Clywch lu'r nef yn seinio'n un
- Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
- henffych eni Ceidwad dyn:
- heddwch sydd rhwng nef a llawr,
- Duw a dyn sy'n un yn awr.
- Dewch, bob cenedl is y rhod,
- unwch â'r angylaidd glod,
- bloeddiwch oll â llawen drem,
- ganwyd Crist ym Methlehem:
- Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
- henffych eni Ceidwad dyn!
- Crist, Tad tragwyddoldeb yw,
- a disgleirdeb wyneb Duw:
- cadarn Iôr a ddaeth ei hun,
- gwnaeth ei babell gyda dyn:
- wele Dduwdod yn y cnawd,
- dwyfol Fab i ddyn yn Frawd;
- Duw yn ddyn, fy enaid, gwêl
- Iesu, ein Emanwel!
- Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
- henffych eni Ceidwad dyn!
- Henffych, T'wysog heddwch yw;
- henffych, Haul Cyfiawnder gwiw:
- bywyd ddwg, a golau ddydd,
- iechyd yn ei esgyll sydd.
- Rhoes i lawr ogoniant nef;
- fel na threngom ganwyd ef;
- ganwyd ef, O ryfedd drefn,
- fel y genid ni drachefn!
- Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
- henffych eni Ceidwad dyn!
- Cyfieithwyd o Saesneg wreiddiol Charles Wesley
- cyfieithwyr:
- 1. Peter Jones (Pedr Fardd) 1775-1845
- 2. anadnabyddus
- 3. Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai) 1827-1895