Cofiant Hwfa Môn/Yr Adfeiliad

Awdl Eisteddfod Aberhonddu Cofiant Hwfa Môn

gan Rowland Williams (Hwfa Môn)


golygwyd gan William John Parry
Coron Bywyd


BARDDONIAETH.

YR ADFEILIAD.

WRTH wel'd gweithredoedd Duw o'n blaen
Rhyfeddu mae'n meddylfryd;
Tybiwn, wrth wel'd mor gadarn y'nt.
Nad ydynt byth i syflyd.

Ond tybiaeth heb un sylfaen yw,
Canys mae gwaith Duw yn siglo;
Canfyddir hyny drwy'r byd crwn,
Os dyfal graffwn arno.

Dychrynu'r y'm wrth feddwl hyn,
Er hyny rhaid in' gredu;
Arwyddion sydd bob dydd a nos
Yn dangos hyn o'n deutu.

Creu deddf i ysu nef a llawr,
I ni sy'n ddirfawr syndod;
Ond cofiwn ein bod ni'n rhy ddall
I ddeall deddf y Duwdod.

Canfyddwn heddyw, drwy ein cur,
Fod Natur drwyddi'n curio;
A chyn bo hir, o dan ei bron,
Ei chalon baid a churo.

Am enyd fechan y bydd swyn
Y byd yn dwyn ein sylw;
Pob mater, o'i ysplander filwch,
A droir yn llwch a lludw.


Wrth droi ein golwg ar bob llaw,
I araf ddystaw dremio,
Pob peth a welir drwy'r byd hwn.
A welwn yn adfeilio.

Y pethau tlysaf yn y byd
A geir o hyd yn hacru;
Y tirf deleidion, oedd lawn byw,
Geir heddyw'n araf drengu.

Rhyw wywdra sydd yn ein trymhau
Hyd flodau'r Eden hardda';
Er hardded yw y blodau hyn,
Rhyw wyfyn sy'n eu bwyta.

Heddyw y mae'r gedrwydden gref
I'r nef yn dyrchu'i changen;
Ond i'r pridd, o'i rhwysg yn ol,
Yn raddol daw'r gedrwydden.

Y dyn a grewyd yn ei drig
Ychydig is na'r angel,—
Efe, er meddu ar bob da,
A wywa dan bob awel.

Y brenin ddawnsia yn ei lys,
Ei sang ar frys arafa;
Y tafod, ffrostia bethau hyf,
Y pryf cyn hir a'i bwyta.

Y blodau siriol blanodd Duw
Yn fyw i harddu'n gruddiau—
Maent hwythau, er mor lon eu pryd,
I gyd yn colli'u lliwiau.


Y gwallt, oedd gynt yn ddu ei wawr,
Yn awr a esmwyth wyna;
A'r corph, a gaed yn gryf a chrwn,
Mae hwn yn myn'd yn dipia.

Ffenestri'r llygaid, oeddynt glir,
Welir yn araf d'w'llu;
A'r canwyllau fu'n fflam dan,
Maent weithian ar ddiflanu.

Yr olwyn wrth y pydew drydd.
Bob dydd yn fwy—fwy egwan;
Y foment olaf ddaw ar fyr,
A thyr y llinyn arian.

Y llanc ysgafndroed, fu heb glwy,
Ar ofwy'n llamu'r afon,
Efe yn ebrwydd ymlesga,
A hoffa help y ddwyffon.

Y Lloer, brenines hardd y nos,
Ei mantell dlós heneiddia;
A'i choron ar ei gorsedd wen,
Oddiar ei phen a syrthia.

Yr Haul, agora borth y wawr
Fel cawr i redeg gyrfa,—
Ei galon danllyd gura'n wan,
Ac yntau'n fuan drenga.

Bywyd ac angau drwy'r byd sydd
I'w gilydd yn amneidiaw;
Ond nid oes neb yn dallt yn iawn,
Am hyny awn yn ddystaw.


Pob peth gweledig dan y rhód,
Fel cysgod sydd yn cilio;
A gwyliwn ninau rhag ein bod
Yn pwyso gormod arno.

Rhy wan i'n cynal ar bob pryd
Yw pethau'r byd materol;
Ond gall yr Hwn mae'i enw'n Jah
Ein cynal yn dragwyddol.

Pob dyn ystyriol ar y llawr
O hyd sydd fawr ei awydd
Am wybod beth a fydd ei ran
A'i drigfan yn dragywydd.

Y corph sydd heddyw'n wael ei wedd
Gaiff le'n y bedd didwrw;
Ond enaid sydd o'i fewn yn byw,
O! Dduw, pa le gaiff hwnw?

Llangollen. —————— HWFA MON.



Nodiadau

golygu