Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern/Nodiadau ar Athrylith Ein Gwrthddrych
← Nodweddion Arbenig Ein Gwrthddrych Fel Pregethwr | Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern gan David Samuel Jones |
Nodweddau Pregethwrol Ein Gwrthddrych, Gan Dri o Dystion → |
PENNOD XVII.
NODIADAU AR ATHRYLITH EIN GWRTHDDRYCH.[1]
NID hawdd darlunio athrylith na byddo meddianydd y cyfryw wedi dodi un engraifft o honi ar glawr. Mae y neb a geisio wneud hyny yn gorfod gweithio heb un defnydd, ond yn unig yr hyn a fyddo yn ei gof; ac eto, nid oes un dosbarth o ddynion athrylithgar ag y mae cymaint o angen darlunio eu hathrylith a'r rhai sydd heb ysgrifenu dim; canys y mae ysgrifenwyr yn gadael darluniadau mewn argraff ar eu hol o'r peth ydynt mewn gwirionedd, fel nad oes achos ymdrafferthu yn eu cylch. Yr oedd codi y gofgolofn ddiweddar i Dr. Isaac Watts, yn Abney Park, yn ymddangos fel peth hollol ddiangenrhaid, ag yntau eisoes yn cael cymaint o le yn nghof pawb, o'r baban sydd "yn dechreu bloesgi ei wers gyntaf hyd at ddarllenydd goleuedig Malbranche a Locke, yr hwn na adawai natur gorfforol nac ysbrydol heb eu chwilio; yr hwn a ddysgai y gelfyddyd o ymresymu â gwyddoniaeth y ser."[2] Nid oes cystal mantais ychwaith gan y rhai a fuont yn gwrando ar y gwrthddrych a ddarlunir i gydfarnu am gywirdeb y darluniad, ag a fuasai ganddynt pe buasai meddylddrychau y cyfryw mewn argraff. Treuliai Mr. Williams o'r Wern ei oes heb ysgrifenu dim o werth sylw erioed; a gesyd hyny ni dan. anfantais i osod ei ardeb yn berffaith gywir o flaen y darllenydd. Colled fawr i'r byd oedd iddo ef fyned drwyddo heb ei fod yn llefaru eto;" nid am ryw ddeng mlynedd ar hugain, neu ddeugain mlynedd mewn oes y mae athrylith i lefaru, ond dylai gael ei thafod yn rhydd fel y clywer ei llais hyd gyfnod trancedigaeth anian. Nid ydys yn ymaflyd yn y gorchwyl o geisio darlunio athrylith Mr. Williams heb ystyried ein bod yn dueddol i farnu llefarwr cyhoeddus yn ol fel y byddo y pethau a draddodo yn taraw ein chwaeth ni, ac yn effeithio arnom yr amser y caffont eu traddodi; gan hyny, rhyfyg fyddai i ddyn, wrth ddywedyd ei farn am bregethwr hoff ganddo ef, geisio honi mai hwnw yw unig a phrif bregethwr yr oes, ac y dylai pawb ystyried ei benderfyniad ef yn oracl ar y pwnc. Onid oes gan eraill hawl i farnu yn y mater yn gystal ag yntau. Onid ydyw pregethwr, fel gwaith awdwr, yn eiddo y cyhoedd? Ac megys y gall yr hwn a bryno lyfr, ei farnu, a chyhoeddi ei feirniadaeth arno, os myn, felly gall yr hwn a wrandawo ar bregethwr adrodd ei farn am dano; ond dylai gofio mai ei farn bersonol ef fydd hyny wedi cwbl, ac fod gan ei gymydog hawl i wahaniaethu oddiwrtho os dewisa. Nid oes neb yn rhwym o gredu mai fel y bydd ef yn dywedyd y bydd y peth mewn gwirionedd, am mai efe sydd yn ei ddywedyd; ac os clywir rhyw un yn honi anffaeledigrwydd yn nghylch y mater, byddir yn chwanog i ofyn, "Pwy a'th osododd di yn farnwr?"... Nid ydyw yr ysgrifenydd heb ystyried yr anhawsder o ddarlunio athrylith Mr. Williams yn foddhaol gan bawb; er fod y gwr enwog hwnw, yn ei dyb ef, yn un o ragorolion y ddaear; canys dywed amryw eisoes fod gan amgylchiadau law fawr yn ei wneuthur ef y peth ydoedd, ac na fuasai yn gymaint pe cychwynasai allan i'r byd yn bresenol, pan y mae cymaint o ddynion o athrylith a chymhwysderau mawrion ar y maes. Nid ydys heb deimlo grym yr honiad hwn i raddau; a rhaid addef nad oedd ond ychydig o weinidogion yn bod pan dorai ef allan; ac fod y pethau a draddodent, a'u dull o'u traddodi, yn wahanol. Ychydig iawn a dramwyai yr hen bobl o gymydogaeth y "pum pwnc;" byddent yn ofalus neillduol, bob oedfa, am i bawb wybod mai Calfiniaid oeddynt; canys yr oedd y Wesleyaid wedi dyfod i'r wlad oddeutu 1800. Yr oedd dull hen weinidogion yr Annibynwyr o draddodi yn wahanol iawn hefyd i'r hyn oedd yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd ar y pryd, y rhai oeddynt yn meddu gafael cryf yn meddyliau y werin. Addefid fod gweinidogion yr Annibynwyr yn gadarn yn yr Ysgrythyrau, ac yn iach yn y ffydd; ond nid oedd dim swyn yn eu dawn na'u dull o bregethu; go sychlyd oeddynt. Ychydig a dramwyent ar hyd y wlad hefyd, nac a newidient â'u gilydd ar y Sabbathau. Byddai y gweinidog Annibynol fel offeiriad yn ei blwyf, a'r bobl o'i gwmpas yn cael newid dawn amryw weithiau yn yr wythnos. Gan nad oedd corff y gwrandawyr yn darllen nac yn meddwl ond ychydig drostynt eu hunain, yr oedd newid dawn bob Sabbath yn cyd-daraw â'u chwaeth yn rhagorol, yn enwedig os byddai digon o gloch yn llais y pregethwr. Nid oedd dim fel hyn i'w gael gyda'r Annibynwyr yn y Gogledd, ond cymerai Mr. Williams ddull gwahanol i'w hen frodyr, ac elai allan i'r prif—ffyrdd a'r caeau; tramwyai y wlad ar ei hyd, ac ar ei lled; pregethai nes synu cynulleidfaoedd mawrion. Bu yr ysgrifenydd yn gofyn iddo pan ar ei daith yn Nghaernarfon ychydig cyn ei farwolaeth, beth fyddai yr hen bobl yn ddywedyd wrtho wrth weled y byd yn myned ar ei ol? "O," ebai yntau dan wenu, "byddent yn dywedyd fy mod i o ngho'." Er yr holl fanteision a grybwyllwyd, y mae'n rhaid addef fod Mr. Williams yn ddyn o athrylith cyn y daethai i'r peth y daeth, o herwydd yr oedd efe megys ar ei ben ei hun yn nghanol yr hen bobl, heb dderbyn ond y gwrthwynebiad penaf oddiwrthynt. Y mae gan bregethwyr ieuainc yr oes hon gynlluniau o'u blaenau, a phob anogaeth i fod yn ddoniol; a pherchir pob dyn ieuanc doniol a theilwng. Yr oedd yr ysgrifenydd yn gynefin â dawn Mr. Williams er pan oedd yn blentyn, ac yn ol yr argraff a adawodd ei athrylith fawr arno o'r pryd hwnw hyd ddiwedd ei oes, y ceisia efe ei ddarlunio yn y llinellau canlynol, ond nid ydyw yn dysgwyl i neb gymeryd ei farn ef fel oracl, bydded i bob un a glywodd Williams o'r Wern farnu drosto ei hun. Y mae pob dyn cyhoeddus yn gyffredin, yn rhagori mewn rhyw beth, ac ni ddysgwylir i holl ragoriaethau y ddaear gyfarfod yn yr un lle. Ond y mae ambell un yn rhagori mewn mwy o bethau na'r llall. Y mae un yn ysgrifenydd da, ond yn areithiwr gwael; un arall yn areithiwr hyawdl, ond yn ysgrifenydd trwsgl; un yn feddyliwr cryf, ond yn adroddwr gwanllyd; un arall yn adroddwr hylithr, ond heb byth ddywedyd dim byd i daraw clust na chydwybod. Anfynych y ceir llawer o wreiddioldeb, meddyliau cryfion, iaith rymus, llais dymunol, agwedd ddillyn, chwaeth dda, a llithrigrwydd dawn yn yr un person. Y mae y naill beth yn gorfod gwneud i fyny am y diffyg o'r llall. Ond y dyn y cyfarfyddo ynddo fwyaf o tagorion gyda'u gilydd yw y tebycaf i fod o fwyaf o ddefnydd cyffredinol na'r hwn a ragoro mewn un peth neu ddau. Nid ydyw dyn o feddwl mawr a chryf heb dafod hylithr, ond mawr iddo ei hun yn unig; y mae fel masnachwr y byddo ganddo gyflawnder o'r defnyddiau mwyaf gwerthfawr, ond heb ffenestr na drws ar ei fasnachdy; nid ellir cael golwg ar ei nwyddau ond drwy yspïeindwll (peep hole). Nid all amryw ond cyrhaedd un gyneddf yn unig o'r enaid, sef y deall, neu y serch; bydd y lleill yn segur, ac bob amser allan o waith, ond bydd pregethwyr sych y deall yn ddig iawn am na baent hwythau yn gallu gwneud mwy gorchest na hyn, a chan nad allant, collfarnant bob un a allo wneud hyny. Dywedai y Parch. Robert Hall mewn cyfeillach, am Barrow fel y canlyn:—"Pregethwr anmherffaith iawn ydoedd. bregethau yn ddarlithiau rhagorol ar anianddysg foesol, ond gallesid eu gwrando gan ddyn am flynyddau heb iddo gael un golwg ar ei gyflwr ei hun fel pechadur, na golygiadau eang ar brif athrawiaethau yr efengyl. Yr oedd ei holl apeliadau yn cael eu cyfeirio at un gyneddf i'r enaid, nid ydoedd efe ond yn anerch y deall yn unig, yr ydoedd yn gadael y serchiadau heb eu cyffwrdd. Dyma yr achos fod ei waith yn cael ei ddarllen gyda'r fath ddiflasdod poenus." Dywedai rhyw un yn y gyfeillach ei fod yn llwyr waghau (exhaust) pob testun a gymerai mewn llaw. "Ydoedd," ebai Mr. Hall, "Ac yn llwyr waghau ei wrandawyr hefyd ar yr un pryd." Gan mai goleuo y meddwl, ac effeithio ar y galon yw rhai o brif anhebgorion pregethu, dylai materion a drinir, a'r dull a gymerir, fod yn dueddol i wneud hyny. Gwaith ofer fyddai treulio amser i ddywedyd llawer am nerth a rhagoroldeb llong, pe byddai gymaint a'r Great Britain, os yn ngodre y Wyddfa neu y Gader Idris y byddai wedi ei hadeiladu, oblegid ni byddai na gwynt nag agerdd i'w symud oddiyno byth. Yn ei gwaith y mae rhagoroldeb pob llong yn gynwysedig. Ni fyddai dyn o feddwl arddansoddawl Jonathan Edwards, o ddyfnder Dr. Paley, o alluoedd ymresymiadol Andrew Thomson, ac o helaeth rwydd a chylchedd meddwl John Howe, yn bregethwr o fawr o fudd heb gyfran o esmwythder a nerth ieithyddol, darfelyddiad cyfoethog ac eglurhaol, a melusder deniadol yn ei lais. Y mae y llais mwyn, tyner, a chrynedig yn effeithiol; ond os bydd yn cael ei godi yn rhy uchel ac undonol (monotonous), cyll ei effaith ar y glust wrth fynych ddisgyn arni. Y mae y natur ddynol yn hoffi amrywiaeth yn mhob peth; gwell ganddi hi drwst y daran, rhuthriad crynedig y rhaiadr, swn cydgordiol yr afon ddofn, miwsig rhygnog ffrwd y mynydd-dir, neu ymhwrdd y dòn yn erbyn safn yr ogof, neu y clogwyn daneddog na pharhaol ddyferiad mêl o'r graig.[3] Nid lle i ddyn drin llawer ar ei offer gweithio yw y pulpud. Yn y llyfrgell y mae y rhai hyny i gael eu hogi a'u harfer. Gwaith gorphenol a ddylai efe ddangos i'r lluaws. Diflasdod fyddai gorfod gwrando ar y darluniwr medrusaf yn darlithio ar natur y llian i dynu y darlun arno, lliw y paent, nifer y pwynteli, maint y pallet, ac uchder yr easel; gwell fyddai genym weled y darlun na gwrando arno, ac na'i weled yn ei offer. Y mae rhai pregethwyr fel pe byddent yn y llyfrgell yn barhaus, a'r gwaith byth heb ei orphen. Y maent yn meddu agos bob cymhwysder ond y cymhwysder angenrheidiol anhebgorol o fedru y ffordd at y gydwybod. Gwelir hwy yn fawr eu llafur yn ceisio dringo y bryn, ond nid ydynt byth yn gallu cyrhaedd ei gopa, nac yn gallu canfod beth sydd yr ochr arall iddo. Yr oedd gwrthddrych ein sylw ni yn un o'r rhai y cydgyfarfyddodd ynddo fwyaf o anhebgorion pregethwr poblogaidd a buddiol o neb yn ei oes. Un o'r dynion hyny a gyfodir megys bob rhyw gan' mlynedd ydoedd Mr. Williams o'r Wern. Yr oedd yn annichonadwy cynefino â'i ddawn ef, oblegid yr oedd ganddo y fath gyflawnder o feddyliau, ac yr oedd y fath newydd-deb yn ei ddull yn eu traddodi. Nid o'r un llanerch y byddai efe yn edrych ar ei wrthddrychau bob amser, yr oedd yn rhaid iddo gael golwg arnynt o bob pwynt.[4]
Ni waeth i rai pregethwyr beth fyddo y testun, yr un fydd y bregeth, a'u clywed hwy unwaith yw eu clywed hwy am byth, ond nid felly Mr. Williams. Mae golygfeydd gwahanol i'w cael ar y Wyddfa o wahanol fanau; ac y mae yn anhawdd eu darlunio yn deg heb fynegu pa sut y mae yn edrych o'r gwahanol barthau y darlunir hi o honynt. un rhan a'i chopa yn weladwy o'r ystafell lle yr ysgrifenir y llinellau hyn, eithr nid allai yr ysgrifenydd ond rho'i darluniad salw o honi oddiyma; ond pe yr elai ar gylchdaith drwy Gapel Curig, Beddgelert, a thrwy Lanberis yn ol, byddai ganddo lawer mwy i'w ddywedyd am dani. Yr oedd Mr. Williams yn Yr oedd yn wr fawr o ran ei alluoedd naturiol. craff, gwelai i egwyddor pob peth a gynygid i'w sylw ar unwaith. Nid oedd neb mwy cymhwys nag ef i'w osod ar y fainc pan fyddai rhyw faterion pwysig i gael eu trafod. Y mae llawer dyn da heb feddu y cymhwysderau hyn i raddau anghyffredin. Y mae llawer dyn duwiol na wnai y tro i'w ddodi ar y fainc. Y mae llawer a ystyrir yn ddynion o alluoedd cryfion na feddant ar gymhwysderau cyffelyb iddo ef yn hyn. Wrth y llyw yr oedd ei le, yr oedd Rhagluniaeth wedi ei ddarparu i hyny; llywodraethai ef heb i neb wybod ei fod yn cymeryd arno y fath waith. Yr oedd ei gynghor a'i gyfarwyddyd o werth mawr. Nid oedd gwell dyddiwr nag ef yn yr oes. Teimlir colled fawr ar ei ol yn ein cymanfaoedd a'n cyfarfodydd o bob natur, oblegid ni adawodd ei gyffelyb ar ei ol. Nid oedd un gangen o wybodaeth fuddiol nad oedd ganddo ef ryw gyfran o honi. Gwnâi bob awdwr a ddarllenai yn eiddo iddo ei hun. Yr oedd pob peth wrth law ganddo yn feunyddiol. Yr oedd efe fel crefftwr cywrain a'i offerynau yn ei gyrhaedd. Y mae llawer gweithiwr da, ond bydd yn hir iawn yn cael hyd i'w bethau. Wrth ymdrin â phob mater hefyd, gwyddai efe yn mha le i'w adael. mae llawer un wedi cael gafael mewn meddylddrych ardderchog yn ei faeddu, ac yn ei anurddo gymaint, fel y bydd yn boen genych wrando arno; nid dywedyd pob peth a wyddai ac a allai y byddai efe, ond detholai y pethau mwyaf pwysig a nodedig yn mhob testun, dangosai y rhai hyny i'w wrandawyr, a gadawai ddigon o le i'r meddwl weithredu. Byddai ei ergyd bob amser ar y gydwybod, ni foddlonai ar oglais tymherau dynion, a gadael y gydwybod yn anargyhoeddedig, ac yn dywyll. Y mae llawer o bregethwyr na feddant un ymgais uwch na chyffwrdd â'r dymher; os gwelant ambell ddeigryn yn treiglo dros ruddiau rhai o'r gwrandawyr, byddant wedi cyrhaedd eu nôd uwchaf; ond nid felly ein cyfaill, achub y dyn o afael y perygl oedd ei amcan ef. Nid oedd neb yn ei oes wedi astudio mwy ar y natur ddynol a thwyll y galon nag ef; byddai yn arfer dweyd, "Y mae natur yn sicr o darawo natur." Yn ei bregethau, dilynai y pechadur i'w holl lochesau, cyfarfyddai â'i holl esgusion, dynoethai ei holl aunoddfaoedd, daliai ef ar bob tir, a gorfyddai fyned yn fud. Byddai cynulleidfaoedd yn plygu fel coedwig o flaen gwynt nerthol yn wyneb dylanwad ei resymiadau anwrthwynebol. Yr oedd ef yn athronydd gwych; galwai gynorthwy holl anian at ei wasanaeth, ac yr oedd pob peth fel yn ufuddhau iddo; nid oedd dim mewn natur na chelfyddyd nad allai efe gael rhyw help oddiwrthynt wrth ymdrin à chyflwr pechadur. Anaml y sylwai ar unrhyw wrthddrych nag ar unrhyw achos, heb dynu rhyw addysg oddiwrtho, Yr oedd ei lygaid yn agored yn mhob man, ac yn mhob amgylchiad. Wrth rodio yn y maes, wrth deithio ar y môr, wrth gerdded heolydd dinasoedd, ac wrth gyfeillachu yn yr ystafell, sylwedydd ydoedd ef, yr oedd yn cymeryd rhywbeth i mewn yn wastadol. Yr oedd natur a chelfyddyd yn gweini fel llaw forwynion iddo yn mha le bynag y byddai. Un gadwyn fawr oedd ei oes; nid ellir dweyd fod nemawr oriau segur wedi myned dros ei ben erioed, yr oedd efe yn wastad mewn gwaith, casglu gwybodaeth oedd ei brif ymdrech, a hyny yn enwedig yn llyfr Duw. Yr oedd efe fel meistr y gynulleidfa yma; plymio i ddyfnderoedd hwn oedd y dyben wrth sylwi ar bob peth arall, yr oedd ei holl wybodaeth mewn pethau eraill yn is—wasanaethgar i hyn. Ni adawodd egwyddor heb ei chyffwrdd, na changen o athrawiaeth heb ei thrafod; ni chymerai bethau mawrion y Beibl yn ganiataol, ond mynai farnu drosto ei hun; chwiliodd y prif awdwyr adnabyddus, tramwyai feusydd helaeth prif dduwinyddion yr oesau, a chloddiai fŵn pur o honynt i'w wrandawyr, a deuai allan mor newydd oddiwrtho a phe na buasai neb erioed wedi meddwl na dywedyd felly o'r blaen. Nid ydoedd byth yn ymddangos yn yr areithfa fel pe buasai llwyth mawr amrosgo o dduwinyddion ar ei gefn, ac yntau yn cael ei lethu dan y baich, ond ymddangosai yn nghanol y cyfryw yn ymadroddwr ffraethlym, a hwythau fel cedyrn Dafydd yn ei gefnogi. Yr oedd ei dafod fel pin ysgrifenydd buan. Y mae amryw a dawn rhwydd ganddynt i lefaru, ond ni fydd dim o werth ganddynt yn yr hyn a leferir. Clywir llawer a ystyrir yn ddawnus gan y werin yn llefaru, efallai am haner awr neu awr, heb ddywedyd dim i dynu sylw y gwrandawyr gymaint ag unwaith......ond yn hollol i'r gwrthwyneb i hyn yr oedd Mr. Williams; tynai ef sylw y gynulleidfa gyda'i fod yn dechreu llefaru, ac ni fyddai neb na theimlai o dan ei athrawiaeth ef—yr athronydd yn gystal a'r hen wraig ddwl; byddai yr olwg arno hefyd, mor gysurus nes y byddai yn hyfrydwch i'r gynulleidfa edrych arno yn trin ei faterion mor naturiol ac mor hwylus. Yr oedd cymaint o ragor rhyngddo ef o ran dawn a llawer a ystyrir yn boblogaidd, ag sydd rhwng y cerbyd ager ar ffordd Birmingham, a char—llusg ar un o fynyddoedd Eryri. Y mae rhai pregethwyr poblogaidd a'u holl ragoroldeb yn eu dull o draddodi yn unig; pan ddarfyddont draddodi, derfydd yr hyfrydwch; y maent fel pe byddai rhyw swyn yn ysgogiad y llaw, ac yn null y wynebpryd; difyrir y gynulleidfa dan yr athrawiaeth, ond pan eir i geisio galw i gof pa beth a ddywedwyd, bydd y cwbl wedi myned i golli. Gallai dyn feddwl ei fod ef yn dal y rhan fwyaf tra yn yr oedfa, ond wrth fyned i adolygu, diflana fel niwl, a phe yr eid i ddarllen pregethau a draddodir dan ddylanwadau fel hyn, ni cheid un math o adeiladaeth ynddynt, nid oes ar y papyr ond y gelain noeth, y mae y bywyd wedi myned i gerdded; ond nid felly Mr. Williams, y pethau a draddodai ef oeddynt yn argraffu ar y meddwl fel nad oedd dim modd eu dileu. Nid ydys yn amheu pe byddai modd casglu ei gynulleidfaoedd ef i'r un lle, na cheid holl bethau rhagorol Mr. Williams yn nghyd rhwng pawb, nid oedd neb gwrandawr na ddaliai ar ryw ranau o'i bregethau, a'r achos o hyny oedd, am ei fod yn ymdrin mwy âg egwyddorion pethau, ac yn trin y rhai hyny yn oleuach na neb yn ei oes. Nid oedd dim gorfodaeth yn ei ddull ef o draddodi. ffordd sy gan lawer i ddwyn y bobl i deimlo yw eu gorchfygu drwy rym llais, a nerth llifeiriant geiriau, ond gweithio yn raddol y byddai ef, ac yn syml—pob peth yn naturiol, nes y byddai dylanwad ei fater drwy ei hyawdledd rhagorol ef, yn disgyn fel gwlith, a'r dagrau tryloywon yn llithro dros bob grudd. Ni flinai efe byth y gynulleidfa â hirfeithder a sychder diflas; ystyriai hwnw yn ergyd rhy ddrud y costid dal y gwrandawyr am awr neu awr a haner i ddysgwyl am dano; byddai efe yn ngafael â'r bobl yn ddiatreg, ac yn dywedyd i bwrpas wrthynt. Ni chaent amser i edrych o'u deutu, nac i feddwl mai wrth ryw rai eraill y byddai efe yn llefaru, ond byddai pob un drosto ei hun yn sylwi am ei fywyd ar yr hyn a leferid. Y mae llawer pregethwr y cewch dri chwarter awr o amser y bregeth ganddo i brynu a gwerthu, planu ac adeiladu, ac i deithio môr a thir, ond nid felly Mr. Williams. Yr oedd eglurder ei ddawn yn nodedig hefyd. Ni fyddai byth yn ymwisgo mewn cymylau, nac yn dwyn ei wrandawyr i niwl a thywyllwch. Ni ddywedid wrth ddyfod o'i wrando ef, y mae efe yn bregethwr dwfn iawn, ond canmolid ef gan bawb am ei eglurder. Yn ymyl ei wrandawyr yr oedd efe o hyd; pregethu ar yr Iawn, ac ar Gyfiawnhad pechadur, fel y gallai yr hen wraig ei ddeall yr ydoedd. Os soniai rywbeth am allu a doethineb Duw fel crewr y byd, nid pensyfrdanu dynion drwy ddywedyd wrthynt am faint Jupiter, Mercury, a Sadwrn yr ydoedd, a'u byddaru drwy son am eu troadau a'u pellder oddiwrth eu gilydd, &c., ond yr ydoedd fel math o delescope—tynai y pethau hyn i ymyl y dyn, gael iddo gael cyfleusdra i farnu drosto ei hun, a rhyfeddu doethineb a gallu Duw yn y cwbl. Nid oes dim haws na dallu y werin anwybodus os arferir geiriau swnfawr, ac os sonir digon am bethau uwchlaw eu hamgyffred, fel nad allant ffurfio un math o farn am danynt, ond eu goleuo yr ydoedd ef, gwneud athronydd o'r bugail ar lethr Cader Idris, a duwinydd o'r cloddiwr yn ngodre y Wyddfa. Pregethu etholedigaeth nes yr oedd pawb yn ei chofleidio, a rhwymedigaeth foesol nes y gorfyddai waeddi allan, "Och fi, darfu am danaf."
Yr oedd ei gymhariaethau hefyd yn naturiol ac yn agos, llewyrchent ar feddwl y gwrandawyr mewn amrantiad. Gwael yw y gymhariaeth y bydd eisieu ei hesbonio; ac os dygai ffraethair i fewn i daflu goleuni ar rywbeth, nid fel ffwl y ffair (Merry Andrew) y gwnai hyny i gynhyrfu uchel-chwerthiniad ynfyd a llygredig; ei ddywediad bob amser am ffraethair oedd y dy esid ei arfer fel halen. gyda bwyd. Y mae ambell un yn boblogaidd yn mysg y werin anwybodus ar y cyfrif ei fod yn ddigrif, ac yn dywedyd hen storïon i beri chwerthin; ond ffieiddir y cyfryw gan y duwiol a'r dysgedig. Nid lle i gellwair yw y pulpud, sobrwydd a difrifoldeb oedd yn nglŷn â phob peth o eiddo ein cyfaill ymadawedig. Arferai eiriau lled arw weithiau, yr hyn a fuasai yn anfaddeuadwy mewn eraill, ond yr oedd ganddo ef gynifer o bethau rhagorol i orbwyso hyny, fel yr oeddynt yn gweddu iddo; ond ni fyddai efe byth yn isel nac yn ddifoes. Y mae amryw yn yr areithfa gyda phob enwad mor isel ac mor ddifoes fel y gallai y gwrandawyr dybio eu bod hwy wedi preswylio yn nghymdeithas eurychod a 'sgubwyr mwgdyllau ar hyd eu hoes; bydd y rhan fwyaf tyner o'r cynulleidfaoedd yn gwrido wrth eu gwrando, a phob dyn o chwaeth yn ei ffieiddio; ond gwelid y gwr boneddig a'r dyn a chwaeth ynddo ef yn nghanol yr iaith fwyaf bratiog a arferai, byddai ei feddylddrychau yn gywir ac yn darawiadol. Y mae llawer o ddynion o ddoniau hyawdl, a'u doniau yn drech na'u barn; cymerant eu cipio ganddynt i siglenydd a chorsydd nes y byddant wedi glynu yno, ac yn methu gwybod y ffordd i droi yn ol; ond nid felly Mr. Williams. Nid oedd neb cywirach o ran ei farn nag ef; yr oedd yn fwy felly, ysgatfydd, nag odid bregethwr poblogaidd yn ei oes. Gochelai ormod o wylltineb dychymygol ar un ochr, a phendantrwydd a sicrwydd anffaeledig o'r ochr arall; ymdrechai hwylio ei gerddediad ar hyd canol llwybr barn. Yr oedd ganddo ddawn ehediadol rhagorol hefyd; yr oedd yn gynefin iawn, gallesid tybio, â phreswylwyr y fro anfarwol. Dywediad un gwr am dano oedd, wedi ei glywed yn pregethu am y "Wlad well," ei fod wedi son cymaint am Abraham, Isaac, Jacob, &c., nes yr oedd ef yn meddwl ei hun wedi dyfod yn eithaf cydnabyddus â hwynt. Yr oedd ei ddarluniadau bob amser yn naturiol ac yn nerthol; yr oedd yn fath o Raphael Cymreig ac yn Filton Ni anghofir byth, mae yn ddiamheuol, ei bregeth ragorol ar Fawredd Duw gan y canoedd a'r miloedd a'i clywsant. Yr oedd hono y darluniad mwyaf ardderchog o ddim a glywyd yn yr iaith. Y mae ei bregeth ar y "Wlad well" hefyd yn meddyliau miloedd; tybiodd llawer, wrth ei glywed yn traddodi hono yn Nghymanfa Llanerchymedd, eu bod hwy wedi eu cipio i dalaeth uwchlaw y ddaear hon, yr oeddynt yn debyg o ran eu dymuniad i Pedr ar fynydd y gweddnewidiad, pan ddywedai, "Gwnawn yma dair pabell." Ei bregeth ar Barodrwydd Duw i faddeu oedd yn ddigon effeithiol i doddi y gareg; ac ugeiniau eraill a allesid eu crybwyll. Nid ydyw Cymru eto wedi dangos rhagorach dyn yn mhob peth na Mr. Williams. Dichon y gellid cael rhesymydd cadarnach nag ef mewn un, duwinydd mwy dyfn—dreiddiol ac arddansoddawl (metaphysical) nag ef yn y llall, gwell dychymygwr nag ef yn y trydydd, a threfnusach areithiwr nag ef yn pedwerydd; ond gallai na fyddai ond un o'r rhagoriaethau hyn wedi dyfod i ran yr un person; ond yr oedd ef wedi cyrhaedd cymaint o wybodaeth a medrusrwydd yn yr holl bethau a grybwyllwyd ag a'i gwnaeth yn bregethwr goleu, effeithiol, defnyddiol, a llwyddianus. Yr oedd y pethau hyn i raddau anghyffredin hefyd ynddo. Pan eir i dynu y llinell rhwng y naill a'r llall, y mae gormod o duedd ynom i benodi ar ryw un cymhwysder mewn pregethwr, ac i'w gyhoeddi yn flaenaf o bawb ar y cyfrif hwnw yn unig; ond mwy teg fyddai chwilio hyd a lled, uchder a dyfnder y cyfryw, ac edrych pa faint ydyw o fesur sylweddol. Gall dyn fod yn rhesymwr cryf heb ddim yn neillduol ynddo i dynu sylw y cyffredin. Nid cynulleidfaoedd o ymresymwyr dysgedig sydd genym yn Nghymru. Gall arall fod yn un arddansoddol, a byddai yn briodol iddo, efallai, arfer ei fedrusrwydd yn hyn, pe caffai gynulleidfaoedd o alluoedd Edwards o'r America, John Howe, Robert Hall, a Dr. Wardlaw, i'w wrando. Dichon un arall fod yn gryf ac yn fywiog o ran ei ddychymyg, ond os na fydd ganddo rywbeth heblaw hyny ni phorthir dim llawer ar ei gynulleidfa â gwybodaeth ac â deall. Nid all dynion fyw ar flodeu, ebai Robert Hall. Gall dyn fod yn areithiwr trefnus, celfyddgar, a manwl, yr hyn sydd ganmoladwy; ond efallai pe byddai y pethau a ddywedid wedi eu dodi ar bapyr y byddent mor anhrefnus a'r tryblith ei hun. Y mae tramynychiad o'r un peth yn cael ei ddywedyd gan areithwyr o'r fath yma; sef, dynion nad ydynt wedi ymgeisio at ddim ond trefnusrwydd ymddangosiadol yn eu hareithiau. Ychydig o feddylddrychau a geir ganddynt, a'r ychydig hyny yn rhai cyffredin a gwael yn fynych, ond fel y byddont hwy yn eu gweithio i fyny â'u dawn, eu hamneidiau, ac âg ystumiau y corff. Nid ydoedd Mr. Williams wedi mabwysiadu unrhyw ffurf i'w dilyn wrth draddodi o ran dull; nid oedd unrhyw ragfwriad i'w weled yn ei ddullwedd; nid oedd ganddo unrhyw arwyddion ffordd yn amlwg i'r gynulleidfa, na chanllawiau i gerdded rhyngddynt, ond yr oedd pob peth yn naturiol. Yr oedd fel llong yn nghanol y môr a f'ai yn cymeryd ei hysgogi gan y gwynt a'r llanw. Pan elai i ddywedyd am bechod a'i ddrygedd, yr oedd rhyw awdurdod anarferol yn cydfyned â'i eiriau, yr oedd oll yn gyffro santaidd; ond ei destun hoff oedd Dyoddefiadau y Cyfryngwr, dyna y lle y byddai gartref. Calfaria oedd y man y dymunai sefyll arno i gyhoeddi gwaredigaeth i fyd o golledigion, ond os äi i Sinai, yr oedd y mynydd yn mygu, taranau yn rhuo, mellt yn llewyrchu, ac yntau oddiar ei gopa, fel mab y daran, yn cyhoeddi y melldithion uwchben yr anwir, nes y byddai y pechaduriaid caletaf yn crynu; ond pan äi i gopa y bryn lle yr hoeliwyd ysgrifenlaw yr ordeiniadau, i son am bigau y goron ddrain, llymder yr hoelion, y tywyllwch, y ddaeargryn, dolefiadau y Cyfryngwr, "A'r gwaed yn llifo ar y groes," byddai pawb wedi cydymollwng mewn ffrydiau o ddagrau. Rhoddai efe foddlonrwydd cyffredinol i bawb, yr oedd ganddo rywbeth i bob math a chyflwr. Caffai yr athronydd a'r diddysg wledda ar yr un bwrdd ganddo ef, oblegid yr oedd ganddo y fath gyflawnder o amrywiaeth. Un mawr ydoedd mewn haelfrydedd; nid oedd byth am orfodogi neb i fod o'r un farn ag ef mewn athrawiaeth na dim arall. Casai y golygiadau cul a rhagfarnllyd goleddir gan lawer o broffeswyr o wahanol enwadau am eu gilydd, a gwnaeth ei oreu drwy ei oes i ladd pob teimladau annymunol felly. Rhoddai ddeheulaw cymdeithas i bawb a welai am wneud daioni i eneidiau pechaduriaid, gan nad i ba enwad y perthynent, a phregethai Iesu Grist wedi ei groeshoelio yn mhob addoldy y caffai efe ei ddrws yn agored i'w dderbyn. Y mae rhai yn ei hystyried yn beth mawr a phwysig eu cael hwy, neu yr enwad y perthynant iddo, i gydnabod proffeswyr o enwadau eraill yn saint, fel pe byddai iechydwriaeth eneidiau y cyfryw yn dibynu ar y meddyliau fydd ganddynt hwy am danynt, ond y mae y cyfryw o ysbryd gwahanol iawn i'r diweddar Mr. Williams o'r Wern. Dangosodd ef ei hun yn nghychwyniad ei weinidogaeth yn wr rhydd, caredig, o'r nifer hyny sydd yn tybied eu gilydd yn well na hwy eu hunain. Pan ddaeth llwyrymataliaeth i Gymru, bu ef yn gymedrol iawn yn ei nodiadau. Yr oedd pob peth a ddywedai yn tueddu yn hytrach i enill dynion at yr egwyddor nag i'w tarfu oddiwrthi. Yr oedd am i'r egwyddor lwyr—ymataliol sefyll ar ei sylfaen ei hun, ac nid ei chymysgu â'r efengyl; nid oedd yn foddlawn ei gwneuthur yn amod derbyniad i'r eglwys, nag yn gymhwysder (qualification) i'r areithfa. Dywedai wrth gyfaill oddeutu mis cyn marw fel hyn:—"Nid oes genyf fawr o feddwl am y pregethwyr oeddynt yn eu swydd, ac yn meddwi, fod dirwest wedi rhoi principle newydd iddynt; ond dynion ag oeddynt yn feddwon, ac a aethant yn ddirwestwyr, a ddaethant yn broffeswyr, y mae genym gymaint o feddwl am y cyfryw a neb." Ni welid byth mo hono yn arfer un math o dwyll na hoced i geisio dyrchafu ei hun. Nid ei hunan oedd ganddo mewn golwg, ond gogoniant Duw a lles pechadur. Yr oedd yn foddlawn i ddwyn ei holl gofnodau goruwchafiaeth (trophies) at droed y groes, i gysegru pob dawn a dylanwad a feddai at ogoniant ei Feistr. Yr oedd yn hawdd ei drin. Y mae ambell hen bregethwr na chyrhaeddodd erioed y filfed ran o ragoriaethau na defnyddioldeb Mr. Williams, y byddai yn haws i chwi gael ymddyddan â'r Tywysog Albert nag ag ef. Y mae wedi ei chwythu i fyny â meddyliau mawr am dano ei hun, a bydd raid i bawb nesâu i'w wyddfod fel y bydd caethion yn myned o flaen eu gormeswyr; ond fel plant yn nesâu at eu tad y nesâi pregethwyr ieuainc at Mr. Williams. Byddai fel un o honynt, pob gwahaniaeth wedi ei golli, i raddau mawr, ac yntau yn gwneuthur ei hun yn hyfryd yn y gyfeillach. Nid oedd yr holl godiad a'r dyrchafiad oedd yn gael wedi effeithio arno er niwed, ond yr oedd efe yn gydostyngedig â'r rhai iselradd. Nid oedd neb yn fwy rhydd nag ef ychwaith oddiwrth goeg—ysgolheigiaeth. Yr oedd efe yn fwy dysgedig o lawer nag y cymerodd arno fod erioed; gallesid meddwl wrth edrych ar ei ddiofalwch gyda'r Gymraeg a'r Saesonaeg, nad oedd ei wybodaeth yn hyn ond canolig; ond yr oedd y neb a dybiai hyny yn llafurio dan gamgymeriad; nid arwyddion dyn annysgedig oedd ar ei bregethau; ei feddylddrychau ef, mae yn wir, oedd fwyaf yn y golwg; ychydig a ymdrafferthai yn nghylch y dull o'u gosod allan, ond gwelid arwyddion o athrylith a dysg yn mhob peth yr ymdriniai efe ag ef. Y mae llawer, os byddant wedi cyrhaedd gradd o fedrusrwydd i osod geiriau wrth eu gilydd yn lled reolaidd ac ysgolheigaidd yn Gymraeg neu Saesonaeg, yn meddwl fod y gwaith ar ben, pe byddai y darnau a gyfansoddant mor amddifad o athrylith ag yw copa y Wyddfa; ond nid ymdrafferthai Mr. Williams gymaint gyda'r wisg; mynai ef egwyddor i'r golwg; y mae yn wir y gallasai efe dacluso mwy ar amryw o'i ymadroddion, ond gwell oedd ganddo gloddio mŵn i'w wrandawyr, er ei fod yn lled arw weithiau, na cheisio eu difyru âg ymddangosiad o beth. Nid ydoedd efe yn ymdrafferthu byth i gael gan y werin dybied ei fod yn dduwiolach nag ydoedd mewn gwirionedd; yr oedd yn berffaith rydd oddiwrth rodres a hoced. Nid ymadawai âg un teulu, lle y dygwyddai letya, heb fod yn eu meddyliau ryw barch anarferol tuag ato. Ystyrid ef gan bawb yn ddyn didwyll, a'i ymgaisam wneuthur llesad. Yr oedd pwys yn ei gymeriad, pa le bynag y byddai, fel nad oedd angen arno am ffug ymddangosiadau. Trwy ei fod yn wr o dymherau siriol a rhydd, prin yr ystyrid ef yn dduwiol gan rai rhagfarnllyd o wahanol farn iddo gynt; byddent yn dywedyd ei fod ef "yn pregethu yn rhy iach o ran ei ysbryd; ac mai dyn heb wybod dim am ddrwg pechod ydoedd." Caffai wrandawiad mawr y pryd hwnw; ond yr oedd y bobl graff hyny sydd yn gwybod mor sicr pwy sydd yn dduwiol, a phwy sydd heb fod, yn foddlawn iddo yntau gael bod yn dduwiol er ys blynyddau bellach. Bu ei godiad yn foddion i roi ail fywyd yn achos yr Annibynwyr yn Ngogledd Cymru. Adfywiwyd yr hen eglwysi a phlanwyd eglwysi newyddion. Llafuriodd yn ngwyneb digalondid; a goddefai lawer gair bach oddiwrth amryw o'i hen frodyr, hyd nes o'r diwedd y gorchfygwyd eu rhagfarn trwy lafur di-ildio. Y peth tebycaf i fai ynddo oedd treulio cymaint o'i feddianau bydol i gynorthwyo eglwysi yn eu diogi a'u diffrwythder. Y mae gwneud hyn yn tueddu yn ddrwg bob amser, yn mhob man, lle y byddo dynion yn alluog i wneud rhywbeth at yr achos. Y mae pobl mor wirionllyd ac mor gybyddlyd mewn eglwysi, nes yr ystyrient "hi yn fraint" i ddyn gael talu o'i boced ei hun am gael pregethu iddynt. Y mae yn debygol nad ydoedd Rhagluniaeth wedi ei fwriadu ef i fod yn yr un fan am ei oes, ond yr oedd i fod yn ddefnyddiol yn gyffredinol. Y mae anhawsder mawr ar ffordd dynion fyddo yn teithio llawer i lafurio llawer; y maent, yn gyffredin, yn byw ar hen bethau, ac yn myned dros y pethau hyny yn barhaus; gwyddir am rai pregethwyr poblogaidd yn traddodi yr un bregeth ar ddeuddeg o wahanol destynau, yn yr un addoldai, ac i'r un pobl! ond nid felly y byddai Mr. Williams. Gan nad pa mor fynych y deuai efe i'r un fan, byddai ganddo bregeth newydd bob amser, a meddylid wrth ei wrando na lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn. Y mae yn ddiamheuol fod canoedd o wrandawyr a saethau a daflwyd oddiar ei fwa ef yn eu cydwybodau hyd y dydd hwn. Llafuriai lawer i geisio dangos yr angenrheidrwydd o grefydd deuluaidd, ac ni fu ei lafur yn ofer. Cafodd weled ei blant ei hun gyda chrefydd, a bu ei gynghorion yn fendith i filoedd. Syrthiodd i'r bedd yn nghanol ei ddefnyddioldeb. Yr oedd efe yn canlyn, neu yn hytrach yn blaenu yr oes yn ei gwelliantau ac yn ei chyfnewidiadau. Ni bu erioed yn fwy defnyddiol nag oedd yn ei ddyddiau diweddaf. Yr oedd ei arfogaeth am dano. Ni bu cwmwl ar ei gymeriad. Ni wnaeth aberth erioed ar egwyddor i brynu ffafr neb, nag i enill gwên ei uwchafiaid; ond safai at ei egwyddorion dilynai y llwybr oedd Rhagluniaeth wedi dori iddo, ac fel Ymneillduwr cydwybodol, yn ddiwyrni hyd y diwedd. Y mae llawer un defnyddiol ar y maes na fyddai y golled am dano ond lleol, ond teimla Cymru oll ar ei ol ef. Efe oedd prif golofn ein Cymanfaoedd am flynyddau; ystyrid y cyfarfodydd megys drosodd wedi y llefarai ef, oblegid yr oedd ynddo gynifer o ragoriaethau wedi cydymgyfarfod. Yr oedd ei boblogrwydd ef o'r iawn ryw; canys yr oedd felly yn nghyfrif prif wrandawyr yr efengyl yn Nghymru, sef y rhai mwyaf dysgedig a gwybodus o'r cynulleidfaoedd, a pherchid ef gan yr anwybodus sydd yn meddwl fod poblogrwydd dyn yn gynwysedig mewn llais ac agwedd gorfforol yn unig. Yr oedd ynddo rywbeth ar gyfer pob gradd ac oedran; ac y mae ei goffadwriaeth yn anwyl gan bob graddau, a chan dduwiolion o bob enwadau." Diangenrhaid yw unrhyw esgusawd o'r eiddom ni, yn rheswm dros ein gwaith yn adgyhoeddi yr ysgrif hon o eiddo beirniad mor graff, ac ysgrifenydd mor fedrus ag ydoedd Caledfryn.