Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau/Hanes Ei Weithiau Llenyddol
← Disgrifiad gan Mr John Lloyd (Crwydryn), Treffynnon | Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau gan John Owen, Yr Wyddgrug |
Sylwadau am ei Nodweddion fel Ysgrifennydd → |
DESGRIFIAD O DANIEL OWEN.
(Gan Mr. John Lloyd (Crwydryn), Treffynnon.)
WELE ddisgrifiad a ymddangosodd o Daniel Owen yn y County Herald, Mehefin 10fed, 1887, gan un a alwai ei hun Crwydryn, sef Mr. John Lloyd o Dreffynnon:—
"Tra yn edrych arno, meddyliem' fod pwy bynnag a roddodd fodolaeth i'r ymadrodd fod 'naw teiliwr yn gwneud un dyn' yn dra anadnabyddus o holl 'ferchyg y nodwydd' yn Sir Fflint, neu ni fuasai byth yn rhyfygu gwneuthur sylw mor gyfeiliornus. Pe yn adnabod un ohonynt, yr ydym ar fedr cyfeirio ato, galliasai yn hawdd aralleirio'r frawddeg, a dweud fod yr un teiliwr hwn yn well na llawer naw dy/ a'r dynion hynny heb fod yn rhai cyffredin ychwaith. Ni wastraffodd natur gnawd ac esgyrn iddo. Lled gynnil, mewn gwirionedd y bu yn ei dosraniad o'r naill a'r llall Er wedi ei gynysgaeddu â chorff eiddil, cyfrannodd yn ddibrin iddo ddarfelydd y buasai degwm ohono yn gynhysgaeth gyfoethog o oes i oes i lawer o feib awen ei wlad. Nid ydyw yn ieuanc, a phell ydyw o fod yn hen. Mae, er hynny, yn agosach i gyffiniau y tymor diweddaf na'r cyntaf , canys y mae lluosogiad y gwallt a'r cernflew gwynion yn tystio ei fod bellach wedi cyrraedd tiriogaeth yr 'hen lanc' Mae hefyd yn ymarferol wedi trosglwyddo ei hunan i'r dosbarth ystyfnig hwn o blant dynion. Ganwyd ef, fel y cyfeiriwyd eisoes, yn y dref a breswylir ganddo, ac er ei fod bellach yn rhagor na llawn deugain mlwydd oed, y mae yn rhy werthfawr a dwfn ei barch yn ei ardal enedigol iddi roddi llythyr ysgar iddo. Ynfydrwydd mewn ardal ydyw ffarwelio â'i henwogion, ac y mae ef yn ddiddadl yn un o'r cyfryw. Pwy feddyliai wrth sylwi arno yn cerdded yn hamddenol hyd heolydd yr Wyddgrug, gydag un llaw ym mhoced ei lodrau a'r llall yn ymrwyfo yn araf wrth ei ochr; ei ben, ar yr hwn y mae het jim crow ddu, yn cyfateb i'r wisg sydd fynychaf am dano, yn ogwydd mewn gostyngeiddrwydd arwyddocaol o'r enwad y perthynai iddo; ei ddau lygad bychan chwareus yn tremio i bob cyfeiriad—pwy feddyliai mai y gŵr cymharol ieuanc yna yr olwg ydyw awdur Rhys Lewis? Eto dyna fe. Pwy mor ddiymhongar, gwylaidd, ie, mor ddiddichell ? Er ei fod yn aml, aml, yn 'nhir neilltuaeth' yn ei fasnachdy, eto gadawer iddo eistedd yno wrth y pentan, penelin ei fraich ddeheu ar y bwrdd, a chetyn cwta rhwng ei ddannedd, a chydymaith gerllaw yn eistedd ar hen gadair ag y mae ei chefn wedi ei ysgar oddi wrth ei chorff . . . yn yr ymgom bydd wedi anghofio ei unigedd yn llwyr.. Mor ddifrifol yr edrycha ym myw ein llygad ! Gyda'r fath oslef y traetha ei syniadau o barthed i wahanol faterion ac amgylchiadau ! Treigla amser yn ei gwmni diddan bron yn ddiarwybod. Er yn ymwybodol ein bod ym mhresenoldeb 'gŵr mawr/ eto mae ei agosrwydd atom yn peri i ni deimlo yn berffaith glir rhag cyfeirio dim ato ei hunan, nac utganu clod ei alluoedd. Disgyblaeth ragorol i ddifa hunaniaeth llawer un fyddai treulio ychydig oriau yn athrofa Gostyngeiddrwydd gydag awdur Rhys Lewis"HANES EI WAITH LLENYDDOL
DODWN yma hanes byr o ymddangosiad ei weithiau llenyddol. Gellir dweud mai ar ôl i'w fywyd cyhoeddus ddod i derfyniad, o'r hyn leiaf fel pregethwr, y dechreuodd ei yrfa lenyddol. Ar ôl i'w iechyd dorri i lawr yn 1s76, a phan yn dihoeni am fisoedd, dechreuodd, ar gymhelliad taer y Parch. Roger Edwards, ysgrifennu ei bregethau i'r Drysorfa. Byddai yn feius ynom yn y lle hwn i beidio talu gwarogaeth i graffter hen olygydd hybarch y Drysorfa. Nid oedd Daniel Owen ond pregethwr ân- ordeiniedig, ac mewn cymhariaeth yn ddi-nod. Teg yw dweud iddo dynnu sylw arbennig rai o'n cynulleidfaoedd mwyaf deallgar. Y mae yn sicr nad ystyriai neb ef yn bregethwr poblogaidd; ond yr oedd y Parch. Roger Edwards yn abl i weled fod yna elfennau eithriadol yn y gŵr ieuanc yr oedd afiechyd wedi selio ei enau. Diau hefyd fod Mr Edwards yn ei gymell i ymgymryd ag ysgrifennu ei bregethau er mwyn ei dynnu allan ohono ei hun, oblegid yr oedd yr afiechyd wedi effeithio ar ei nervous system i'r fath raddau nes peri iddo ymdeimlo ag ef ei hun yn barhaus. Adwaenir y Parch. Roger Edwards fel dyn cryf, ac un a gymerodd ran fel arweinydd yn Nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd yng Ngogledd Cymru am flynyddoedd lawer; ond wrth graffu ar ei hanes yn y dref hon, gwelwn fod yna haen ddofn o dynerwch yn ei natur. Ac ni ddylid anghofio ei ofal tadol am y pregethwr ieuanc disyml a gododd megis wrth ei draed Drwy anogaeth, os nad dirwasgiad y golygydd, yr anfonodd Daniel Owen y pregethau a alwyd yn " Offrymau Neillduaeth " i'r Drysorfa. Enillasant sylw ar unwaith. Er ei fod wedi pregethu rhai ohonynt yn y cynulleidfaoedd, eto, ni ddarfu iddynt gynhyrchu y fath sylw a phan yn ymddangos ar ddalennau y Drysorfa. Wedi hyn ysgrifennodd ychydig o frasluniau Methodistaidd i'r un cyhoeddiad, ac yn fuan cyhoeddwyd yr Offrymau Neillduaeth a'r brasluniau yn un gyfrol. Efallai mai un o'r pethau a roddodd fwyaf o foddhad i'r awdur y pryd hwn oedd, gwaith Dr. Edwards yn ysgrifennu llythyr o gymeradwyaeth o'r llyfr i'r Goleuad. Teimlai yr awdur fod cael canmoliaeth gan y fath ŵr yn ganmoliaeth yn wir, oblegid yr oedd Dr. Edwards yn sefyll bron mor uchel fel beirniad llenyddol ag ydoedd fel diwinydd. Ac nid ar air yn unig yr oedd y Doctor yn canmol, ond cymerodd 60 o gopïau o'r llyf r ei hunan, er mwyn eu rhannu rhwng efrydwyr y Bala, ac eraill. Yn ddilynol i hyn, gwasgwyd ar Daniel Owen i ysgrifennu ffugchwedl i'r Drysorfa. Ymddengys mai i Proff. Ellis Edwards yr ydym yn ddyledus am y syniad hwn. Yr oedd Proff Edwards wedi cael mantais arbennig i adnabod teithi meddwl ei gydymaith. Cyfeillachasant lawer a'u gilydd ar hyd y blynyddoedd; ac ar ôl i'r brasluniau ymddangos, cymhellodd ei dad, y Parch. Roger Edwards, i geisio gan Daniel Owen i ysgrifennu ffugchwedl Ac er iddo wrthod yn bendant ar y cyntaf, ni fynnai Mr Edwards ei nacáu; ac ar amlen y Drysorfa yn niwedd y flwyddyn 1878, gwelwyd hysbysiad y byddai y "Dreflan, gan Daniel Owen," yn ymddangos yn y flwyddyn ddilynol Eiddo y Parch. Roger Edwards yw y teitl, ac y mae bron yn sicr mai i'w ddylanwad ef ar yr awdur y rhaid priodoli ymddangosiad y Dreflan.
Yr oedd ymddangosiad novel mewn cylchgrawn crefyddol fel y Drysorfa yn newyddbeth yng Nghymru. Y mae yn wir fod y golygydd ei hun wedi portreadu amryw o hen gymeriadau a adwaenai pan yn llanc yn sir Feirionydd dan y pennawd "Y tri brawd a'u teuluoedd," eto nid ffugchwedl ydoedd.
Dyma fel y cyfeiria y golygydd at y mater hwn yn ei Ragymadrodd i'r Dreflan, pan ei cyhoeddwyd yn llyfr ar wahân yn y flwyddyn 1881; cyhoeddedig gan Feistri P. M. Evans a'i Fab, Treffynnon: "Dichon fod rhyw ychydig nifer o bobl dda yn meithrin gwrthwynebiad ddwyn allan wirioneddau crefyddol mewn adroddiadau neu storïau fel y ceir yma. Ond os rhydd y cyfryw ddarlleniad trwyadl i'r Dreflan, hwy a welant nad oes ynddi ddim yn annaturiol neu yn anghymeradwy, megis y mae mewn llawer o ffugchwedlau; ac yn y llyfr hwn hefyd cyflwynir lliaws o wersi daionus i rai nad ânt i edrych am danynt mewn pregethau, traethodau, ac esboniadau."
Yn ddilynol cawn ef yn dechrau ar Rhys Lewis. Gwnaeth hyn, meddai, am na adawai y golygydd lonydd iddo. Cymerodd y ffugchwedl hon dair blynedd i ymddangos. Ysgrifennai bennod ar gyfer bob mis i'r Drysorfa, heb fod ganddo ddim wrth gefn, Wedi ei chwblhau cyhoeddwyd hi yn llyfr 4/-,gan yr awdur, a gwerthwyd dwy fil o gopïau, sef yr holl argraffiad mewn chwe mis. Y mae yn amheus a gafodd dim ei ddarllen mor awchus â chyffredinol yng Nghymru a Hunangofiant Rhys Lewis. Parodd ei hymddangosiad yn fisol yn y Drysorfa gynnydd mawr yng ngwerthiant y cylchgrawn hwnnw, a'r fath oedd swyn a phoblogrwydd y ffug-chwedl, fel yr aeth y Drysorfa yn hysbys tu hwnt i ffiniau y Methodistiaid. A phan gyhoeddwyd Rhys Lewis yn llyfr, yn 1885, gellir dweud iddo gael ei ddarllen gan bawb o fewn Cymru a deimlant ddiddordeb yn llenyddiaeth eu gwlad. Gwerthodd y copyright i Feistri Hughes a'i Fab, Gwrecsam, a dygasant hwythau ailargraffiad, gyda nifer o ddarluniau allan. Y mae yr argraffiad hwnnw bellach wedi ei ddihysbyddu.
Oddeutu wyth mlynedd yn ôl ymddangosodd cyfieithiad Seisnig o Rhys Lewis. Nis gellir dweud fod hwn wedi bod yn llwyddiant. Nid oedd y cyfieithydd yn gyfarwydd ag ystyr fanwl yr hyn a ysgrifennai, ac o ganlyniad, llawer o gamgymeriadau digrifol a wnaed ganddo mae yn amheus hefyd a oedd yn bosibl rhoddi cyfieithiad da o'r fath lyf r a Rhys Lewis. Y mae yn sicr, pa fodd bynnag, na chafwyd un yn y cyfieithiad a ymddangosodd yn y flwyddyn 1888.
Cyhoeddwyd gan Mr. John Lloyd Morris, yr Wyddgrug, gasgliad o'r amryw ddarnau o'i waith, yr hwn a elwid y Siswrn, a chyhoeddwyd ail-argraffiad ymhen amser. Yn y flwyddyn 1890, dechreuodd ysgrifennu Enoc Huws i'r Cymro. Diau mai i daerni a symbyliad golygydd y Cymro y dylid priodoli ymddangosiad Enoc Hughes. Ar ôl iddi oll ymddangos drwy y Cymro, prynwyd y copyright gan Feistri Hughes a'i Fab.
Ymddangosodd cyfieithiad da o Enoc Huws yn Wades, gan yr Anrhydeddus Claud Tivian, dan olygiaeth O. M. Edwards, M.A., Rhydychen.
Ar ôl gorffen Enoc Hughes gawn ef yn dechrau ar unwaith ar ysgrifennu Gwen Thomas i'r Cymro,—copyright o'r gwaith hwn a brynwyd drachefn gan Feistri Hughes a'i Fab. Ysgrifennai storïau bychain i'r Cymro yn lled fynych, y rhai a gyhoeddwyd ganddo yn llyfr, dan yr enw Straeon y Pentan. Gwelir oddi wrth yr uchod mai yn rhannau misol neu wythnosol yr ymddangosodd ei weithiau ar y cyntaf. Y mae bron yn sicr nas gellid cael ganddo i ysgrifennu ond yn y modd hwn. Ysgrifennai ddogn mis yn ei fis, heb edrych dim tu hwnt i hynny. Ysgrifennai y Dreflan a Rhys Lewis ar ôl myned gartre, a mynych y byddai yn aros i fynnu hyd oriau y bore i gwblhau y bennod. Pan yn ysgrifennu Enoc Huws a Gwen Thomas ysgrifennai yn y masnachdy, yng nghanol ei oruchwylion, pryd y torrid ar ei heddwch yn barhaus. Pan elwid arno o'i ystafell gefn i weini ar gwsmeriaid, gadawai y M.S. ar y bwrdd, a dychwelai yn ôl i ail-ymaflyd yn ei waith. Ac weithiau canfyddai fod rhai o'i gyfeillion direidus wedi bod a llaw yn y gwaith.