Cofiant Hwfa Môn/Pennod VII

Pennod VI Cofiant Hwfa Môn

gan William John Parry


golygwyd gan William John Parry
Englynion Coffa


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
William John Parry
ar Wicipedia





Pennod VII.

FEL GWEINIDOG.

GAN W. J. PARRY, BETHESDA.

Y TRI Gweinidog cyntaf y bum tanynt yn Bethesda oeddynt Y Parchn Llewelyn Samuel; David Jones B.A.; a Hwfa Mon. Ni fu tri mor anhebyg iw gilydd, mi gredaf, yn yr un un Eglwys erioed. Cof plentyn sydd genyf am Mr Samuel, gan iddo farw cyn fy mod yn dair-ar-ddeg oed, ond mae ei nodweddion fel Gweinidog yn ddigon hysbys. Gan y byddai yn dra mynych yn nhy fy rhieni cefais bob mantais, er yn ieuanc i sylwi ar rai pethau oeddynt yn ei wneud yn boblogaidd. Dyn byr, cryno, bywiog, o bryd tywyll oedd Mr Samuel. Enillai serch plant mor fuan ag y deuai iw cymdeithas. Gofalai am fod ar delerau da a phawb. Gallai pawb agoshau ato. Mantais fawr iddo oedd y ffaith ei fod yn adnabod pob aelod wrth ei enw. Pregethai bob amser yn fyr ac yn felus. Anaml yr ai ei bregeth dros ugain munud. Byddai yr eneiniad yn wastad ar y gwasanaeth gyd ag ef; a gofalai na byddai yr un gwasanaeth crefyddol yn myned dros awr. Credai mewn tori pob cyfarfod yn ei flas. Cyfeillachau profiad y credai ef ynddynt, ac yr oedd yn dra llwyddianus i dynu allan brofiad yr hen frodyr a'r hen chwiorydd. Ni phasiai neb ar yr heol heb gyfarch gwell iddynt, na neb plentyn heb osod ei law ar ei ben, ai anog i fod yn blentyn da, a gofalu am adnod iw hadrodd yn y gyfeillach; a gwelid plant yn rhoi goreu iw chwareuon pan y deuai ef i'r golwg, a rhedent ato er derbyn ei fendith, a theimlo ei law ar eu penau. Byddai gwên ar ei wyneb yn wastad, a geiriau cysurlawn, calonogol, yn dyferu dros ei wefusau. Cymerai drafferth i astudio cymwysder pob aelod, er eu gosod yn y tresi i wneud y gwaith y credai ef y byddent gymwysaf iddo, ac nid yn aml y methai. Fel hyn arbedai lawer arno ei hun, heblaw y rhoddai fantais i rai i ddadblygu mewn gwaith y byddent gymwys i wasanaethu yr Eglwys a Christ ynddo. Anfynych yr ai ei hun trwy ran arweiniol unrhyw wasanaeth gan y byddai wedi arfer rhai o'i Swyddogion, a rhai o'r aelodau i wneud hyny, ac yr oedd amryw o honynt yn rhagori mewn hyn o waith. Rhai o brif neillduolion ei gymeriad fel Gwenidog, oeddynt, dawn, byrder, craffter, tynerwch, a chyfrwystra. Dilynwyd ef gan Mr Jones, yr hwn oedd wr gwahanol iawn iddo. O ran corph nid oeddynt yn anhebyg. Yr oedd y naill fel y llall o gorph byr, cryno, a thywyll o bryd. Yr oedd Mr Jones yn fwy o Student nag ef. Prin y gwelai neb ar yr heol, ac os gwelai rhywun ni wyddai pa un ai iw gynulleidfa ef neu rhyw un arall y perthynai. Cafwyd prawf o hyn gyd ag ef lawer gwaith. Yn ei Study yr oedd yn byw, hyd yn nod pan ar yr heol. Anogid ef gan y swyddogion i ymweled, ond pan y galwai mewn ty hawdd oedd gweled mai yn ei Study yr oedd yn y fan hono. Yn y gyfeillach anerchiad gwerth ei gwrando ar rhyw fater neu gilydd geid ganddo, yr hon yn fynych ni roddai le naturiol i brofiad dori allan ar ei hol. Dadblygodd yn gyflym fel pregethwr yn y cyfnod byr y bu yma. Daeth yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd Cymru, rhwng 1859 ac 1879, ac ni chafodd odid i weinidog oedfaon grymusach nag ef yn y blynyddoedd yma. Yr oedd mwy o'r athronydd na'r Bardd yn ei bregethau. Dilynwyd ef gan Hwfa un o brif Feirdd yr oes. Yr oedd tân Barddoniaeth yn tori allan pa bryd bynag y codai i siarad, gan gynhesu calon y gwrandawyr. Clywais ganddo yn ei bregethau rai o'r sylwadau mwyaf prydferth—farddonol glywais o bwlpud erioed. Yr oedd pob un o'r tri yn tynu tyrfaoedd ar eu hol. Ond doniau gwahanol iawn oedd gan y tri i wneud hyn. Dawn melus y cyntaf, ynghyd ai ddull dengar o drafod pobl oedd yn denu y dyrfa ar ei ol ef. Pregethau grymus, ac ysgoleigdod yr ail oedd yn tynu y bobl iw wrando. Meddyliau barddonol, cymraeg pur, aceniad clir, ac araethyddiaeth esmwyth y trydydd oedd yn sicrhau llond capel iw wrando bob tro yr esgynai i'r Areithfa. Yr oedd y tri yn talu sylw mawr i ieuengetid yr Eglwys, er nad yn yr un dull. Cymerai y cyntaf drafferth iw hastudio, ac yna iw cyfarwyddo i ymdaflyd i waith neillduol yn yr Eglwys y credai ef y gallent fod o fwyaf o wasanaeth ynddo. Cynhaliai yr ail ddosbarthiadau Beiblaidd a Gramadegol, ac fel hyn rhoes gychwyn da i nifer fawr o fechgyn fu ar ol hyny o wasanaeth i'r Eglwys fel Athrawon yn yr Ysgol Sul. Tra y casglai y trydydd nifer dda o honynt at eu gilydd i wrandaw ar ei Ddarlithoedd ar "Y Gwr Ieuanc"; "Coron Bywyd"; a "Barddoniaeth." Ac yn ychwanegol at hyn rhoes fywyd newydd yn Ngymdeithasau Llenyddol y Gymdogaeth fuont yn offerynol i ddwyn i'r amlwg lawer talent fuasai oni bai am hyny dan gudd. Yn ddiddadl i Hwfa a Tanymarian y perthyn y clod penaf am y llywyddiant mawr fu ar Eisteddfodau Cadeiriol Cymreigyddion Bethesda rhwyg 1864 ac 1870.

Mae taflen argraffedig tymor Darlithoedd Hwfa am 1865—6 yn awr ger fy mron, dyma hi:—

Traddodir darlithiau ar y testynau canlynol gan y Parch; R. Williams (Hwfa Mon)
yn Ysgoldy Bethesda yn ystod misoedd Y gauaf.

Rhagfyr 6 1865
Addysg y Bobl ieuanc
Ionawr 8 1866
Y pwys o Ffurfio Cymeriad
Chwefror 7 1866
Gwir Enwogrwydd
Mawrth 7 1866
Crefydd Bur.

Traddodir y Darlithiau hyn yn rhad i bawb, a hyderir y byddant yn
foddion i wneud lles dirfawr ir oes sydd yn codi yn Bethesda."


Fel Gweinidog, pan yn Bethesda, yn y Pwlpud y rhagorai Hwfa. Yma yn ddiddadl yr oedd yn Feistr y Gynulleidfa. Gosodai pob osgo o'i eiddo urddas ar y Swydd. Ni welwyd nag edrychiad nag ymddygiad gwamal ganddo yn y Capel. Byddai difrifoldeb mawr iw weled ar ei wedd, a phan yn esgyn grisiau y Pwlpud gadawai argraff ar bawb na ystyriai y gwaith yn ddibwys. Wrth bregethu torai bob gair yn glir a chywir; yr oedd aceniaeth bur yn naturiol iddo, ac yn fwy felly na neb a wrandewais oddigerth Caledfryn. Siaradai mor esmwyth a naturiol, mor groew a hyfryd, mor swynol a llyfn, gan hoelio pob clust wrth ei eiriau. Nyddai eiriau prydferth iawn ar adegau, gan eu dyblu a'u treblu weithiau gyd ag arddeliad. Yr oedd yn dra gofalus o deimladau pobl, a hen air ganddo oedd,—nad oedd gan neb hawl i friwio teimlad dyn mwy na'i gorph,—ond gwelwyd ef rai gweithiau o'r Pwlpud, ond anfynych iawn, yn rhoi ergydion trymion i rai troseddwyr.

Yr unig gwyn yn ei erbyn tra yn Weinidog yn Bethesda oedd ei feithder. Ymdaflai mor llwyr iw bregeth a chwysai gymaint nes ei gwneud yn angenrheidiol iddo newid ei ddillad isaf yn y ty Capel bob nos Sul cyn cychwyn gartref. Yr oedd gofal yr hen Dadau anwyl gymaint am dano nes pledio yn fynych gyd ag ef i arbed mwy arno ei hun. Ond ni thyciai dim. Bu ei iechyd yn wanaidd rhyw flwyddyn cyn iddo adael Bethesda, a rhoddwyd ar ddau o'r Diaconiaid i siarad ag ef ar y mater. Yn ofer y bu y tro hwn hefyd. Yn mhen rhyw fis ar ol hyn cyfarfyddodd un o'r ddau, a hwnw yn wr lled blaen, a thipyn yn finiog ei eiriau ar adegau, a Hwfa yn dychwelyd o daith ar brydnawn Sadwrn a bag lledr bach yn ei law, ac wedi ei gyfarch ychwanegodd y Diacon,—"Gwag mi gredaf yw hwna erbyn hyn, ac felly mae gobaith pregeth fer foru!" Teimlodd Hwfa y sylw, ac yn neillduol y dôn yn mha un y dywedwyd ef, ac aeth yn mlaen heb yngan gair. Dranoeth yr oedd yn pregethu y boreu yn Treflys; yn Saron y prydnawn; a'r nos yn Bethesda. Yn y ddau le blaenaf pregethodd fel arfer. Y nos daeth i Bethesda at amser dechreu, ac yn groes iw arfer aeth yn syth i'r Pwlpud heb wneud sylw o neb. Yr oedd y Capel yn orlawn fel y byddai bob nos Sul gyd ag ef. Rhoes benill allan iw ganu. Darllenodd y Salm 97. Rhoes benill drachefn iw ganu; a gweddiodd yn fyr ond yn llawn teimlad. Cymerodd ei destyn yn yr unfed adnod arddeg o'r Salm,—"Hauwyd goleuni i'r cyfiawn, a llawenydd i'r rhai uniawn o galon." Pregethodd am ugain munud gyd a mwy o swyn a dylanwad nag y clywais ef erioed, ar,—"Y Cyfiawn mewn tywyllwch, a'r Cyfiawn mewn goleuni." Yr oedd yr holl wasanaeth drosodd am ugain munud i saith, a neb yn symud o'u heisteddle, gan gredu mae rhyw drefn newydd o eiddo Hwfa o ddechreu y gwasanaeth ydoedd. Wrth weled neb yn symud cododd yn y Pwlpud, ac aeth i lawr grisiau y pwlpud, a phan yr eisteddodd yn y Gadair o dan y Pwlpud y drechreuodd y gwrandawyr symud allan. Byddwn yn fynych ar nos Sul yn ei ddanfon gartref i Dolawen, a'r noswaith hon cymerodd fy mraich gyd a fy mod o'r Capel, ac aethom yn mlaen fraich yn mraich am rhyw chwarter milldir heb ddweud gair, yna troes yn sydyn attaf," Dyne nhw Parry; ai e wir; fedr Hwfa ddim pregethu yn fyr!" Mi ail a thrydedd adroddodd hyn, gan ei fwynhau yn rhyfeddol. Cafodd lonydd byth wedyn.

Fel ymwelydd nid oedd yn enwog. Yr oedd yn anhawdd iddo fod yn ymwelydd cyson gan fel y deuai galwadau am dano mor fynych, ac yntau yn hawdd iw ddenu,-i Ddarlithio; i Gyfarfodydd Pregethu; i Eisteddfodau a Chyfarfodydd Llenyddol. Pan yr ymwelai nid hawdd oedd cael ei well mewn hyn o waith. Talai sylw i bob aelod o'r teulu o'r bach i'r mawr, a byddai ganddo air melus a chysurlawn i bob un o honynt, ac wedi gwneud rhyw sylw caredig o bob aelod o'r teulu, au hanog i fod yn ffyddlawn i foddion gras, a chilio oddiwrth bob drwg, ymadawai heb ymdroi, gan adael ar ei ol bersawr hyfryd. Ni roddai gyfle byth i neb chwedleua ag ef pan ar ymweliad. Gwelais rai yn ceisio ac yn methu. Wrth wely y claf yr oedd heb ei ail im tyb i. Yr oedd cydymdeimlad iw deimlo yn mharabliad pob gair ddywedai, a byddai rhai o'i eiriau ar adegau felly fel dyfroedd oerion i enaid sychedig; ac fel diliau mel i gysuro ambell i ddioddefydd. Gwelais ef fwy nag unwaith wrth erchwyn. gwely hen gristion pan yn marw ai ddagrau yn llifo, ai ocheneidau yn llanw yr ystafell. Yr oedd ganddo galon dyner neillduol.

Yn y Gyfeillach drachefn byddai wrth ei fodd yn nganol y brodyr a'r chwiorydd. Ni cheid ond gair byr ganddo ar gychwyn y Gyfeillach, ac yna ar ol gwrandaw adnodau y plant tynai allan yr hen frodyr a'r hen chwiorydd i adrodd eu profiadau, a chafwyd lliaws o Gyfeillachau bendigedig gyd ag ef. Yn fynych iawn ai trwy y llawr gan ddweyd gair wrth hwn a'r llall wrth basio er eu tynu allan, ac anfynych y methai ddwyn perl i'r golwg. Bu rai troion digrif gyd ag ef ar adegau felly. Yr wyf yn cofio un felly gyd a William Jones Tangarth. Hen wr byr ei ddawn oedd William Jones, a byr ei wybodaeth, hynod ymdrechgar gyd a'r byd, ond tra selog am ddod i bob moddion Crefyddol, er yn ymddangos tra yno yn cysgu ai bwysau ar ddrws y set. Un nos cyfeillach daeth Hwfa heibio iddo o'r tu ol gan daro ei law yn sydyn ar ei ysgwydd nes startio yr hen wr. Meddai Hwfa,—"Wel William Jones, a oes genych brofiad adroddwch chi i ni heno? Yr ydych yma mor gyson a neb. Beth bynag fydd y tywydd, a phwy bynag fydd ar ol, yr ydych chi yma'n wastad. Yr ydych wedi clywed llawer ac amrywiol brofiadau yn y blynyddoedd meithion y buoch yn aelod yma; ac yr ydych wedi myned trwy lawer tywydd blin sydd yn magu profiad. Mi fyddaf yn clywed y byddwch yn y bore glas, cyn pedwar o'r gloch, i fyny ar y mynydd gyd a'ch cawell; ac ar ol caniad yn y chwarel yn yr hwyr yno drachefn. yn yr hwyr yno drachefn. Mae hyny yn profi fod eich diwydrwydd a'ch gofal am y byd yn fawr iawn." Gyd a bod y gair yna dros wefus Hwfa, a chyn iddo gael cyfle iw gymwyso, dyma yr hen wr yn codi ei wyneb yn sydyn at wyneb Hwfa gan ofyn, "A welwch chwi Mr Williams rhyw fai arna i am hyna ?" "Wel," meddai Hwfa yn bwyllus "Na wela i, ond—" "Wel, waeth gen i am ddim ond" meddai William Jones "eisio gwybod sy arna i, ydio'n bechod gofalu am y byd?" "Wel, nag ydi," meddai Hwfa,—"Wel, pirion ynte" meddai William Jones, gan ddropio ei ben i lawr ar ddrws ei set i orphen ei nap, ac ymaith a Hwfa dan wenu.

Yr oedd ganddo ddigon o bwyll i gyfarfod a dynion anhydrin, ac amgylchiadau dyrus yn yr Eglwys, fel ag i fyned trwyddynt yn ddidramgwydd. Bu mwy nag un amgylchiad tra y bu yn Bethesda iw brofi yn y peth hwn. Gallaf gyfeirio at un o honynt. Wedi iddo gychwyn yr achos yn Treflys aeth dau o Ddiaconiaid Bethesda yno, ac yr oedd y nifer yn Bethesda wedi disgyn i 5; sef, John Pritchard; David Griffith; William Roberts; Griffith Rowlands; a Robert Williams. Penderfynodd yr Eglwys yn unfrydol yn Mawrth 1866 i godi 4 Diacon newydd, a rhoddwyd rhybudd o fis o hyny. Penodwyd ar yr 20ed Ebrill i wneud hyn. Daeth yn nghyd rhyw 300 o'r Aelodau ar y noswaith benodedig. Wedi dechreu y moddion hysbysodd Hwfa pa fodd y bwriedid myned yn mlaen gyd a'r dewisiad, gan wneud ychydig sylwadau ar waith y — Swydd a'r cymwysderau iw llanw. Gyd ai fod yn eistedd i lawr cododd un o'r pregethwyr cynorthwyol ar ei draed a gofynodd am ganiatad i ddweyd gair cyn pleidleisio. Ar ol cyfeirio at adegau eraill pryd y codwyd blaenoriaid yno, y rhai yn ol ei farn ef oeddynt o'u hysgwyddau i fyny yn uwch na'r gweddill o'r Eglwys, ychwanegodd,—"Yr ydych wedi penderfynu codi pedwar? Pedwar o beth? Yr ydych wedi bod yn llawer rhy fyrbwyll yn penderfynu ar rif. Beth wnaeth i chwi ddod i benderfyniad i ddewis pedwar ? A welwch chwi bedwar? A welwch chwi dri? Welwch chwi ddau ? Prin y gwela i un. Cofiwch na wna pob math o aelod Ddiacon. Ynfydrwydd perffaith ydi i chi fyned yn nglyn a'u codi heb fod eu hangen, a bod rhai cymwys yn y golwg. Dylai y pedwar, neu y tri, neu y ddau, neu yr un fod yn amlwg ddigon i gorph yr Eglwys cyn penderfynau ar y rhif. Hoelion wyth ddylai Diaconiaid Eglwys fod, ond wela i ddim o'm blaen yn yr Eglwys yma yn awr ond sparblis, sparblis, sparblis. Peidiwch dewis sparblis o Ddiaconiaid!" Yr oedd y wich oedd yn ei lais pan yn gwawdio yn dwys—hau y diystyrwch gyd a pha un y llefarai y geiriau hyn. Erbyn iddo orphen yr oedd yr amser wedi cerdded yn mhell, a chododd Hwfa yn araf; ni chyfeiriodd o gwbl at yr araeth, yn unig dywedodd,— "Daethom yma heno yn ol penderfyniad Eglwysig gymerwyd yn bwyllog, ar ol gweddio ar Dduw am arweiniad, i daflu ein coelbren bleidleisiol yn newisiad pedwar Diacon, fel y gobeithiwn da eu gair a llawn o'r Ysbryd Glan.' Erbyn hyn mae yr amser wedi myned yn bell, a gohiriwn y gwaith hyd nos Fawrth nesaf. Bydded i bob un, i bob un, weddio o hyn hyd hyny am arweiniad. Nos Fawrth nesaf am saith o'r gloch, ar ol canu, darllen, a gweddio, awn yn gyntaf peth at y gwaith o ddewis pedwar Diacon. Ni a roddwn ein gofal i'r Arglwydd." Yr oedd yr Eglwys oll gyda Hwfa yn y cwrs gymerodd. Gwnaed fel yr hysbyswyd y nos Fawrth dilynol, y 24ain Ebrill 1866, a dewiswyd pedwar, ac y mae dau o honynt yn aros yn Ddiaconiaid hyd y dydd hwn. Allan o 278 bleidleisiodd y noswaith hono cafodd y cyntaf 275; yr ail 273; y trydydd 248; a'r pedwerydd 149. Gallasem yn rhwydd gyfeirio at ddigwyddiadau eraill brofai ei bwyll a'i ddoethineb mewn amgylchiadau dyrus.

Yr oedd yn neillduol ofalus am supplies da i lanw y Pwlpud yn ei absenoldeb. Cof genyf am un digwyddiad lled ddigrif ddigwyddodd gydag un o honynt, sef Scorpion. Yr oedd Hwfa yn supplio Fetter Lane, Llundain yn mis Mai 1867, yr hyn a ddilynwyd gan Alwad iddo oddiyno. Mae yn ymddangos fod Hwfa wedi trefnu, yn ol fel y mynai Scorpion, iddo ef ddod i Bethesda Sabboth Mehefin 9, ac i Hwfa ar ei ffordd gartref i fod yn Llanrwst. Y prydnawn Sadwrn blaenorol daeth Scorpion i Bethesda a galwodd yn Masnachdy Mr Robert Jones, Bookseller, a phan welodd Mr Jones ef gofynodd mewn syndod,—"Beth ydych chi yn wneud yma Mr. Roberts?" "Dyfod yma i supplio yn lle Hwfa foru." "Wel" meddai Mr Jones "Hwfa sydd wedi ei gyhoeddi yma, ond mae'n debyg mai wedi anghofio hysbysu y cyhoeddwr y mae." Felly tawelwyd. Aeth Mr. Roberts yn mlaen i Dolawen, a gwelai ar unwaith nad oedd Mrs Williams ychwaith yn ei ddisgwyl, ond yn ddoeth, fel y hi, gwnaeth ef yn gwbl gysurus, er ar yr un pryd yn teimlo fod rhyw ddyryswch, gan ei bod y bore hwnw wedi cael gair fod Hwfa yn dod adref gyda thrain hwyr y noswaith hono. Wedi swper aeth Mr Roberts i'r gwely, ond nis gallai gysgu gan fod yr argraff wedi dyfnhau gyda holiadau Mrs Williams fod rhyw ddyryswch yn bod. Yn fuan wedi haner nos clywai ddrws y front yn agor, a rhywun yn dod i mewn. Cododd i ddrws ei ystafell, a chlywai siarad distaw yn y passage, ac o dipyn i beth gwnaeth allan lais Hwfa. Rhoes ei ddillad am dano, ac aeth i lawr i'r gegin, lle yr oedd Hwfa mewn chwys mawr yn cael cwpanaid o de. Mewn ysbryd uchel gofynodd Scorpion,—"Hwfa, beth yw peth fel hyn?" "Wel Mr Roberts bach" meddai Hwfa "yr ydych wedi cam gymeryd y Sabboth, y Sabboth nesaf ddarfu mi ofyn i chwi" "Nage, Nage," meddai Scorpion "y Sabboth yma, y Sabboth cyntaf wedi i chwi ddod o Llundain ofynsoch i mi, ond waeth prun bellach beth ydych chwi yn myn'd iw wneud, a ydych chwi yn myned i gychwyn dros y Benglog i Llanrwst y munud yma, neu mi rwyf fi yn myn'd? Ni chaiff fy mhobol i ddim bod heb bregethwr foru." Plediai Hwfa, a Mrs Williams, bob sut yn erbyn i'r naill na'r llall o honynt orfod myned ar y fath awr, dros y fath le, y fath bellder, ei fod ef wedi blino ar ol teithio o Lundain i Fangor, a cherdded o Fangor i Dolawen, 7 milldir o ffordd, ond ni ysgogai Scorpion. Rhoes ei Overcoat am dano, ei het am ei ben, ai Umberela yn ei law i gychwyn. Pan welodd Hwfa hyn rhoes i mewn, a chychwynodd rhwng un a dau o'r gloch yn y bore, a chyrhaeddodd Talywaen ger Capel Curig rhwng tri a phedwar y bore. Cododd y teulu. Yr oedd wedi llwyr ddiffygio, a gwnaeth Mrs Jones iddo fyned i'r gwely yno, a driviodd ef i Lanrwst erbyn oedfa y prydnawn. Ni fu fawr lewyrch ar bregethu Scorpion yn Bethesda y Sabboth hwnw.

Yr oedd yn neillduol garedig i Bregethwyr ieuanc. Yn ei adeg ef, yn Bethesda, codwyd tri i bregethu, sef y Parchn: Owen Jones, Mountain Ash; John Foulkes Aberavon; a William Williams Maentwrog; a gallai y tri fynegi am lawer tro caredig o'i eiddo iddynt ar gychwyn eu gyrfa. Pan yr oedd ef yn Weinidog yn Bethesda yr oedd yn yr Eglwys dri pregethwr cynorthwyol, sef Robert Jones; Luke Moses; a William Davies, a byddai yn ofalus iw dodi yn eu tro i wasanaethu yn yr Eglwysi dan ei ofal.

Hyd y terfyn yr oedd yn neillduol boblogaidd yn Bethesda gyda'r gynulleidfa, yr Eglwys, a'r gymdogaeth. Tra y bu yma cynyddodd y gynulleidfa a'r Eglwys. Cychwynodd achos newydd, symudiadau Llenyddol newydd yn y gymdogaeth, a theimlwyd colled fawr ar ei ol.

Teilwng i goffawdwriaeth Mrs Williams yw dweyd ei bod yn gymeradwy iawn gan yr holl frawdoliaeth yn Bethesda, yn dra gofalus o Hwfa ac yn garedig neillduol i'r tlawd, yr anghenus, a'r amddifaid yn ein plith.

Yr oedd ar delerau da ai Ddeaconiaid yn Bethesda tra bu yma. Dyma fel y Canodd ar ol rhai o honynt,—

Nodiadau

golygu