Cofiant Richard Jones Llwyngwril/Helyntion Boreuddydd Ei Fywyd

Rhagymadrodd Cofiant Richard Jones Llwyngwril

gan Evan Evans, Llangollen

Ei Ddoniau a'i Lafur Cyn Iddo Ddechreu Pregethu

COFIANT
RICHARD JONES.

Pennod I.

HELYNTION BOREUDDYDD EI FYWYD.

Y MAE enw Richard Jones, Llwyngwril, bron mor adnabyddus yn Nghymru ag ydoedd enw Samuel y proffwyd yn Israel. Ac os braint i'w gymydogion ydyw bod enw y pentref crybwylledig mor gyhoeddas ag ydyw ei enw yntau, iddo efyn benaf y maent yn ddyledus am hyny.

Ei rieni oeddynt John a Gaynor William, yn byw mewn tyddyn a elwid Tŷ Du, yn gyfagos i bentref Llwyngwril, yr hwn sydd ar làn y môr ynghyffiniau deheuol sir Feirionydd. Yr oeddynt o ran eu hamgylchiadau bydol yn lled gysurus fel amaethwyr cyffredin. Yr oedd ganddynt amryw blant heblaw gwrthddrych ein cofiant presenol. Ychydig o fanteision dysgeidiaeth oedd y pryd hwnw yn y gymydogaeth na'r wlad oddi amgylch, ac nid llawer o gymwysderau oedd mewn ambell un a gymerai arno fod yn ysgolfeistr i lenwi ei swydd; ac mae'n dra thebygol mai ychydig o rïeni a edrychent ar ddysgeidiaeth i'w plant ond fel peth diwerth a diangen rhaid. Fodd bynag, cafodd Richard Jones gyfranogi o'r manteision oedd o fewn ei gyraedd ef, o'r fath ag oeddynt, a'r cwbl a ddysgodd efe oedd darllen yr iaith Gymraeg. Am rifo ac ysgrifenu, ymddengys na fedrodd efe fawr ar hyny trwy ei oes, yr hyn yn ddiau a fu yn golled ddirfawr iddo.

Amlygai er yn fachgen fod ganddo ef feddwl cryf a bywiog; ond nid cymaint oedd ei awydd i ymaflyd mewn unrhyw alwedigaeth ag a ddylasai fod. A phan yr ymaflai mewn rhyw orchwyl, yr oedd ei ddull an-neheuig ef yn ei gyflawni yn wahanol i fechgyn eraill, ac yn ei wneuthur yn wrthddrych chwerthiniad gan y rhai a'i gwelent. Pan y canfyddid ef yn dyfod i'r maes ynghanol prysurwch y cynhauaf, dywedai y llanciau mewn crechwen, "Dyma yntau yr hen Elsnore yn dwad." Ni wyddent pa iaith nac o ba ystyr oedd yr enw hwn, ond arferent ef fel enw o ddigrifwch a gwawd. Gorphwysai ei achos yn drwm ar feddwl ei rieni, a dywedai ei dad mewn soriant a thosturi, "Ni wn i yn y byd beth i wneyd o Dic yma, a wyddost'ti, Gaynor? Rwy'n meddwl y byddai'n well i ni ei roi yn grýdd gyda Wil ei frawd, hwyrach y daw o yn grydd go lew." At William yr aeth, ac yno y bu yn ceisio trîn y gwrychyn a'r mynawyd; ond os drwg cynt, gwaeth gwed'yn. Ni fedrai ei frawd ychwaith wneyd fawr o hono yn y gryddiaeth, yr oedd yn fwy aflerw na neb ynddi, fel yr oedd yn bleser gan segurwyr gyrchu i siop Wil Siôn i edrych ar Dic yn gweithio. Fodd bynag, glynodd yn y grefft hon amser maith, ac aeth o'r diwedd yn enw o feistr ei hunan. Cymerodd ei dad dŷ iddo ef yn y pentref. Ac fel yr oedd Richard yn hoff o fyned yn hwyr i gysgu gan ei awyddfryd i ddarllen, ac aros yn lled hir yn ei orweddfa y boreu, llwyddodd gyda'i dad i gael gwely yn nghwr ei weithdy, fel y caffai fwynhau ei gŵsg gyda mwy o lonyddwch a thangnefedd nag a gawsai yn nhŷ ei rieni. Yn ei gaban ei hun y rhan amlaf y bwytäai ei luniaeth; ac yno y gwelid yn y naill gwr, gelfi a defnyddiau y gryddiaeth, ac yn y cwr arall tua'r aelwyd, y gwelid y ford, yr hon a ddaliai y dorth a'r ymenyn, a hen lyfrau, gyda chymysg o lwch nid ychydig. Dilynodd ei alwedigaeth am rai blynyddau; teithiai i ffeiriau a gynelid yn. Harlech Ffestiniog, Dinas Mowddwy, Bala, ac amryw fanau ereill, i werthu esgidiau ond yr oedd ei waith yn ddiarhebol wael, obiegid dattodai ei bwythau mewn llai o amser nac у buasai ef yn ei gwneuthur. Mae'n gôf gan ysgrifenydd y cofiant hwn i'w dad gael pâr ganddo ef, y rhai ni pharasant ond ychydig ddyddiau. Clywodd hefyd wraig yn ddiweddar yn crybwyll ei bod hi yn cofio Richard Jones o Lwyngwril yn dyfod a phâr o esgidiau newyddion iddi hi pan oedd yn eneth fechan, ac i'w thad ei hanfon y boreu hwnw i gyrchu y ceffylau o'r ffrîdd fel y cychwynai y teulu ' i sasiwn y Bala. Hi a aeth ar redeg yn yr esgidiau newyddion trwy y gwlith; ac erbyn iddi ddychwelyd i'r tŷ, yr oedd ei thraed drwy yr esgidiau newyddion! Ni fynegir hyn gydag un gradd o ddannodiaeth, ond er mwyn rhoddi ychydig engreifftiau o'i anfedrus. swydd a'i aflerwch, er dangos nas medrai wneuthur dim fel dyn arall yn gyffredin, er ceisio ei oreu. Chwanegir un eto. Pan oedd efe gyda'r Milisia, gwelid nad oedd Richard yn hollawl fel dyn arall. Pan oeddid yn addysgu y milwyr newyddion hyn i drin eu harfau, a'r hyn a berthynai i'w swydd, ym ddangosai ef yn fwy anfedrus yn hyny na'r cyffredin. Dygwyddodd iddynt un diwrnod ddyfod i'w gymydogaeth i dderbyn yr addysgiad hwn, yn enwedig i drin y gwn. Wedi iddynt osod marc i annelu ato, wele daeth tro Richard Jones i gynnyg. Crynai drwyddo wrth barotoi ei wn; a chynnygiai ollwng yr ergyd, ond methai gan ofn. Er nad oedd y rhai oedd gyfagos iddo ddim heb arswyd arnynt am eu heinioes, eto nis gallent ymatal rhag chwerthin am ei ben. O'r diwedd gollyngodd yr ergyd allan, ac i ba le yr aeth ond i'r ddaear ychydig latheni oddiwrtho! Dro arall, rhoes ddefnydd dwy ergyd ar unwaith yn ei offeryn; ac yn ngollyngiad hwnw allan, gwrthdarawyd ef ganddo nes ydoedd yn ymestyn ar wastad ei gefn—ac yn ei fawr ddychryn gwaeddai'n grôch, gan ddywedyd, " Na-na'n widdionedd i, thaetha i ergyd byth ond hyny—na-na'n widdionedd i". Mae yr amgylchiad hwn yn dangos mai nid ceisio bod yn anhylaw yr ydoedd. Gobeithir y daw rywdro yn fwy medrus mewn rhywbeth nag oedd yn y pethau hyn, onide ni byddai yn wrthddrych teilwng o goffadwriaeth; ond y mae yn gyfiawnder â'r oes iddi wybod am ryw gymaint o ddiffygion y sawl a gofientir, yn gystal ag am eu rhinweddau. Felly hefyd nid hawdd yw rhoddi darluniad teg o'r brawd Richard Jones, heb wneuthur hyny ag yntau.

Nid oes genym hysbysrwydd helaeth am ei ymgyflwyniad yn aelod eglwysig, ond ymddengys mai gyd a'r Trefnyddion Calfinaidd yr ymunodd gyntaf yn moreuddydd ei oes, ac iddo dreulio amryw flynyddoedd gyda hwynt. Yr oedd ei frawd William hefyd yn aelod gyda'r cyfryw enwad. Aeth eu mam i'r gyfeillach grefyddol gyda hwy; a beth a ddigwyddai fod yno y tro hwnw ond rhyw bregethwr yn trin cyflwr William, ac yn ei holi ef yn lled drwm; ac yn niwedd y prawf, dywedai y gwr fod eisiau ei "ail-bobi" ef. Tramgwyddodd yr hen wraig yn ddirfawr yn wyneb y triniad hwnw ar ei bachgen hi, a dywedai mewn soriant wrth yr athraw ei bod hi wedi "pobi" digon ar Wil y tro cyntaf; ac felly, hi ganodd yn iach iddynt, ac ni ddaeth yno byth mwyach, ond gwerthfawrogodd ei chyfleusderau i fyned i'r man lle trinid cyflyrau dynion yn ysgafnach.

Tua'r flwyddyn 1804, ymadawodd Richard Jones â'r Trefnyddion. Beth a fu yr achlysur penodol o hyn, nis medrwn wybod gydag eithaf manylwch. Dywed yr oedranus a'r hybarch Mr. Lewis Morris, yr hwn a fagwyd yn yr un gymydogaeth âg ef, fel hyn, "Nid oes genyfi'w ddweyd am Richard Jones amgen na da hyd y gwelais i. Bu gyda'r Trefnyddion am amryw flynyddau,—pa faint, nis gwn. Gwnaeth ei frawd William, yr hwn hefyd oedd yn aelod gyda ni, rywbeth ag oedd yn galw am gerydd eglwysig; ac yn hytrach nag ymostwng dan y cerydd, efe a ymadawodd â ni; ac yn yr amser hwnw, ymadawodd Richard hefyd, ond yn gwbl ddigerydd a didramgwydd." Yn ei ymawiad â'r Trefnyddion, erfyniai ar y Parch. H. Pugh o'r Brithdir ddyfod i bregethu i Lwyngwril, â'r hyn y cydsyniodd y gwr enwog hwnw; ac yn ddioed, ymunodd R. Jones, a phump neu chwech o rai eraill, yn yr eglwys. Dyma ddechreuad yr achos Annibynol yn y parth hwn o'r wlad. Y pryd hwnw, daeth un Lewis Pugh, yr hwn oedd bregethwr cynnorthwyol, i Lwyngwril i gadw ysgol ddyddiol, yr hyn oedd yn fanteisiol i'r achos yn ei gychwyniad. Wedi dyfodiad y Parch. James Griffiths (yn awr o Dyddewi) i weinidogaethu yn Machynlleth a Thowyn, rhoes yr ychydig gyfeillion yn Llwyngwril eu hunain i'w ofal ef i'w bugeilio yn yr Arglwydd; a thua'r flwyddyn 1810, adeiladwyd yno addoldy. Nid oedd gan y gymdeithas fechan cyn hyny ond ystafell wael ac anfanteisiol iawn i addoli ynddi. Yn wyneb fod anghenrheidrwydd ar Mr. Griffiths i fyned yn fynych i sir Benfro, ac nad allai oblegid hyny ymweled â Llwyngwril ond anaml iawn, cydsyniodd y cyfeillion yn y lle hwn, ac yn Llanegryn a Thowyn, i roddi galwad i'r Parch. D. Morgan (yn awr o Lanfyllin) i weinidogaethu iddynt. Ar eu deisyfiad hwy, yn nghyda thaer annogaeth gweinidogion Meirion a Maldwyn, cydsyniodd â'u cais, ac urddwyd ef yn Nhowyn yn y flwyddyn 1813. Arferai Mr. Morgan ddyfod i'r manau crybwylledig yn fisol am yspaid chwe blynedd cyn ei ordeinio, er ei fod yn byw yn sir Aberteifi. A phan y symudodd efe i Machynlleth, rhoddwyd galwad i'r Parch. H. Lloyd i lenwi y cylchoedd hyn. Yr oedd R. J. yn un o'r rhai blaenaf a annogai yr enwogion crybwylledig i ddyfod yno.

Canfyddwyd fod R. Jones yn feddianol ar wybodaeth a doniau helaethach na'i gyfeillion; am hyny, annogwyd ef i esbonio yr ysgrythyrau, a chynghori yn y cyfarfodydd gweddïo. Arferodd ei ddoniau y felly am lawer o flynyddau gyda chymeradwyaeth a defnyddioldeb mawr. Dywedir mai yr achos i'r cyfeillion oedi cyhyd i roddi cefnogaeth iddo i bregethu oedd, nid un ammheuaeth am ei ddoniau a'i gymhwysderau, ond ofni yr oeddid na buasai yn bosibl ei gadw ef gartref ond ychydig, ac y buasai hyny yn colledu yr achos ieuanc yn ddirfawr yn y gymydogaeth, gan nad oedd neb a fuasai yn alluog i lenwi ei gylch ef yno. Ond o'r diwedd, tua'r flwyddyn 1817, annogwyd ef i bregethu; ac nid hir wedi hyn y bu ei gymydogion heb deimlo eu colled am ei gymdeithas a'i lafur; oblegid teimlai yr hen gyfaill bellach, ar ol hir sefydlogrwydd a phrawf yn ei ardal enedigol ei hun, awydd am fynu holl Dywysogaeth Cymru yn faes i'w lafur.

Nodiadau

golygu