Chwi weision Duw, molwch yr Iôn

Popeth a wnaeth ein Duw a'n Rhi Chwi weision Duw, molwch yr Iôn

gan Edmwnd Prys

Fy enaid, bendithia yr Arglwydd
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

43[1] SALM CXIII. 1—9.
888.888.

1. CHWI weision Duw, molwch yr Iôn,
Molwch ei enw â llafar dôn,
Bendigaid fyddo'i enw Ef;
O godiad haul hyd fachlud dydd
Mawr enw'r Iôn moliannus fydd,
Yn y byd hwn ac yn y nef.

2. Dyrchafodd Duw uwch yr holl fyd,
A'i foliant aeth uwch nef i gyd:
Pwy sydd gyffelyb i'n Duw ni?
Yr hwn a breswyl yn y nef,
I'r ddaear hon ymostwng Ef;
Gwêl Ef ein cam, clyw Ef ein cri.

3. Yr Hwn sy'n codi'r tlawd o'r llwch,
A'r rheidus o'i drueni trwch,
I'w gosod uwch penaethiaid byd;
I'r unig a'r amddifad rhy
Lawenydd, llwyddiant, tylwyth tŷ;
Am hyn moliennwch Dduw i gyd.

Edmwnd Prys

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 43, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930