Coelion Cymru/Rheibio a Chonsurio
← Darogan a Choelion Eraill | Coelion Cymru gan Evan Isaac |
Swynion → |
IX
RHEIBIO A CHONSURIO
Dywaid Marie Trevelyan yn ei llyfr a gyhoeddwyd tros ddeugain mlynedd yn ôl, iddi fethu â tharo ar reibes neu reibiwr ym Mro Morgannwg, ac na chredai fod gan neb yno ffydd mewn rheibio.[1] Nid wyf yn ddigon cyfarwydd â'r Fro i wybod ei holl ddoniau, ond petai Marie Trevelyan yn fyw yn awr, gallwn ei thywys yn y gymdogaeth hon at fwy nag un rheibes sy'n fedrus ar y grefft.
Nid yn aml y ceir dyn a fedr reibio. Cyfyngwyd y ddawn bron yn gwbl i ferched. Ni chlywais am fwy na dau reibiwr, eithr clywais am ddegau o reibesau, ac adnabûm dair. Ofnai rhai pobl y tair hynny fel yr ofnir ellyll. Credir bod gallu rheibes i ddrygu dyn ac anifail bron a bod yn ddifesur. Teifl ei hud a'i melltith ar bawb a phopeth a gwae'r sawl a'i digio. Gwelir hyn yn glir mewn hanesyn a gofnodir gan y Parchedig Elias Owen.[2] Yr oedd Beti'r Bont, Ystrad Meurig, yn rheibes nerthol ac adnabyddus, a thelid yn ddrud am bob cellwair â hi. Un pen bore cyfarfu gwas Dôl Fawr â hi, a chwerthin am ei phen gan ddiystyru ei gallu goruwchnaturiol. Craffodd Beti arno yn hir, a'i adael. Drymder nos deffrodd y gwas yn ei wely, a'i gael ei hun yn ysgyfarnog; ac er ei ddychryn gwelai ollwng arno ddau filgi mawr. Dihangodd am ei einioes, â'r milgwn yn ei ddilyn. Wedi helfa boeth tros gloddiau a thrwy eithin a drain, llwyddodd i ddychwelyd â chroen ei ddannedd i Ddôl Fawr, a'i gael ei hun ar ffurf dyn eilwaith. Trawsffurfid ef yn aml ar ôl hyn yn ysgyfarnog. O'r diwedd ymostyngodd i gydnabod gallu cyfareddol y rheibes, a thynnwyd ymaith yr hud a'r felltith.
Rhydd yr un awdur hanes diddorol am Reibesau Llanddona ym Môn. Y traddodiad ydyw, ddarfod alltudio'r rheibesau a'u teuluoedd o'u gwlad —ni wyddys pa wlad—oherwydd y dinistr a achosent trwy reibio. Gyrrwyd hwy i'r môr mewn cychod heb na hwyl na rhwyf. Glaniasant ar draeth Môn. Cododd y brodorion i'w herbyn a cheisio eu gwthio o'r tir. A hwythau ar fin marw o newyn a syched, parasant i ffynnon o ddwfr croyw darddu o'r traeth. O weled gwneuthur y fath wyrth, caniatawyd iddynt dario yn y wlad. Bu eu cynnydd yn gyflym, ac ni fuont yn hir heb ddechrau ar eu gwaith o reibio. Ymwelai’r rheibesau hyn â thai ffermydd y plwyf, ac ni feiddiai neb wrthod eu ceisiadau. O'u gwrthod a'u tramgwyddo dialent yn greulon. Wele enghraifft o'u melltithion. Traddodwyd hi ger y Ffynnon Oer ar druan a'u digiodd:
"Crwydro y byddo am oesoedd lawer;
Ac ym mhob cam, camfa;
Ym mhob camfa, codwm;
Ym mhob codwm, torri asgwrn;
Nid yr asgwrn mwyaf na'r lleiaf,
Ond asgwrn chwil corn ei wddw bob tro."[3]
Mewn llawysgrif ar "Yr Hen Amser Gynt . . . ynglŷn â Gogledd Cymru," gan John Castell Evans, Llanuwchllyn, cawn hanes peth o waith Cadi'r Witch. Cafodd J. C. Evans yr hanes tua'r flwyddyn 1861, gan John Edwards, Drws-y-Nant. Yr oedd yn byw ym mhlwyf Trawsfynydd un a elwid Cadi'r Witch. Aeth Cadi un tro i dŷ Gwen, Gelligen, i geisio llaeth. Gwrthododd Gwen hi. "Wel," meddai Cadi, "gan na chaf ddim, mi a'th wnaf yr un odia' a lyncodd laeth." Clafychodd Gwen. Galwyd gwahanol feddygon, ond nid i ddim pwrpas. Penderfynodd y mab ymgynghori â'r enwog Ddoctor Bunyan a oedd yn feddyg a chonsurwr. Hysbysodd y Doctor ef fod ei fam wedi ei rheibio. Parodd i'r mab ddwyn y fam i dyrpeg pentref Trawsfynydd, a'i gosod i eistedd ar gadair dderw â'i chefn at y drws, ac iddo yntau fyned allan ymhen ychydig funudau, ac y gwelai'r rheibes yn dynesu â baich o fawn ar ei chefn. Daeth y rheibes, a Chadi ydoedd. "Yn enw Duw, Cadi," meddai'r mab, "paham y rheibiaist fy mam? Tyrd i'r tŷ 'rŵan, a dwed, c Rhad Duw arni.' " Atebodd Cadi, "Rhad Duw rhag imi ddweud y fath beth." Eithr gorfododd y mab hi, a dywedodd y rheibes, braidd o'i hanfodd, " Rhad Duw arnat, Gwen bach." Ond oherwydd ei gorfodi, neu am suddo o'r fam yn rhy ddwfn i wendid, ni wellhaodd, ac er gorau'r Doctor Bunyan, bu farw ymhen ychydig amser.[4]
Gwelais gyfeirio rai troeon at reibesau ag iddynt nodweddion consurwyr. Yn Saesneg gelwir hwy yn White Witches. Y mae eu dibenion yn ddaionus. Geilw'r Parchedig D. Harris Williams, Bodffari, ein sylw at un ohonynt. Adroddid yn Bodffari am hen wraig ar y Waun a boenid ac a golledid yn fawr oherwydd anhwylder a thranc ei hanifeiliaid. Crwydrent y naill ar ôl y llall o gwmpas y maes fel petasai'r bendro arnynt, ac ymhen ychydig ddyddiau trengent o newyn, er bod iddynt borfa dda a dibrin. Anfonodd yr hen wraig ei merch i ymgynghori â'r White Witch a breswyliai gerllaw Castell Dinbych. Dywedodd y rheibes, " Dos adref a pheri i'th fam dynnu blewyn o bob anifail ag sy'n eiddo iddi. Yna, ganol nos, llosger y blew yn y tân, ac wrth wneuthur hynny darllener cyfran arbennig o'r Ysgrythur,—(ni chofiai Harris Williams pa gyfran)—a diogelir y gweddill o'r anifeiliaid." Gwnaeth y fam yn ôl cyfarwyddyd y rheibes, eithr anghofiodd dynnu blewyn o'r ci, a bu farw hwnnw.[5]
Yn ôl yr hanes a rydd Alexandra David-Neel am reibesau Tibet, y maent i gyd o dras y White Witch. Bodau anghyffredin o ran gallu a gwybodaeth ydynt, ac yn gweithredu er mantais cymdeithas. Eu prif waith ydyw dysgu ac egluro gwirioneddau cudd ac athrawiaethau cyfrin. Credir yn Tibet mai math arbennig o Dylwyth Teg yw'r rheibesau hyn, a gelwir hwy " Mamau." Ymddangosant ar brydiau ar ffurf hen wragedd, a chanddynt lygaid gwyrdd neu goch.[6] Fe gofir mai'r enw ar y Tylwyth Teg mewn rhannau o Ddeheudir Cymru ydyw ' Bendith y Mamau.'
Gwelir oddi wrth lyfrau Edmund Jones (1780) a William Howells (1831) fod hanes a bri rheibesau yn hen iawn yng Nghymru yn eu dyddiau hwy. Nid oes neb a wad hynafiaeth y goel. Y perygl yn awr ydyw i'r sawl sy'n anghynefin â llên gwerin dybio heneiddio ohoni gymaint nes marw ganrif neu ddwy yn ôl. Y flwyddyn ddiwethaf dywedai awdur Seisnig, a gyfrifir yn hyddysg mewn llên gwerin, fod y gred yng ngallu deifiol llygaid rheibes wedi parhau hyd gyfnod cymharol ddiweddar ym Mhrydain.[7] Efallai nad yw'r gred mewn rheibio yn ddigon byw yn Lloegr i lenorion wybod ei bod, ond yn ôl amryw arwyddion y mae'r trigolion lawn mor ofergoelus ag y buont. O droi i ganolbarth Ewrop gwelir bod y gred mewn rheibio yn parhau i ffynnu. Mor ddiweddar â Rhagfyr 1935, cyhoeddwyd yn y Daily Telegraph hanes prawf rheibes yn llys y wlad yn Vienna. Nid coel farw mohoni yng Nghymru chwaith. Nid oes raid wrth sylwadaeth graff i ganfod bod amryw reibesau, a chred gref ynddynt, mewn rhai rhannau o Gymru yn bresennol.
Tuag wyth mlynedd ar hugain yn ôl, bu farw rheibes a breswyliai am y rhan fwyaf o'i hoes mewn pentref bron ar y terfyn rhwng siroedd Aberteifi a Threfaldwyn. Un flwyddyn prynodd y rheibes hon a chymdoges iddi, bob un, fochyn bach o'r un dorraid o fferm gyfagos. Bychan ac eiddil, o'i gymharu â pharchell y rheibwraig, ydoedd eiddo'r gymdoges, a bernid mai "cydydwyn" y dorraid ydoedd. Pa fodd bynnag, tyfai'r bychan yn gyflym, ac ymhen ychydig wythnosau rhagorai ar ei frawd o ran maint a phwysau. Ymwelai'r naill wraig yn aml â pharchell y llall. Un diwrnod sylwodd y gymdoges ddyfod rhyw aflwydd ar glustiau ei mochyn hi. Nid oedd arnynt friwiau fel petasai ci neu lygod mawr wedi eu cnoi, ond newidiasent eu lliw melyngoch ac iach i dywyll ysgafn, ac yna o dywyll i ddu. Yn fuan dechreuodd y clustiau fadru a syrthio oddi wrth y pen. Bwytai'r parchell yn gampus, ac yr oedd cyn iached â chneuen, ac yn llond ei groen; eithr moel ydoedd, ac yn ymddangos y mochyn hynotaf a welwyd. Ymdaenodd y sôn am y creadur bach drwy'r ardal, a heigiai pobl i'w weled. Gwelais ef fy hun. Bu dyfalu mawr am achos diflannu'r clustiau, a'r farn gyffredin ydoedd mai gwaith y rheibes oedd ar y mochyn. Dyna'r unig esboniad rhesymol, oblegid onid oedd mochyn y rheibes o'r un dorraid, a'r llall o ran tyfiant yn ei guro? O gredu bod melltith y rheibwraig ar y mochyn, lladdwyd ef, a'i gladdu mewn gardd wrth fôn pren afalau.
Un o foddau cyffredin rheibesau o ddial ar amaethwyr am gam neu dramgwydd ydyw rheibio'r llaeth fel na ellir ci gorddi a gwneuthur ymenyn ohono. Yn 1918—mor ddiweddar â hynny-methai teulu B---n, rhwng Aberystwyth a Phonterwyd, er pob ymgais, â throi'r llaeth yn ymenyn. Er corddi'n ddyfal o fore gwyn tan nos, ni cheid yn y fuddai namyn llaeth ac ewyn. Ar ôl methu lawer tro, a digalonni, ymgynghorwyd â'r Consurwr, a chael mai'r forwyn a reibiai'r llaeth. Newidiwyd y forwyn a chollwyd y felltith.
Tystiolaeth Dau Feddyg. Y mae gennyf gyfaill o feddyg sy'n ŵr dysgedig, yn fedrus yn ei alwedigaeth, ac yn hyddysg mewn llên gwerin. Cafodd unwaith ei alw gan feddyg arall i ymweled â gwraig a oedd yn beryglus glaf mewn pentref ym mhlwyf Llanfihangel Genau'r Glyn. Cyfarfu'r ddau feddyg a gweled y claf, ac wedi ymgynghori, disgyn i'r gegin ac egluro i'r gŵr ansawdd yr afiechyd. " Wel," meddai yntau, " dyna'ch barn chwi eich dau, ond yr ydych yn cyfeiliorni. Wedi ei rheibio y mae fy mhriod. Bythefnos yn ôl cwerylodd fy ngwraig â chymdoges sy'n rheibes adnabyddus, a'i gwaith hi ydyw'r afiechyd hwn." Dyn tua hanner cant oed yw'r gŵr, ac yr wyf yn ei adnabod yn dda. Cefais dystiolaeth y ddau feddyg, a'r ddau ar wahân. Digwyddodd y cwbl ym Mawrth .1936.
Y mae yn fy meddwl un hanesyn a ddengys gryfed yw'r gred mewn rheibio yng ngogledd Ceredigion, a pharoted yw llawer o'r trigolion i feddwl am bopeth chwithig ac aneglur fel cynnyrch melltith rheibes.
A mi yn byw yn Aberystwyth yn 1924, perswadiodd cyfeillion (!) fi i brynu beic modur. Dywedent na fyddai raid imi ddim ond eistedd arno, ac yr âi â mi yn gysurus i bob man trwy'r wlad. Gwae fi imi wrando ar y giwed. Gŵyr pawb trwy hanner y sir am droeon barus y beic hwnnw. Nid oedd beic yr Athro Parry-Williams fawr gwell na chysgod fy un i. Ef oedd y creadur mwyaf anystywallt a fu ar y ffordd fawr erioed. Chwysais ddengwaith onid oeddwn yn wan wrth geisio'i gychwyn. Ar ôl cychwyn, âi yn ufudd oni welai ar y ffordd ddiadell o ddefaid neu yrr o warthcg; yna sefyll, a pheri imi ysgafnhau ei faich trwy roddi fy nhraed ar lawr. Ymhob trofa amcanai ymosod ar bob cerbyd a beic a'i cyfarfyddai, ac o'i rwystro, âi i'r clawdd a'm taflu i ffwrdd fel petaswn ysgymunbeth. Eithr prif hynodrwydd yr hen feic ydoedd mai ar y daith i Bont Goch y gwnâi ei ystranciau pennaf a mynychaf. Cyrhaeddai yno ben bore yn boeth fel ffwrn ar ôl dringo rhiwiau, ond ar derfyn y dydd nid oedd fodd i'w gychwyn adref. Ymgasglai plant y pentref a llanciau'r lluestau o'i gwmpas. Meddylid am bob cynllun i'w gychwyn—gogleisio mannau tyneraf ei gorff, rhoddi dafn o wlybwr yn ei lwnc, cic ar ôl cic. Wedi ei hir gymell dechreuai yntau gwyno a chwyrnu, ac wedyn, saethu fel ergyd o wn nes dychrynu'r defaid. I ffwrdd ag ef fel mellten.
Un tro methwyd â'i gychwyn, a cherddais i Dal-y-bont a galw yn nhŷ perthynas imi i holi am gerbyd. "Beth sy'n bod?" meddai Richard. "P'le mae'r beic?"
" Yn ffermdy Cerrig Mawr," meddwn, "methwyd â'i gychwyn." " O, mi welaf, Bont Goch eto, felly'n wir. Aros di, glywais i dy fod wedi disgyblu hen wraig y— yn ddiweddar? Ie, dyna hi,-disgyblu'r hen wraig; canlyniad, y beic yng Ngherrig Mawr. Beth arall oedd i'w ddisgwyl? Yr wyt yn credu mewn rheibio, wrth gwrs?"
"Credu mewn rheibio! Beth fedr rheibes wneud i geffyl haearn?"
"Mi wna bopeth a fyn hi, 'ngwas i. Mi all rheibes wneud pethau rhyfedd ac ofnadwy. Wedi ei reibio y mae dy feic, a gorau po gyntaf iti weld y Consurwr."
Gwerthais y beic i ddyn o Dregaron, gan wybod, os oedd dyn yn y cread a fedrai drin pob math o geffylau mai yn Nhregaron yr oedd.
Y CONSURWYR. Y mae o leiaf dair cred ynglŷn â'r consurwr. Credid unwaith yn lled gyffredinol mai person a wnaeth ryw gytundeb annynol â'r diafol oedd,—ei werthu ei hun iddo am ddawn neu fedr goruwchnaturiol. Awgrymir y gred hon yn niffiniad Brutus yn ei ysgrif ar "Ofergoelion yr Oes" yn "Brutusiana"-"Dewiniaeth, neu Gonsuriaeth, ydyw, y gelfyddyd honno, trwy yr hon yr ymhonna dynion eu bod yn gallu gwneuthur i'r ysbrydion drwg ymddangos, pan dynghedir hwynt i ufudd-dod, ac y gwneir iddynt gwblhau y gorchwylion hynny a orchymynir iddynt gan y dewin." Dysgir hefyd yr un gred gan draddodiad a geir yn Sir Gaerfyrddin ynglŷn â chladdu Dewin Cwrt-y-cadno. Dywedir am y personau a gariai gorff John Harris, y dewin, i fynwent Caio, iddynt deimlo wrth ddynesu at yr eglwys fod eu baich yn ysgafnhau nes myned mor ysgafn ag arch wag. Bernid mai'r rheswm ydoedd i'r diafol feddiannu'r corff, fel y gwnaethai eisoes â'r enaid pan werthodd y dewin ef ei hun iddo.
Cred arall, a mwy cyffredin, ydyw, y gweithreda'r consurwr yn rhinwedd gwybodaeth ddieithr a gaiff mewn hen lyfrau cyfrin na cheir monynt gan neb ond consurwyr. Trwy ddefnyddio'r f llyfrau hyn, llwydda i ddirymu cynllwynion a melltithion rheibesau ac ysbrydion drwg.
Y drydedd gred ydyw, mai etifeddu dawn a chyfryngau'r grefft oddi wrth ei hynafiaid a wna'r consurwr. Dyna'r gred am gonsurwyr Llangurig ac eraill. Edrychir ar y math hwn o gonsurwyr fel cymwynaswyr cymdeithas. Dynion hirben ydynt, a chanddynt ryw allu uwchddynol i fwrw ymaith felltithion a datguddio'r melltithwyr, ac adfer iechyd a diogelu meddiannau. Pan ddigwydd i berson aflwydd nad oes fodd i'w esbonio, megis afiechyd dieithr, neu bruddglwyf trwm, neu pan fo anap neu nychdod hir ar anifail, neu pan gollir arian a phethau gwerthfawr eraill, eir yn hyderus i ymgynghori â'r consurwr. Ac nid yn fynych y dychwel un yn siomedig.
Yn gymaint â bod dewin Cwrt-y-cadno yn un o'r rhai cryfaf a mwyaf adnabyddus a gafodd Cymru, ac i minnau fod yn gymydog i rai o'i ddisgynyddion am rai blynyddoedd, efallai y dylid rhoddi gair o'i hanes.
Ganed John Harris yng Nghwrt-y-cadno, plwyf Caio, Sir Gaerfyrddin, yn 1785. Ar ei garreg fedd y mae'r geiriau Saesneg: " John Harris, Pantcoy, Surgeon, who died May II, 1839. Aged 54 years." Yn ei oes yr oedd yn sêr-ddewin a chonsurwr heb ei fath yng Nghymru. Tynnai'r cleifion a'r adfydus ato o bob rhan o'r wlad, ac yr oedd ganddo allu rhyfedd tros wallgofiaid. Yr oedd John Harris yn ddyn dysgedig a diwylliedig, a chanddo yn ei lyfrgell lyfrau Groeg a Lladin a Ffrangeg. Gadawodd ar ei ôl Lyfr Cyfarwyddiadau (prescription book) yn cynnwys tros bum cant o gyfarwyddiadau meddygol.[8] Y mae'r llyfr hwn yn ddiddorol oherwydd y dengys fod John Harris yn rhywbeth heblaw 'Dyn Hysbys.' Ymunodd ei fab Henry ag ef fel meddyg a dewin, a daeth yntau i gryn fri, eithr nid mor enwog â'i dad. Bu Henry Harris am rai blynyddoedd yn Llundain tan addysg y sêr-ddewin 'Raphael.'
Wele gopi o hysbysiad a wasgarai'r ddau Harris drwy'r wlad.
Nativities Calculated
In which are given the General Transactions of the Native through life; viz,—Description (without seeing the person), Temper, Disposition, Fortunate or Unfortunate in general pursuits; Honour, Riches, Journeys, and Voyages (Success therein, and what places best to travel to or reside in); Friends and enemies, Trade or profession best to follow, and whether fortunate in Speculations, viz.—Lottery, Dealing in Foreign Markets, &c., &c.
Of marriage, if to marry.—The Description, Temper, and Disposition of the person, from whence, rich or poor, happy or unhappy in marriage, &c., &c. Of children, whether fortunate or not &c., &c. Deduced from the Influence of the Sun and Moon, with Planetary Orbs, at the time of Birth.
Also, Judgment and General Issue, in Sickness and Diseases &c.
By Henry Harris.
All letters addressed to him or his Father, Mr. John Harris, Cwrtycadno, must be post paid or will not be recieved.1[9]
CONSURWYR LLANGURIG. Y mae ardal Llangurig, Sir Drefaldwyn, yn enwog am ei chonsurwyr ers cenedlaethau. Teithiodd miloedd o bererinion Gogledd a Deheudir Cymru am gyfnod hir trwy Langurig a thros Eisteddfa Gurig i Fynachlog Ystrad Fflur, ond gwisgwyd eu llwybrau â glaswellt gannoedd o flynyddoedd yn ôl. Gwnaed llwybrau newydd gan yr anffodus ofergoelus yn ceisio ymwared gan y ' Dyn Hysbys,' ac nid oes laswellt ar eu llwybrau hwy. Y cyntaf o gonsurwyr Llangurig y cefais i ei hanes ydoedd Savage, Troed-y-lôn. Dyn deallus a mawr ei wyrthiau ydoedd hwn. Pan fu ef farw disgynnodd ei fantell ar ysgwyddau John Morgan a oedd yn briod â'i chwaer. Daeth John Morgan i gymaint bri nes ei ystyried gan amryw yn ddewin cyfartal â Harris, Cwrt-y-cadno. Bu farw John Morgan yntau er cymaint ei ddoniau, ac aeth ei gyfaredd anarferol yn eiddo perthynas arall, sef Evan Griffiths, Pant-y-benni, y sydd tua dwy fìlltir i'r deau o Langurig. Ychydig tros ddwy flynedd yn ôl, bu farw gŵr Pant-y-benni hefyd, a disgynnodd ei fantell ar nai iddo a breswylia yn awr ym Mhonterwyd. Clywais fod y consurwr newydd yn mawrhau ei swydd, a'i fod mor brysur a llwyddiannus ag y bu ei ewythr.
Y WRAIG HYSBYS. Dywaid y Doctor William Howells glywed ohono am Wraig Hysbys a breswyliai yn un o bentrefi Sir Benfro, a rhydd hanesyn digon cyffredin yn enghraifft o'i gweithredoedd 6 anghyffredin.' Bu bachgen difeddwl a direidus yn lladrata afalau o ardd yr hen wraig. Gwybu hithau fel Gwraig Hysbys am y trosedd, a pheri i felltith ddisgyn arno. Aeth y bachgen yn afiach a nychlyd. Dychwelodd y fam weddill y ffrwythau na fwytasid, a gofyn am faddeuant. Tynnwyd ymaith y felltith, a gwellhaodd y bachgen.[10] Dyma'r unig enghraifft a welais o Wraig Hysbys, ac un wan ydyw hon, oblegid y mae'r wraig yn fwy o reibes na dim arall. Dynion yn unig sydd yn consurio.
Ymgynghori â'r Consurwr. Y mae hanner can mlynedd, mi wn, er pan fu Morgan a Lisa Evans, Pen-y-cae, Taliesin, mewn helbul ynglŷn â'r llo. Cadwent fuwch neu ddwy, a daeth llo bach i sirioli eu bywyd. Disgwylient bethau mawr oddi wrth y llo, ac am beth amser gwnaeth yntau yr hyn a allai i "ddŵad ymlaen," eithr yn sydyn clafychodd. Gwrthodai bob math o ymborth, a nychu a cholli ei ddireidi. Galwyd Mr. Hughes, y drygist, Tal-y-bont, i'w weled. "Wel," meddai Mr. Hughes, " y mae rhywbeth rhyfedd ar y llo bach, druan. A welsoch chi ryw arwydd ei fod mewn poene?" Atebwyd na welwyd arwyddion o hynny. " Dyna own i'n dybio—dim poene. Y mae e'n fwy llesg a digalon na dim arall. Piti garw na fuasai infflamesion arno, mi rhown e ar 'i drad i chi mewn dim amser." Yr oedd Mr. Hughes yn adnabyddus drwy'r wlad am ei fedr i drin infflamesion ar ddyn ac anifail, a bu ei wasanaeth yn fendith ddegau o weithiau i'r werin dlawd na fedrai dalu am feddyg o'r dref. "Ie, piti mawr; ond mi treiwn hi," meddai Mr. Hughes. " Rhowch iddo'n gyson y moddion a anfonaf i chi3 a mi gawn weld." Dal yn wael a wnâi'r llo er pob gofal a moddion. Ymhen wythnos, meddai Lisa wrth Morgan, " Ewch, da chi, i Langurig, ne' ma'r llo yn siŵr o drigo. Ma' rhyw afiechyd diarth arno, a 'does neb a fedr ei wella os na wna'r Consurwr; mi glywsoch Mr. Hughes yn dweud 'i fod e'n ddigalon." Aed i Langurig a chael ddarfod rheibio'r llo. "Min nos drennydd," meddai'r Consurwr, "ewch â'r llô i'r ffordd fawr a throi ei ben i'r dwyrain, a phan êl heibio berson arbennig fe rydd y llo fref fawr. Y person hwnnw a'i rheibiodd. Cyferchwch y dyn, ac fe sieryd yntau â'r llo a thynnu ymaith y felltith." Brefodd y llo ei fref fawr, a phwy a ddigwyddodd fyned heibio ar y pryd ond Evan Jenkins, a elwid 'Byrgoes' am ei fod yn fychan o gorffolaeth. Cafodd ' Byrgoes ' y gair byth wedyn ei fod yn rheibiwr.
COLLI ARIAN. Y mae pentref bychan o hanner cant neu drigain o dai, a enwogwyd yn Niwygiad 1859, hanner y ffordd rhwng Machynlleth ac Aberystwyth. Pentref tipyn yn ddilewyrch ydyw, heb fod ynddo ddigon o bwysigrwydd i gynnwys llythyrdy. Y mae ynddo lythyrgist, a chesglir y llythyrau o honno gan lythyrgludydd a'u dwyn i Fachynlleth. Y mae gan y llythyrgludydd awdurdod i gofrestru llythyrau a rhoddi dangoseg amdanynt. Yn 1920, anfonodd gwraig a gadwai siop fach yn y pentref lythyr â phum nodyn punt ynddo wedi ei gofrestru gan y llythyrgludydd, ond esgeulusodd geisio dangoseg, ac ni feddyliodd fwy am y peth. Ymhen mis daeth gofyn eilwaith o'r ffyrm am yr arian. Eglurodd y wraig iddi eu hanfon fis yn ôl. Eithr ni chafodd y ffyrm hwy, ac nid oedd ganddi hithau ddim i brofi iddi eu talu. Rhoddwyd y mater i ofal awdurdodau'r Llythyrdy, a bu chwilio mawr a dyfal, ond yn ofer. Wedi methu o bawb, nid oedd yn aros onid troi'r wyneb i Langurig. Ni pharodd ymweliad y wraig â'r Consurwr y syndod lleiaf iddo, ond yn hytrach ymddangosai fel petai yn ei disgwyl. Yr oedd popeth yn eglur a syml iddo ef, a hysbysodd hi yn ddiymdroi fod yr arian ym meddiant rhyw 'gythgam ' o ddyn a ystyrid yn onest a diniwed, ac y gallai ef ei enwi oni bai am gyfraith y wlad. Parodd iddi beidio â phryderu dim ymhellach ynglŷn â'r arian, a sicrhaodd hi y deuent i'w thŷ ymhen ychydig ddyddiau. Yn fuan wedyn, a'r wraig yn tynnu'r llwch oddi ar fantell y simnai—tynasai'r llwch droeon er adeg colli'r arian—cafodd y llythyr heb ei agor, a'r nodau i gyd ynddo, wedi ei osod y tu ôl i lestr a oedd yn addurn ar y fantell. Y mae'r holl bethau hyn yn hysbys i'r pentrefwyr oll, ac fe'u credir ganddynt. Cefais yr hanes o enau'r wraig a gollodd yr arian ac a ymwelodd â'r Consurwr.
Adroddai Mr. James Lewis, Portland Street, Aberystwyth, wrthyf am wraig a breswyliai yn Llanbadarn Fawr yn 1921, ac a gadwai fuwch neu ddwy. Ymhlith holl wartheg y sir rhagorai ei buwch hi am laetha. Cystal ydoedd ym mhob ystyr ag y gallai ei pherchen, pes mynnai, ei gwerthu i unrhyw amaethwr yn y plwyf am bris uchel. Eithr yn sydyn ataliwyd llaeth y fuwch yn llwyr, ac er ceisio'i godro ddydd ar ôl dydd, ofer oedd y cais. Ymborthai fel arfer, ac nid oedd arwydd o unrhyw nychdod arni, ond ni cheid llaeth. Ar ôl pryderu yn hir mynegodd y wraig ei gofid i gymdoges, a chynghorodd hithau hi i ymgynghori â'r Consurwr. Aeth y wraig i Langurig a gweled y dyn hysbys. Ar ôl cael y neges a holi peth ar y wraig, dywedodd y Consurwr yn bendant fod y fuwch wedi ei rheibio. "Y mae yn yr ardal amaethwr a roddodd ei fryd ar y fuwch," meddai. "Oes y mae," meddai hithau, " ac y mae wedi crefu arnaf droeon ei gwerthu iddo." "Wel," meddai yntau, "gwaith y dyn hwnnw—nid rheibes y tro hwn—sydd ar y fuwch. Nid wyf yn bwrw ei fod yn ddyn drwg, a gall fod y gorau yn y wlad, ond y mae wedi gosod ei fryd ar y fuwch i'r fath fesur onid effeithiodd ei feddwl arni. Ewch adref a chewch y fuwch fel arfer, yn iach ac yn llaetha." Bore trannoeth cafwyd cyflawnder o laeth fel cynt. Y mae'r wraig yn fyw yn awr, a'r fuwch hithau, cyn belled ag y gwn i.
CONSURWYR SIR FFLINT. Anfonwyd imi'r hanes a ganlyn gan Mr. Lewis Hughes, Henblas, Meliden.
" Y mae plwyf Ysgeifiog yn enwog ers tro byd am ei ' Ddynion Hysbys', ac y mae yno un yn awr. Wele enghraifft o waith dyn hysbys a fu farw yn 1936:
"Aeth nith iddo ato a chwyno y methai yn ei byw â gweithio llaeth yn ymenyn. Parodd yntau i'r corddiad nesaf fod am hanner awr wedi un ar ddeg ar ddydd arbennig, ac y byddai ef yno tua chanol dydd. Daeth y dydd. Edrychodd y dyn hysbys yn graffus i bob rhan o'r ystafell, ac yna gorchymyn yn awdurdodol atal y corddi am ychydig. Trodd yn hamddenol a defosiynol ac edrych i'r gogledd a'r dwyrain, i'r deau a'r gorllewin, a syllu yn hir megis i'r gwagle pell. Parodd wedi hyn godi caead y fuddai, a gofyn am gyllell fwrdd. Craffodd ar y llaeth, a thorri ynddo â'r gyllell lun croes. Am beth amser bu'n mwmian rhyw ddewiniaeth wrtho'i hun. Yna gorchymyn ailgychwyn y corddi. Daeth yr ymenyn yn ddiatreg, ac ni chafwyd trafferth mwy.
"Y mae un yn byw yn awr yn yr un plwyf a gyfrifir yn Ddyn Hysbys. Wele enghraifft o'i waith yntau: Yn Chwefror 1930, yr oedd amaethwr mewn cryn ddryswch a phryder oherwydd colli ei ddefaid, ac aeth at y Consurwr, a mynegi ei gwyn. Eglurodd y trengai nifer o'i ddefaid yn ddyddiol heb arnynt arwydd unrhyw lesgedd. Trefnwyd adeg i'r Dyn Hysbys ymweled â'r tyddyn. Wedi cyrraedd, parodd i'r amaethwr ei arwain i fan y tybiai ef ei fod tua chanol ei dir, ac yno penderfynodd ar y pedwar pwynt, a phlannu ei ffon yn y ddaear. Gwnaeth gylch o ryw bum llath ar hugain ar draws. Safodd am eiliad ar bob un o'r pedwar pwynt, ac edrych yn synllyd i'r gwagle. Yna taflodd allan ei law fel petai'n gwthio rhyw aflwydd i ffwrdd. Gwnâi y cwbl mewn distawrwydd ac â defosiwn mawr. Symudodd y Consurwr y felltith o'r tir, ac ni threngodd defaid mwyach."
Nodiadau
golygu- ↑ Glimpses of Welsh Life and Character, Marie Trevelyan (1893), td. 282
- ↑ Welsh Folklore. A collection of Folk-tales and Legends of North Wales, Y Parch. Elias Owen (1896), td. 236.
- ↑ Welsh Folkelore, y Parch. Elias Owen (1896), td. 222-3
- ↑ Llyfr. Gen. Cym., Llsgr. 10567.
- ↑ Llyfr. Gen. Cym., Llsgr. 5653
- ↑ With Myslics and Magicians in Tibet, Alexandra David-Neel (1936), td. 156.
- ↑ Witches and Warlocks, Phillip W. Sergeant (1936), td. 180.
- ↑ Llyfr. Gen. Cym., Llawysgrifau Cwrtmawr, Llsgr. 97
- ↑ Brutusiana, td. 315, Llên Gwerin Sir Gaerfyrddin, y Parch. D G. Williams (Cyf. Eist. Gen. Llanelli, 1895).
- ↑ Cambrian Superstitions, y Doctor William Howells (1831) td. 90.