Cofiant Hwfa Môn/Ysgrif ar Gathlau Henaint Hiraethog

Y Dyn Ieuanc Cofiant Hwfa Môn

gan Rowland Williams (Hwfa Môn)


golygwyd gan William John Parry
Anerch yn Arwest neu Arawd Gwyl


CATHLAU HENAINT HIRAETHOG.

Os yw yr hybarch Hiraethog yn heneiddio, y mae ei "Gathlau Henaint," yn llawn o nwyf Awen ieuengaidd. Cyhoeddodd ein cyfaill athrylithgar lawer llyfr gwerthfawr yn ystod ei oes, ac y maent oll yn ein meddiant. Ond o'r holl lyfrau rhagorol a gyhoeddodd, y mae y llyfr hwn yn llawn mor hoff genym a'r un o honynt. Y mae ei "Awdl Foliant," yn nechreu y llyfr, yn un o'r gemranau dysglaeriaf yn yr iaith; ac yn un o brif orchestion yr awdwr mewn celfyddyd barddol. Ni wyddom am yr Awdl, ar y Pedwar Mesur ar hugain, ag y mae Awen, a chelfyddyd, wedi ymgymlethu yn nghyd mor brydferth ag yn hon. Y mae ei chynghaneddiad mor gywrain a gwaith ede a nydwydd y bendefiges, ac y mae ei syniadau fel perlfoglynau gwerthfawr yn dysglaerio trwy yr holl weadwaith.

Dyfynwn ambell ddarn yma ac acw, i arddangos i'r darllenydd yr hyn a grybwyllasom yn wir.

CYFARCHIAD Y BARDD I'W AWEN.

Hen Awen, gwna Gån newydd,—un eto,
Na atal dy Gywydd;
Awdl fawl, hyawdl a fydd,
Dda lawen i Dduw Lywydd.


Dad y doniau, dod di wenydd,
Baro gynydd byw ar ganiad,—
Gwawd a golau gyda'u gilydd,
Lanwo'n temlydd, lono 'n teimlad;
I'n Creawdydd, râd Waredydd,
Byddo beunydd, heb ddibeniad,
Fawl a chlodydd, yn afonydd,
Mwya gwiwrydd am ei gariad.

Nid ydym yn edmygwyr mawr o ddull rhai beirdd yn moes gyfarch eu Hawen, gan erfyn arni ddeffroi at ei gwaith; o herwydd y mae perygl i'w Hawen droi clust fyddar atynt a myned i'w ffordd ei hun, gan ymystyfnigo yn ei hanufudd—dod. Ond nid Awen gelffantaidd felly yw eiddo Hiraethog. Nid oedd eisiau iddo ef, ond sisial haner gair yn ei chlust nad oedd yn clustfeinio, ac yn ymaflyd o ddifrif yn ei gwaith. Ystyrir fod y mesur Tawddgyrch Cadwynog a ddyfynwyd yn un o'r mesurau mwyaf anhawdd ei gystwyo; ond y mae Hiraethog yn ei gystwyo, ac yn ei weu mor rwydd, ag y gweua y gwehydd ei edafedd sidan ar ei ddylifau; ac nid yw yn tywyllu dim ar y meddwl wrth wneud hyny, megis y gwna rhai.

DUW YN RHY FAWR I'W AMGYFFRED.

Deall ei fod, a'r holl fawl
Ni fedrir, mae 'n Anfeidrawl
Duwdod ydyw
Da i bawb,—Duw byw;
A'r hanyw ynddo 'i Hunan
I'w glod, Ior glan.


Yn y dernyn cyntaf o'r dyfyniad yna, ceir y Deuair hirion, a'r byrion, yn nghyd; ac yn yr olaf ceir y Gwawd-dodyn Byr; ac y mae celfyddyd ac athrylith, yn dysglaerio yn ddi gwmwl, trwy bob llinell.

DUW YN EI WAITH.

A'r air dygai'r greadigaeth
Yn fyw delaid i fodolaeth;
Allan hwyliai 'n union helaeth
Pob yr heigiau, pob rhywogaeth.

A'i air daliai yr adeilad,
Er hanfodiad hen fydoedd
E reola ar ei alwad
Hwyl y lluoedd, haul a lleuad.

Y mae y Gyhydedd hir, a'r Gadwen fer, yn darllen yn llithrig, yn y ddau ddernyn yna; ac y mae eu tôn acenau yn cyffwrdd tanau tyneraf ein clyboedd, ac yn rhinio chwilfrydedd ein dychmygiad cywreiniaf.

DAIONI DUW I DDYN.

Y ddaiar lwythawg greigiawg a grogodd
Ar y gwagle, o'r safle ni syflodd;
Ei awyr dyner, enfawr, a daenodd
A hono yn wasgod am dani wisgodd.
Ei wyneb arni wenodd—yn hyfryd
A hi yn llawn iechyd y llawenychodd.


YMDDANGOSIAD DUW YN Y CNAWD.

Do, deuodd o'i fodd yn fwyn
Y mawredd yn fab Morwyn!
Mab Duw 'n wir, yn mhob dawn oedd
Waredwr, a Mab Mair ydoedd!
Yn asgwrn, o'n hasgwrn ni,
Ordeiniwyd, E'n Frawd ini.


CRIST AR Y GROES.

O! Brynwr ! ei bur einioes,
Rhoi hon ar y greulon Groes;
Wnai 'n ufudd ufudd hefyd
Dros bawb, ie, dros y byd!
Yn ei waed mawr iawn ei werth
Rhoed diben ar waed aberth
Digon deddf, a digon dyn
Gafwyd, ac i bob gofyn
Yn ei daliad Oen dilyth
Rhoes warthnod ar bechod byth
Damniai ef, a dyma i ni
Ymwared o'n camwri!
Ei angau yn ei ingoedd,
Yn angau i angau oedd!


Dengys yr Hir a Thoddaid, a'r Deuair hirion yma eto, nad yw urddas awenyddol yr Awdl ddim yn colli wrth fyned yn mlaen, ond ei fod yn dysglaerio yn gryfach

CYDFOLIANT.

Caiff ei garu
Hynaws Iesu, yn oes oesoedd;
Gan bob graddau
Rhi a llwythau yr holl ieithoedd.


Haul y wybren hylwybrawl,
Y lleuad oedd a'i llwyd wawl;
A'r Ser, anifer i ni
Olwynion o oleuni;
Llenwch holl gonglau llonydd—y deugant,
A byw foliant hefelydd.


Tan a chenllysg, cymysg certh,
Eira a rhew, tew, a'r tarth;
A'r storm fydd yn nydd ei nherth
Yn gwarau penau pob pyrth.

Y taranau terwynawl,
A chwi fellt fflamiwch ei fawl.

Dyna i ti farddoniaeth ddarllenydd, a digon o dan ynddi i doddi calon Yscotyn! Er caethed yw rheolau Hupynt, y Proest Cadwynodl, y Toddaid, a'r Deuair hirion, y mae Awen HWFA MON. danllyd Hiraethog, yn fflamio trwyddynt, nes y mae pob peth ar dân mewn moliant!

HEDDWCH Y MILFLWYDDIANT.

Arfau rhyfel ni welir
Yn un ty o fewn y tir
Eu rhingyll i dir angof
I gyd fydd Morthwyl y Gof!


A'i forthwyl gwna'r gof wyrthiau—tra hynod
Try anian cleddyfau,
Ys eu hawch a dry'n sychau—godidog
Gyr y Miniog eirf yn grymanau.

Trwy ei ffydd try y waewffon—cyn pen hir
Hono ail enir ar ael ei einion!

Heb rith daw bendith y byd
Ar ei einion ryw enyd
A gwyl i'w Haul—forthwyl fydd
Er ei glod drwy y gwledydd.

Prysured, deued y dydd.
Diflano byd aflonydd,
Y tònog anghytuno,
A bár frad yn mhob rhyw fro
Y llid at y naill y llall
Y chwerwi at barch arall


Y celwydd a'i aflwydd o
Eto allan a'r twyllo
Hunanedd du annynol
A'i fryd lyncai fyd i'w fol
Yr uchder, a'r balchder byw
Aelodyn o ddifl ydyw!

Os nad yw peth fel yna yn farddoniaeth ni waeth peidio a son am farddoniaeth byth. Na ddarllenydd, dyna farddoniaeth a garia ddylanwad i'r oesau a ddeuant; ac a ddyga fri i enw Hiraethog, yn meddwl pob dyn a'i darlleno yn ystyriol. Os dyweda rhai o ddarllenwyr y Dysgedydd, nad ydynt yn gweled dim neillduol yn y darnau a ddyfynwyd o'r Awdl odidog hon, rhoddwn gyngor iddynt fod yn ofalus wrth fyned drwy ffair y gwartheg, rhag ofn i ryw fuwch neu fustach, fwyta y Maimp sydd ar eu hysgwyddau.

Mae yn y llyfr bump o gathlau eraill, sef Marwnad Seisnig Hiraethog, i'w ddiweddar frawd, y Parch Henry Rees; Afon Fach y Bardd; Anerchiad hen Bererin cystuddiol i'w draed dolurus; Yr Hen Ben Maen Mawr; a Mrs. Eliza Jones, o Bodoryn Fawr.

Y mae y cathlau hyn oll, yn orlawn o farddoniaeth naturiol wedi ei gwisgo yn ngwisgoedd dillynaf yr iaith. Y mae y farwnad i'w frawd, yn llawn o deimlad byw hiraethol, ac yn cyffroi gwaelod y galon wrth ei darllen. Mae Afon Bach y Bardd, yn sisial yn ein clust, wrth ei darllen, ac yr ydym fel yn gweled y brithilliaid yn chware ar ei graian glas, ac fel yn clywed yr adar yn canu ar ei glanau.

Mor swynol yw! Mae Anerchiad yr hen bererin i'w draed, yn peri ini wylo, a chwerthin bob yn ail! Mae yr hen Benmaen Mawr, fel ambell het bregethwr, yn fwy nag ef ei hun, yn y caniad hon! Am Farwnad i Mrs. Eliza Jones Bodoryn Fawr. Y mae hon yn un o'r Marwnadau tlysaf o'i maint a ddarllenason erioed.


Nodiadau

golygu