Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern/Pregeth I

Nodweddau Pregethwrol Ein Gwrthddrych, Gan Dri o Dystion Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern

gan David Samuel Jones

Pregeth II

PENNOD XX.

PREGETHAU.


PREGETH I.

"UNOLIAETH Y DRINDOD."

"Oblegid y mae tri yn tystiolaethu yn y nef, y Tad, y Gair, a'r Ysbryd Glan: a'r tri hyn un ydynt."—1 Ioan v. 7.

MATER a gadarnheir gan chwech o dystion yn yr adnod hon a'r un ganlynol ydyw, gwirionedd yr efengyl, neu ynte yn ol geiriau Ioan yn adnod 11, fod Duw yn gwneuthur cynygiad diffuant o fywyd tragwyddol i fyd o bechaduriaid drwy gyfryngdod ei Fab. Y tyst cyntaf o wirionedd hyn yw y Tad yn ei waith yn danfon ei Fab i'r byd (Ioan iii. 10); yn ei ddryllio am ein pechodau ni, ac yn ei dderbyn drachefn i'r nef i eistedd ar ei ddeheulaw. Yr ail dyst ydyw, y Gair tragwyddol a wnaethpwyd yn gnawd, yr hwn yn ei fywyd, ei angeu, ei adgyfodiad, a'i esgyniad i'r nef, sydd yn cadarnhau yr un gwirionedd. Y trydydd tyst o hyn ydyw yr Ysbryd Glan, yr hwn sydd yn gosod ei sel wrth weinidogaeth Crist a'i apostolion. Y mae hefyd, "dri ar y ddaear" yn profi gwirionedd yr efengyl. Yn gyntaf, ei "hysbryd," sef y cyfnewidiad y mae yn ei wneuthur ar ysbrydoedd dynion pan y mae yn cael ei phriodol effaith arnynt. Y mae yn gwneuthur y llew yn addfwyn fel oen. Yr ail yw, "y dwfr," sef purdeb yr efengyl. Y mae yn taro at wraidd pob pechod. Y trydydd yw, "y gwaed," sef y tangnefedd y mae yr efengyl yn ei ddwyn i'r gydwybod drwy ddal allan Iawn addas a digonol ar gyfer y penaf o bechaduriaid. Yn y tri pheth hyn y mae y grefydd Gristionogol yn rhagori ar bob crefydd arall yn y byd, sef yn yr ysbryd rhagorol y mae yn ei fagu yn ei deiliaid yn y santeiddrwydd y mae yn ei gymhell arnynt—ac yn yr heddwch y mae yn roddi i'r gydwybod drwy waed Crist; ond i ddychwelyd at y testun, yn

I. YMDRECHAF BROFI O'R YSGRYTHYRAU DWYFOL FOD TRI O BERSONAU YN Y DUWDOD.

Wrth Berson yr wyf yn deall, un yn ymwybodol o hono ei hun, yr hwn y mae ei ddewisiad a'i weithrediadau yn eiddo iddo ei hun, ac nid i arall, neu yn ol y Drd. Paley a Wardlaw, person yw un a chyneddfau personol ganddo, megys gallu i feddwl, dewis, bwriadu, caru, casâu, &c., oblegid y mae y galluoedd hyn yn cyfansoddi Personoliaeth; a rhaid fod yr hwn sydd yn eu meddu yn Berson. [1]

1. Sonir am Dduw yn yr Ysgrythyrau santaidd yn y rhif luosog. Dywed awdwyr fod y gair Elohim, y gair Hebraeg am Dduw, yn y rhif luosog, ac yn cael ei arfer yn yr Hen Destament ddwy fil o weithiau, megys "Cofia yn awr dy greawdwyr yn nyddiau dy ieuenctyd, " Preg. xii. 1. Llawenhaed Israel yn ei wneuthurwyr," Esa. liv. 5, &c.

2. Cynwysa y Beibl lawer o ymddyddanion personol fu rhwng y personau dwyfol, megys "Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain," Gen. i. 20. "Wele y dyn sydd megys un o honom ni," Gen. iii. 22. "Deuwch, disgyn wn, a chymysgwn yno eu hiaith hwynt," Gen. xi. 7. "Pwy a anfonaf, a phwy a ä drosom ni?" Esa. vi. 8, a xli. 22, 23. "Dywedodd yr Arglwydd eistedd ar fy nheulaw," Salm cx. 1; Heb. i. 13; Gen. xix. 24, &c.

3. Y mae enwau personol yn cael eu rhoddi i bob un o'r personau dwyfol, megys Tad, Mab, a'r Ysbryd Glan. Nid enwau iddynt eu hunain ydyw y rhai hyn, i ymwahaniaethu y naill oddiwrth y llall, o herwydd y mae y personau dwyfol yn tragwyddol adnabod eu gilydd heb un enw, ond enwau i ni ydynt, wedi eu rhoddi yn Meibl pechadur i ddangos dull y personau o weithredu yn nhrefn iachawdwriaeth. Nid ydym i ddeall yr enwau, Tad, Mab, ac Ysbryd Glan, yn yr un modd a'r enwau Jehofa a Duw, &c. Y mae yr enwau hyn mor briodol i'r naill berson ag i'r llall, ac yn fynych yn cael eu priodoli i bob un o honynt, o herwydd mai enwau ydynt i ddarlunio, nid eu swyddau, ond eu natur ddwyfol, yr hon sydd yn perthyn i bob un o'r personau fel eu gilydd. Ond y mae'r enwau Tad, Mab, ac Ysbryd Glan, yn enwau personol—pob un yn perthyn i un person yn unig, ac yn dangos ei swydd yn holl weithredoedd Duw, ond yn neillduol yn iachawdwriaeth dyn, yr hon yw y benaf o ffyrdd Duw. Mae yr enw Tad yn dangos ei fod ef yn gweithredu yn ei swydd fel y person cyntaf, mai efe ydyw y ffynonell a'r achos cyntaf o holl weithredoedd y Duwdod, ei fod yn cynal, ac yn gofalu am ei deulu, gan amddiffyn iawn lywodraeth yn eu mysg, a'i fod fel Tad, yn barod i dosturio wrth ei blant afradlon. Mae yr enw Mab yn dangos fod yr ail berson o'r un natur a'r Tad, ei anwyldeb gan y Tad, ei barodrwydd i ufuddhau i ewyllys y Tad, ac mai efe oedd yr unig berson addas i fod yn Gyfryngwr rhwng Duw a dynion, ei unig Fab ydyw. Gelwir y trydydd person yn Ysbryd Glan, nid am ei fod yn lanach neu yn fwy ysbrydol ei natur na'r personau eraill, ond i ddangos mai efe yw bywyd crefydd, a phob rhinwedd yn yr enaid, fel y mae yr ysbryd naturiol yn fywyd i'r corff, ac mai glanhau a phuro pechaduriaid yw ei waith yn nhrefn iachawdwriaeth. Y mae yr enw Duw yn cael ei roddi yn amlach yn yr Ysgrythyrau i berson y Tad nag i'r personau eraill, o herwydd ei fod ef yn Dduw mewn natur ac mewn swydd. Y mae y Mab yn Dduw mewn natur, ond Cyfryngwr ydyw mewn swydd. Felly hefyd, y mae yr Ysbryd Glan yn Dduw mewn natur, ond Argyhoeddydd, Dyddanydd, a Santeiddydd ydyw mewn swydd. [2] Diddadl fod gan y personau dwyfol reswm anfeidrol deilwng o honynt eu hunain am ddewis gweithredu fel y maent yn nhrefn iachawdwriaeth, ond nid amlygwyd hyny i ni.

4. Mae y rhagenwau personol, myfi, tydi, efe, &c., yn cael eu rhoddi mor aml iddynt yn yr Ysgrythyrau, fel na raid i mi eich cyfeirio atynt.

5. Mae gweithredoedd personol yn cael eu priodoli iddynt i'r Tad garu y byd, a rhoddi ei Fab i fod yn iachawdwr i'r byd; i'r Mab ddyfod i'r byd, marw dros bechaduriaid, adgyfodi o'r bedd, eiriol ar ddeheulaw y Tad, a dyfod i farnu y byd. Fod yr Ysbryd Glan yn cael ei ddanfon

gan y Tad yn enw y Mab, i argyhoeddi, dyddanu, a thywys ei bobl i bob gwirionedd.

II. UNOLIAETH Y DRINDOD.

1. Maent yn un mewn natur. Yn gyd-ogyfuwch a chyd-dragwyddol. Er fod lluosogrwydd o bersonau dynol yn y byd, eto nid oes ond un natur ddynol. Felly, er fod tri o bersonau yn y Drindod,. nid ydynt yn dair dwyfoliaeth. Un natur ddwyfol sydd yn bod, a hono yn perthyn i bob un o'r tri pherson yn yr un modd.

2. Y maent yn un mewn gwybodaeth. Y mae pob un o'r tri yn gwybod, ac yn adnabod pob peth yn berffaith yr un modd a'u gilydd; a chan nad yw eu gwybodaeth yn gwahaniaethu mewn dim, un ydyw; eithr pe y buasai yn gwahaniaethu, yna ni buasai yn un.

3. Y maent yn un o ran agwedd calon. Maent o'r un golygiadau moesol am bob peth, ac yn berffaith o'r un syniad calon am danynt eu hunain, a phob peth a fu, y sydd, neu a ddichon fod, o ganlyniad, un ydynt.

4. Y mae yn rhaid eu bod yn un mewn ewyllys'. A chan nad ydynt yn gwahaniaethu yn eu hewyllys mewn dim, ond yn berffaith gyd-ewyllysio pob peth yr un modd; felly un ewyllys yw, er fod tri a gallu ganddynt i ewyllysio.

5. Y maent yn berffaith unol mewn arfaeth a bwriadau.

6. Y maent yn un mewn meddianau ac achos. "A'r eiddo fi oll sydd eiddo ti, a'r eiddo ti sydd eiddo fi," Ioan xvii. 10. Er fod gan y personau bendigaid wahanol swyddau yn nhrefn iachawdwriaeth, eto, un achos mawr ydyw, yn perthyn i bob un fel eu gilydd; ac y mae y naill yn gogoneddu y llall ynddo; "Y Tad, daeth yr awr, gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo dy Fab dithau," Ioan xvii. I. "Efe a'm gogonedda i, canys efe a gymer o'r eiddof, ac a'i mynega i chwi," Ioan xvi. 14.

7. Y maent yn un mewn cariad. Mae pob un o honynt yn caru y lleill yn berffaith, ac i'r un graddau ag y mae yn ei garu ei hun, a rhaid of ganlyniad mai un cariad 'yw.

8. Y maent yn un mewn gogoniant. Pan yr ydym yn anrhydeddu y Tad a'r Ysbryd Glan; ac wrth anrhydeddu yr Ysbryd Glan, yr ydym yn anrhydeddu y Tad a'r Mab; o herwydd un orsedd, ac un goron sydd gan y tri pherson. Ac os ydym yn rhoddi gogoniant i un o'r personau dwyfol, yr ydym yn rhoddi gogoniant i'r holl natur ddwyfol, o herwydd un natur ddwyfol sydd yn bod.

Crybwyllaf bellach rai o'r pethau ag y mae athrawiaeth y Drindod yn ei dysgu i ni.

(1.) Mai undeb y Drindod yw yr undeb anwylaf ac agosaf yn yr holl fydysawd. Nid yw pob undeb arall ond megys arliw gwan o hono, ac yn diffoddi fel canwyll ganol dydd wrth ei gymharu âg ef. Y mae mor hawdded i ni gynwys y Duwdod ag ydyw i ni amgyffred agosrwydd ac anwyldeb yr undeb hwn. Tragwyddol ymfwynhad y personau Dwyfol, eu hymddigrifiad a'u hymhyfrydiad y naill yn y llall oedd eu nefoedd ddiddechreu cyn bod y byd, "Yna yr oeddwn i gydag ef megys un wedi ei feithrin gydag ef, ac yr oeddwn yn hyfrydwch iddo beunydd, yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser," Diar. viii. 30.

(2.) Mai o undeb y Drindod y mae pob undeb rhinweddol yn tarddu. Ymhyfrydodd y Personau Dwyfol gymaint yn eu gilydd, nes y dywedant,

Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain," Gen. i. 26.

Gen. i. 26. Gwnawn ef yn greadur cymdeithasgar a chymhwysderau ganddo i garu ac ymhyfrydu ynom ni, ac yn ei gyd-readuriaid.

(3.) Mai undeb y Drindod yw y cynllun gogoneddus yn ol pa un y mae yr Ysbryd Glan yn dwyn yn mlaen undeb yr eglwys, "Fel y byddont oll yn un megys yr wyt ti y Tad ynof fi, a minau ynot ti, fel y byddont hwythau un ynom ni," Ioan xvii.

Dyma y cynllun mawr wrth ba un y mae yr eglwys i gael ei pherffeithio yn un, Ioan xvii. 23; nes y bydd "yn wr perffaith at fesur oedran cyflawnder Crist," Eph. iv. 13.

(4.) Y mae athrawiaeth y Drindod yn dysgu y dylem ninau ymgyrhaedd at undeb, fel y byddom yn ol ein graddau yn tebygoli i'r personau dwyfol.

(5.) Ei fod o bwys mawr i ni gael golygiadau eglur a chywir ar athrawiaeth y Drindod, o herwydd nas gallwn heb hyny gael golygiadau cyson ar drefn yr iachawdwriaeth. Y mae llawer yn meddwl nad yw yn ddyledswydd arnynt i chwilio na phregethu yr athrawiaeth hon; ac mai peth dirgelaidd ydyw, ac na pherthyn i neb dynion ei gwybod. Pe felly, ni buasai Duw yn ei datguddio ni yn ei Air, ond gan i Dduw ei datguddio, ein dyledswydd ni ydyw ei chwilio. Y mae yn wir ei bod uwchlaw ein hamgyffred ni, ond felly y mae pob peth sydd yn perthyn i'r Duw anfeidrol. Pethau amlwg i ni a'n plant yw pethau y datgudd—iad dwyfol; ac y mae yn perthyn i bob dyn ar y ddaear eu gwybod. Pe na buasai Duw am i ni eu gwybod, ni buasai yn son gair am danynt. Dylem ochelyd gwneuthur dirgeledigaethau o'n dychmygion, yn gystal a cheisio gwybod pethau na ddat—guddiwyd. Na fyddwn Babyddion—Beibl i bawb yw y Beibl, a phethau i bawb eu chwilio sydd yn gynwysedig ynddo. Gweddiwn am i'r Ysbryd Glan ein tywys i bob gwrionedd

Nodiadau golygu

  1. Gwel Paley's Natural Theology, Chap. xxiii. tudalen 408. Dr. Wardlaw's Discourses on the principal points of the Socinian Controversy, tudalen 281, 282.
  2. Gwel Bellamy's True Religion Delineated, tudalen 228.