Cofiant Hwfa Môn/Pennod X

Darlun VI Cofiant Hwfa Môn

gan Henry Rees, Bryngwran


golygwyd gan William John Parry
Pennod XI


Pennod X.

FEL CYFAILL.

GAN Y PARCH. HENRY REES, BRYNGWRAN.

Y MAE yn debyg y gosodwyd arnaf fi i ysgrifenu am Hwfa Mon fel cyfaill am y tybir fy mod yn un o'i gyfeillion agosaf; ac felly yr oeddwn. Tybygaf nad oes yn fyw heddyw, ond dau neu dri, a fuont mewn cyfeillach mor hir ac agos ag ef ag y bum i. Dechreuodd ein cyfeillgarwch ychydig dros ddeugain mlynedd yn ol, a pharhaodd a chynyddodd yn fwy fwy hyd nes yr ataliwyd gan ei farwolaeth: ac i mi, y mae y byd yn wacach ac yn oerach o lawer ar ol ei golli. Cydnebydd pawb fod Hwfa Mon yn un o'r cymeriadau mwyaf unigol a dyddorol a feddai Cymru. Yr oedd ynddo neillduolion a'i gosodent ar ei ben ei hun—heb fod neb yn gyffelyb iddo—ac a effeithient er tynu sylw ato ac enyn dyddordeb ynddo yn mhob peth a wnai. Fel pregethwr, fel darlithydd, fel bardd, Hwfa oedd Hwfa yn mhob un o'r cymeriadau hyny. Yr oedd neillduolrwydd yn perthyn i'w ddyn oddiallan a barai i'r dieithr wedi myned heibio iddo ar yr heol, droi yn ol i edrych arno gan ddweyd ynddo ei hun rhaid fod hwna yn rhywun,—"Pwy a all fod tybed?" Ac nid oedd y dyn oddiallan ond mynegiant o'r dyn oddifewn, a'r rhai a gaent fyned agosaf ato a welent fwyaf o neillduolrwydd ynddo. Y mae ambell un yn cael sylw ac edmygedd mawr pan yr edrychir arno o bell, ond " 'tis distance lends enchantment to the view "—pan yr eir yn agos ato y mae'r dyddordeb yn darfod a'r dyn yn ymddangos yn ddigon cyffredin. Ond po agosaf yr elid at Hwfa mwyaf oll o ddyddordeb a deimlid ynddo, canys wedi myned yn agos ato y gwelid ynddo ragoriaethau nad oeddynt mor amlwg i'r rhai a edrychent arno o bell.

Wrth sefyll uwchben y testun sydd wedi ei benodi i mi sef Hwfa Mon fel cyfaill, teimlais fod y porth yn gyfyng, ac yn arwain i ffordd. sydd braidd yn gul i mi ei rhodio gyda r adgofion sydd genyf am dano; a chymerais fy rhyddid i newid i mi fy hun y penawd gosodedig, i'r un a ganlyn sef "Adgofion am fy nghyfaill Hwfa Mon." Wrth draethu yr adgofion hyny am dano meddyliaf y gall y neb a'u darlleno gasglu yn rhwydd oddiwrthynt y fath un ydoedd fel cyfaill, ac y gwêl fod holl anhebgorion cyfaill—fel y maent yn gynwysedig yn yr ansawddeiriau, cywir, ffyddlon, caredig, dyddan—i'w cael yn llawn ynddo ef.

Y mae'r adgof cyntaf sydd genyf am dano yn fy nhaflu yn ol am bymtheng mlynedd a deugain. Hogyn yn yr ysgol oeddwn i y pryd hwnw, a chofiaf yn dda am danaf fy hun yn myned i'r ty un nos Sadwrn a chael fod y pregethwr a ddisgwylid i bregethu y Sabboth wedi cyrhaedd. Gwelwn ef yn eistedd ar y gadair wrth y tân——yn ddyn ieuanc tál a gwallt gwineuliw hir wedi ei droi yn ol oddiwrth ei dalcen a thu ol i'w glustiau nes yr oedd ei wyneb llawn glán difarf yn cael eithaf chwareu teg i ymddangos. Tybiwn na welais ddyn ieuanc harddach erioed. Cofiaf am dano yn pregethu dranoeth, a chofiaf ei destun hefyd: "Ond tydi pan weddiech, dos i'th ystafell; ac wedi cau dy ddrws, gweddia ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel : a'th Dad yr hwn a wél yn y dirgel a dâl i ti yn yr amlwg." Y mae yn rhaid fod rhyw neillduolrwydd yn y pregethwr ieuanc cyn y buasai wedi llwyddo i argraphu ei destun ar gôf yr hogyn fel y mae yn glir ar ei gof fel testun y pregethwr y Sabboth hwnw yn mhen dros haner canrif ar ol hyny. Clywais lawer o bregethau cyn hyny, a llawer mwy wedi hyny, ond ychydig iawn o'r testunau sydd wedi aros gyda mi fel y gallaf gyfeirio atynt a nodi gan bwy, yn mha le a pha bryd y clywais bregethu arnynt. Ond y mae y geiriau y cyfeiriwyd atynt yn aros gyda mi fel testun Hwfa Môn hyd y dydd heddyw: ac ni byddaf byth yn eu darllen neu yn clywed eu darllen neu eu hadrodd na bydd Hwfa Mon yn mhwlpud hen gapel y Tabernacl, Great Crosshall Street, Liverpool, yn ymrithio o fy mlaen. Yr oedd hyn, mi dybiaf, yn yr un flwyddyn ag yr ordeiniwyd Hwfa yn Magillt. Yn mhen tua deuddeng mlynedd wedi hyny, a mi wedi ymsefydlu yn weinidog yr eglwys annibynol yn Nghaer ac yn bur fuan wedi i Hwfa symud o Wrexham i Bethesda, yr oeddwn i a'm hanwyl gyfaill, y diweddar Barch Evan Edmunds Dwygyfylchi, ar ymweliad à chyfaill i ni ein dau oedd yn byw yn Methesda ar y pryd. Yno y cyfarfuasom â'r enwog Kilsby Jones, yr hwn a gartrefai yn Llundain y pryd hwnw ac a ddaethai i dreulio ei wyliau haf y flwyddyn hono ar daith drwy ranau o Ogledd Cymru. Ar ei hynt daeth i Bethesda a bwriadai fyned oddiyno i Gapel Curig a Llanberis ar ei ffordd i ben y Wyddfa. Ceisiodd gan Edmunds a minau fyned gydag ef, a chan faint ei daerineb efe a orfu er ein bod wedi llunio myned i gyfeiriad arall. Wrth fyned heibio galwasom yn Nolawen lle y preswyliai Hwfa, a mawr oedd y croesaw a gawsom ganddo. Ceisiodd Kilsby ei berswadio yntau i ddyfod gyda ni, ond gan na fynai efe ddyfod rhaid oedd myned hebddo ac aethom yn mlaen i Gapel Curig lle yr arosasom y noswaith hono. Dodwyd ni ein tri yn yr un ystafell-gysgu lle yr oedd dau wely a gorweddai Kilsby yn un, ac Edmunds a minau yn y llall. Ond nid oedd wiw i ni feddwl am gysgu yn agos at Kilsby ac yntau yn effro. Ac yn effro y bu gan barablu hyd oriau mân y boreu, ac adrodd ystraeon a barent i ni chwerthin hyd oni siglai y gwely tanom; a chodasom yn y boreu heb i ni gael cysgu ond ychydig iawn, a'n hochrau yn ddolurus gan yr hyrddiau o chwerthin a gyffroed ynom gan ei ddigrifwch. Aethom o Gapel Curig heibio i Ben-y-Gwrhyd a thrwy y bwlch i Lanberis. Yn hwyr y dydd-hirddydd haf-cychwynasom ddringo i ben y Wyddfa, a chyrhaeddasom rhwng deg ac un-ar-ddeg o'r gloch ac arosasom yno hyd y boreu er mwyn cael gweled yr haul yn codi.

Yr oedd gwelyau i'w cael ond gan ein bod yn eu drwgdybio o fod yn oer ac yn llaith penderfynasom ymgadw rhagddynt. Tra yn eistedd i fynu gan siarad a phen-dympian bob yn ail, tuag un o'r gloch y boreu clywem swn gwaeddi oddiallan, ac erbyn craffu- wrando clywem rhyw lais yn galw arnom ni wrth ein henwau. "Gato pawb!" meddai Kilsby "yspryd pwy sydd yn aflonyddu arnom ar ben y Wyddfa!" Wedi i ni agor y drws pwy a welem yn sefyll yno ond Hwfa! Wrth weled yr olwg hurt-synedig oedd arnom torodd Hwfa allan i chwerthin nes o'r bron y tybiem y clywid ei swn yn y gwaelodion pell. Yr oedd rhywbeth heintus yn chwerthiniad Hwfa, a pharodd i ninau chwerthin, ac yr oedd clywed dau chwarddwr o'r fath ag oedd Kilsby a Hwfa, yn cyd chwerthin ar eu heithaf yn rhywbeth i gofio am dano. Wedi i ni ei adael yn Methesda ymddengys fod Hwfa wedi edifarhau am wrthod dyfod gyda ni, a phenderfynodd ddyfod ar ein hol, ac yr oedd ei ddyfodiad atom yn ychwanegiad mawr at ddifyrwch y cwmni. Ar y daith hono ac ar ben y Wyddfa y dechreuodd y cyfeillgarwch a fu rhyngof ag ef am gyhyd o amser, ac a barhaodd yn ddidor ac yn ddigwmwl hyd y diwedd.

Credaf na bu neb erioed yn haws cadw cyfeillgarwch yn mlaen ag ef na Hwfa Mon. Os bu iddo rai, fu unwaith yn gyfeillion, ond heb barhau felly, yn sicr nid arno ef yr oedd y bai o hyny. Nid oedd ynddo ddim diffyg mewn cywirdeb a ffyddlondeb a barai i'r rhai a ymwasgent i agosrwydd cyfeillgarwch ag ef ymgilio oddiwrtho drachefn mewn siomedigaeth. Y mae rhai yn fwy medrus i enill cyfeillion nag ydynt i'w cadw wedi eu henill. Ond yr oedd Hwfa yn ofalus ac yn meddu ar bob cymhwysder i gadw ei gyfeillion. Fel enghraifft o'i ofal yn hyn, gallaf grybwyll i mi tua phedair blynedd yn ol, dderbyn llythyr oddiwrtho yn dechreu ac yn diweddu fel hyn:

"Fy Anwyl Frawd
Dim ond gair i dori ar y distawrwydd ac er mwyn cadw yr
hen gyfeillgarwch . . . . Yr wyf wedi addaw myned i
Beddgelert y Pasg. Pa le y byddwch chwi? Hoffwn gael
golwg arnoch.

Byth yn bur

R. Williams."

Yr oeddwn ar y pryd wedi bod am rai misoedd heb ei weled ac heb fod dim gohebiaeth wedi pasio rhyngom, ond nid oedd ef yn foddlon ar i bethau fod felly a mynai anfon llythyr yn unig i "dori ar y distawrwydd." Nid yw rhelyw o'r llythyr yn cynwys dim a fuasai yn werth ganddo eistedd i lawr i'w ysgrifenu oni buasai ei fod am 'gadw yr hen gyfeillgarwch." Pe byddai mwy o ofal felly yn cael ei weithredu gan gyfeillion tuag at eu gilydd, caent lai o siomedigaeth yn eu gilydd nag a gânt yn fynych. Y neb y mae iddo gyfeillion cadwed gariad."

Yr ydys yn disgwyl mewn cyfaill gael un yn ffyddlawn. Nid oes neb yn werth i'w alw yn gyfaill os na theimlir yn ddiamheu am dano fel un y byddai yn ddiogel i'w ollwng i mewn megis i gysegr sancteiddiolaf ein mynwes. Y mae cael cyfaill—cyfaill yn ngwir ystyr y gair-un a ymddiriedo ac yr ymddiriedir iddo—yn gaffaeliad o'r gwerth mwyaf ac yn un o gysuron melusaf bywyd, a dyn i dosturio wrtho ydyw hwnw, yr hwn er fod ganddo lawer o gydnabyddion nid oes ganddo yr un cyfaill y gall ymddiried ei gyfrinach iddo. Cyfaill felly a gefais yn Hwfa. Ni chafodd yr un o'i gyfeillion achos i amheu ei ffyddlondeb erioed ac i edifarhau o herwydd ymddiried ynddo. Pell oedd efe o bysgotta cyfrinach ei gyfeillion. Yn wir mwy parod o lawer oedd i fynegi iddynt ei gyfrinach ei hun nag ydoedd o awyddus am wybod yr eiddynt hwy. Yr oedd yn hollol rydd oddiwrth yr ysfa sydd yn blino rhai am wybod hanes a dirgelion eu cymydogion, ac oddiwrth y cyfrwysdra a arferir ganddynt tuag at hyny. Y mae troad llygad ambell un wrth ofyn cwestiwn digon syml yn peri meddwl fod rhyw amcan iddo mwy nag sydd yn ymddangos ar y wyneb, nes y gwneir i ni betruso sut i'w ateb, os nad hefyd i'w droi heibio heb ei ateb o gwbl. Y mae rhai yn ymffrostio yn eu cyfrwysdra i wneuthur y fath bethau. Unwaith yr argyhoedder ni am ddyn mai dyn felly ydyw y mae doethineb yn galw arnom i fod yn ochelgar iawn wrth ateb ei gwestiynau symlaf, os bydd a wnelont o fewn y ddegfed radd a'r hyn na fynem i bawb ei wybod. Gwyddom am rai drwy holiadau syml yn gyfrwys iawn i dynu i'r golwg wendidau y rhai a gymerent arnynt fod yn gyfeillion iddynt, er mwyn eu gwneyd yn destunau digrifwch gydag ereill. Nid yw dynion felly yn hir iawn heb gael eu hadnabod nes y tynir. oddiwrthynt ac yr ymwrthodir a'u cyfeillgarwch gan y rhai a fuont mor anffodus a chael eu denu i osod ymddiried ynddynt. Nid oedd. dim cyfrwysdra felly yn agos at Hwfa. Yr oedd efe mor ddiniwed a'r golomen. Yn wir buasai yn dda iddo pe buasai wedi meddu ar ychydig o gyfrwysdra y sarph, canys buasai hyny wedi ei gadw rhag ambell brofedigaeth y cafodd ei arwain iddi gan ei ddiniweidrwydd. Clywais fod un gwr enwog— un o'r rhai gynt— wedi dweyd fod pobl Sir Fon, yn hynod ofalus am number one a'u bod yn gyfrwys iawn i sicrhau buddiant y number hwnw sut bynag y daw ar number two. Os ydyw hyny yn wir fel rheol— nid wyf yn gwybod a ydyw ai peidio— yr oedd Hwfa yn eithriad amlwg i'r rheol hono. Yr oedd number two yn bur bwysig yn ei olwg ef, ac ni chlybuwyd son am dano erioed yn gosod ei droed ar number two er mwyn mantais a dyrchafiad i number one. Nid oedd dim o'r yspryd un— anol hwnw ynddo o gwbl. Dringodd i fyny i'r sylw a'r poblogrwydd a gafodd yn hollol ar ei gost ei hun heb geisio darostwng neb arall er mwyn codi ei hun. Os costiodd i rai brofi pangfeydd o eiddigedd wrtho nid oedd gan Hwfa ddim help am hyny.

Yn y flwyddyn 1893, sef blwyddyn Ffair fawr y byd a gynhelid yn Chicago penderfynodd y diweddar Barch Joseph Rowlands Talysarn a minau fyned i'r America nid er mwyn gweled y Ffair yn gymaint ag i ymweled â rhai o'r sefydliadau Cymreig sydd ar wasgar yn yr Unol Daleithiau. Yr oedd Hwfa wedi cael gwahoddiad taer i fod yn bresenol yn yr Eisteddfod oedd i gael ei chynal yn Chicago y flwyddyn hono. Ymddengys iddo fod am amser yn petruso pa un ai myned a wnai ai peidio; ond pan y clybu ein bod ni am fyned bu hyny yn foddion i benderfynu y ddadl oedd yn ei feddwl, o ochr cydsynio a'r cais a dderbyniasai a threfnodd i groesi y môr gyda ni. Hwyliasom allan yn y "Teutonic "—y llong y soniodd cymaint am dani yn y ddarlith boblogaidd a draddododd ar hyd a lled Cymru yn ei flynyddoedd diweddaf ar "Dros y Don." Ar fwrdd y Teutonic cawsom ystafell—gysgu i ni ein hunain heb fod neb arall gyda ni i aflonyddu arnom er bod ynddi le i bedwar, ac ni threuliasom wythnos ddifyrach erioed nag a gawsom yn nghwmni ein gilydd wrth groesi y môr o Liverpool i New York. Yr oedd Hwfa yn siriol a llawen ar hyd yr amser, yn mwynhau pob peth oddieithr pan y gwelai ambell foryn yn codi tipyn ar ei wrychyn yr hyn a barai iddo dybied bod ystorm fawr yn curo arnom. "It is a great storm!" meddai un bore wrth un o swyddogion y llong "O no" ebai yntau tan wenu "this is only what we call a fine breeze." Ond ni waeth pa beth a ddywedid ni fynai gredu nad oedd yn "great storm" arnom. Yr oedd amryw o Gymry yn y steerage, ar modd y daethom i wybod eu bod yno oedd, i ni eu clywed yn canu hen donau Cymreig, ar y deck islaw. Tra yn sefyll ar y deck uchaf yn edrych i lawr ac yn gwrandaw arnynt cododd un o'r cantorion ei olwg i fynu a gwelodd ni a chyfeiriodd sylw y lleill atom, a deallasom eu bod yn ein hadnabod oblegid cyfarchasant ni wrth ein henwau. Nos Sadwrn anfonasant genadwri atom i ofyn i un o honom draddodi pregeth iddynt ar eu deck hwy prydnawn Sabboth. Trefnasom mai Hwfa oedd y pregethwr i fod, a rhoddasom ei gyhoeddiad iddynt. Ond erbyn i'r Sabboth ddod yr oeddym ar fanciau Newfoundland yn nghanol y niwl tew sydd yn arferol o fod yno; ac mor oer a llaith oedd yr hin fel y barnwyd yn ddoeth i beidio cynal yr oedfa. Nos Sabboth aethom i'r gwasanaeth a gynhelid yn yr ail Saloon pryd y cawsom bregeth gan frawd weinidog o Sais ac yna ar ol swppera aethom i lawr i fyned i'n gwelyau. Wedi myned i'r ystafell eisteddodd Hwfa i lawr a dyweddodd "Wel frodyr gadewch i ni gael tipyn o ddyledswydd yn yr hen Gymraeg heno, cyn myned i orphwys." A hyny a fu. Darllenodd un o honom benod ac aeth un arall i weddi ac yna aethom i orphwys. Y mae y "tipyn o ddyledswydd" hono a gynhaliwyd genym ar fanciau Newfoundland yn nghanol y niwl tew, ar llong wedi arafu i lai na haner ei chyflymdra arferol, a'r corn niwl, bob yn ddau neu dri munyd yn anfon allan hir—sain. drymaidd i rybuddio unryw long a allai fod yn ein hymyl, rhag iddi ddyfod i wrthdarawiad â ni, y mae y "tipyn o ddyledswydd " hono, meddaf, yn aros ar fy meddwl mor fyw ag un o ddigwyddiadau y daith. Y mae Hwfa a Rowlands wedi dod o hyd i'w gilydd bellach yn y wlad well a chredaf fod y tro hwnw mewn côf ganddynt hwy yno, a dichon eu bod hwy, erbyn hyn, yn awyr glir y wlad hono yn gallu gweled mwy o ganlyniad i'r "tipyn o ddyledswydd" hono nag a welaf fi sydd hyd yn hyn yn nghanol niwl a tharth y byd hwn. Yr wyf yn crybwyll am y tro am ei fod yn arddangosiad o'r yspryd crefyddol oedd yn Hwfa, ac oedd yn fwy amlwg ynddo i'r rhai a gawsant gydnabyddiaeth agos ag ef, nag i neb arall. Dranoeth wedi y dydd y glaniasom yn New York, gadawodd Hwfa ni i fyned i Pensylfania i ddechreu dilyn ei gyhoeddiadau, ac aethom ninau i fyny yr afon Hudson i ogleddbarth talaeth New York i ddechreu ar ein gwaith yno. Yn ol y cynllun oedd wedi ei dynu allan i'n taith gan y cyfeillion caredig oedd wedi ymgymeryd â'r drafferth o wneyd hyny, yr oedd Hwfa a ninau i gyfarfod a'n gilydd yn nghymanfa Oneida yn mhen oddeutu tri mis wedi i ni ymwahanu yn New York. Yn ystod y tri mis hyny cyrhaeddai son am dano hyd atom yn fynych, a gwelem aml grybwylliad am dano yn y papurau Cymreig, a Seisnig hefyd, a deallem ei fod yn cael derbyniad hynod o groesawus yn mhob man yr elai iddo. Ni chawsom fod yn yr Eisteddfod yn Chicago, ond yr oedd y fath amlygrwydd yn cael ei roddi iddi yn y papurau Americanaidd fel yr oeddym yn gallu dilyn ei gweithrediadau y naill ddydd ar ol y llall. Ac yn nglyn â'r Eisteddfod yr oedd son mawr am Hwfa Mon. Ychydig o amser wedi'r Eisteddfod yr oeddwn yn pregethu yn Homestead—tref yn agos i Pittsburgh—ac yn y ty lle yr arhoswn adroddwyd i mi am Americanwr Seisnig yn gofyn i un o deulu y ty "Who is this Half—a—Moon they are talking so much about?" Meddyliai y dyn oddiwrth yr enw, fel y deallid ganddo ef, mai rhyw Indian Chief ydoedd wedi cael ei ddwyn o rywle o'r gorllewin pell i wneyd arddangosiad o hono yn yr Eisteddfod. Ac nid yn nglyn â'r Eisteddfod yn unig yr oedd son am dano. Ymdyrai cynulleidfaoedd mawrion i wrando arno yn pregethu ac yn darlithio, ac aeth yn ddwfn iawn i serch ein cyd-genedl drwy y wlad fawr i gyd. Y flwyddyn ddiweddaf (1905) bum yn aros am rai wythnosau yn Cincinnatti yn nhalaeth Ohio, a sonid wrthyf yn barchus ac yn anwyl iawn am Hwfa Mon gan y Cymry yno, gan y rhai yr oedd adgofion melus iawn am dano yn ei ymweliad â hwy yn y flwyddyn 1893.

Wedi bod yn pregethu ac yn teithio am yn agos i dri mis cyrhaeddodd Rowlands a minau i Remsen lle yr oedd Cymanfa Oneida i ddechreu, a lle y disgwyliem gyfarfod â Hwfa. Cyrhaeddasom yno yn brydlon erbyn y nos gyntaf sef nos Lun, ond er ein siomedigaeth nid oedd dim hanes am Hwfa. Bore dydd Mawrth, daeth telegram oddiwrtho i hysbysu ei fod ar y ffordd ac y byddai yno mewn pryd i bregethu y prydnawn. Gan fod Rowlands wedi pregethu y nos gyntaf disgynodd arnaf fi i bregethu gydag un o weinidogion y cylch yn oedfa y bore. Pan oeddwn ar ganol pregethu daeth Hwfa i mewn a cherddodd yn mlaen i eisteddle yn ymyl y pwlpud. Wedi eistedd edrychodd i fynu ataf gyda'r wên oedd mor nodweddiadol o hono, ac yna edrychodd am Rowlands a chanfu ef yn eistedd yn y set fawr a gwenodd arno yntau. Yna gwelwn, ei lygaid yn llenwi o ddagrau, a thynodd ei gadach o'i logell a chuddiodd ei wyneb ynddi a bu yn yr agwedd hono am rai munydau. Wedi i'r oedfa derfynu brysiasom ato ac yntau atom ninau ac wedi hir ysgwyd dwylaw dywedodd "Frodyr anwyl y mae'n dda genyf eich gweled. Yr oedd arnaf hiraeth am danoch. Yr oeddwn yn methu peidio crio o lawenydd pan welais eich gwynebau." A da oedd genym ninau ei weled yntau a chawsom fod gyda'n gilydd ar hyd yr wythnos hono gan ein bod ein tri i ddilyn y Gymanfa o Remsen i Holland Patent ac oddiyno drachefn i Utica lle yr oedd i derfynu nos Wener. Wedi gorphen y Gymanfa aethom gyda'n gilydd i Waterville lle y disgwylid am danom i gynal cyfarfod pregethu nos Sadwrn ar Sabboth. Bore Llun daeth yr adeg i ni ymwahanu drachefn. Yr oedd Rowlands a minau bellach yn troi ein gwynebau ar New York lle y bwriadem fod erbyn y Sabboth ac yna y dydd Mercher canlynol i gymeryd y llong—y Teutonic fyth—i ddychwelyd adref. Ond yr oedd gan Hwfa fis neu bum wythnos eto i fod yn y wlad. Ceisiasom ganddo daflu y cwbl i fyny i ddychwelyd gyda ni, ac oni fuasai fod ganddo amryw o ymrwymiadau i ddarlithio a bod parottoadau wedi cael eu gwneyd gan y cyfeillion yn y gwahanol fanau mewn ffordd o argraphu a gwerthu tocynau, credaf y buasem wedi llwyddo. Ond ni allai feddwl am siomi y cyfeillion oedd yn disgwyl am dano ac wedi darparu ar gyfer ei ddyfodiad i'w plith. Daeth gyda ni i'r depôt i'n gweled yn cychwyn a chofiaf byth am yr olwg drist ddigalon oedd arno. Yr oedd dagrau eto yn ei lygaid, a daliodd i edrych arnom, a ninau arno yntau, hyd nes y'n cipiwyd o'i olwg. Teimlem braidd yn bryderus yn ei gylch canys yr oedd wedi gwaethygu o ran yr olwg arno o'r hyn ydoedd ar ddechreu y daith, dri mis cyn hyny; ac nid rhyfedd ychwaith canys pregethai a darlithiai gyda'r un egni a meithder yn nghanol gwres mawr yr haf yn America, ag y gwnai yn y wlad hon fel yr ydoedd wedi teneuo a gwywo cryn lawer yn ei wedd. Yn nghofiant y diweddar Dr. Roberts, Wrexham, ymddengys llythyr a dderbyniodd Dr. Roberts oddiwrth gyfaill iddo yn America yn mha un y dywedir fel hyn am Hwfa:

"Yr wyf newydd ddod adref o Bangor Pa: lle y bum yn treulio Sabboth gyda'm cyfaill Hwfa, ac yn ffarwelio ag ef am byth mae'n debyg yn y byd hwn. Darlithiodd yno nos Sadwrn ar Hiraethog a pregethodd y Sabboth dair gwaith i gynulleidfaoedd mawrion. Y mae'r hen frawd yn dal yn dda iawn, ond yr wyf yn meddwl ei fod wedi tori tipyn oddiar pan welais ef gyntaf dros dri mis yn ol. Y mae'n syn ei fod yn dal cystal. y mae'n pregethu neu ddarlithio bob nos ac yn dal ati bob tro am awr a haner i dair awr! ac yn bloeddio a chwysu yn ofnadwy. Pregethu yn wir dda a chyda dylanwad mawr. Y mae wedi myned yn ddwfn iawn i serch y bobl yn y wlad hon ac yr wyf yn sicr ei fod wedi gadael dylanwad da ar ei ol yn mhob man y bu."

Gwelir fod y llythyr uchod yn cadarnhau yr hyn a ddywedwyd yn barod am effeithiau y daith ar Hwfa ac hefyd am y dylanwad da a gafodd ei gymdeithas a'i weinidogaeth ar y rhai y bu yn ymdroi yn eu plith yn ystod y daith. Er cymaint yr ofnem am dano oddiar yr olwg a welem arno pan yn ei adael yn Waterville, cafodd ddychwelyd o'i daith lafurus heb fawr o anmhariaeth ar ei iechyd, canys bu fyw am ddeuddeg mlynedd wedi hyny gan deithio a pregethu a darlithio gyda nerth hyd o fewn ychydig fisoedd i'w farwolaeth. Bu fy anwyl gyfaill Rowlands farw cyn pen pedair blynedd wedi dychwelyd ohono o'r America. Yr oedd ef yn un o'r rhai rhagorol" yn sicr, a phan yn anterth ei nerth yr oedd yn un o'r pregethwyr mwyaf cymeradwy a phoblogaidd yn Nghymru. Nid oedd yn gryf ei iechyd pan yn cychwyn i'r daith, a bernir fod llafur y daith wedi bod yn foddion i fyrhau ei oes. Ond yr oedd Hwfa yn meddu ar gyfansoddiad mor gadarn fel na effeithiwyd arno ef gan y llafur a'r gwres ond yn arwynebol iawn.

Bu y gymdeithas a gefais gydag ef ar y daith hono yn foddion i beri i mi feddwl yn uwch ac yn anwylach o hono nag erioed. Yr oedd iddo yntau ei ddiffygion a'i feiau fel sydd i bawb o honom; ond yr oedd ynddo ragoriaethau a barent i'w gyfeillion ei werthfawrogi a'i garu drwy y cwbl. Gwyr pawb oedd yn ei adnabod ei fod yn hynod o ddiabsen. Byth ni chlywid ef yn siarad yn isel neu yn chwerw am neb. Ac yr oedd hefyd yn hynod o loyal i'w gyfeillion. Ni fynai wrando ar ddim a ddywedid yn erbyn ei gyfeillion. Ni chai neb fyned yn mlaen ond ychydig iawn yn y ffordd hono yn ei bresenoldeb ef, na ddangosai yn ei wedd ac yn ei leferydd, mor anghymeradwy oedd hyny ganddo.

Cofiaf pan yn nesu at y lanfa yn New York, fod Hwfa yn yspio ar y dorf oedd yno yn sefyll i weled y teithwyr yn dyfod o'r llong i'r lan, ac yn edrych allan am un yr oedd yn ei ddisgwyl i'w gyfarfod. Am ysbaid ni welai neb a adwaenai, ond o'r diwedd chwarddodd allan a dywedodd wrthym "Dacw fo'n wir! Welwch chi mono?" ac erbyn i ninau graffu ni a welem rhywun yn y dorf yn taflu ei law ac yn chwifio ei het ar Hwfa. Dyfodiad y cyfaill hwnw i'w gyfarfod oedd y croesaw cyntaf a gafodd yn y wlad y daethai i ymweled â hi. Gallwn feddwl mai yn debyg i hyny y bu arno ar ei fynediad i'r wlad well. Ychydig cyn marw bu am amser yn gorwedd heb gymeryd sylw o neb. Yn sydyn cododd ei ben oddiar y gobenydd ac edrychodd i fynu at nenfwd yr ystafell ac wedi craffu am ychydig eiliadau ar rywbeth neu rywun nad oedd neb arall oedd yn yr ystafell yn gallu ei weled, torodd allan i chwerthin yn llawen, ac yna dododd ei ben i lawr gyda gwén o foddlonrwydd hyfryd—gwen oedd yn aros ar ei wyneb pan y cuddiwyd o dan gauad yr arch Credaf fod Hwfa fel yr oedd yn nesu at y lan, yn gweled cyfeillion anwyl iddo oedd wedi ei flaenu, wedi dyfod i'w gyfarfod ac yn amneidio eu croesaw iddo i'w plith. Do, cafodd yr hyn a ddeisyfir am dano yn y penill hwnw o waith Emrys.

Arglwydd! dal ni nes myn'd adref
Nid yw'r llwybr eto'n faith;
Gwened heulwen ar ein henaid,
Wrth nesau at ben y daith;
Doed y nefol awel dyner
I'n cyfarfod yn y glyn,
Nes i'n deimlo'n traed yn sengi
Ar uchelder Seion fryn.


Nodiadau

golygu