Coelion Cymru/Llynnoedd a Ffynhonnau

Rhagarwyddion Marwolaeth Coelion Cymru

gan Evan Isaac

Ogofau a Meini

VI.

LLYNNOEDD A FFYNHONNAU

Y mae'r nodweddion yn gyffredin i amryw onid y mwyafrif o draddodiadau lluosog y llynnoedd, ac nid oes alw am draethu arnynt i gyd. Cyfeirir at y rhai enwocaf.

Ni chyfeiliornir yn fawr trwy wneuthur dau ddosbarth o'r traddodiadau, sef y rhai a ddysg am ddialedd, a'r rhai a ddwg i mewn ymyriadau'r Tylwyth Teg. O dro i'w gilydd, claddwyd tan ddwfr wlad neu ddinas neu blasty oherwydd anlladrwydd neu droseddau moesol eraill; ac y mae llynnoedd eraill yn enwog oherwydd y rhan sydd i'r Tylwyth Teg yn eu hanes.

Ni wneir yma fawr mwy na chrybwyll y traddodiad hysbys am orlifiad Cantre'r Gwaelod. "Gweirglodd-dir cnydfawr llawn o ffrwythau a blodau oedd Cantre'r Gwaelod," medd " Cymru Fu." Tir isel ydoedd, â gwrthglawdd yn cadw allan y môr rhag ei foddi. I'r gwrthglawdd yr oedd llifddorau a wylid yn ddyfal gan swyddogion penodedig â Seithennin yn ben arnynt. Yr oedd yn y Cantre un ar bymtheg o ddinasoedd a threfi gwych, a Gwyddno Garanhir yn dywysog ar y wlad. Gan fod y tir yn gnydfawr a'r cyfoeth yn ddibrin, aethai'r trigolion yn foethus a diofal, ac un diwedydd cafwyd gwledd fawr. Yn y wledd, yfodd Seithennin a swyddogion eraill win hyd fedd-dod diymadferth. Esgeuluswyd cau'r llifddorau, a rhuthrodd y môr i'r tir. Boddwyd y wlad, ac ni ddihangodd ond ychydig o'r trigolion i'r ucheldiroedd. Pan fo'r môr yn dawel a gloyw, gwelir heddiw ym Mae Ceredigion, o ymyl y Wallog, rhwng Aberystwyth a'r Borth, sarn a elwir yn Sarn Cynfelyn yn ymestyn am filltiroedd i'r môr. Gwelir hefyd yma a thraw yn y bae rai o'r plasau, ac ar brydiau clywir canu clychau eglwysydd.

Nid oes raid manylu ond ychydig i weled y cysylltir traddodiad cyffelyb ag amryw lynnoedd trwy Gymru. O'r hyn lleiaf ni wahaniaetha'r traddodiadau namyn o ran manion dibwys. Yn y dosbarth hwn gellir gosod Llyn Tegid, Tyno Helig, Syfaddon, Llynclys ac eraill.

LLYN TEGID, NEU LLYN Y BALA. Yn ôl un traddodiad y mae'r llyn hwn yn gorchuddio tref gyfan, eithr y mae'n haws credu mai boddi llys pendefig a wnaed. Preswyliai gerllaw'r Bala, mewn castell gwych, dywysog balch a chreulon. Nid ofnai ac ni pharchai na dyn na Duw, a chymaint oedd ei ormes ar bum plwyf Penllyn fel nad oedd ym Meirion neb na hoffasai ei ddinistr. Un diwrnod, a'r tywysog yn ymbleseru yn ei ardd, clywai lais yn gweiddi, " Daw dial." Chwerthin yn ddihidio a wnaeth ef. Bu fyw am flynyddoedd mewn rhwysg a gloddest heb argoel adfyd. Priododd, a ganed mab iddo. I ddathlu dydd geni'r etifedd cynhaliodd wledd fawr. Yr oedd pobl flaenaf Meirion yn y wledd yn dawnsio a chanu a meddwi. Ar gyfyl hanner nos, ar seibiant yn y dawnsio, tybiodd y telynor iddo glywed sibrwd yn ei glust, " Dial, dial." Trodd a gweled aderyn bach yn ehedeg yn ôl a blaen trwy'r neuadd. Amneidiodd yr aderyn ar y telynor i'w ddilyn—gall aderyn goruwchnaturiol wneuthur peth felly. Tywyswyd y telynor tros waun a rhos a chreigiau, a dal i ganu " Dial, dial," a wnâi'r aderyn. Cyrhaeddwyd pen bryn beth pellter o'r Castell. Yn ei ludded gorffwysodd yr hen delynor a chysgu. Pan ddeffrôdd ar doriad y wawr ni welai'r Castell, dim ond llyn mawr yn llanw'r dyffryn.[1]

Llyn Llynclys. Sôn am ddialedd a wna'r traddodiad hwn yntau. Yn ôl cred a dysg y werin, preswyliai teulu llygredig a mawr ei drais mewn llys urddasol, a chamdrinid yn greulon drigolion y wlad. Yr oedd i'w gwyliau a'u gwleddodd rwysg anarferol. Ymgasglai pawb o bwys i'r gwleddoedd hyn—rhai o fodd ac eraill o raid. Ni ellid gwrthwynebu ac ymgadw draw canys ofnid dialedd y teulu. Ym mhob gwledd a gŵyl, er cymaint y gloddestu a'r meddwi, clywai rhywrai lais annaearol o gwmpas y tŷ yn llefain yn ddibaid, " Daw dial, daw dial." Ofnai pawb ymofyn â'r llais pa bryd y deuai'r dialedd. Parhawyd am rai blynyddoedd i glywed y llais ac i ofni'r adfyd, ond o'r diwedd daeth i'r llys eneth o forwyn wrolach na'r cyffredin a mentro gofyn, "Pa bryd?" Atebodd y llais, "Yn oes wyrion, gorwyrion, esgynnydd a goresgynnydd." Yna bu tawelwch digymysg; ni alwodd y llais mwyach. Daeth dydd y goresgynnydd, ac un noson cadwodd ŵyl fawr yn ôl hen arfer y teulu. Tua chanol nos digwyddodd y telynor fyned allan o'r llys, a phan drodd ei wyneb i ddychwelyd ni welai mo'r plas. Nid oedd onid llyn lle safasai'r llys, a nofiai'i delyn yntau ar wyneb y dŵr. Y mae'r llyn hwn rhwng Croesoswallt a Llanymynaich.[2]

LLYN HELIG A LLYN SYFADDON. Y mae'r naill yn Sir Gaernarfon a'r llall ym Mrycheiniog, ac nid oes fawr ddim gwahaniaeth rhwng y traddodiadau sydd ynglŷn â hwy. Dialedd am ryfyg a thrais a geir yn y rhai hyn eto.

Pendefig rhyfygus oedd Helig ap Glannawg. Clywsai dair bloedd yn yr awyr, "Daw dial, daw dial, daw dial." Gofynnodd yntau, "Pa bryd?" Atebodd y llais, "Yn amser dy blant, dy wyrion a'th ddisgynyddion." Yn hwyr un nos, pan gyrhaeddodd y pendefig oedran henwr, aeth y forwyn i'r seler i gyrchu diodydd, a chanfu'r môr yn araf lifo trwy'r lloriau a'r muriau. Yn ei dychryn rhuthrodd i rybuddio'i chariadfab, y telynor, a ffodd y ddau am eu bywyd. Boddwyd Tyno Helig a'i holl gynnwys.[3] LLYN Y MORYNION. Un adeg ymhell bell yn ôl, gwnaed Ardudwy mor denau ei phoblogaeth gan ryfeloedd fel y bwriodd y llanciau a oedd weddill eu pennau ynghyd, a phenderfynu myned i Ddyffryn Clwyd a cheisio yno wragedd i'r diben o adboblogi Ardudwy. Llwyddasant i ddenu amryw o'r merched harddaf i'w dilyn. Daeth yr helynt yn fuan i glustiau meibion Dyffryn Clwyd, ac ymlidiasant yr ysbeilwyr a'u goddiweddyd yn ymyl Bwlch-y-Wae ym mhlwyf Ffestiniog. Aeth yn ymladdfa waedlyd. Gwyliai'r morynion y frwydr oddi ar fryncyn cyfagos, ac o weled colli o wŷr Ardudwy y dydd, cilio ar frys a wnaethant a'u boddi eu hunain mewn llyn a oedd gerllaw. Lladdwyd holl wŷr Ardudwy, a'u claddu yn y man a elwir Beddau Gwŷr Ardudwy. Gelwir y llyn byth er hynny yn Llyn y Morynion.[4]

LLYN NELFERCH (MORGANNWG). Y mae'r llyn hwn tua hanner y ffordd rhwng ffermdy Rhondda Fechan a Dyffryn Safrwch, ym mhlwyf Ystrad Tyfodwg. Gelwir ef hefyd weithiau yn Llyn y Forwyn.

Un bore o wanwyn, a mab Rhondda Fechan yn tramwy'r mynydd, gwelodd ferch fonheddig yn rhodio ar fin y llyn gyferbyn ag ef. Dynesodd ati, ac o siarad â hi cael y preswyliai yn y llyn. Hoffodd hi ar unwaith, a cheisiodd ganddi fod yn briod iddo. Gwrthod a wnâi hi ar y cyntaf, ac am beth amser. Eithr gorfu ei serch a'i daerineb ef. Cydsyniodd â'i gais, ac addo dwyn gyda hi o'r llyn ei holl wartheg a'i lloi, a bod yn briod ffyddlon iddo oni chwerylai â hi deirgwaith. Buont fyw yn ddedwydd am flynyddoedd lawer, ond bu cweryl, ac ail, a thrydydd. Un bore ar doriad gwawr clywid hi'n galw ei gwartheg:

"Prw dre', prw dre', prw'r gwartheg i dre',
Prw Milferch, a Malfach, pedair Llualfach,
Alfach ac Ali, pedair Ladi,
Wynebwen drwynog, tro i'r waun lidiog,
Trech-llyn y waun odyn, tair Pencethin,
Tair caseg ddu draw yn yr eithin."

Suddodd y foneddiges a'i hanifeiliaid i'r llyn, ac ni welwyd hwy mwy.[5]

LLYN BARFOG (MEIRIONNYDD). Y mae'r llyn hwn yn y mynydd sy'n gefndir i Aberdyfi. Cysylltir ef ag Annwn, y pwll diwaelod, lle trig Gwyn ap Nudd. Yn yr hen amser ymwelai gwragedd Annwn, wedi eu gwisgo â gwyrdd ac yn cael eu dilyn gan eu gwartheg a'u cŵn, yn fynych â'r llyn. Llwyddodd amaethwr i ddal un o'r gwartheg a'i dwyn i'w faes ei hun. Yn fuan profodd y fuwch na fu yn y wlad erioed ei bath am laetha a magu lloi braf a drudfawr. Ar ei phwys hi llwyddai'r amaethwr ym mhopeth a wnâi, ac ymgyfoethogodd. Pob yn ychydig aeth y dyn yn bwysig yn ei feddwl ei hun, ac yn ddiofal yn ei hawddfyd. Ymfalchïodd yn ei ystâd, a myned yn ddihidio o'i rwymedigaeth i'r 'fuwch gyfeiliorn'. Cymaint oedd ei gyfoeth ag y teimlai y gallai fforddio byw hebddi. Penderfynodd ei phesgi a'i lladd. Pesgwyd hi onid aeth yn gruglwyth mawr. Daeth dydd y lladd, ac ymgasglodd tyrfa anferth o'r siroedd cylchynol i weled y diwedd. Torchodd yr amaethwr ei lewys, a brathu ei gyllell i'r fuwch â'i holl nerth, ond nid i ddim pwrpas. Brathodd drachefn a thrachefn, eithr ni niweidiai flewyn o'r fuwch, a daliai hithau i gnoi ei chil yn hamddenol. Yn sydyn dyna floedd a grynai'r bryniau. Yr oedd gwraig mewn gwyrdd, â'i breichiau i fyny, yn sefyll ar graig uwch y llyn ac yn galw:

"Dere di felen Einion,
Cyrn Cyfeiliorn, Braith y Llyn,
A'r Foel Dodin;
Codwch, a dewch adre'."

Ar drawiad i ffwrdd â'r fuwch a'i hiliogaeth, â'u cynffonnau i fyny, i gyfeiriad Llyn Barfog. Rhuthrodd yr amaethwr yntau i ben bryn, a gweled y wraig mewn gwyrdd wedi ei hamgylchu gan y fuwch a'i lloi yn suddo i'r llyn. Trodd y byd yn erbyn yr amaethwr, a'i wneuthur y tlotaf yn y wlad.[6]

MOEL LLYN (CEREDIGION). Y mae traddodiadau'r llynnoedd i gyd yn hen, a gŵyr y sawl sydd gyfarwydd â llên gwerin y cynhwysir hwy, bron o angenrheidrwydd, ym mhob casgliad Cymraeg a wnaed. Ond nid wyf yn meddwl i'r traddodiad am y llyn hwn fod erioed mewn llyfr o fath yn y byd.

Rhyw bum milltir o bentrefi Tal-y-bont a Thaliesin, Ceredigion, i gyfeiriad Pumlumon, y mae mynydd syth ac uchel. O'i sawdl i gyfeiriad y gogledd, ac ar fin gwaun Cae'rarglwyddes, tardd afon Cletwr, a ymarllwys i Ddyfi. I gyfeiriad y deau llithra'r mynydd yn gyflym i gwm dwfn, ac o'i odre y tardd afon Ceulan sy'n llifo i Eleri. Y mae pen y mynydd yn lled gul, ac arno ddwy garnedd fawr. Rhwng y ddwy garnedd, bellter cyfartal o'r naill a'r llall, y mae llyn. Defnyddid y carneddau gan yr hen Gymry i bwrpas milwrol, a chredir i Glyndŵr wersyllu ar y mynydd. Nid oes yn yr holl wlad fan addasach at bwrpas byddin, oblegid gwelir yn glir i bob cyfeiriad am filltiroedd, ac anodd fyddai i elyn ddynesu heb ei weled. Gwelid hefyd dân y carneddau o Bumlumon a Chader Idris a Phen Dinas (Aberystwyth).

Y mae cryn ddirgelwch ynglŷn â'r llyn oherwydd llawer o bethau anesboniadwy. A mesur wrth olwg y llygaid, ei hyd ydyw ugain llath, ac ar draws, yn ei fan lletaf, y mae tua decllath. Nid yw'r grisial fawr gloywach na'i ddwfr, ac y mae blas mawn yn drwm arno. Nid oes ddafn yn rhedeg iddo nac ohono. Y mae'n llyn hunanddigonol ac anghyfnewidiol. Gwelais ef yng ngaeaf 1936, ac yr oedd yn llawn, ond dywedai cyfaill a oedd gyda mi nad oedd dim gwahaniaeth rhyngddo a'r hyn ydoedd pan welodd ef ar ganol sychder haf. Yr oedd yn llawn y pryd hwnnw hefyd. Haf a gaeaf, sych a gwlyb, yr un faint yw cynnwys y llyn.

Yn ôl traddodiad, diogelir Moel Llyn rhag ymyriadau dynol gan ryw allu goruwchnaturiol. Dechrau Medi, 1936, cefais hanes diddorol gan Mr. Richard Griffiths, Llythyrdy, Tal-y-bont; cafodd yntau ef gan ei dad. Y mae Mr. R. Griffiths yn ddyn diwylliedig, yn llenor parchus, ac yn gerddor gwych. Melinydd oedd ei dad, William Griffiths, yn cadw melin yng ngwaelod pentref Tal-y-bont, a chael iddi ddwfr o Eleri. A'r un adeg gweithiai ei ewythr, Humphrey Jones, brawd ei dad, felin Penpompren, ar flaen uchaf y pentref, a chael dŵr o Geulan. (Ni ŵyr Mr. Griffiths paham y gelwid y naill frawd yn Griffiths a'r llall yn Jones). Un haf ni chafwyd glaw am wythnosau, a sychodd Ceulan, a methwyd gweithio'r felin. Ymgynghorodd Humphrey Jones â'i frawd ac eraill, a phenderfynwyd gollwng Moel Llyn i afon Ceulan, a chael felly ddŵr i felin Penpompren. Aed i'r mynydd ar ddiwrnod hafaidd a'r awyr yn las, a dechrau agor ffos i ollwng y llyn. Ymhen ychydig, ymffurfiodd cymylau trwm ac isel yn yr awyr, daeth prudd-der i'r mynydd, fflachiodd mellt gwyllt, a rhuodd taranau. Credent y byddai'r storm yn malu'n yfflon y carneddau a'r creigiau o'u hamgylch. Dychrynodd y dynion a dianc am eu heinioes. Ym mhen deau 'r llyn y mae tua phedair llath o ôl y ffos i'w gweled yn awr. Bu'r digwyddiadau uchod, yn ôl amcangyfrif Mr. R. Griffìths, tua chwe ugain mlynedd yn ôl.

LLYN Y FAN FACH (SIR GAERFYRDDIN). Yn ôl Syr John Rhys, stori'r llyn hwn yw'r gyflawnaf o storïau'r llynnoedd, ac â hi y gellir orau gymharu'r gweddill.

Yn y ddeuddegfed ganrif preswyliai gwraig weddw a'i mab ym Mlaensawdde, Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin. A'r mab un dydd yn bugeilio'r anifeiliaid, gwelai, er ei syndod, forwyn hardd yn eistedd ar Lyn y Fan Fach, ac yn cribo'i gwallt llaes. Sylwodd y ferch ar ei graffu a dynesu at fin y llyn. Cynigiodd yntau iddi'r bara haidd a'r enllyn a roddasai ei fam iddo wrth adael cartref. Swynwyd ef gymaint gan harddwch y forwyn fel y parhaodd yn hir i gynnig iddi'r ymborth. Llefarodd hithau:

" Cras dy fara,
Nid hawdd fy nala."

Ac ar drawiad suddodd tan y dŵr a gadael y llanc yn syn a siomedig.

Dychwelodd y mab i'w gartref a mynegi i'w fam y weledigaeth swynol a gafodd, a'r siom o golli'r ferch. Hithau a dybiodd y gallai fod yn y bara cras rywbeth a barai iddo fod yn ddi-flas i'r forwyn ac yn dramgwydd iddi. Bore trannoeth rhoes i'w mab does amrwd i'w gynnig. Aeth yntau eilwaith at fin y llyn a disgwyl. Ymhen rhai oriau ymddangosodd y ferch drachefn. Y tro hwn amlygodd y llanc ei serch, a chynnig y toes amrwd. Gwrthod a wnaeth hithau a dywedyd:

"Llaith dy fara,
Ti ni fynna'."

Eithr yr oedd gwên ar ei hwyneb pan suddodd i'r llyn, a llonnwyd y llanc. Trannoeth awgrymodd y fam i'r mab gynnig bara wedi ei hanner grasu. Aeth yntau y trydydd tro, a gweled amryw wartheg graenus yn cerdded ar wyneb y llyn, a'r wyryf Hardd yn eu bugeilio. Dynesodd at y llyn a chynnig y bara hanner cras, a derbyniwyd ef. Ymwrolodd yntau a meiddio'i cheisio yn briod iddo. Ar ôl peth crefu cydsyniodd hithau, ar yr amod nad oedd i'w tharo'n ddiachos deirgwaith. Eglurodd iddo os rhoddai iddi ' dri ergyd diachos' yr ymadawai ag ef am byth. Yna suddodd i'r llyn, a dychwelyd gyda chwaer a gŵr oedrannus ac urddasol. Dywedodd yr hen ŵr, y tad, y bodlonai ef i'r briodas os gallai'r llanc nodi pa un o'r ddwy chwaer a garai. Mor debyg oeddynt i'w gilydd fel na welai'r dyn ieuanc wahaniaeth, a theimlai fod dewis yn amhosibl. Eithr yn sydyn, ac megis ar ddamwain, gwthiodd un ei throed ymlaen y mymryn lleiaf, a sylwodd yntau ar eu dull gwahanol o rwymo'u sandalau—sylwasai droeon ar ddull yr un a garai-a dewisodd. "Ti a ddewisaist yn gywir," meddai'r tad, "bydd ffyddlon iddi, a mi a roddaf yn waddol gynifer o ddefaid a geifr a gwartheg a cheffylau ag a all hi gyfrif o bob un ar un anadl, Ond os rhoi iddi dri ergyd diachos, hi a ddychwel ataf ac a ddwg i'w chanlyn ei holl gynhysgaeth."

Priododd y ddeuddyn ieuainc a myned i fyw i Esgair Llaethdy, ychydig tros filltir o bentref Myddfai. Buont lwyddiannus a dedwydd am flynyddoedd, a ganwyd iddynt dri o feibion talentog. Ond un tro gwahoddwyd y rhieni i wasanaeth bedydd yn y gymdogaeth. " Dos i ddal y ceffylau tra byddaf yn cyrchu dy fenyg o'r tŷ," meddai'r gŵr. Pan ddychwelodd a chael nad aethai'r wraig yn ôl ei gais, trawodd ei hysgwydd yn ysgafn â maneg, a dywedyd, "Dos, dos." " Dyna'r ergyd diachos cyntaf," meddai hi. Ymhen rhai blynyddoedd wedyn yr oeddynt mewn gwledd briodas. Yng nghanol y llawenydd a'r miri, torrodd hi i wylo yn chwerw ac uchel. Cyffyrddodd y gŵr hi eilwaith ar ei hysgwydd, a gofyn am achos ei thristwch. " Yn awr," meddai hi, " y dechrau gofidiau'r ddeuddyn hyn, a thebyg hefyd y dechrau dy ofidiau dithau gan iti fy nharo'n ddiachos yr eilwaith."

Tyfasai'r plant yn ddynion ieuainc, ac nid oedd yn y wlad deulu dedwyddach. Ond un diwrnod, a'r rhieni mewn angladd a phawb yn fawr eu galar, chwarddodd y wraig ar uchaf ei llais. Cyffyrddodd ei phriod â'i braich a dywedyd, " Ust, ust, paid â chwerthin." " Chwerddais," meddai hi, "oherwydd bod y marw wedi dianc o'i flinderau. Trewaist yr ergyd olaf. Ffarwél."

Trodd ei chefn arno a myned i Esgair Llaethdy a galw ar ei hanifeiliaid. Galwodd ar y gwartheg fel hyn:

" Mu Wlírech, Moelfrech,
Mu Olfrech, Gwynfrech,
Pedair cae tonfrech,
Yr hen Wynebwen,
A'r las Geingen,
Gyda'r tarw gwyn
O lys y Brenin,
A'r llo du bach
Sydd ar y bach,
Dere dithe, yn iach adre'."

Clywodd hefyd y pedwar ych a oedd yn aredig yn y maes hi yn galw:

"Pedwar eidion glas
Sydd yn y maes,
Deuwch chwithe,
Yn iach adre'."

Atebasant i'r alwad bob un. Daeth hyd yn oed "y llo bach du a oedd ar y bach" yn fyw drachefn. Ymaith â hwy yn gyflym a diflannu yn y llyn.

Gyrrodd hiraeth y meibion yn aml i gymdogaeth y llyn i geisio eu mam, ac un bore daeth hithau atynt i ymyl Dôl Hywel, wrth Lidiart y Meddygon, a dywedyd wrth Riwallon, yr hynaf, mai ei waith ef mewn bywyd fyddai iachau dynion o bob clefydau. Yna rhoes iddo gyffuriau a chyfarwyddiadau, a dangos iddo yn y meysydd bob llysiau rhinweddol.

Daeth Rhiwallon a'i dri mab, Cadwgan, Gruffudd ac Einion, a'u disgynyddion am rai cenedlaethau, yn feddygon medrusaf ac enwocaf yr holl wlad, Gadawsant eu gwybodaeth feddygol mewn llawysgrif, a chyhoeddwyd hi yn llyfr tan yr enw "Meddygon Myddfai," yn Llanymddyfri yn 1861. Ceir yn y llyfr gant a phedwar ugain ac wyth o gyfarwyddiadau (prescriptions) meddygol. Dyma ei eiriau cyntaf:

"Yma gan borth Duw goruchel bendvic, y dangosir y medegynyaethau arbennickaf a phennaf wrth gorff dyn, sef y neb a beris eu hyscrivennu yn y mod hwn Rhiwallawn Vedic ae veibion; nyt amgen, Kadvyavn, a Gruffud ac Einavn."

Yn ôl y rhagymadrodd i "Meddygon Myddfai," bu Rhiwallon a'i feibion yn feddygon i Rys Gryg, arglwydd Dinefwr a Llanymddyfri. Cyn belled ag y gwyddys, yr olaf o'r meddygon a ddisgynnodd o Forwyn Llyn y Fan ydoedd C. Rice Williams a breswyliai yn Aberystwyth yn 1881.[7] Y mae ffynhonnau rhinweddol ym mhob rhan o Gymru; nid oes odid blwyf heb un neu ragor ynddo. Cysylltir y mwyafrif â rhyw sant neu santes arbennig, a cheir hwy'n amlach yng Ngogledd Cymru nag yn y Deheudir. Er eu bod yn llu mawr, nid oes fawr wahaniaeth rhyngddynt o ran nodweddion. Nid oes ofyn yma am gofnodi hanes namyn ychydig o'r rhai enwocaf.

FFYNNON ELIAN (Sir Ddinbych). Gwaith gwreiddiol y ffynnon hon ydoedd gwella clefydau, eithr trwy ryw gyfaredd anffodus trodd i felltithio.

FFYNNON DEGLA (LLANDEGLA) Yr oedd yn hon rinwedd at wella math ar ffitiau, neu ddolur a elwid yn "Clwyf Tegla."

FFYNNON GWENFREWI (TREFFYNNON). Y mae yn hon rinwedd at wella pob math ar anhwylder, ac ym marn y Pabyddion hyd heddiw, y mae ei dyfroedd yn wyrthiol i'r sawl a fo'n gryf ei ffydd.

FFYNNON BEUNO (CLYNNOG). Gwellha hon blant yn dioddef oddi wrth nychdod a ffitiau.

FFYNNON GYBI (LLANGYBI). Datguddia hon i ferched ffyddlondeb neu dwyll eu cariadon.

FFYNNON DDWYNWEN (SIR FÔN). Yr un â Ffynnon Gybi yw gwasanaeth hon hithau.

FFYNNON GYNON (LLANGYNWYD, MORGANNWG). Pan oedd dau newydd briodi, y cyntaf a yfai ohoni a fyddai ben byth wedyn.

FFYNNON FAIR (LLŶN). Ar amod arbennig, sef os dringir llwybr serth yn ymyl heb golli dafn o'i dŵr o'r geg, caiff pob person ei ddymuniad gan y ffynnon ddefnyddiol hon.

FFYNNON NON (TYDDEWI). Ni fyn Non, mam rasol Dewi, i neb aberthu mwy na phinnau bach, a manion eraill, i'r diben o sicrhau holl ddymuniad ei galon.

FFYNNON BUSHELL. Gwahaniaetha'r traddodiadau y ffynnon hon oddi wrth eiddo'r ffynhonnau a enwyd eisoes, ac ni welais gyfeirio ati mewn argraff. Yng ngogledd Ceredigion, ar fryncyn lled uchel, filltir o Dre'rddôl ac yn wynebu afon Dyfi, y mae plasty o'r enw Lodge Park—yr hen enw ydoedd Bod Frigan. Yn y plasty hwn y preswyliai Syr Hugh Middleton ychydig dros dri chan mlynedd yn ôl, a gweithio oddi yno waith mwyn plwm Cwm Symlog a ddygai iddo elw o ddwy fil o bunnoedd y mis. Yn ei ddilyn ef daeth Thomas Bushell i Lodge Park a gweithio'r gwaith a weithiasai Syr Hugh. Bernir i Bushell weithio hefyd amryw fân weithfeydd plwm yng ngogledd y sir. Ymgyfoethogodd yntau gymaint oni allodd roddi'n fenthyg i'r brenin Charles y cyntaf ddeugain mil o bunnoedd. Ffurfiodd hefyd gorfflu o filwyr o'r mwynwyr i ymladd o blaid Charles. Yn y goedwig ychydig i'r gogledd oddi wrth y plas, y mae ffynnon mewn craig, â'r graig yn do iddi. Ei maint yw pedair troedfedd o hyd, dwy ar ei thraws, a'i dyfnder yn ddeunaw modfedd. Ni phaid ei dŵr na haf na gaeaf, ac y mae bob amser yn loyw fel grisial ac oer fel ia. Amgylchir y ffynnon â thoreth o frigau marw a dail y coed, eithr ni cheir byth na brigyn na deilen ynddi hi. Ymwelais â hi yng ngwyliau Nadolig 1936, ac yr oedd yn gwbl lân. Y traddodiad yw ddarfod i Thomas Bushell lofruddio'i wraig a gwthio ei chorff i'r ffynnon hon. Galwyd hi byth wedyn yn Ffynnon Bushell.

Gwyddys am lawer o ffynhonnau at wella crydcymalau, a symud dafadennau, gwendid llygaid, a llu o anhwylderau eraill. Credid unwaith y perthynai rhinwedd gwyrthiol i amryw o'r ffynhonnau hyn, a rhoddid iddynt barch crefyddol onid addolgar.

Nodiadau

golygu
  1. Chwedlau Cymru, Rachel W. Ellis, td. 88.
  2. Y Brython, Cyf. V., td. 338.
  3. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid, H. Derfel Hughes 1866), td. 10.
  4. Casgliad, o Lên Gwerin, William Davies, Cyf. Eist. Ffestiniog (1898).
  5. The Folklore of Glamorgan, T. C. Evans (Cadrawd), Cyf Eist. Gen. Aberdâr (1885).
  6. Y Brython, Cyf. III. (1860), tud. 183.
  7. Celtic Folklore, Syr John Rhys, Cyf. I. td. 2-12,