei hun, ac a ddywedodd wrtho, "Deuwch gyda mi, a dangosaf i chwi."

Aethant oll gydag ef, y bachgen yn gyntaf a hwythau yn canlyn, tuag un o feusydd ei dad.

"Dyma yr hyn a ddaeth o'm dyrnaid ŷd i fy nhad,"meddai y bachgen siriol, gan gyfeirio â'i fys at gongl o'r cae, lle y tyfai darn o ŷd, ei welltyn hir a gwanaidd yn toni yn brydferth dan bwysau y dywysen aeddfed.

Ar hyn gwenai yr hen Gerard yn foddhaol, a chan roddi ei law ar ben Bernard, dywedodd wrtho, "Darfu i ti ymddwyn yn ddoeth, fy mab. Tydi a hauaist y grawn yn y ddaear, a chefaist ffrwyth toreithiog; tydi, gan hyny, a enillaist gyfoeth dy ewythr. Bydd mor ddoeth gyda hwn ag y buost gyda'r dyrnaid ŷd. Paid a'i gadw yn ddiddefnydd, a phaid ychwaith a'i wario yn unig er dy bleser. Eithr cyfrana i'r tlawd, i'r weddw a'r amddifad, ac i rai bychain Crist, ac Efe a'th wobrwya yn helaeth."