Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern/Boreu ei Oes

Cynwysiad Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern

gan David Samuel Jones

Ei Fynediad yn Saer Coed, a'i Argyhoeddiad


PENNOD I.

BOREU EI OES 1781—1791.

Y CYNWYSIAD—Dynion gwerth eu cofio—Mr. Williams yn un o honynt Lle ei enedigaeth—Enw ei gartref yn cael ei sillebu mewn gwahanol ddulliau—Amgylchoedd ei gartref yn fanteisiol i berchenogion Athrylith—Priodas rhieni ein gwrthddrych—Nodwedd ei henafiaid—Y Parch. John Williams, Dolyddelen, yn cael ei ddefnyddio yn offeryn i ddychwelyd mam Mr. Williams at grefydd—Ei frodyr a'i chwiorydd—Cyfamod ei dad âg ef—Yntau yn ei gadw—Myned i Frynygath, neu i Lanfachreth, cyn adeiladu Capel Penystryd—Cymeryd llwy oddiar fuarth Cwmeisian Uwchaf—Ei fam yn myned ag ef i'w danfon yn ol, ac yn gweddio drosto—Ei hoenusrwydd yn amlwg—Ei dad yn ofni y byddai yn od ar holl blant yr ardaloedd—Henafgwr yn yr ardal yn ei weled yn wahanol i blant eraill y Cwm—Tuedd athronyddol ei feddwl yn dyfod i'r golwg yn foreu ar ddydd ei fywyd.

DYNION gwerth eu cofio, "Men worth remembering," ydyw teitl cyfres neillduol o gyfrolau gwerthfawr, a ddygir allan o'r wasg yn Lloegr ar ddynion enwog; a phe y buasai enwogion Cymru yn y rhestr ddyddorol, nid oes neb a wyr ddim am hanes Cymru a'i chrefydd, yn enwedig yn mhlith yr Annibynwyr, yn ystod y ganrif hon, na chydnebydd gyda pharodrwydd, mai nid trais yn neb yw tybied, y buasai ein gwron yn hawlio lle amlwg yn mysg y cyfryw. ddynion; a hyny oblegid ei dduwioldeb diamheuol, ei athrylith fyw a nefol, ei dalentau dysglaer, a'i wasanaeth anmhrisiadwy i grefydd efengylaidd yn ein gwlad am gyfnod maith.

Ar y cyfrif uchod, nis gellir ei anghofio ef, canys. y mae ei enw wedi ei gerfio mor ddwfn a sicr ar lech calon y genedl Gymreig, a'i goffadwriaeth wedi ei wisgo âg anfarwoldeb, fel y mae mor ddiogel yn ei mynwes, ag ydyw mynyddoedd Gwyllt Walia yn eu safleoedd.

Ystyriaeth o'r gwerth a berthyn i'w hanes, a'r ymwybyddiaeth fod ei athrylith, a'i dalentau amrywiol, wedi eu cysegru, a'u cyflwyno yn gyfangwbl ganddo, ar allor crefydd i lesoli eraill, sydd wedi. ein symbylu i osod y darllenydd mewn mantais i feddu gwybodaeth helaethach am dano, yn holl deithi ei gymeriad, ac i ddyfod i gyfathrach agosach âg ef yn holl gylchoedd ei wasanaeth dros Dduw.

Ganwyd ein gwrthddrych yn Cwmhyswn Ganol, plwyf Llanfachreth, swydd Feirionydd, yn y flwyddyn 1781. Amaethdy bychan gwledig, a hollol ddiaddurn, ar lethr y mynydd, mewn lle hynod o agored, heb fod yn nepell oddiwrth waith aur enwog ac adnabyddus Gwynfynydd yw Cwmhyswn Ganol Ty cymharol newydd yw yr un presenol, ond y mae yr hwn a arddangosir yn y darlun yn rhan o'r hen dy, ac o ran ei ffurf allanol, y mae yn hollol fel yr ydoedd yn nyddiau boreuol Mr. Williams. Wrth ei dalcen gorllewinol, y mae tair o goed wedi tyfu yn uchel a phreiffion, ac y maent fel pe yn gwasanaethu er diogelu y drigfan rhag rhuthriadau ystormydd o'r cyfeiriad hwnw. Cyfyd y tir i fyny wrth dalcen uwchafy ty, nes bod bron yn gydwastad â'r corn mwg. Oddiwrth y ty eir i lawr ar hyd llechwedd y mynydd, yr hwn sydd yn llechweddu, ac yn ymestyn hyd at bistylloedd mawrion ac ardderchog Cain a Mawddach, ychydig islaw i'r annedd enwog.

Sillebir enw yr annedd uchod mewn gwahanol ffyrdd, megys Cwmhyswn, Cwmhwyswn, Cwmhwyson, a Cwmeisian; ac amryfal yw yr esboniadaeth a roddir ar darddiad ac ystyr y gair. Bernir gan rai mai Cwm-y-swn, neu Cwm-dwfr-swn, yw ystyr briodol yr enw. Mae yno swn, canys y mae pistylloedd Cain a Mawddach yn rhuo yn drystfawr ar amserau, gan wneuthur "swn dyfroedd lawer," wrth ruadru dros y creigiau i'r gwaelodion, fel nad yw yr ystyr a nodwyd yn ymddangos mewn un modd yn un hollol annaturiol. Ond rhaid cofio fod yn y Cwm rywbeth heblaw swn, ac o herwydd hyny, dichon mai ystyr arall sydd i darddiad yr enw. Yn wir, gellir talu ymweliad â Chwmhyswn Ganol, ar sychder haf, a thybied mai yno y cartrefa

dystawrwydd, ac os oes barddoniaeth mewn

dystawrwydd; dyma y lle i'w deimlo yn effeithiol. Gallai mai Cwmhesgen[1] yw yr enw priodol, oblegid mae yr amgylchoedd yn gyfoethog o gyrs a brwyn; ac y mae yn rhaid troi yr afonydd yn mhell, ac i'r ffrydiau sychu, cyn y torir ymaith bob corsen a hesgen o'r fangre hon; neu fe ddichon mai Cwmiesin yw yr ystyr gywiraf, yr hyn o'i aralleirio yw-Cwm Cain, Cwm arddunol, Cwm hardd. Yn sicr, felly y mae, fel y dywed Thomas Pennant, yr hanesydd, am y lle hwn,-"Y mae natur wedi bod yn afradus yma mewn prydferthion."

Cymered y darllenydd yr un a fyno o'r ystyron. uchod; ni chawsom ni erioed ein boddloni yn hollol mewn esboniad ar yr enw, ac nid ydym yn gweled rhyw lawer o bwysigrwydd yn hyn, a sillebir ef genym o hyn allan yn Cwmeisian fel ei seinir ar lafar gwlad. Digon at ein pwrpas ni yn y gwaith hwn, yw gwybod hyd sicrwydd, mai yma y ganwyd, ac mai oddi yma y cychwynodd y Parchedig William Williams o'r Wern, allan i fendithio y byd. Y mae pob peth yn amgylchoedd ei gartref genedigol, yn fanteisiol i berchenogion athrylith a thalent er eu dadblygu. Y golygfeydd ydynt ramantus, mawreddus, arddunol, prydferth, a swynol odiaeth, gan gynwys mynyddoedd uchel a chribog, creigiau ysgythrog a daneddog, ceunentydd dyfnion, afonydd gloewon, coedydd mawrion, ac amrywiol lawer iawn, a llanerchau hyfryd nodedig. Ceir yma deleidion o bob amrywiaeth dymunol i'r llygaid i edrych arnynt, a digon o waith i syllu ar, a rhyfeddu at ardderchawgrwydd creadigaeth Duw; ac nid yn fuan yr anghofia llawer heblaw Thomas Pennant, yr olygfa a welir drwy y coed, pan y byddo yr haul yn tywynu ar bistylloedd Cain a Mawddach, y rhai ydynt yn wir ardderchog wrth ddisgyn o honynt i'r dyfnder mawr, gan ymddangos yn wynion fel afonydd o laeth. Ie, oddiyma y galwodd yr Arglwydd ei was allan, ac yr arweiniodd ef o amgylch, a pharodd iddo ddeall, a chadwodd ef fel canwyll ei lygaid, gan lewyrchu drwyddo, nes y gwelodd y bobl oleuni mawr yn llewyrch ei weinidogaeth danbaid, nerthol, ac efengylaidd. Ychwanega hyn at nifer y profion lluosog sydd genym eisioes, mai nid o dai brenhinoedd o angenrhaid y mae meibion y daran yn dyfod allan, ac mai nid mewn dillad esmwyth y gwisgwyd y rhai sydd yn parotoi ffordd yr Arglwydd, ond à nerth o'r uchelder.

Yn Eglwys plwyf Trawsfynydd, Ionawr 9fed, 1767, ymunodd William Probert, o Lanfachreth, mewn priodas â Jane Edmund, Dolymynach Isaf, Trawsfynydd. Mab ydoedd ein gwrthddrych parchedig i'r rhieni uchod. Yr oedd William Probert ei dad, yn fab i Robert ac Ellen Williams ei wraig o'r lle a nodwyd. Nis gallwn nodi nemawr i sicrwydd am danynt hwy, ond yn unig ddarfod iddynt, Tachwedd 14eg, 1734, fyned â'u mab William i'w fedyddio yn Eglwys plwyf Llanfachreth. Yr oedd William Probert yn ddyn tawel a synhwyrol iawn. Arferai wrando llawer ar yr efengyl, ac aeth droion i'r Bala, pellder o bymtheg i ddeunaw milldir o ffordd, i wrando ar y Parch. Daniel Rowlands o Langeitho, ac eraill yn pregethu. Meddai ar ddeall cryf a chyflym, ond ysywaeth, nid ymunodd efe âg un blaid grefyddol mewn proffes, drwy ystod ei holl oes faith. Mynychai yr Eglwys Sefydledig, a byddai yn addoli Duw, drwy gynal addoliad teuluaidd ar ei aelwyd gartref gyda chysondeb diball. Saer coed ydoedd efe o ran ei gelfyddyd, ac hefyd amaethai yn fedrus a diwyd y tyddyn bychan a ddelid ganddo. Gweithiai lawer o bilynau meirch, ac arferai ddywedyd o ran digrifwch diniwed yn ei ffordd dawel ei hun, pe y buasai meirch yr ardal hono yn gallu siarad, mai efe a fuasai yn cael gweithio yr holl bilynau ar eu cyfer, oblegid fod yr eiddo ef yn gorwedd mor esmwyth ar eu cefnau. Disgynai arno hefyd i weithio eirch bron i holl feirwon y cymoedd hyny; ac arferai ei fab enwog o'r Wern, ddywedyd fod ei dad yn arferu gormod gydag eirch, ac yn cynefino cymaint â hwynt, fel yr oedd yn anmhosibl iddo fod yn "grefyddol iawn." Beth bynag am athroniaeth y sylw, a'r hyn oedd yn angenrheidiol yn ol safon ei fab, mewn trefn i fod yn "grefyddol iawn," rhestrid William Probert, yn mysg y dynion moesolaf, doethaf, a manylaf yn yr holl ardaloedd. Gwelodd aml a blin gystuddiau yn ei deulu, a chafodd fyw nes cyrhaedd oedran teg, a chroesi o hono yn mhell dros linell yr addewid, ond bu yntau farw, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Llanfachreth, Ebrill 22ain, 1822, yn 88 mlwydd oed. Ganwyd Jane Edmund, mam ein harwr, yn y flwyddyn 1741. Merch ydoedd hi i Edmund a Gwen Morgan, Dolymynach Isaf. Saif yr amaethdy uchod, yr hwn erbyn hyn sydd yn adfeiliedig iawn yr olwg arno, ar lan afon Cain, yr hon a ymddolena drwy ddyffryn bychan, ond prydferth a swynol nodedig, ychydig islawi Gapel Penystryd. Ganwyd Edmund Morgan ei thad, yn Moel-y-glo, plwyf Llanfihangel-y-traethau, swydd Feirionydd. Hana Mr. Rowland Edmund, sydd yn cyfaneddu yn awr yn Moel-y-glo o'r un teulu. Ystyrid. Edmund Morgan, y gwr cryfaf o gorffolaeth yn Ngogledd Cymru, os nad yn yr holl dywysogaeth. Adroddir llawer o bethau hynod am dano, er profi ei fod ar y blaen bron i bawb o'i gydoeswyr mewn gallu i gyflawni gorchestion corfforol, y rhai a osodent gryn fri ac enwogrwydd ar y rhai a'u cyflawnent yn ngolwg llawer o ddynion yn yr oes hono. Dywedir iddo unwaith fyned i ymaflyd codwm gyda Dafydd Dafis, Tynant, ac er fod yr olaf yn wr cryf a nerthol iawn, bu raid iddo fyned adref heb godymu ei wrthwynebwr, er fod ei esgidiau newyddion wedi eu dryllio yn chwilfriw yn yr ymdrechfa ffol. Bu Edmund Morgan byw nes myned yn oedranus iawn. Ond er cryfed ydoedd efe, yr oedd iddo yntau ei derfynau, ac nid oedd i fyned drostynt. Pan y cymerwyd ef yn glaf o'r afiechyd y bu efe farw o hono, gofynwyd iddo faint ydoedd ei gywir oedran! Atebodd yntau, "gellwch roddi cant a naw ar fy arch," ac felly y gwnaethpwyd yn ol ei orchymyn, a cherfiwyd hyny ar gareg ei fedd yn yr amser priodol. Clywodd Syr R. W. Vaughan, Nannau, perchenog Dolymynach Isaf y pryd hwnw (Syr W. W. Wynn yw ei berchenog yn awr) am oedran eithriadol ei hen denant hoff, ond amheuai y Barwnig caredig, a oedd hyny yn gywir, ac ofnai fod y gwr hynod o Ddolymynach, wedi methu wrth gyfrif ei oed; ac efe a aeth gan ymofyn yn fanylach am y peth, a chafodd wybod i sicrwydd, nid ei fod yn gant a naw, ond ei fod yn gant a thair ar ddeg, a cherfiwyd hyny, yn ol gorchymyn y Barwnig ffyddlawn ar gareg ei fedd. Bu farw Edmund Morgan, Chwefror 6ed, 1817, yn [113] oed. Torwyd y lle ysgwar a welir ar y beddfaen, yn ddyfnach yn y gareg, er mwyn cywiro y ffigyrau cyntaf, y rhai oeddynt yn hollol gamarweiniol. Y neb a ewyllysio weled drosto ei hun, aed a thröed i mewn i fynwent Eglwys Trawsfynydd—gwelir y bedd ar y llaw ddeheu yn fuan wedi yr eir drwy y fynedfa ir fynwent. Mae ychydig o ol y rhif 9 i'w weled eto, fel pe heb ei lwyr ddileu ymaith, pan yr oeddynt yn cywiro yr oedran ar y gareg. Ceir yn y fynwent hon, feddau eraill hefyd, perthynol i'r teulu hwn, sef yr eiddo Evan Edmund, mab Edmund Morgan, yr hwn a fu farw Mehefin 13eg, 1809, yn 47 mlwydd oed. Hefyd Jane Edmund, gwraig yr uchod, yr hon a fu farw Ebrill 13eg, 1827, yn 51 mlwydd oed; yma hefyd y gorwedd Rowland Edmund, Felynrhydfawr, yr hwn a fu farw Chwefror 27ain, 1819, yn 63 mlwydd oed. Yr oedd yntau yn fab i Edmund Morgan, ac yn dad i'r diweddar wr da hwnw—Morgan Edmund o'r Ucheldref, ger Corwen, ac yn daid i'r Parch. Edmund Morgan Edmunds, Rhiwabon. Hanai y diweddar Barch. E. Edmunds, Dwygyfylchi, o'r teulu hwn; ac o deulu Mr. Williams, o ochr ei dad, yr hana y Parch. J. Evans, Nelson, Morganwg. Er chwilio llawer, ni chawsom ddyddiad genedigaeth na marwolaeth Gwen Morgan, gwraig Edmund Morgan, nac yn wir, ddim am nodwedd ei chymeriad yn foesol na meddyliol. Buasai yn wir dda genym allu anrhegu y darllenydd â mwy o hanes y teulu hwn, ond y mae yr holl oes hono wedi ei chasglu at ei thadau, ac oes arall wedi cyfodi, heb allu mynegi i ni y dirgelwch; ac nid oes dim ffeithiau wedi eu cofnodi am danynt, fel ag i'n galluogi i gyflenwi y diffyg, a gwell genym ninau beidio a dyfalu pethau, y rhai nas gallwn fod yn sicr o'u dilysrwydd. Ond nid yw amser wedi ein hamddifadu a'n hysbeilio o ffeithiau pwysig, y rhai a ddangosant i ni nodwedd cymeriad Jane Edmund, mam Mr. Williams. Gwraig rinweddol a chrefyddol nodedig ydoedd hi, fel y ceir gweled yn mhellach yn mlaen yn y gwaith hwn. Aelod ffyddlon gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ydoedd. Nis gallwn nodi yn fanwl amser ei dychweliad at yr Arglwydd, ond y mae sicrwydd ei bod yn proffesu crefydd, ac yn aelod eglwysig naill a'i yn Brynygath, neu Llanfachreth, oddeutu y flwyddyn 1790; gwel Hanes Methodistiaid Gorllewin Meirionydd tudalen 471. Ond gan y gwyddis mai y Parch. J. Williams, Dolyddelen, a ddefnyddiodd yr Arglwydd yn offeryn yn ei law i'w dychwelyd ato, nis gallasai ei dychweliad fod wedi cymeryd lle cyn y flwyddyn 1787, a hyny oblegid y bernir oddiar seiliau lled gedyrn, mai yn y flwyddyn uchod y dechreuodd y gwr gonest a rhagorol hwnw, ar y gwaith o bregethu. Yr ydym yn gywir, ac yn ddiogel, wrth ddywedyd ddarfod iddi ddechreu proffesu crefydd rywbryd rhwng 1787 a 1790. Bodolai cyfeillgarwch pur a dwfn rhwng Mr. Williams, Dolyddelen, a Mr. Williams, Wern, ac nid rhyfedd hyny, pan gofiom mai y cyntaf a fu yn foddion i ddwyn mam yr olaf o gyfeiliorni ei ffyrdd, nes ei bod yn gadwedig gan yr Arglwydd, ac yn glodfawr yn Israel. Wedi tramwy gan bregethu teyrnas, Dduw, am dros haner can' mlynedd yn mysg y Methodistiaid Calfinaidd, a hyny mewn ffyddlondeb mawr, aeth y Parch. J. Williams i dangnefedd Mawrth 27ain, 1839, yn 82 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Dolyddelen, y dydd Sadwrn canlynol. Parhaodd gyrfa grefyddol Jane Edmund, am o leiaf dair blynedd a deugain, yr hon a redodd yn ffyddlon gan edrych ar Iesu i'r terfyn eithaf. Ysgrifenai Mr. Thomas Price, Maes-y-glwysan, atom, gan ein hysbysu ei fod yn cofio iddo ar un nos Sabbath, fyned i Eglwys Llanfachreth, ac i'r gwr Parchedig oedd yn gweinyddu y noswaith hono, hysbysu y gynulleidfa, fod Jane Edmund, Cwmeisian Ganol, yn dymuno am ran yn ngweddiau yr Eglwys. Pa fodd bynag, pan y daeth awr ei hymddatodiad, yr oedd wedi gwregysu ei lwynau, a'i chanwyllau wedi eu goleuo, a hithau yn hyderus yn dysgwyl am ei Harglwydd, a hi a aeth i orphwysfa pobl Dduw, Medi 28ain, 1833, yn 92 mlwydd oed. Dygwyd ei chorff i'w gladdu yn mynwent Eglwys Llanfachreth, Hydref Iaf. Sonir hyd heddyw gan yr ardalwyr, am weddi hynod Mr. Williams, wrth y ty cyn cychwyn corff ei fam i'r gladdfa. Pregethodd y nos flaenorol yn y Bala, a hyny yn nodedig ac effeithiol iawn. Cyrhaeddodd i Gwmeisian Ganol yn brydion. Gan y gwyddid ei fod yn dyfod, ac y dywedid mai efe a fyddai yn gwasanaethu wrth y ty, ymgasglodd yno dyrfa anferth, yn enwedig i'r fath le anghyspell. Dododd ei ddwy law ar arch ei fam, a gweddiodd mor nodedig o ddwys ac effeithiol, fel na chlybuwyd dim yn debyg yn yr holl ardaloedd. Yn wir, tystiai y Parch. E. Davies (Derfel Gadarn), Trawsfynydd, na wrandawodd efe ddim mor effeithiol a'r weddi hono yn ei holl oes. Dywedai Mr. Williams, yn nghwrs ei weddi; mai "Diwrnod mawr oedd y diwrnod hwnw, diwrnod claddu yr hon a roddodd i mi fronau i'w sugno, ïe, claddu yr hon a weddiodd lawer drosof, ac a roddodd i mi gynghorion oeddent yn werthfawrusach nag aur." Erbyn iddo ddiweddu, nid oedd yno un llygad sych yn yr holl dyrfa fawr. Clywsom henafgwr yn tystiolaethu, ei fod fel pe yn clywed swn ei weddi fyth yn ei glustiau. Gwelsom un arall oedd yn bresenol yn yr angladd, yn wylo yn hidl wrth adrodd yr hanes i ni, a hyny yn mhen deunaw mlynedd a deugain wedi i'r amgylchiad fyned heibio. Bydd genym achos i gyfeirio eto at rieni Mr. Williams yn nghorff y gwaith hwn, ac yn arbenig at ei fam, fel y gwelir y rhan amlwg a fu ganddi hi, yn. ffurfiad cymeriad ei mab hoff ac enwog, ond ymataliwn yn awr, heb ond yn unig fynegi i'w rieni gael byw, nes profi o honynt o'r llawenydd hwnw, ddarfod iddynt gael magu mab i fod yn brophwyd i'r Goruchaf, a'i weled yn myned allan o flaen wyneb yr Arglwydd, i barotoi ei ffyrdd ef, ac i roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i'w bobl drwy faddeuant o'u pechodau. Ganwyd i'r rhieni hyn saith o blant tri o feibion a phedair o ferched,—

ELLEN. Ganwyd hi yn niwedd y flwyddyn 1767, ond o herwydd pellder y ffordd, a'r hin auafol, ni chymerwyd hi i Eglwys Llanfachreth i'w bedyddio, hyd Mai 8fed, 1768. Ni bu y chwaer hon erioed yn briod. Nodweddid hi gan gryn lawer o ryw hynodrwydd mewn amryw bethau. Meddai allu a chwaeth at ddysgu barddoniaeth, a gallai adrodd y cyfryw heb ball. Darllenai lawer ar y Beibl, a gallai ddarllen yn ei hen ddyddiau heb gymhorth gwydr—ddrychau. Yn gyffredin byddai yn arfer cloi y drws arni ei hun yn y ty, neu yn hytrach, ddrws y llofft, yn Llanfachreth, i'r hon y symudodd tua diwedd ei hoes, a'r hon hefyd a roddwyd iddi yn ddiardreth gan Syr R. W. Vaughan, Nannau. Nid ydym yn deall iddi hi erioed fod yn proffesu. crefydd. Bu Ellen Williams farw yn gyflawn o ddyddiau, a chladdwyd hi yn mynwent Eglwys Llanfachreth, Mawrth 7fed, 1864, cyn cyrhaedd ei 97 mlwydd oed.

EDMUND. Ganwyd ef yn niwedd y flwyddyn 1768. Nis gallwn nodi dyddiad ei fedyddiad ef. Nid ydym yn deall ddarfod iddo yntau ymuno mewn proffes grefyddol âg unrhyw enwad. Wedi iddo ymsefydlu yn y byd, aeth i fyw i le o'r enw Bwlchiocyn, yn Ffestiniog, lle y mae ei fab Mr. John Williams yn aros eto. Bu Edmund Williams farw Ionawr 28ain, 1853, yn 85 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Ffestiniog. Yr oedd yn ddyn tawel a siriol, yn llawn o gymwynasgarwch, ac yn hoffus gan ei gymydogion.

ROBERT. Nis gallwn nodi dydd genedigaeth, bedyddiad, nac oedran y brawd hwn pan y bu farw. Yr oedd ef yn ddyn ieuanc nodedig o grefyddol, ac yn aelod eglwysig yn Mhenystryd. Dywedir iddo gyfarfod â damwain wrth gymynu coed, ac iddo o herwydd hyny, fod yn fethiantus. dros weddill ei oes. Pan aeth swyddogion eglwys Penystryd, i edrych am dano yn ei gystudd olaf, dywedodd wrthynt, ei fod yn meddwl y gwnelai ei frawd William bregethwr, ac y byddai yn ddoethineb ynddynt hwy i ddal sylw arno, i edrych a ganfyddent hwythau ryw arwyddion ffafriol i hyny ynddo. Dyma y crybwylliad cyntaf, am ar a wyddom ni, am gyfodi William yn bregethwr. Felly i'w frawd, ag oedd yn gystuddiol ar y pryd, y rhoddwyd yn gyntaf wybod fod prophwyd i'r Arglwydd yn y teulu. Wrth weled ei hunan yn tynu tua therfyn ei yrfa ddaearol, dywedodd Robert ei fod yn gweled haf ei fywyd bron a therfynu, fel haf naturiol y flwyddyn hono, a bod blodeu ei fywyd yn syrthio fel y dail a syrthient oddiar y coed wrth y ty. Bu ef farw mewn tangnefedd heddychol, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Llanfachreth, Hydref 31ain, 1796.

MARGARET. Nis gwyddom ddim am fanylion bywyd y chwaer hon, ond yn unig ei bod yn aelod ffyddlon gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, yn Brynygath neu Llanfachreth. Y darfodedigaeth cyflym ydoedd yr afiechyd y bu hi farw o hono, a hyny yn ieuanc. Claddwyd hi yn mynwent Eglwys Llanfachreth, Gorphenaf 10fed, 1800.

CATHERINE. Ganwyd y chwaer hon, Gorphenaf 15fed, 1777. Bedyddiwyd hi yn Eglwys Llanfachreth, Gorphenaf 19eg, 1778. Gwelir ei bod o fewn pedwar diwrnod i fod yn flwydd oed, pan y bedyddiwyd hi; ond nid yw hyny i ryfeddu ato, gan neb a wyr ddim am y ffordd o Gwmeisian i Llanfachreth. Yr oedd y chwaer hon yn cyd-ddechreu crefydda â gwrthddrych y cofiant hwn. Bu hi yn briod gyda Robert Jones, Saer coed, yn ol ei gelfyddyd. Ymadawsant o Drawsfynydd, yn y flwyddyn 1823, gan fyned i fyw i'r Wyddgrug. Bu iddynt ddau o feibion—John a William. Gadawodd y blaenaf y wlad hon am Utica, America, lle y bu farw yn y flwyddyn 1850. Mae yr olaf eto yn fyw, ac yn trigianu yn Manchester; ac yn aelod ffyddlon gyda'r Annibynwyr yn nghapel Booth Street. Bu Robert Jones farw yn y Wyddgrug, rywbryd yn 1858. Fel y canlyn y dywed y Parch. W. G. Thomas, (Gwilym Gwenffrwd), Wyddgrug, am dani—"Yr oeddwn yn gydnabyddus iawn â Catherine Jones, chwaer Mr. Williams o'r Wern, neu fel yr adnabyddid hi yn y Wyddgrug, Catrin Jones." Pan ddaethum i'r dref yn 1853, yr oedd hi yn byw gyda'i gwr, Robert Jones, mewn ty bychan yn yr Heol Newydd, yn agos i dafarndy o'r enw Royal Oak. Yr oedd ddau mewn oedran pan ddaethum i'r dref, ond yr oedd ef yn alluog i enill ychydig at eu cynaliaeth, drwy ddilyn ei gelfyddyd; ac yr wyf yn meddwl eu bod yn arfer a lletya saneuwyr a ddeuent i'r ffeiriau a'r marchnadoedd o'r Bala a manau eraill i werthu sanau. Gwr byr, ond cydnerth ydoedd Robert Jones, a gwisgai wallt gosod tywyll, yn neillduol ar y Sabbathau, ac ar achlysuron arbenig eraill hefyd, yr hwn ar adegau lled gyffrous ar dymher wyllt yr henafgwr, a symudai o'i le, nes y gwelid. noethder y pen yn y parth. dadorchuddiedig. Yr oedd eithafion wedi cydgyfarfod yn y pâr oedranus hwn. Tra yr oedd ef yn un sydyn, tanbaid, a ffrwydrol, yr oedd hithau yn un hynod o amyneddgar, a llwyddai yn fuan i'w liniaru yntau hefyd. Byddai hi yn un o'r rhai ffyddlonaf yn nghyfarfodydd gweddio y chwiorydd. Yr oedd ei gweddiau yn arafaidd, ond yn dra chynwysfawr ac effeithiol. Rhoddai gynghorion rhagorol i'r merched ieuainc oeddent yn aelodau o eglwys Bethel ar y pryd hwnw. Yn mhen rhyw bum' mlynedd ar ol fy nyfodiad yma, y bu farw Robert Jones, ac y mae y dygwyddiad yn fyw ar fy nghof, a hyny yn fwy, oblegid mai yn fy nhy i y derbyniodd efe yr ergyd angeuol. Daeth i ymgynghori â mi ar ryw fater cyfreithiol, a rhoddais efi eistedd mewn cadair freichiau, ac wedi ychydig o ymddyddan tawel, gwelwn ef yn ceisio cyrhaedd rhywbeth yn agos i'r lle tân, a chan yr ofnwn iddo syrthio, prysurais ato, a gwelwn ei fod wedi derbyn ergyd o'r parlys, a thrwy fy mod inau ar y pryd yn dyoddef oddiwrth anhwyldeb gewynol, yr oeddwn mewn sefyllfa resynol gan ofn a phryder. Aeth ei lais yn floesg, a'i aelodau yn ddiymadferth, a holai yn bryderus iawn am ei briod. Gadewais ef yn ngofal cymydog, ac aethum ar frys i geisio meddyg. Cludwyd ef i'w dy, a bu farw yn mhen tuag wythnos a'i "ffydd yn Nuw." Yn lled fuan wedi marwolaeth ei phriod, symudodd Catherine Jones o'r Wyddgrug, gan fyned i fyw dros weddill ei hoes at ei mab i Fanchester. Gorphenodd Catherine Jones ei gyrfa yn orfoleddus, Awst 12fed, 1864, yn 87 mlwydd oed. Claddwyd hi yn Nghladdfa Openshaw, Manchester. GWEN. Ganwyd hi yn 1785, a bedyddiwyd hi yn Eglwys Llanfachreth, Hydref 20fed y flwyddyn a nodwyd. Bu hi yn briod âg un o'r enw John Jones. Yr oeddent ill dau yn proffesu crefydd, ac yn aelodau ffyddlon yn eglwys Lon Swan, Dinbych. Un o heddychol ffyddloniaid Israel ydoedd Gwen Jones. Bu hi farw Rhagfyr 9fed, 1871, yn 86 mlwydd oed, a chladdwyd hi Rhagfyr 13eg, yn mynwent yr Eglwyswen, ger Dinbych. Wyr iddi hi yw y Parch. Robert Williams, y Tywyn, ger Abergele.

WILLIAM. Gwrthddrych ein cofiant oedd y chweched plentyn, a'r ieuangaf o'r meibion. Nis gallwn nodi dydd ei enedigaeth, ond gwelwn ddarfod iddo gael ei fedyddio yn Eglwys Llanfachreth, Tachwedd 18fed, 1781, gan y Parch. Evan Herbert, curad Dolgellau. Cafodd y gwr Parchedig uchod fraint ag y buasai llawer un yn llawenhau o'i phlegid, ac yn diolch am dani, a diau ei fod yntau yn teimlo felly, os yr arbedwyd ef, nes gweled fod yr hwn a gyflwynwyd ganddo i'r Arglwydd drwy fedydd, wedi dyfod yn enwog ac yn adnabyddus drwy holl Gymru.

Nis gallasai rhieni o'r fath nodwedd, ag ydoedd rhieni ein gwrthddrych, lai na bod yn ofalus am eu plant, ac yn dyner o honynt oll, ac felly yn ddiau yr oeddent, ond ymddengys fod William yn fwy hoffus ganddynt na'r un o'r plant eraill, ac yn arbenig felly gan y fam, oblegid yr ydoedd ef yn dyner ac yn anwyl iawn yn ei golwg, ac yn blentyn ei hoffder mewn modd neillduol, canys bu ef yn sugno ei bronau, nes ei fod yn agos i bedair blwydd oed. Wrth ei weled yn parhau i sugno, a'i fam yn teimlo anhawsder mawr i'w ddiddyfnu oddiwrth y fron, gwnaeth ei dad gyfamod gweithredoedd âg cf, gan addaw iddo yr oen du yn anrheg, os ymataliai efe rhag sugno, ac felly y bu. Cydsyniodd âg amodau y cyfamod, ac ni cheisiodd sugno o hyny allan; ac fel y mae pob cyfamod daionus a gedwir, yn dwyn bendith i'r sawl a'i cadwo; daeth iddo yntau ddaioni a bendith, drwy gadw y cyfamod hwnw, fel y ceir eto weled. Y mae yn sicr mai i Frynygath, neu Lanfachreth, y dygid ef gan ei fam ar y cyntaf i foddion cyhoeddus, oblegid yr oedd ef yn wyth mlwydd oed cyn i gapel Penystryd gael ei adeiladu. Dysgai ei fam bob gonestrwydd i'w phlant. Pan yr oedd ei hoff William o naw i ddeg oed, ac yn croesi ar draws buarth Cwmeisian Uwchaf, cododd i fyny hen lwy, yr hon oedd wedi myned yn hollol ddiwerth, ac aeth a hi adref. Wedi ei gweled, gofynodd ei fam iddo, yn mha le y cafodd efe hi? Atebodd yntau, drwy ddywedyd, mai ar lawr. Yn mha le gofynai y fam eilwaith? Nid yw hi yn dda i ddim meddai y bachgen. Ond nid oedd yr atebiad hwnw mewn un modd yn un boddhaol gan y fam onest; ac o'r diwedd, wedi iddi wasgu yn drwm arno, cyfaddefodd y bachgen mai oddiar fuarth Cwmeisian Uwchaf y cyfododd efe hi. Gorchymynodd hithau iddo fyned a'r llwy yn ol, ond y fath oedd ei afael ynddi, fel y dangosodd raddau o gyndynrwydd i ufuddhau i gyfraith ei fam. O'r diwedd cymerodd hi ef erbyn ei law yn dyner, ac aeth ag ef i ddanfon y llwy i'w pherchenog. Gofynodd gwraig Cwmeisian Uwchaf iddi, "I ba beth yr ydych yn trafferthu, Sian Edmund, nid yw yr hen lwy o ddim gwerth i neb, gadewch hi i'r bachgen bach." "Na, nid felly," meddai hithau, "Oblegid gall yr hen lwy hon, er mor ddiwerth ydyw, drwy adael iddo ei chadw, arwain fy machgen i'r crogbren. Gadewch i ni weddio;" ac ymostyngodd ar ei gliniau, a gweddiodd yn ddwys, gan ddeisyfu yn ostyngedig, a thaer iawn, am i'r Arglwydd o'i drugaredd, gadw ei bachgen rhag y pechod o anonestrwydd, a rhag pob pechod arall hefyd. Teimlai William fod y weddi hono yn gerydd llym arno, a bod y lle yn annyoddefol iddo ef, tra y gweddiai ei fam dduwiol drosto. Gwnaethpwyd argraff annileadwy ar feddwl y bachgen ar y pryd, ac ni bu dim o'r fath beth yn brofedigaeth iddo ef byth ar ol y tro hwnw. Gwynfydedig yw y plant hyny a fendithiwyd â mamau mor onest ag ydoedd y fam hon, ac y mae miloedd o brofion yn ein gwlad, yn cadarnhau y dywediad, "Fod un fam dda yn werth cant o ysgolfeistriaid." Yr oedd bywiawgrwydd, hoenusrwydd, a direidi diniwed William mor amlwg, a'r fath wefr fyw yn ei natur, fel yr arferai ei dad ddywedyd am dano, ei fod yn ofni y byddai yn od ar holl blant yr ardaloedd; ac megys y proffwydodd efe, felly yn hollol y bu, canys ni chododd neb o'i flaen o'r fangre hon, ac yn sicr, ni ddaeth neb ar ei ol hyd yma beth bynag, yn fedd- ianol ar y fath alluoedd naturiol dysglaer, ac o gyffelyb hynodrwydd a chyhoeddusrwydd ag ydoedd efe. Dywedai henafgwr parchus o'r ardal, ei fod yn dyrnu yn Cwmeisian Ganol unwaith, pan yr oedd ein gwrthddrych yn fachgenyn lled ieuanc, a'i fod yn gweled ynddo y pryd hwnw rywbeth ag oedd yn ei wahaniaethu yn amlwg oddiwrth blant eraill y Cwm. Deuai hyny i'r golwg ynddo mewn rhyw gywreinrwydd neillduol, drwy ei waith yn cynllunio adeiladau ffugiol i'r anifeiliaid, gan osod coed yn gywrain iawn ar ochr allanol mur y ty, fel moddion sicr, i ddal y da corniog yn eu lleoedd priodol. Arferai gynllunio llawer yn yr adeg dan sylw, gan arddangos yn foreu, y duedd athronyddol oedd mor naturiol iddo, a'r hon a ddaeth mor amlwg i bawb ynddo ar ol hyn. Os gellir ystyried dyn yn meddwl drosto ei hun, gan chwilio achosion ac egwyddorion pethau allan,—eu cysoni â'u gilydd, ac nid cymeryd yr eiddo eraill yn ganiataol, yn athronydd, yn ddiau, yr oedd ein gwrthddrych yn nodedig fel athronydd er yn ieuanc.

Nodiadau

golygu
  1. Gwel ysgrif y Prifathraw, M. D. Jones, Bala, yn y Cronicl Mawrth, 1877.