Cofiant D Emlyn Evans/Rhagolwg

Rhagair Cofiant D Emlyn Evans

gan Evan Keri Evans

Cerddoriaeth Gymreig ddechreu'r Ganrif

COFIANT
D. EMLYN EVANS.




I.
RHAGOLWG.

PE E gofynnid i'r cyfeillion sydd wedi bod yn galw am Gofiant i Dafydd Emlyn Evans pa beth ynddo ef yn arbennig sy'n haeddu rhoddi'r sylw hwn iddo, diau yr atebent gyda'i ddiweddar gyfaill, Mr. P. J. Wheldon, mai'r cyfuniad o nodweddion a'i gwnaeth o wasanaeth arbennig i gerddoriaeth ei wlad:

(1) Meddai ar ddawn gerddorol gynhenid, yr hon, o ran ansawdd, a nodweddid gan arbenigrwydd a gwreiddiolder, ac a fu'n offeryn, nid yn unig i gymhathu cyfoeth y byd cerddorol, ond hefyd i ychwanegu ato; ac o ran graddau a grym oedd yn ddigon cryf, fel ffrwd fyw, i wneuthur gwely iddi ei hunan drwy ganol anawsterau a fuasai'n llethu talent neu dueddfryd lai meistrolgar. Y cryfdwr hwn yn y ddawn, a'i thaerineb am ddod i lawn sylweddoliad a hunan- fynegiant, mewn cydweithrediad â'r penderfyniad di-ildio a'i nodweddai, a'i galluogodd i fanteisio ar bob moddion addysg y tu fewn i'w gyrraedd, nes rhoddi i'r ddawn fin, a gloewder, a disgyblaeth eithriadol.

(2) Nid oes wahaniaeth barn gyda golwg ar ar ei allu a'i fedr fel beirniad cerddorol.

(3) Yr oedd ganddo dalent lenyddol a greddf hanesyddol y tuhwnt i'r cyffredin, a'i galluogai i ysgrifennu'n fedrus a diddorol ar faterion cerddorol, ac i gyfrannu ysgrifau o werth i hanes cân, yn gystal. yn ei hamddiffyn a'i hyrwyddo. Yr oedd yn hyn yn ddilynydd teilwng i Ieuan Gwyllt.

(4) Perthyna'r nodweddion uchod i ochr y "don- iau," ond yr oedd iddo hefyd nodweddion moesol amlwg. Yr oedd ganddo syniad mor uchel am swyddogaeth cerddoriaeth fel dawn o'r Nef, fel na fynnai wneuthur cyfaddawd o gwbl â'r rhai a geisial ei darostwng i amcanion neu lefel is. Mynnai gadw'r faner i fyny pa mor gryf bynnag y byddai'r gwynt. Meddai nid yn unig lygad a chalon i weld a theimlo anian, ond gwroldeb a feiddiai gydfyned â hi, yn wyneb pob gwrthwynebiad.

(5) Yr oedd ei ffyddlondeb i gydwybod a gonestrwydd ar y fainc feirniadol lawn cymaint a'i eiddo i burdeb cerddorol: ni ellid gwyro'i farn yn allanol, na phrynu ei ddyfarniad.

(6) Edmygir ef gan ei gydnabod ar gyfrif ei benderfyniad di-ildio i ddisgyblu ei feddwl, a gwasanaethu ei genhedlaeth yn wyneb anfanteision ar bob math o'r tu allan, a llescedd a dioddefaint o'r tu fewn na wyddai dynion yn gyffredin ddim am ei angerdd a'i gysondeb. Dylasai y llinell hon yn ei gymeriad fod yn gymaint symbyliad a dim i'r Cymry ieuainc sydd yn cael eu codi ymhlith manteision ar bob math mewn cerddoriaeth a'r celfyddydau'n gyffredinol.

Y mae y cyfeiriad cyffredinol hwn at y nodweddion uchod yn ei gymeriad o angenrheidrwydd yn rhoddi iddynt wedd sy braidd yn ddiamodol (absolute). Ni faentumir eu bod ynddo ef uwchlaw diffygion natur ac ymyriad amgylchiadau ; ond bydd digon o gyfleusterau yng nghwrs y Cofiant i ddwyn i fewn bob cymedroliad angenrheidiol yn wyneb ymyriadau ar y fath.

Ymran ei fywyd yn naturiol i dri chyfnod, y gellir eu galw y rhagbartoawl, y cynhyddol (cystadleuol) a'r addfed (beirniadol)—nid yn yr ystyr, bid siŵr, nad oedd yna gynnydd yn yr olaf a beirniadaeth yn yr ail, ond yn yr ystyr fod ansawdd y cyfnodau, ar y cyfan, yn gwahaniaethu yn y modd uchod. Ymddengys fod yna gyfnodau cyffelyb yn hanes pob un sydd yn ymroi i unrhyw waith mawr mewn bywyd: sef cyfnod pan y mae'n ceisio dod o hyd i'w waith, cyfnod pan y mae'n cael ei feddiannu ganddo ac yn ymroi i'w feistroli, a chyfnod pryd y gellir dweyd ei fod bellach yn feistr ynddo. Dengys yr Athro Starbuck fod hyn yn wir hyd yn oed ynglŷn â chanu'r piano, sef cyfnod o gysylltiad allanol â'r offeryn, cyfnod perthynas fywydol gynhyddol, a chyfnod pryd y teimla'r offerynnydd mai nid ef sydd yn ei ganu mwyach, ond ysbryd cerddoriaeth, fel petae, yn canu drwyddo. Dechreua'r ail o'r cyfnodau hyn yn hanes Emlyn tua'r flwyddyn 1860 (wedi, yn fwy na chyn) ; a'r trydydd tua'r flwyddyn 1880— (cyn, yn fwy nag wedi). Arwead ddigwyddiadol ar yr ail gyfnod oedd cystadleuaeth (gwêl Pennod VI) ; ac o safbwynt moesol, yn hytrach na cherddorol, gellid galw y trydydd cyfnod yn gyfnod gwasanaeth, am nad oes dim yn fwy amlwg ynddo nag awydd Emlyn i fod o wasanaeth i'w genhedlaeth —ynglŷn â cherddoriaeth yn bennaf.

Yn y Cofiant hwn, gwneir ymgais i gysylltu ei hanes â datblygiad a chynnydd cerddoriaeth yng Nghymru ; ac fel y mae'n digwydd, noda ef ei hun gyfnodau yn y datblygiad hwn yn dechreu tua 1840, 1860, ac 1880 (mewn un ysgrif o'i eiddo gwna 1850 yn safbwynt mwy cyffredinol i edrych yn ol a blaen ar hanes cerddoriaeth y ganrif). Yr ydym yn ddyledus i'r diweddar Athro D. Jenkins, Mus.Bac., am yr awgrym fod gan bob cyfnod hefyd ei arweinwyr —dynion brig y don fel tae—rhyw bump ohonynt ; ac, ymhellach, fod prif gystadleuwyr un cyfnod (yn y byd eisteddfodol) yn dod yn feirniaid y cyfnod nesaf. Fel hyn, yn y cyfnod 1840-1860, cawn y pumawd J. Ambrose Lloyd, Owain Alaw, Ieuan Gwyllt, Tanymarian, a Phencerdd Gwalia ar y blaen. Perthyn Brinley Richards i'r un cyfnod, ond ni fu ei berthynas ef â'i genedl mor uniongyrch ag eiddo'r lleill. Gyda 1860, daeth pump arall i sylw, y naill ar ol y llall, sef Gwilym Gwent, Alaw Ddu, John Thomas, Joseph Parry, a D. Emlyn Evans—yr ieuengaf ohonynt.

Yr ydym wedi cyfeirio'n arbennig at yr Eisteddfod, ac y mae'n amlwg ei bod hi wedi gwneuthur ei rhan yn natblygiad cerddoriaeth yn ein plith, yn gystal ag yn natblygiad cerddorol gwrthrych ein Cofiant ; ar yr un pryd, rhaid i ni dreio dilyn hanes y datblygiad hwn yn y naill a'r llall ar hyd llinellau ereill yn ogystal, sef eiddo Caniadaeth y Cysegr, yr Uchelwyl a'r Cyngerdd, ynghyda Chyfansoddiadaêth a Llenyddiaeth Gerddorol. Bu ef yn weithgar yn y cwbl o'r rhai hyn yn ol ei allu a'i gyfleusterau.

Wedi ysgrifennu'r uchod, daeth i'm llaw, drwy garedigrwydd yr awdur,[1] draethawd arobryn Eisteddfod Meirion ar Gerddoriaeth yng Nghymru yn ystod yr hanner canrif diweddaf (1860—1910). Y mae'r traethawd o ddiddordeb arbennig i'r ysgrifennydd— a gall fod i'r darllenydd—am ei fod, yn rh?i o'i brif linellau, yn cydgordio â'r golygiad a gymerasom uchod, sef (1) yn y safle a ddyry i Emlyn yn sgîl y cyfuniad o alluoedd a feddai, ac (2) yn ei waith yn rhannu'r cyfnod uchod i ddau yn t88o, gan alw y cyntaf (1860-1880) yn Gyfnod y Deffroad (neu Gyfnod Ieuan Gwyllt), a'r ail (1880-1910) yn Gyfnod y Cynnyrch (neu gyfnod D. Emlyn Evans). Dyma'r hyn a ddywed ynglŷn â'r pwynt cyntaf:

"Symudwn ymlaen at yr olaf, ond nid y lleiaf, o wŷr mawr Cyfnod y Deffroad, Mr. D. Emlyn Evans."

Yna wedi cyfeirio at rai ffeithiau yn ei hanes bore, ychwanega:

"Dyna fe wedi dringo i'r dosbarth blaenaf ers dros ugain mlynedd, ac y mae yn aros yn y dosbarth blaenaf o hyd: a dywedwn fwy: a chymryd popeth i ystyriaeth, ei safle fel Cyfansoddwr, Beirniad (Cyfansoddiadaeth a Datganiadaeth), Trefnydd, Hanesydd, a Llenor cerddorol, dywedwn yn ddibetrus, y blaenaf oll"

Cysyllta enw Emlyn â Chyfnod y Cynnyrch

"am yr ystyriwn ei fod ef i gyfnod y Cynnyrch yr hyn oedd Ieuan Gwyllt i Gyfnod y Deffroad— yn weledydd i'w genedl, weithiau yn hyfforddi, bryd arall yn ceryddu, fel y bo'r achos. Y mae ei graftter diarhebol, ei onestrwydd a'i dalent, ei awydd angerddol i buro a dyrchafu ein cerddoriaeth ym mhob cyfeiriad, a'r cyfleusterau sydd wedi bod at ei law, trwy y tri chylchgrawn a olygodd—yn naturiol yn ei osod yn y safle bwysicaf yng Nghyfnod y Cynnyrch."

Nodiadau golygu

  1. Mr- D. Jones, Van, Llanidloes.