Cofiant John Williams (I ab Ioan) Aberduar/Rhan I

Anerchiad i'r Darllenydd Cofiant John Williams (I ab Ioan) Aberduar

gan John Davies, Llandysul

Rhan II

COFIANT JOHN WILLIAMS.

RHAN I.

Prif gyfnewidiadau ei fywyd—Lle ei enedigaeth—Ei rieni a'i berthynasau—Ei ddyfodiad at grefydd—Ei fedyddiad—Dechreu pregethu—Ei fynediad ir Athrofa—Ei gyd—fyfyrwyr—Rhai engreifftiau o'i hynodion yno—Ei alwad i'r Penrhyncoch hefyd i Aberduar—Ei sefydliad yn y lle olaf—Ei briodas—Nifer ei deulu—Ei gystudd hirfaith—Ei angeu yn nghyd â hanes ei farwolaeth.

GANWYD gwrthddrych ein cofiant mewn ffermdy bychan o'r enw Trwynswch, yn mhlwyf Llandoged, Swydd Dinbych. Enwau ei rieni oeddynt John a Jane Williams: oddiwrth enw ei dad y cymerodd yr enw Barddonol "I. ab Ioan." Yr oedd ei fam yn ddynes hynod o grefyddol, ac yn aelod gyda'r Bedyddwyr yn Llanrwst. Nid oedd ei dad yn proffesu crefydd, eto Trefnydd Calfinaidd ydoedd o ran ei farn. Byddai Mr. Williams yn siarad llawer am ei fam—mwy felly nag am ei dad—hi, mae yn debyg, gafodd yr afael flaenaf ar ei feddwl, ac egwyddorion proffesedig ei fam a fabwysiadodd. Bedyddiwyd ef yn Llanrwst gan y Parch. John Thomas, gweinidog yr eglwys ar y pryd. Dechreuodd bregethu yn Cefnbychan o gylch pump-ar-hugain oed. Mae anrhydedd mawr wedi cael ei roddi ar yr eglwys hon trwy iddi fod yn gychwynfan i ddau o brif wroniaid ein henwad, sef y Parch. Edward Williams, Aberystwyth, ac arwr ein cofiant. Bu Mr Williams yn cadw ysgol a phregethu yn Cefnbychan am ysbaid o dair blynedd cyn iddo cael ei dderbyn i Athrofa y Fenni.

Yr hyn a gymerodd le pan oedd rhwng wyth a naw-ar-hugain oed :—Yr oedd gan yr athraw olwg fawr ar yr efrydwr o Gefnbychan fel duwinydd, ond nid cymmaint fel Sais, yr hon iaith oedd yn hollol annaturiol iddo. Dywedir fod yno gyd-fyfyriwr iddo o edrychiad lled dywysogaidd o ran corph, ond yr ystafell uwchben y llygaid yn lled wag. Fel y gwyr llawer, yr oedd y dyn oddiallan yn bur gyffredin gyda Mr. Williams. Un diwrnod, pan oedd y ddau yn cyd-ddweyd eu gwersu wrth yr athraw dysgedig, wedi iddo gael ei foddhau gan y naill a'i siomi yn y llall, dywedodd wrth y gwr prydferth yr olwg arno, "Take care of your body," ac wrth Mr. Williams, "Take care of your soul."

Yr oedd yr elfen fawr gymdeithasol—pa un a nodweddodd ei fywyd—yn gryf ynddo y pryd hwnw. Efe oedd pen "Ystorïwr" yr Athrofa; medrai ysgwyd eu peiriannau chwerthingar pryd yr ewyllysiai. Cof genyf ei glywed yn crybwyll am un tro y cafodd gyflawn fuddugoliaeth ar yr holl fyfyrwyr. Bob hwyr dydd Llun byddai ganddynt gynnadledd i adrodd ac adolygu eu helynt pregethwrol dros y Sabbath. Un tro siaradodd y brodyr â'u gilydd am y rheswm eu bod yn cael hwyl gyda ystorïau "Ab" (o herwydd "Ab" yr oedd yn cael ei alw ganddynt). Canlyniad yr ymddyddan fu penderfynu peidio rhoddi hwyl iddo y noswaith hono, ac eto i fod yn ffyddlon i'w gilydd. Pan ddaeth y cyfarfod, penodwyd yr Hybarch D. Rhys Stephen i'r gadair; dechreuodd y brodyr adrodd eu hystorïau gyda mawr hwyl. Galwyd ar "Ab" i ddweyd ei lith, ond pawb mor ddystaw a'r bedd. Synodd y brawd beth oedd yn bod; ail ddywedodd ystori, dilynwyd hono drachefn gyda'r un agwedd ddiystyrllyd. Deallodd "I. ab Ioan" erbyn hyn fod yno gynghrair rhyngddynt i'w orchfygu; gan hyny daeth allan yn ei nerth mawr, ac adroddodd yr ystori ganlynol:—"Cwrddodd boneddwr unwaith â hogyn bychan ar yr heol, a gofynodd iddo, 'I b'le 'rwyt ti'n myned?' 'I'r pentref gerllaw,' oedd yr ateb. Os cyfarfyddi â'm goruchwyliwr ar y ffordd, dywed wrtho am fyned i'm ffermyard i edrych yr anifeiliaid?' Atebodd y bachgen, Gwnaf gyda phob pleser.' Siarsodd y boneddwr ef dair neu bedair gwaith trwy ddweyd, 'Os cyfarfyddi ag ef, cofia ddweyd. 'Wel, syr,' ebai y bachgen, 'beth ddywedaf wrtho os na chwrddaf ag ef?' Gyda hyn poethodd ysbryd y boneddwr, a dywedodd, 'Well, go d—m it, 'does dim eisieu dweyd dim wedyn, yr hen grwt dwl." Ar hyn torodd y gronfa fawr ac arllwysodd eu ffrydlif chwerthiniadol nes iddynt orwedd ar draws yr ystafell, a darfu i'r Parch. D. Rhys Stephen syrthio mewn pang chwerthiniadol ar ei gefn dros y gadair i'r llawr.

Yr oedd yn eilun edmygedd a serch yr holl goleg tra bu yno. Parhaodd y Parch. D. Rhys Stephen i ddal gohebiaeth ag ef tra fu byw. Yr oedd y Parch. Edward Evans, Dowlais, yn un o'i gyd-fyfyrwyr, a chaiff y llythyr canlynol o waith Mr. Evans ymddangos fel y mae o dan ei law ef ei hun mewn perthynas i'r cyfnod hwnw.

Llanwrtyd Wells,
Awst 27ain, 1874.

***** " Yr oeddwn yn bur gyfarwydd â Mr. Williams er ys hanner can' mlynedd yn ol.

"Ganwyd ef mewn fferm fechan o'r enw Trwynswch , yn nghymydogaeth Llanrwst. Daeth oddi yno i'r Cefnbychan i gadw ysgol ; yno yr adnabum ef gyntaf, ac yr oeddem yn llettya yn yr un ty. Yr oedd y pryd hwnw yn gallu cyfan- soddi pregeth mewn amser byr iawn . Cof ydyw genyf ei glywed yn dweyd bryd ciniaw un diwrnod , Mi wnes bregeth, wele di , heddyw ar y ffordd o'r Cefnbychan yma, a dyma'r testun, ' Ty Iacob, deuwch a rhodiwch yn ngoleuni yr Arglwydd.' Yr oedd anallu naturiol ynddo i fod yn siaradwr Seisneg da ; yr oedd yn deall Seisneg, ac yn gallu defnyddio llyfrau Seisneg iddo ei hun gystal ag un o'i gyd-fyfyrwyr, ond yr oedd pregethu Seisneg yn boen iddo. Felly nid oedd efe fel Sais gymmaint yn flafr y tutor, ond yr oedd ganddo olwg fawr arno fel duwinydd . Byddai weithiau yn methu a dweyd ei lesson yn dda, a'r tutor yn ei ddwrdio ; deuai i fyny i'r Library y prydiau hyny a'i lygaid yn llawn dagrau , a dywedai yn gwynfanus, ‘ Happy time to go from him .' " Pan y byddai wedi dweyd ei wers yn dda , deuai oddi- wrth y tutor at y bechgyn mor llawen a'r gôg, ac fel hyn y dywedai yn gyffredin:

'Da genyf ganu, da genyf gwrw,
Gwisgo rhibbanau , a gwasgu rhai menyw.'

" Yr oedd yr oll o'i gyd-fyfyrwyr yn ei hoffi yn fawr ; ond Dafydd Rhys Stephen a minau oeddynt ei brif ffrydiau .

"Ydwyf, yr eiddoch,
EDWARD EVANS."

Wedi gorphen ei yrfa golegawl, derbyniodd alwad i Penrhyncoch, a bu yno ar brawf am ychydig fisoedd. Yn y cyfryw adeg daeth ar ei gylch i Aberduar, a chafodd alwad unfrydol eglwysi Coedgleision ac Aberduar, yr hon a dderbyniodd yn galonog, ac urddwyd ef tua mis Tachwedd, 1831.

Ychydig iawn o bregethwyr fu yn gweini yn yr urddiad. Nid ydym yn gwybod y rheswm am hyny. Trefn y cyfarfodydd oeddynt a ganlyn:—Y nos gyntaf, pregethodd y Parch. W. Evans, Aberystwyth. Am ddeg, yr un gwr parchus a bregethodd siars i'r gweinidog a'r eglwys, a neillduwyd y brawd trwy arddodiad dwylaw a gweddi gan y Parch Daniel Davies, Talgoed, Llandyssul. Yr oedd hefyd yn bresenol y Parchn. T. Thomas a Timothy Jones, Caio. Y mae y gwyr da hyn oll wedi eu symmud oddiwrth eu gwaith at eu gwobr er ys blynyddau bellach. Fel yma y dechreuodd ein brawd yrfa ei weinidogaeth, pa un a redodd mor llwyddiannus.

Yn y flwyddyn 1841 ymunodd ein hybarch frawd ag Eleanor Hughes, Llangyforiog, mewn glân briodas. Y Parch. H. W. Jones, Caerfyrddin, fu swyddog yr undeb hwn, a byddai Mrs. Williams yn dweyd yn aml wrth Mr. Jones, mewn digrifwch, "Yn wir, Mr. Jones, rhaid i chwi ddyfod i ddadwneyd yr undeb eto, y mae yn rhy ddrwg i fyw gydag ef." Yr oedd Mrs. Williams yn chwaer i'r Parch. John Saunders Hughes, Mount Pleasant, Abertawe; gwr o ddysg a doniau helaeth iawn.

Cynyrchodd yr undeb hwn chwech o blant, sef Martha, John, Jane, Elizabeth, Dafydd, a Mary Anne. Yr oll yn fyw, yn nghyd â'r weddw alarus.

Priodol yw nodi y fan hon mai yr oll o'i berthynasau sydd yn fyw ac adnabyddus i'r teulu ydyw un chwaer, yr hon sydd yn byw yn y Ddolwen, plwyf Llangarnedd, ac yn aelod gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, yn nghyd â'r Parch. John Evans, gweinidog y Wesleyaid yn L'erpwl.

Y lle cyntaf yr aeth Mr. Williams i lettya ydoedd Under Grove, cartrefle Mr. Saunders (brawd yr Hybarch D. Saunders, Merthyr), ac yno y bu am chwech mlynedd a hanner, y gweddill a dreuliodd cyn priodi yn Sarnginyn. Gellir dweyd fod ein hoffus frawd yn ddyn hynod iach a chryf ei gyfansoddiad. Nid oedd un amser yn achwyn hyd ei ddyddiau olaf, gyda'r eithriad o'r iselder meddwl a'i tarawodd pan oedd yn Under Grove; methodd bregethu am bump neu chwech mis yr adeg hono. Yr oedd yn meddu ei synwyrau a'i amgyffrediad, ac yn bwyta yn lled dda; ond nid oedd bosibl ei gael o'r gwely. Yr oedd Mr. Williams yn hollol hysbys o natur ei glefyd. Un tro penderfynodd ymdrechu ei gael i lawr.

Wrth fyned allan un boreu, fel arferol, i edrych y tir, dywedodd wrth Mrs. Saunders am ei alw i lawr erbyn y boreu-fwyd. Gwnaeth hithau gydag egni anarferol, ond ni thyciodd dim. Wedi i wr y ty ddychwelyd, gofynodd a oedd y llettywr wedi codi. Atebwyd, nad oedd. Ar hyn i fyny ag ef i'r ystafell wely, a dechreuodd syllu ar ddarlun yr hwn oedd yn cynnwys "Dienyddiad Dick Turpin." Symmudodd at un arall, ac arosodd yno am enyd, yr hwn oedd yn ddarlun o nifer o ffyrdd ysbeilwyr yn cael eu dienyddio. Yr oedd yno ddarlun arall yn dwyn yr un golygfeydd ofnadwy! Wedi aros ychydig gyda hwnw, rhedodd y boneddwr allan yn lledradaidd, gan lefain—"Williams, dewch i lawr o'r ystafell yna; nid oes neb heb ei grogi ond eich hunan." Ar hyn, heb oedi eiliad, rhedodd i lawr y grisiau a'i ddillad dan ei gesail.

Bu y tro hynod yna yn droad adnewyddol i'w feddwl; ac yn fuan ar ol hyny, trwy drugaredd y Duw mawr, daeth i lanw ei gylch arferol. Wedi pregethu ychydig Sabbathau yn Aberduar, cymhellwyd ef gan ei frodyr yn y weinidogaeth i fyned i Gymmanfa Llandilo-fawr; a phregethodd yno, am saith yn y boreu, ar "Gariad Duw wedi ei ddadblygu yn y Cyfryngwr bendigedig," gyda dylanwad anarferol, ac nid gormod ydyw dweyd―er mor nerthol oedd y cewri yn pregethu yn y Gymmanfa hono, megys Francis Hiley, H. W. Jones, Spencer, Llanelli, &c., &c.,—mai efe oedd ar y blaen.

Ar ol hyny llonyddodd ei feddwl, ac ni phrofodd ond ychydig ymosodiadau ysgafn oddiwrth y gelyn annaturiol a phoenus hwnw.

Tua dwy flynedd cyn ei farwolaeth tarawyd ef gan enynfa yn mys ei droed, ac yn fuan aeth i'r llall, ac i'r droed arall, gyda yr un loesau chwerwon; wedi hyny cododd i fysedd ei ddwylaw. Mewn canlyniad i'r ingoedd ofnadwy, collodd holl ewinedd ei draed a'i ddwylaw. Dyoddefodd boenau annirnadwy, a hyny gydag amynedd duwiol a ffydd Cristion. Ymdrechodd am flwyddyn i gadw ei gylch yn y cyflwr truenus hwnw. Teg yw crybwyll i'r eglwys fod yn hynod garedig wrtho yn ei amgylchiadau cyfyng. Prynasant gerbyd drudfawr iddo at ei wasanaeth, a roddasant bymtheg punt ar hugain o dysteb i gynal ei feddwl i fyny trwy ysbaid ei gystudd. Talodd Aberduar a Chaersalem ei gyflog yn llawn. Cydymdeimlodd brodyr y weinidogaeth ag ef i fesur helaeth yn ei amgylchiadau; eithr, wedi yr holl ffyddlondeb a'r ymdrechiadau ar ei ran, terfynodd ei gystudd hirfaith a phoenus yn angeu y dydd diweddaf, o'r flwyddyn 1871, er galar a cholled i'r teulu, yr eglwys, y gymydogaeth, ac hefyd i gylch y Gymmanfa; eto hyderwn er cysur a llawenydd tragwyddol iddo ef. Tafled y Duw trugarog ei aden dros y teulu amddifaid sydd yn aros. Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus; gosodwn yr ysgrif yn y fan hon fel yr ymddangosodd yn Seren Cymru (Ionawr 12ed, 1872,) gan ei hoffus gyfaill y Parch. W. Hughes, Glanymôr, Llanelli:—

CLADDEDIGAETH Y PARCH. JOHN WILLIAMS,
ABERDUAR.

"Y mae y cewri yn Sion yn syrthio, y gwylwyr yn cael eu colli oddiar y twr, y gwyr mawr yn Israel yn cwympo i'r bedd. Mae Cymmanfa Caerfyrddin a Cheredigion wedi cael colled trwy symmudiad enwogion o'n plith. Y mae lle y brawd anwyl Williams yn wag yn Aberystwyth; Nazareth wedi colli Theophilus Thomas; ac yn ddiweddaf oll y brawd hoff Williams wedi ei golli o Aberduar. Y pregethwr galluog a hyawdl, a'r cyfaill ffyddlon, wedi ei golli a'i osod yn nhywyllwch y bedd ar ol hir gystudd o'r natur fwyaf poenus; wedi dyoddef yr arteithiau mwyaf dychrynllyd, efe a hunodd yn yr Iesu prydnawn y dydd diweddaf o'r flwyddyn 1871, yn 71 mlwydd oed. Gadawodd ei ysbryd y daearol dy ar y Sabbath a'r dydd olaf o'r flwyddyn, a chymerwyd ef mewn trugaredd gan ei Dduw i dreulio y Sabbath hir, yn ngwydd yr Oen, tu fewn i'r llén yn ngwlad y goleuni pur.

"Nid ydys yn myned i ysgrifenu cofiant i'r brawd hoff sydd wedi ein gadael, gobeithio y gwneir hyny gan rhyw un yn y dyfodol; ond yn unig groniclo hanes ei gladdedigaeth, yr hyn a gymerodd le dydd Gwener, Ionawr 5ed, 1872. Deg o'r gloch boreu y dydd hwnw oedd yr awr appwyntiedig, pan y gwelid y bobl yn d'od o bob cyfeiriad gan dynu tua'r ty lle y gorweddai yr hyn oedd farwol o Williams, Aberduar. Daeth llu o weinidogion o wahanol enwadau, o bell ac agos, i ddangos eu parch i'r ymadawedig; yn eu plith gwelsom y rhai canlynol:-Y Parchn. H. W. Jones, cyfaill mynwesol i Mr. Williams dros ddeugain mlynedd; W. Hughes, Llanelli; J. Lloyd, Felinwen; D. Jenkins, Jezreel; D. Morris, Porthyrhyd; E. Lewis, Llandyssul; D. Williams, Llwyndafydd; L. Roderick, Ceinewydd; J. D. Evans, Caio; D. Williams (A.), Rhydybont; Mr. Evans, Maesymeillion, a Mr. Davies, Alltypacca, gweinidogion y Presbyteriaid, a dichon eraill nad oedd yr ysgrifenydd yn gwybod eu henwau. Yr oedd yr angladd yn un o'r rhai mwyaf a welwyd yn y gymydogaeth, oblegid yr oedd y brawd Williams yn hynod o barchus gan bawb yn mhell ac agos. Yn y ty, cyn cychwyn, darllenodd a gweddiodd y brawd John Lloyd, a chanwyd hymn. Allan, cyn codi y corph, dywedwyd yn bwrpasol i'r amgylchiad a gweddiwyd gan y brawd D. Jenkins.

"Wedi hyny aethpwyd yn dorf fawr a threfnus tua hen gapel Aberduar, tua milldir oddiwrth y ty. Blaenorid gan y gweinidogion yn ddau a dau,' a phob un yn gwisgo arwyddion galar yn y ffurf o hat-bands wedi eu rhoddi gan yr eglwysi, y rhai yn ddiau ni welant yn ormod i dalu yr holl dreulion cysylltiedig â chladdu yn barchus un a'u gwasanaethodd am ddeugain mlynedd.

"Wedi cyrhaedd yr addoldy, darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. D. Williams, Rhydybont; a phregethodd y brodyr W. Hughes, Llanelli, a H. W. Jones, Caerfyrddin, oddiwrth Thes. iv. 13, 14; a Phil. i. 6. Yr olaf yn destun dewisiedig y brawd Williams amser cyn ei farw. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi gan y brawd D. Williams, Llwyndafydd; canwyd yn ystod y cyfarfod ddwy neu dair gwaith, a rhoddwyd yr emynau allan gan y brawd D. Morris.

"Yna awd allan i roddi yr hyn oedd farwol o Williams, Aberduar, yn ei dy newydd. Yr oedd y bedd wedi ei wneyd yn hardd â phriddfeini, ac fel y dywedai y brawd Evans, Caio, Y mae yn edrych yn ddymunol o fedd.' Ar lan y bedd siaradwyd yn doddedig gan y brodyr Lewis, a Evans, Caio, a dybenwyd trwy weddi gan y brawd L. Roderick. Fel hyn gadawsom y bardd a'r pregethwr yn nhir tywyllwch a chysgod angeu, gan deimlo y gwneir y corph gwael a roddwyd i lawr, yn y dydd diweddaf, yr un ffurf a'i gorph gogoneddus ef.

"Dangosodd yr ardalwyr bob serchawgrwydd i'r dyeithriaid a ddaethant yn nghyd, a phawb a amlygent y parch mwyaf i'r brawd oedd wedi ein gadael. Ein gweddi yw am i'r Arglwydd fod yn dyner iawn o'r weddw a'r plant, a'u cadw o dan gysgod ei adenydd ; ac hefyd i ddanfon gwas teilwng i lafurio yn y maes pwysig lle llafuriodd ein brawd gyda llwyddiant am dymhor maith. Yr wyf yn gweled nad oes eisieu y gair teilwng yn y fan yna, oblegid os danfona yr Arglwydd un-ni ddanfona ond y teilwng a'r cymhwys. Bydded felly.

Llanelli.

WILLIAM HUGHES."

Y mae un peth yn hynod yn nhreigliadau bywyd ein hanwyl frawd, h.y., fod y prif gyfnewidiadau wedi cymeryd lle ar ben deg mlynedd :—

Yn 1801 y ganwyd ef.
Yn 1831 yr ordeiniwyd ef.
Yn 1841 y priododd.
Yn 1871 y bu farw.

Er mor gysurus a llewyrchus y bu gyrfa bywyd ein hoffus frawd mewn eglwysi anrhydeddus a thangnefeddus, ac yn byw yn un o'r dyffrynoedd mwyaf prydferth yn Nghymru, mewn ffermdy tlws o'r enw Gwrdymawr, ac o ran amgylchiadau uwchlaw angen a thylodi drwy ei oes, ac ys dywedai ei hunan am y dyffryn :

"Mae man cyfleus i graffus wr
Ar uchel dwr y Dderi,
Os na fydd niwl, i weled glyn,
Neu ddyffryn tyfawl Teifi ;
Ar bob man yn y parthau hyn,
Ei gyrau sy'n rhagori.

"Mae Dyffryn Teifi 'n faith ei hyd,
Mae ynddo brydferth goedydd,
A'r olwg arnynt sydd yn gu,
Yn neutu glwysion nentydd;
Ar gangau 'r gwydd lle cana 'r gog,
Uwchi serchog ddeiliog ddolydd.

"Wrth rodio 'r coedydd hirddydd haf,
Yn araf, yn mhlith irwydd,

Yr adar hardd-deg yma gaf,
Rai mwynaf, ar y manwydd;
A'u per ganiadau lleisiau llon,
Cain hylon, i'w Cynhalydd.

"Pa ddyn all beidio hoffi 'u llais,
Neu adlais, eu per odlau,
A hoffi 'r gân a'i leffaith gwir,
Ac aros hirion oriau
I wrando lleisiau pynciau per,
Mwyn dyner, eu mân dannau.

"Da wenith pur y Dyffryn glwys,
A'i haidd mawr bwys ganmolir;
A'i ychain breision hardd eu llun,
Yn wael yr un ni welir;
Mae ynddo borthiant bob peth byw,
Hyfrydol ydyw'r frodir.

"Mae'r defaid tewion yma sydd,
Ar ddolydd bras gwyrdd-ddeiliog,
Yn dangos fod y Dyffryn hardd
I'w wel'd yn dra ardderchog;
Mae'n ail baradwys, lawn o ffrwyth,
Diadwyth, le godidog.

"Anedd-dai heirddion yma gawn,
Teg erddi, llawn berllanau,
Sy'n perarogli 'r Dyffryn clau,
Fel Eden, â'u hardd flodau;
Afalau per, yn llwythi gant,
Sy'n borthiant yn ei barthau.

"Rhed iachus ddw'r o'r bryniau ban,
A chwydda 'n iach afonydd;
Dolenog y'nt, mewn tiroedd bras,
Yn myn'd trwy ddeil-las ddolydd;
A rhyw ffynnonau llawnion glân,
Gawn yma, mewn mân gwmydd.

"Rhed Teifi deg trwy 'r Dyffryn llad,
Gwna 'r wlad yn dra chyfoethog;
I'n maesydd glân mawr ffrwyth a gyrch,
Gwna 'n llenyrch yn feillionog
A dwg ei haraf, lathraf li',
Ein gwlad i fri goludog.

"A chelfyddydol bontydd da,
Yn gadarn yma godwyd,

I groesi Teifi 'n hwylus iawn,
Eu budd yn llawn a brofwyd;
A llawer un o'r pontydd hyn
Y Dyffryn a addurnwyd.

"Ychydig bach o'r eira gwyn,
Ar dir ein glyn sy'n glynu;
Mae'r eira 'n myn'd i hau ei lwch
I fanau uwch i fyny;
Yn gynar iawn, er lles i'r wyn,
Mae'r Gwanwyn yma ' n gwenu.

"Yr amser gynt mi glywais gân,
'Morwynion glân Meirionydd;'
Gwyryfon hefyd pur ddifai,
A glân, a fagai glenydd,
Yr afon Teifi uchel nod,
Y rhai sy'n glod i'r gwledydd.

"Mae yma ambell Olwen lwys,
Fel rhosyn glwys a glanwedd;
Ac ambell Elen landeg lon,
Morwynion gwych am rinwedd;
Ac ereill sy'n tryfritho'r fro,
Gan rodio mewn anrhydedd.

"Dan effaith athrylithgar ddawn,
Mae'r wlad yn llawn llenorion,
A beirdd sy'n gwneuthur, yn ddi dawl,
Newyddawl gynghaneddion;
Pa le y ceir ar fryn neu bant,
Yn un-lle ' r fath gantorion?

"Yn nyddiau'n tadau mawr eu rhin,
Cawd yma win Awenydd,
Gan lawer o'n hen feirddion llon,
Ar finion yr afonydd,
Ni fu glan Teifi, fangre glyd,
Un pryd heb fagu Prydydd.

"Un Edward Richards, enwog wr,
Fu' n noddwr awenyddion;
Mae 'i wê e'n llawn o win a llaeth,
O hyd mae'n faeth i feirddion;
Mae 'i waith yn hollol wrth ein bodd,
Da canodd ei accenion.

"Ac yma magwyd Prydydd Hir,
Adwaenai'n wir yr Awen;

A Dafis Castellhowel clau,
Mae yntau dan dywarchen;
A Daniel Ddu, y doniol ddyn,—
Arebawl un oedd Reuben.[1]

"A Dafydd llwyd, Brynllefrith wych,
O! ceinwych byddai'n canu;
Ac Eleazer ber a chu,
Tra dyddan bu'n prydyddu;
Ni bu yn agos nac yn mhell
Erioed eu gwell am ganu.

"Mae Ioan Emlyn fardd yn fyw,
Ac Ioan Mynyw[2] mwynwas;
Ac Iago Emlyn mawr ei ddawn,
Sy'n llawn o bur-ddawn Barddas;
A Gwilym Gwenog, enwog ddyn,
I'r Dyffryn sydd yn urddas.

"Mae yma rai offeiriaid myg,
A digon o Feddygwyr;
A gwir bregethwyr, uchel nod;
A gormod o Gyfreithwyr:
'Does yma, fel mae goreu'r clod,
Yn 'mosod ddrwg ormeswyr.

"O benau y mynyddau ban,
Ceir golwg ar ein Llanau;
A gweled ein Tai-cyrddau teg,
A'n Coleg hardd-deg yntau;
Ar las-lawr, yn y Dyffryn ter,
Mae'n bleser gwel'd Palasau,

"Ceir gweled draw Dregaron fad,
A muriau Ystrad Meirig;
A Llanbedr wych, ar lwysdeg dir,
Sy'n Dref lân, wir ddysgedig;
Yn mlaenau 'r Dyffryn mae rhai hyn,
Ar fanau lled fynyddig.

"Ceir gwel'd o uchel fan o bell,
Dref brydferth Castell-newydd;
A threm ar deg Llandyssul deg,
Man cudeg rhwng y coedydd;
Ac Aberteifi, ger llaw ' r môr
Mae goror ei magwyrydd.

"Cerbydres yma 'n gyflym red
I waered ac i fyny,
Yn ol a blaen trwy 'r Dyffryn teg;
Man agos hawdd mynegu—
Yw'r man yn awr, oedd gynt yn mhell;
Mae'r wlad yn well o'i meddu.

"Na ddoed i'r Dyffryn frad na briw,
Mawr lwydd i'w ardalyddion;
Yn wlad o barch mewn golud byd
I gyd bo 'i lad drigolion;
Yn dal i garu crefydd Crist,
Heb nag, fel gwir Grist'nogion.

"Yn niwedd oes, trwy nawdd Ion hael,
Dymunwyf gael fy nghladdu,
Tan Ywen werdd lle sia'r gwynt,
Deheuwynt, ar lan Teifi;
Lle mae fy hen gyfeillion gwar,
Yn llwch y dd'ar yn llechu."

Eto gwelwn yn ei hanes fod geiriau y llyfr dwyfol yn wirionedd, "Dyn a aned o 'Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau a llawn o helbul," ac mai ofer yw rhoddi pwys a hyder ar ddedwyddwch y byd presenol. Yr ydym yn gallu dweyd, trwy brofiad a gwybodaeth bersonol, nas gwelsom drigfa dedwyddwch yn fwy cyflawn i'n golwg ni na chartrefle ein hanwyl frawd. Eithr heddyw cymylau a thywyllwch sydd yn crogi uwchben y fan.

Nodiadau

golygu
  1. Reuben, Prydydd y Coed; bardd rhagorol o'r ardal hon, a fu farw erys tro yn ol.
  2. John Lewis, Tregaron.