Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern/Rhagymadrodd
← Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern | Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern gan David Samuel Jones |
Cynwysiad → |
RHAGYMADRODD.
GODDEFER i ni amlygu ein diolchgarwch puraf am y cynorthwy sylweddol a dderbyniasom yn mharotoad y gwaith hwn, oddiwrth y Parch. William Lloyd, Caergybi; John C. Rees, Pensarn, ger Amlwch; M. O. Evans, Wrexham; Thomas E. Thomas, Coedpoeth; Owen Thomas, M.A., Llundain; F. P. Watkin Davies, M.A., Llanfachreth, ger Dolgellau; Mri. William Jones, Booth Street, Manchester; W. E. Williams (Gwilym Eden), Trawsfynydd; Josiah Thomas, Liverpool, a Mr. W. Rogers, Bryntirion, Coedpoeth, ac eraill, enwau pa rai a welir yn nghorff y gwaith. Dyledus yw i ni hefyd gydnabod ddarfod i ni wneuthur defnydd helaeth o gofiant gwerthfawr Mr. Williams, gan y Parchedig William Rees, D.D. (Gwilym Hiraethog). Yn wir, darllen y gwaith rhagorol hwnw a gynyrchodd ynom awydd am wybod mwy o hanes y gwrthddrych, ac i'w roddi yn helaethach drwy gyfrwng y cofiant hwn. Unig ddiffyg y cofiant cyntaf yw byrder. Ond dylid cofio fod cyhoeddi cofiant o'i faint ef yn yr oes hono, yn anturiaeth arianol fawr a phwysig. Erbyn hyn, y mae y cofiant athrylithlawn hwnw wedi myned allan o argraffiad, fel nad oes copi o hono i'w gael am arian, ond fel y mae yn nglyn â Rhyddweithiau Hiraethog. Teimlwn fod swyn diddarfod yn enw Mr. Williams, a bod ei fywyd yn cynwys ffeithiau o duedd mor ddyrchafol, nes y mae yn werth eu hail ddwyn i sylw. Rhoddir mantais i ni drwy gyfrwng ei bregethau a'i sylwadau i weled beth ydoedd ei olygiadau ar brif bynciau y grefydd Gristionogol, ac hefyd i weled yn mha le yr ydym ninau yn sefyli y dyddiau hyn o ran ein golygiadau duwinyddol, wrth eu cyferbynu â'r eiddo ef a'i gydoeswyr. Nid ydym yn dysgwyl y bydd i'r gwaith hwn roddi boddlonrwydd i bawb o'n cyfeillion; a buasai yn dda genym ninau iddo fod yn well.
Dichon y dylem hysbysu mai y ffenestr a ddangosir, yn cael ei chuddio i raddau gan gangen coeden, a dyf o flaen y White House, Bersham, yw ffenestr yr ystafell wely yn yr hon y bu Mr. Williams farw ynddi.
Diolchwn i'n brodyr yn y weinidogaeth, y rhai a fuont mor garedig a galw sylw eu cynulleidfaoedd at y gwaith hwn, i'r dosbarthwyr fuont yn casglu enwau ato, ac i'r rhai a anfonasant eu henwau yn bersonol, a chydrhyngddynt y maent yn llu mawr, fel y gwelir oddiwrth y rhestr ar ddiwedd y llyfr.
Bellach, nid oes genym ond dymuno ar i'r darlleniad o hono fod yn fendithiol i'w holl ddarllenwyr.
BODALAW,
- CHWILOG, R.S.O.[1]
Dydd Llun, Gorphenaf 9fed, 1894.
Nodiadau
golygu- ↑ R.S.O.=Railway Sorting Office y man lle roedd trên y post yn gadael llythyrau i'w didoli ar gyfer ardal