Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)/Dinas y Llyn Halen

O Lundain i Landudno ac yn ol Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)

gan Evan Keri Evans

Yr Ysgub Olaf

XXIII. Dinas y Llyn Halen.

Hunan-gofiant:

1898 Cei di, Amser, fi ar yr aden i Eisteddfod Dinas y Llyn Halen (Utah), yn y Mormon Tabernacle (fy unfed mordaith ar ddeg) ar fwrdd y Campania. Unwaith eto ymwelaf â chwi, fy mherthnasau agos, a'm cyfeillion yn Pennsylvania, yn gystal ag yn Ohio; a chwithau fy nghefn— dryd yn Tennessee, eich teuluoedd, a'ch ŵyrion, ar ol saith mlynedd ar hugain o absenoldeb! Y mae y cynulliadau teuluaidd a chanu hen donau Danville, yr ymddiddanion i'r gramaphone—i'w danfon drosodd i Gymru i'm priod a'm plant yng nghanol ein dagrau (ac y mae ein teuluoedd rywsut yn dra theimladol) yn awr yn eu hail-adrodd eu hunain fel adnodau effeithiol ym mhennod faith bywyd. Gadawaf chwi nos Fawrth gyda'r trên wyth am Louisville, Kentucky, gan gymryd fy ngherbyd cysgu fel arfer, a chaf fy mrecwast fore dydd Mercher yn Louisville. Yr ydym ar wib i'r gorllewin, a chyrhaeddwn St. Louis, Missouri, bryd swper yr un dydd. Yma ceir depot godidog o ddim llai na deuddeg trên ar hugain, a dau esgynlawr ar bymtheg, yn barod i gychwyn i bob rhan o Gyfandir enfawr America. Gadawn tua hanner awr wedi wyth; af finnau i'm cerbyd cysgu, a chyrhaeddwn Ddinas Kansas erbyn brecwast y dydd canlynol (dydd Iau). Gan fod gennyf ddwy awr i aros yma, esgynnaf i gar trydan i gael golwg lawn ar y ddinas. Am ddeg ail—gychwynwn ar ein taith tua'r gorllewin, a'u cerbyd ciniawa gyda ni, a thrwy gydol y dydd gwibiwn dros y gwastatir dibendraw, ac mor dywodlyd fel ag i beri blinder mawr i lygaid a chlustiau. Af i'm cerbyd cysgu'r drydedd nos. Fore dydd Gwener am hanner awr wedi saith cyrhaeddwn Denver, Colorado; ac er fy syndod a'm llawenydd y mae yma hanner dwsin o'm cydwladwyr, a hen gyfaill, ynghyd â hen ddisgybl i mi yn Danville, yn fy nghyfarfod gyda cherbyd. Trefnir cwrdd croeso i mi'n union, i gwrdd a'r prif ddinasyddion a'r cerddorion proffeswrol. Cymerant fi o gylch eu dinas dra nodedig. Y mae y Rocky Mountains enwog yn y pellter-yr un fynydd-res yn ymestyn fyth i'r gorllewin am 5000 o filltiroedd. Y mae y fan ag oedd ddeugain mlynedd yn ol yn lle anifeiliaid gwylltion ac Indiaid wedi ei drawsffurfio i fod yn un o'r dinasoedd modern mwyaf swynol, gyda 180,000 o boblogaeth, ac yn meddu parciau, strydoedd, ystorfeydd, gwestai, chwareudai, eglwysi, ysgoldai, ac adeiladau gwladol o'r mwyaf prydferth, ac sydd wedi codi fel drwy wyrth oherwydd y mwnau aur, ac arian, a phlwm sy'n britho'r fynydd-res aruthrol ac annisgrifiadwy am fil o filltiroedd. Y mae'r cyfeillion yma'n orgaredig i mi.

Y diwrnod canlynol (dydd Sadwrn) am un ar ddeg y bore, gadawaf am Colorado Springs, taith o un filltir ar bymtheg a thrigain drwy olygfeydd godidog, ac wedi cyrraedd arhosaf y nos yno . . . Wedi holi, deuaf o hyd i Mr. James, o Gaerdydd, un o'r sefydlwyr cyntaf yma, a Joseph Parry o Ogledd Cymru; ac un o'r Cymry mwyaf hynaws, Mr. Stephens. Treulia'r hwyr gyda mi, a bore Sul hyd gychwyniad y trên—fyth i'r gorllewin.

Yn awr, y mae'r Rocky Mountains mor wirioneddol ryfeddol, y tu hwnt i bob disgrifiad, yn dyrchu i'r nefoedd ymhob ffurf o bentyrau clogyrnog a gwyllt. Pasiwn drwy geunentydd aruthrol, y trên yn cyson ddal ymlaen, gan hawlio mynd fan yma ac acw, yn codi i fyny mor uchel a 14,000 0 droedfeddi uwchlaw lefel y môr, fel yn Leadville. Daw'r os ymlaen, a'i brenhines mewn gwisg arian yn goleuo a hrawsffurfio'r pentyrrau dirif i ddull eglwysi cadeiriol neu estyll Natur. Daw cwsg yntau, a theimla un fel wedi bi groesi, ei synnu, ie, ei luddedu gan ryfeddu at y carneddi wybrennol, fel y mae gwely a chwsg yn felys i mi fel un o fabanod amser. Pan ddaw'r bore, teimlaf fy hun eto'n cael fy mychanu gan yr un fynydd-res. Yr wyf wedi gadael talaith Colorado, ac yn awr yn nhalaith Utah, yn dynesu at Ddinas y Llyn Halen, wedi bod yn teithio y tu mewn i'r mynyddoedd rhyfedd hyn am 716 o filltiroedd. Am ddau y prynhawn cyrhaeddaf ben fy nhaith. Daw dirprwyaeth i'm cyfarfod, ac i'm cludo i'm hotel, lle mae suite o dair ystafell wedi ei sicrhau i mi. Y mae'r ddinas a'i phobl yn nefoedd wirioneddol o garedigrwydd. Cymerir fi drwyddi, gyda'i holl swynion, a'i 80,000 preswylwyr (twf dwy flynedd a deugain). Yn orweddog mewn cawg enfawr ac yn gylchynedig gan y Rockies, gyda'i hinsawdd berffaith, ei strydoedd, ei barciau, ei adeiladau, a'i eglwysi—rhyfeddol yn wir yw'r byd mewnol neilltuedig hwn! Mawr ddifenwir a chamddisgrifir y cyfeillion Mormonaidd, y rhai sy'n enwog am eu lletygarwch a'u haelioni. Y mae eu cartrefi, a'r rhai yr ymwelais yn ddyddiol, yn debyg i gartrefi eraill Ewrob ac America. Y mae y Tabernacl ysblennydd, gyda seddau i 10,000 o bobl, a'r côr, gyda seddau i 600, o nodweddion clywiadol eithriadol, heb na cholofn na hoelen—yn sefyll ar safle brydferth dros ben. Y mae'r Deml hefyd yn nodedig am ei phrydferthwch y tu mewn a'r tu allan.

Cyflogir trên i fynd â mi gyda llawer o ffrindiau i'r Llyn Halen, rhyw dair milltir ar ddeg allan: (mesura) 120 milltir o hyd, ac ugain o led, ac y mae ei ddyfroedd seithwaith mor hallt ag eiddo'r môr.

Gwahoddir fi i ymweld ag Ogden, dwy filltir ar bymtheg ar hugain yn nês i lawr, lle y mae'r gallu trydanol i oleuo'r ddinas; a daw'r Maer a'r Gorfforaeth i'm cyfarfod—un ohonynt yn Joseph Parry arall eto. A'r côr, a'i arweinydd ieuanc galluog â mi am bicnic i'w canyon enwog, pellter o wyth milltir, a chawn bryd llawen yno treulir dydd o'r fath a lŷn ar dudalennau'r cof.

Cynhelir yr eisteddfod yr wythnos gyntaf yn Hydref, yn ystod ein cynhadledd. Y mae o 10,000 i 15,000 yn bresennol. Y mae pump o gyfarfodydd eisteddfodol. Cystadleua chwech côr ar ddatganu fy nghanig "Ar Don"—canu da, fel wythnos o Gymru yn y Rockies.

Traddodaf fy narlith ar y meistri yn y Tabernacl i gynulleidfa fawr, fel y gwneuthum mewn amryw ddinasoedd ar fy nhaith i'r gorllewin. Anrhydeddir fi, hefyd, â pherfformiad arbennig o opera yn eu chwareudy gwych a adeiladwyd ddeng mlynedd ar hugain yn ol. Y mae yr holl gwmni, y corws, y datganwyr, y gerddorfa, yr actio, a'r golygfeydd yn peri i mi deimlo fel pe bawn yn Llundain.

Cyfarfyddaf â dau hen gwpwl o hen gapel Bethesda, Merthyr, y rhai a adwaenent fy nhad a fy mam, fy chwiorydd, fy mrawd, a minnau pan yn fachgennyn. Siaredir Cymraeg ar y strydoedd fel ym Merthyr ac Aberdâr. Y mae darluniau (da iawn) ohonof ar hyd y ddinas i gyd, ac am unwaith yn fy mywyd, myfi yw arwr bach y ddinas, a threfnir gwledd fawr i'm anrhydeddu.

Y mae fy hen gyfeillion annwyl Judge Edwards a'i briod siriol wedi cyrraedd efe yw arweinydd yr eisteddfod, a gŵyr pawb yn dda y fath arweinydd yw.

Amser! yr hwn wyt fyth fel y môr yn dy aflonyddwch, dygi'r ymweliad byth-gofiadwy hwn i derfyn. Rhaid i mi eto eich gadael, fy annwyl gyfeillion, fel yr wyf mewn atgof wedi mwynhau fy ymweliad â chwi. Yr wyf wedi teimlo'ch calonnau cynnes, ac wedi gweld eich wynebau hawddgar unwaith eto. A gaf fi ymweld â'ch dinas eto? Un o'm dymuniadau i yw gwneuthur hynny.

Fore Sul, am wyth o'r gloch, yr wyf yn y trên, a llawer o gyfeillion yn fy ngweld i ffwrdd. Teithiaf y Sul ddydd a nos, y Llun ddydd a nos, Mawrth ddydd a nos, Mercher ddydd a nos, a dydd Iau hyd dri o'r gloch, pryd y cyrhaeddaf New York mewn pryd i ddal fy llong, y Campania, am gartref (fy neuddegfed mordaith). Yr wyf gartref eto ar ol taith fy mywyd—taith o 4000 o filltiroedd.

(Am gyfansoddiadau'r flwyddyn hon, gwêl y Rhestr.) 1899 a'm ca gyda pharti o bedwar (quartette party) ar fy nhrydedd mordaith ar ddeg i America ar fwrdd y Lucania, i roddi cyfres o gyngherddau a rhannau o'm operâu. Bum yn absennol tua deufis. Rhoddwyd cymaint o le i daith y flwyddyn ddiweddaf, fel y rhaid gadael allan hanes y daith hon.

(Gwêl y Rhestr.)

1900: Derbyniaf fy mhedwerydd comisiwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol rhoddir "Ceridwen" yn Lerpwl. Gorfodir fi ar y ddeuddegfed awr i arwain y gwaith heb unrhyw ragbartoad gyda'r cor, na chyda'r côr a'r gerddorfa, dim ond un gyda'r gerddorfa a'r artistes. Gan fod distawrwydd yn euraid gwell gadael yr achos heb ei nodi. Eto, gymaint oedd yr atyniad, fel y bu rhaid troi tair mil i ffwrdd. Y canlyniad llwyddiant arall.

Ymddengys "seren fore" ar y gorwel yn ffurfiad pwyllgor ym Mhenarth o gyfeillion ffyddlon ardderchog, gyda'r amcan o gyhoeddi, perfformio, a mynnu rhwydd hynt i'm gweithiau. Penodir Mr. Joseph Bennett gan y pwyllgor i ysgrifennu libretto i opera i mi ar "Y Ferch o Gefn Ydfa," yn y gobaith y gellir ei chwblhau, ei chyhoeddi, a'i pherfformio ddiwedd y flwyddyn. Cynhelir cyfarfodydd mewn mannau canolog gan arweinyddion corawl y De gyda'r amcan o gydweithredu â phwyllgor Penarth, a gwneuthur trefniadau ar gyfer perfformio'r opera gan ryw ugain o gorau'r De. Ond siomir ni i gyd gan oediad y bardd y mae'r flwyddyn a'r ganrif yn marw cyn y genir un llinell o'r libretto.

1901: Genir canrif newydd, ac i rai o'i phlant daw gobeithion newydd, dyheadau newydd, a phenderfyniadau newydd i fywyd uwch a gwell. Beth am amcanion uchel a charedig pwyllgor Penarth? Beth am Mr. Bennett? Daw Mawrth â'i gyfran gyntaf. Dwg y Pasg ef i lawr i Benarth a Chefn Ydfa a Chastell Coity. Daw gobeithion newydd i'r pwyllgor, ac i mi, ac i'r cylchoedd corawl, ac erbyn diwedd y flwyddyn yn sicr gwelwn gwblhau, a chyhoeddi, a pherfformio yr opera hir-ddisgwyliedig. Och! y mae dynoliaeth dlawd, annibynadwy eto'n ei bradychu ei hun, canys y mae'r pwyllgor, y cyfansoddwr, a'r corau, ar ddiwedd ail flwyddyn eto'n cael eu siomi. Dim ond yr act gyntaf a orffennir erbyn Mai, ac hyd ganol yr ail act erbyn diwedd y flwyddyn. Fel hyn y mae'r oediad yn llusgo ein bwriadau a'n hymdrechion i mewn i'r drydedd flwyddyn.

Llenwir amser yr oediad hwn drwy i mi orffen fy seithfed opera "His Worship the Mayor"; ac yna fy wythfed "Y Ferch o'r Scer." Ond y mae oediad yn oeri brwdfrydedd, ac yn rhoddi bod i'r un drwg, i glaearineb, diflastod, a musgrellni.

Daw'r Nadolig eto, ac yr wyf finnau ym Mhontypridd y Nadolig a'r dydd dilynol yn arwain fy nau waith,—"Nebuchadnezzar" a "Ceridwen" (in character); ac er mai dim ond rhesymol yw'r datganiad—fel, yn anffodus, y mae'n gyffredin gyda'm gweithiau i—atynnant gynulliadau mawrion a chymerant yn dda. Dyma fy unfed Nadolig a thrigain.

Fel hyn, o dydi, drên amser! nid yw dy funudau, oriau, dyddiau, wythnosau, misoedd, a blynyddoedd, ond megis cerbydau, a ninnau, feidrolion, yw'r teithwyr. Ac y mae gennyt dy flynyddoedd fel gorsafoedd, neu derfynfaoedd, i ddosrannu a dynodi taith fechan ein bywyd. Ac yna cyn hir ti a'n cludi i'r orsaf olaf a elwir y bedd.

Ddychymyg! ti ddrych y gorffennol, a phroffwyd y dyfodol, ydwyt wedi arddangos ar ganfas fy meddwl holl olygfeydd gorffennol fy mywyd; er eu bod wedi eu claddu ers amser hir ym medd anghofrwydd, ti a ddygaist y cwbl yn ol megis drwy wyrth, i fyw eto yn y presennol fel mewn ail fywyd.

Och! dyma fy ngeiriau olaf, y rhai sydd i'm llygaid, a'm clustiau, a'm calon fel galargân (requiem), canys dynodant oriau marw fy unfed blwyddyn a thrigain. Canys yfory ar fy nydd pen blwydd, byddaf yn dechreu pennod arall yng nghyfrol fy mywyd. Y mae fy mywyd gorffennol a'm llafur yn cynnwys llawer i fod yn ddiolchgar o'i blegid. Y mae fy opera, "The Maid of Cefn Ydfa," hwre! wedi ei gorffen. Y mae Mr. Bennett wedi fy anrhegu â'i libretto odidog fel prawf o'i ddymuniadau da i mi, ac y mae'r pwyllgor, fel prawf o'u ffyddlondeb i mi, a'u hamcanion eu hunain, wedi trefnu drwy Mr. Bennett a Mr. Manners—i berfformio'r opera yma yng Nghaerdydd, Rhagfyr nesaf, gan y Moody-Manners Opera Company. Y mae y ffaith mai dyma fy nawfed opera—yn gwneuthur chwech ar hugain o weithiau, ynghyda fy Llyfr Tonau, a llawer o ganeuon, rhanganau, corawdau gwrywaidd, canigau, anthemau, a cherddoriaeth offerynnol, yn fy nghysuro’n fawr (a’r ystyriaeth) fod fy mywyd bach wedi ei gyflwyno i gynorthwyo cerddoriaeth a cherddorion ieuainc anwylaf wlad fy ngenedigaeth.

Joseph Parry Mai 20, 1902.

Nodiadau

golygu