Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau/Dyfyniadau
← Barddoniaeth | Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau gan Robert Thomas (Ap Vychan) |
→ |
PENNOD XI.
DYFYNIADAU ALLAN O BREGETH A DRADDODWYD YN NGHAPEL PENDREF, LLANFYLLIN, RHAGFYR 22, 1867, AR ACHLYSUR O FARWOLAETH Y PARCH. C. JONES,
GAN Y DIWEDDAR BARCH. D. M. DAVIES.
"Ni frysia yr hwn a gredo."
Yn y cyfnod rhwng marwolaeth yr Hybarch Jenkin Lewis, yn 1805, ac urddiad y Parch. Mr. Roberts (wedi hyny o Ddinbych) yma yn y flwyddyn 1810, arferai Mr. Jones, pan yn wr ieuangc newydd ddechreu pregethu yn Llanuwchllyn, ddyfod i Lanfyllin yn fynych i gynnorthwyo yr eglwys Annibynol. Os da yr ydym yn cofio, dywedodd wrthym, ei fod yn pregethu yn fisol yma am rai blynyddau. Efe hefyd ydoedd y diweddaf a wrthwynebwyd yn gyhoeddus gan erlidwyr crefydd yn y gymydogaeth hon, a fuasai yn enwog am erlidwyr oddiar amser James Owen, William Jervis, John Griffiths, a Jenkin Lewis. Mae yn gofus gan rai o honoch am yr Hybarch C. Jones ar y maes cyfagos yn pregethu yn y cyfarfod blynyddol, pan ddaeth gwr o'r wlad heibio, ac a geisiodd aflonyddu ar y cwrdd, atal Mr. Jones i bregethu, a dirmygu a gwawdio'r gynnulleidfa am adael dyledswyddau a gorchwylion bywyd, i ddyfod i wrando ar y fath ffiloreg. Ni wnaeth y pregethwr na'r gwrandawyr un sylw o hono; ond ni chafodd ddiange yn ddigosp, canys o'r braidd y cyrhaeddodd adref, cyn iddo syrthio yn farw! Dyna y trydydd o erlidwyr Llanfyllin a fu farw yn sydyn, ac o dan amgylchiadau gresynus. Heblaw a nodwyd, yr oedd yr Hybarch Jones o Ddolgellau, yn y blynyddau diweddaf, yn ymweled a ni yn fynych. Yr oedd yn dda genym oll ei weled a'i glywed, ac y mae coffadwriaeth y cyfiawn hwn yn fendigedig yn ein plith.
Yn ol yr hyn a wyddom yn bersonol am dano, a'r hyn a glywsom ac a ddarllenasom yn ei gylch, credwn fod geiriau Esaiah, yn y gwahanol gyffeithiadau ac ystyron a roddir iddynt, yn bur gymhwysiadol i'w gymmeriad crefyddol a gweinidogaethol.
Mae cyfieithiad y Deg a Thriugain, "Ni CHYWILYDDIA yr hwn a gredo," yn dra chymhwysiadol ato. "Ni chywilyddiodd" ymuno a chrefydd a'i harddel o dan amgylchiadau anffafriol. Yr oedd ei rieni yn ffermwyr cyfoethog, ac yn bobl barchus yn y gymydogaeth, yn ol tystiolaeth hen chwaer sydd yma yn bresenol, a anwyd yn yr un flwyddyn a'r Hybarch C. Jones yn Llanuwchllyn, ac a ddaeth at grefydd oddeutu yr un amser ag yntau yn yr un lle. Eithr dywed Margaret Jones (canys dyna enw y chwaer) nad oeddynt yn proffesu crefydd, er eu bod weithiau yn dyfod i "Hen Gapel" Llanuwchllyn. Yr oedd ei dad yn neillduol, nid yn unig yn ddibroffes o grefydd, ond dipyn yn ddibris o'r sobrwydd a'r difrifoldeb y mae'n ofyn gan ddynion. Yr oedd hela yn ddifyrwch mawr ar y pryd i amryw yn nghymydogaeth Llanuwchllyn, ac yr oedd yntau yn cymeryd rhan weithgar iawn yn y cyfryw ddifyrwch, gan ei ystyried, efallai, yn adfywiad i gorff ac yn adloniad i feddwl. Siaradai, gan hyny, i raddau yn gellweirus am ymddygiad ei fab ieuangc yn gogwyddo at fod yn ddifrifol, ac yn ymboeni yn nghylch crefydd y capel; (canys y mae crefydd y capelwyr, rywsut, yn mhob oes, yn fwy annghydweddol a hela, pysgota, dawnsio, a chwareuon o bob math, na chrefydd y Llanwyr), ac o'r braidd na ddywedai, y byddai yn well ganddo weled y bachgen yn troi allan i hela, nag edrych arno yn myned i gyfeillach y crefyddwyr yn yr "Hen Gapel." Yr oedd y ffaith fod y rhieni yn ddibroffes, yn peri i'r mab gwylaidd deimlo yn swil i broffesu crefydd; ac yr oedd ymadroddion digrifol ei dad, hyd yn nod pan yn ymddyddan am bethau cysegredig, yn brofedigaeth iddo oedi i'w harddel. Ymddengys, fodd bynag, na fu уц hir cyn tori y ddadl a gorchfygu ei swildod. Cafodd gymhorth i ymwasgu a'r dysgyblion gan awel o adfywiad crefyddol oedd yn chwythu trwy yr ardal, yn ngrym yr hon y darfu iddo ef ac amryw eraill o'i gyfoedion, amlygu yn gyhoeddus nad oeddynt yn "cywilyddio" arddel Mab Duw ac ufuddhau i'w orchymynion.
Nid oes amheuaeth genym fod rhieni annghrefyddol yn rhoddi achlysur i'w plant "gywilyddio " gwneyd proffes gyhoeddus o grefydd ger eu bron; ac y mae gan y cyfryw gyfrifoldeb arswydus i'w roddi am eu hymddygiad: oblegid y maent mewn rhyw ystyr yn tebygu i'r rhwystrwyr y cyfeirir atynt yn y geiriau, "A phwy bynag a rwystro un o'r rhai bychain hyn, a gredant ynof fi, da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yn eigion y môr." Os yw y darllenydd mor anffortunus a bod yn blentyn i rieni diweddi, neu yn byw mewn teulu annghrefyddol, na fydded iddo o herwydd hyny fod yn rhy swil i "arfer duwioldeb gartref;" eithr yn hytrach, efelyched Abiah bach yn nhy Jeroboam, Cadwaladr Jones, a channoedd o bobl ieuainge cyffelyb iddynt, gan gofio geiriau'r Iesu, "Pwy bynag a fyddo gywilydd ganddo fi a'm geiriau yn yr odinebus a'r bechadurus genhedlaeth hon, bydd cywilydd gan Fab y dyn yntau hefyd, pan ddel yn ngogoniant ei Dad, gyda'r angylion santaidd."
"Ni chywilyddiai" ymgymeryd a phregethu yr efengyl, ac ymgyflwyno i'r weinidogaeth Ymneillduol. Efe oedd yr unig fab, ac yr oedd ei rieni yn awyddus iawn am iddo aros gartref gyda hwy, a'i ddwyn i fyny yn amaethydd parchus a chyfoethog. Am hyny, yr oeddynt yn benderfynol yn ei erbyn i ymwneyd dim a phregethu, a gwrth-annogent ef yn fawr i ymroddi i'r weinidogaeth. Nis gwyddom pa un ai anfoddlonrwydd i'w golli oddicartref, ai yr ystyriaeth nas gallasai ymgyfoethogi a "chymeryd byd da yn helaethwych beunydd" yn y weinidogaeth Ymneillduol, oedd yn cymhell yr hen bobl i ymddwyn felly; efallai fod y naill a'r llall o'r ystyriaethu hyn yn dylanwadu ar eu meddyliau. Diau fod y mab hefyd wedi eistedd i lawr, bwrw y draul, a chanfod mai nid maes gobeithiol iawn i ymgyfoethogi yn y byd ydoedd y weinidogaeth; ac yn ddiamheu y gwyddai fod dynion o ysbryd bydol a syniadau daearol yn arferol, oddiar dyddiau yr apostolion, o gyfrif gweinidogion ffyddlon yr efengyl "fel ysgubion y byd a sorod pob dim." Ond yn ngwyneb y cwbl, teimlai y gwr ieuangc rywbeth yn debyg i Paul pan ddywedodd, "Nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr genyf fy einioes fy hun, os gallaf orphen fy ngyrfa trwy lawenydd, a'r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu efengyl gras Duw." Credai mai nid tymhorol, ond ysbrydol a nefol, oedd gwobrwyon y weinidogaeth Gristionogol; a barnai fod "angenrhaid wedi ei osod arno, ac mai gwae fyddai iddo oni phregethai yr efengyl." Ymwrolai, gan hyny, ac elai o gwmpas y wlad yn ysbryd yr apostol, a dywedai wrth y werin, yn ei ymddygiad, megys yntau, “Hyd y mae ynof fi, parod ydwyf i bregethu yr efengyl i chwithau hefyd y rhai ydych yn Nghymru. Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist, oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un a'r sydd yn credu."
Gallwn ddeall paham y mae amaethwyr cyfrifol a masnachwyr cyfoethog, nad ydynt yn gwneyd proffes o grefydd nac yn cymeryd un drafferth yn ei chylch, yn wrthwynebol i'w meibion ymgymeryd a'r weinidogaeth yn mysg yr Ymneillduwyr. (Mae llawer o honynt yn ymdrechu eu goreu i'w dwyn i fyny i weinidogaeth yr Eglwys Sefydledig, o herwydd rhesymau eglur). Eithr mae yn anesboniadwy bron paham y gwelir can lleied o feibion yr un dosbarth mewn cymdeithas, ag sydd yn ymddangosiadol yn grefyddwyr gweithgar, bywiog, a llafurus, yn ymgysegru i'r weinidogaeth. Ychydig, mewn cyfartaledd, a ganfyddir o'r cyfryw yn ymgyflwyno i'r weinidogaeth yn ein mysg. Mae yn agos yr oll o'n gweinidogion a'n myfyrwyr yn dyfod oddiwrth y dosbarth gweithiol ac o blith y tlodion, tra y gwelir yn fynych dri, neu bedwar, neu bump o feibion yn cael eu dwyn i fyny yn mhob parth o'r wlad, gan rieni o'r dosbarthiadau cyfoethog yn ein heglwysi, heb gynifer ag un o honynt yn ymgyflwyno i'r weinidogaeth Gristionogol. Dygir hwynt oll i fyny yn ffermwyr, neu yn fasnachwyr, neu i ryw alwedigaeth arall a dybir yn ennillfawr. Dywedir fod amryw o honynt yn cael eu digaloni i ymaflyd yn y weinidogaeth gan y syniad cyfeiliornus, nad yw gweinidogion ddim yn annibynol yn eu hamgylchiadau. Y gwir yw, nid oes un dosbarth yn fwy annibynol yn y wlad na gweinidogion yr Ymneillduwyr. Tra mae y ffermwyr yn cael eu gyru yn groes i argyhoeddiad eu cydwybodau, ar ddydd yr etholiad, o flaen eu tirfeddianwyr; a'r masnachwyr yn ofni pleidleisio dros y naill na'r llall o'r ymgeiswyr, rhag digio eu cwsmeriaid, gwelir y gweinidogion yn gweithredu yn rhydd ac annibynol, ac yn gosod urddas ar ddynoliaeth yn nghanol yr ymdrechfa. Ac nid oes un yn fwy parchus, ac yn sicrach o faes llafur a chynnaliaeth iddo ei hun a'i deulu, na gweinidog da i Iesu Grist." Mae hyn mor amlwg ac anwadadwy, fel nad oes eisiau ond eu crybwyll yn unig. A phe na fyddai felly, a yw ein teuluoedd cyfoethog a chyfrifol mor amddifad o ysbryd hunanymwadu er mwyn yr efengyl, ac mor brin o ffydd yn Rhagluniaeth Duw, fel y dianogant eu meibion, ac yr annghynghorant eu merched a'u chwiorydd, i ymgysegru i'r cylch gweinidogaethol? Os ydynt, dymunwn eu cyfeirio at gân Hannah, (1 Sam. ii. 1-11), yr hon a roddodd, nid mab o dri, neu bedwar, neu bump o feibion, ond ei hunig fab, "i'r Arglwydd holl ddyddiau ei einioes," gyda pherffaith gydsyniad ei dad: canys "Elcanah a aeth i Ramah i'w dy; a'r bachgen a fu weinidog i'r Arglwydd ger bron Eli yr offeiriad." Gallai Mr. Jones hefyd ddywedyd fel Paul, "nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist."
"Ni chywilyddiai" arddel a chefnogi ei egwyddorion fel Ymneillduwr. Yr oedd bob amser gyda'r blaenaf yn cefnogi mesurau o duedd i sicrhau eu hawliau gwladol, eu hiawnderau bwrdeisiol, a'u breintiau crefyddol, i'r Ymneillduwyr, fel y gwelir yn y Dysgedydd yn ystod yr amser y bu dan ei olygiaeth. Cymerodd ran weithgar o blaid diddymiad Deddfau Prawf a Bwrdeisiaeth, ddeugain mlynedd yn ol. Cefnogodd yn fywiog Ryddfreiniad y Pabyddion; daeth allan a'i holl egni dros Fesurau Cofrestriad o Enedigaethau, Priodasau, a Marwolaethau; a Gweinyddiad o Briodasau gan yr Ymneillduwyr, yn 1836. A bu yn gefnogwr ffyddlon a chyson i egwyddorion ac amcanion Cymdeithas Rhyddhad Crefydd, o'i ffurfiad, yn 1844, hyd derfyn ei oes. Cawsom brawf o'i sel dros y Gymdeithas dan sylw droion, nid yn unig mewn gair, ond hefyd mewn gweithred. Oddeutu saith mlynedd a haner yn ol, ymwelsom ni a'r Parch. W. F. Galloway, Birmingham, â threfydd Maldwyn a Meirion, dros y Gymdeithas'; a phan gyrhaeddasom Ddolgellau, nid oedd y parotoadau disgwyliedig, fel yn y lleoedd eraill, wedi eu gwneyd. Pan welodd yr Hybarch Cadwaladr Jones hyny, ymddangosai yn ofidus iawn; ac er ei fod wedi rhoddi i fyny ei ofal gweinidogaethol yn y dref i'w olynydd, y Parch. Thomas Davies, dywedodd wrthym na chawsem ymadael heb gael cyfleusdra i anerch y bobl ar amcanion ein hymweliad. Sicrhaodd fenthyg capel yr Annibynwyr i ni, anfonodd allan y town crier, a thrwy ei ymdrech ef a'r Parch. Henry Morgan, a chydweithrediad amryw gyfeillion eraill i'r Gymdeithas, cafwyd un o'r cyfarfodydd mwyaf bywiog, os nid mor luosog, a gawsom ar y daith hono. Y tro diweddaf yr ymwelsom a Dolgellau, ar ran y Gymdeithas, oedd y waith olaf i ni weled yr hybarch batriarch. Yr oedd ar ei glaf wely, a'r "clefyd i farwolaeth" wedi ymaflyd ynddo. Dywedai fod yr achos oeddwn yn ei gylch yn bwysig, ac yn sicr o lwyddo, ac amlygai ei ofid am nad allai ddyfod gyda ni i'r cyfarfod; eithr fe wnaeth yr hyn a allodd ar y pryd i'r Gymdeithas, sef ceisio gan ei fab i fyned i'w logell a rhoddi y swm a arferai danysgrifio at y Gymdeithas. Edrychai arni, nid fel rhywbeth Seisnig, ond fel sefydliad a ddylai gael cydymdeimlad y Cymry yn anad neb, y rhai ydynt oll bron yn proffesu ei hegwyddorion. Ystyriai gefnogi ei hamcanion, yn rhan o ddyledswyddau gweinidogaeth yr efengyl. Tra na ddywedai ddim yn erbyn i'w frodyr yn y weinidogaeth i dreulio rhan o'u hamser i gystadlu am y Gadair, &c., yn yr Eisteddfod Genhedlaethol, barnai y gallent dreulio rhan hefyd o'u hamser, yr un mor wasanaethgar i'w cenedl ac i achos y Gwaredwr, gydag egluro egwyddorion, dadleu dros amcanion, ac argymhell hawliau Cymdeithas Rhyddhad Crefydd Iesu Grist oddiwrth nawdd a rheolaeth y llywodraeth wladol. Gwyddai fod gan y Gymdeithas waith mawr i'w gyflawni, ac y gofynai gryn amser i'w orphen, oddiar y ffaith fod yr ymdrech am oddefaint crefyddol wedi parhau gan' mlynedd, a'r ymdrech am ryddid crefyddol gan' mlynedd yn ychwanegol; a bod yr Ymneillduwyr wedi ymdrechu gant a deugain o flynyddau cyn iddynt lwyddo i gael gan y Senedd i ddiddymu Deddfau gormesol Prawf a Bwrdeisiaeth. Yr oedd o'r farn, gan hyny, na ddylai un Ymneillduwr oedi datgan ei hun yn ffafriol i'r Gymdeithas, na chywilyddio arddel ei hegwyddorion, a chefnogi ei hamcanion. Tybiai y byddai y fath oedi a chywilyddio, nid yn unig yn annghyson a'i broffes, ac yn ddiystyrwch ar y goddefiant a'r rhyddid crefyddol a sicrhawyd i ni trwy ymdrechion dibaid ein teidiau a'n tadau, ond hefyd o duedd i daflu rhwystrau ar ffordd gorpheniad y gwaith a ddechreuwyd mor wrol, ac a ddygwyd yn mlaen mor benderfynol ganddynt hwy, sef diddymu pob cyfraith a ymwthiodd i ddeddf-lyfr ein gwlad, ag sydd yn dyrchafu y naill ddosbarth ac yn darostwng y llall o ddeiliaid y deyrnas, ar gyfrif eu syniadau crefyddol! Credai y patriarch o Ddolgellau fod egwyddorion yr Ymneillduwyr yn wirioneddol ac ysgrythyrol; ac felly, "Ni chywilyddiai" eu harddel ar bob adeg ac achlysur y gofynid iddo gan ei ddoethineb. Gan hyny, nid ydym yn rhyfeddu wrth ddarllen yn ysgrif "R. O. R.," yn y Tyst Cymreig, am y teimladau drylliog a amlygid gan bob plaid grefyddol ar ddydd ei angladd; ac am y parch a ddangosid iddo gan Eglwyswyr, ac hyd yn nod gan yr offeiriaid, o'r archddiacon i lawr; canys nis gall y natur ddynol, rywsut, er ei holl ddiffygion, lai na pharchu ac edmygu y gonest i'w, a'r cyson a'i broffes, tra mae yr anffyddlon i'w egwyddorion proffesedig yn gwneyd ei hun yn ddirmygedig yn ei golwg.
Mae yn iawn i ni obeithio am ddisgyniad deuparth o ysbryd Ymneillduol y patriarch ymadawedig ar weinidogion, swyddogion, ac aelodau eglwysi Annghydffurfiol Dolgellau, Meirion, a holl Ogledd Cymru; oblegid mae dydd y frwydr benderfynol, sydd i'w hymladd rhwng cefnogwyr crefyddau sefydledig a phleidwyr crefydd y Testament Newydd, wedi gwawrio eisoes. Mae y blaenaf, ar ol gweled aneffeithioldeb merthyru, poenydio, dirwyo, a charcharu yr Ymneillduwyr, i atal lluosogiad eglwysi rhyddion yn ein gwlad, yn dechreu defnyddio moddion teg i hudo encilwyr o fysg yr olaf; ac y mae yn bosibl i'r gwan, yr ansefydlog, a'r gwamal gael eu twyllo (megys y twyllwyd Efa gan y sarff, ac y twyllir llawer etto gan Satan yn rhith angel y goleuni), gan weniaith y curad, gwenau y vicar, ysgydwad llaw y periglor, a gwlaneni Nadolig yr yswain. Nid dyma y tro cyntaf iddynt ymddwyn yn wenieithgar at yr Ymneillduwyr, er cael eu cymhorth i gyrhaedd eu hamcanion personol. Wedi methu difetha yr Annghydffurfwyr yn nheyrnasiad Charles II., â Deddfau Unffurfiaeth, Ty Cwrdd, a Phum' Milldir, &c., troisant atynt yn wenieithiol i ddymuno eu cynnorthwy yn erbyn Iago II., pan dybient ei fod am Babeiddio y genedl, ac felly peryglu "gobaith eu helw." Eithr nid cynt y llwyddasant i gael cydweithrediad yr Annghydffurfwyr i ddadymchwelyd Iago II., ac y dyogelwyd iddynt eu manteision eglwysig, nag yr ymosodasant mor ffyrnig ag erioed yn erbyn iawnderau dinasol a breintiau crefyddol yr Ymneillduwyr, fel y gwelir yn ystod teyrnasiad y frenhines Ann, &c. Cofier y ffeithiau hyn, a chymerer addysg oddiwrthynt, yn ngwyneb y cynyg presenol i ddenu yr Ymneillduwyr a'u darbwyllo i ymuno yn erbyn cynydd Pabyddiaeth ac Anffyddiaeth yn yr Eglwys Sefydledig, yn hytrach nag yn erbyn y cysylltiad anachaidd ag sydd rhwng yr Eglwys hono a'r llywodraeth. Ond nid oes dyogelwch i'r Eglwys, tra mewn undeb a'r gallu gwladol; na sicrwydd y caiff yr Ymneillduwyr barhau yn y mwynhad o'u rhyddid presenol, tra y byddo y gallu offeiriadol mewn grym. Dyma brif elyn rhyddid drwy yr oesau. Yr oedd y gallu gwladol am ollwng y Gwaredwr yn rhydd; eithr mynai y gallu offeiriadol ei groeshoelio a'i ladd. Llawer o weithiau, ar ol hyny, y bu y blaenaf yn ffafriol i ryddhau ei ganlynwyr ffyddlon, pan gymerai yr olaf, yn ddieithriad bron, yr ochr wrthwynebol i'r ddadl. Mae yn ffaith hanesyddol fod yr offeiriaid, fel dosbarth, wedi bod yn wrthwynebol i ryddid y bobl, a bod y rhyddid yr ydym yn ei fwynhau yn awr wedi ei gael ar eu gwaethaf, trwy i'r Ymneillduwyr barhau i gynhyrfu y wlad yn ddibaid am o gwmpas tri chan' mlynedd. O ganlyniad, mae braidd yn ormod i'n natur dda ddyoddef clywed ambell i Ymneillduwr, mewn enw, fodd bynag, sydd yn mwynhau rhyddid i addoli yr Arglwydd, a gostiodd yn agos i dri chan' mlynedd o gynhyrfu ac aflonyddu y wladwriaeth, yn dyweyd, ei fod yn groes i'r wlad gael ei haflonyddu a'i chynhyrfu gan y cyfryw ydynt o ddifrif yn anog eu cydddeiliaid i gydymdrechu i dori y cysylltiad sydd rhwng y gallu offeiriadol a'r gallu gwladol, fel na byddo y blaenaf yn medru defnyddio yr olaf mwyach i gyfyngu ar ein hawliau dinasol a'n hiawnderau crefyddol. Tystiolaethodd ein Ceidwad bendigedig i'r gwirionedd ger bron Pilat, ac fe'i seliodd a'i waed. Gwnaeth y merthyron yr un modd, pe amgen, pa y buasai ein rhyddid gwladol a chrefyddol ni heddyw. Os rhoddasant eu bywyd i brynu i ni y bendithion hyn, ni ddylem rwgnach aberthu tipyn o esmwythder ac ychydig gysylltiadau cyfeillgarol, er mwyn eu hamddiffyn, eu heangu, a'u trosglwyddo i lawr i'n holafiaid. Cofier y wae a gyhoeddwyd ar y rhai sydd "esmwyth arnynt yn Seion," ac ystyrier y "felldith chwerw a daranwyd uwchben Meroz, am beidio dyfod allan i gynnorthwyo'r Arglwydd yn erbyn y cedyrn.
"Ein tadau," y rhai a ymdrechasant yn ddigywilydd a diflino o blaid iawnderau yr Ymneillduwyr yn ystod blynyddau boreuol y canrif hwn, "pa le y maent hwy?" Maent o un i un, oll bron, bellach, wedi eu claddu; ond na wawried byth y dydd ar ein hoffus wlad, pan fyddo eu sel santaidd dros eu hegwyddorion, a'u brwdfrydedd duwiol, yn eu hamddiffyn a'u lledaenu, yn cael eu claddu gyda hwy.
ARGRAFFWYD YN SWYDDFA'R TYST CYMREIG," LIVERPOOL.