Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Pennod I

Y Cynnwysiad Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn

gan Griffith Williams, Talsarnau

Pennod II

PENNOD I

MR. HUMPHREYS A'I DDYDDIAU BOREUOIL

Nr oedd yr hybarch Mr. RICHARD HUMPHREYS wedi arfer cadw na chownt na chyfrif o ddim o'i fyfyrdodau, ei deithiau, na'i weithrediadau. Nid oes cymaint ag un bregeth ar ei ol, yn ei lawysgrif ef ei hun; ac mor bell ag yr ydym wedi gallu cael allan, nid oes ond ychydig o lythyrau iddo ar gael, heblaw y rhai a ysgrifenwyd ganddo at ei deulu pan y dygwyddai fod oddicartref. Oni bai fod ei bregethau, ei ffraetheiriau, a'i ddywediadau cynnwysfawr, wedi argraphu eu hunain ar feddyliau a chydwybodau y rhai a'i hadwaenai, buasem wedi ei golli o'n plith fel llong yn suddo yn nghanol y môr, heb ddim i ddangos y fan lle yr aethai i lawr. Ond buasai ein colled yn ddau cymaint, o gymaint ag y buasem wedi colli y llong a'i llwyth. Y mae y llong—a llong odidog ydoedd hefyd—wedi suddo er's dros naw mlynedd; ond y mae llawer o'r cargo yn parhau i nofio ar y wyneb, ac y mae sypynau gwerthfawr yn cael eu golchi i'r lan yn fynych. Yr ydym wedi bod am y misoedd diweddaf yn cerdded gyda'r glanau, o amgylch y fan lle y cymerodd y wreck le, a thrwy gymhorth cyfeillion yr ydym wedi llwyddo i gael llawer o sypynau i dir yn ddiogel. Mae yn wir fod rhanau o'r llwyth wedi eu golchi i dir yn mhell o lanau Gorllewinol Meirionydd, ond adnabyddai pawb hwy fel pethau perthynol i'r llong suddedig; a bu brodyr ffyddlon mor garedig a'u hanfon yn ddiogel i ni: a'n gwaith yn y gyfrol fechan hon fydd ceisio casglu a diogelu cymaint ag a allwn o'r trysorau gwerthfawr perthynol iddi. Nid oes dim yn brawf gwell o'r rhagoriaethau oedd yn perthyn i Mr. Humphreys na'r adgofion bywiog sydd yn mysg ei gymydogion ac ereill am dano, a hyny yn mhen cymaint o flynyddoedd ar ol ei ymadawiad. Bydd ei enw yn. perarogli yn hyfryd yn y Dyffryn a'r amgylchoedd am oesau lawer.

Saif Dyffryn Ardudwy ar lain o wastadedd sydd yn gorwedd rhwng y môr a mynydd y Moelfre, ychydig filldiroedd i'r gogledd o'r Abermaw, ar y ffordd i Harlech. Er na cheir yn Nyffryn Ardudwy lawer o bethau a ddysgwylir eu cael mewn dyffryn, etto y mae yn ardal boblogaidd a hynod o'r dymunol i fyw ynddi: y mae yn syndod ei bod mor boblogaidd, pan yr ystyriom nad oes yno weithfeydd o fath yn y byd i dynu dynion yn nghyd. Y mae yma un palas henafol o'r enw Cors-y-gedol (yr hwn a berthynai unwaith i hen deulu enwog y Fychaniaid, ger Dolgellau), ac am yr hwn y mae gan y trigolion lawer o bethau i'w dywedyd. Bu Charles yr Ail, pan yn ffoadur, yn llety yna noson: ac y mae y gwely a'r ystafell lle y bu yn cysgu yn cael eu cadw fel yn gysegredig i'w dangos i'r cywrain hyd y dydd hwn.

Yr oedd Mr. Humphreys yn Ddyffrynwr o waed coch cyfan. Yr oedd ei dad, Humphrey Richard, yn fab i amaethwr cyfrifol o'r enw Richard Humphreys; a'i fam, Jennet Griffith, yn ferch Taltreuddyn fawr. Yr oedd hithau hefyd o deulu parchus, ac wedi cael addysg foreuol dda. Bu am dymmor yn Lloegr yn yr ysgol, yr hyn oedd yn beth tra anghyffredin yn y dyddiau hyny. Yr oedd y ddau yn aelodau eglwysig ffyddlon gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Dyffryn. Yr oedd i Humphrey Richard ddau frawd a thair chwaer: Griffith Richard, y Capel (fel y gelwid ef yn y Dyffryn), a John Richards, Llanfair—tad i'r diweddar Barch. J. L. Richard, gweinidog parchus gyda'r Trefnyddion Wesleyaidd—a Mrs. Edwards, Caercethin. Ei chwiorydd oeddynt Elizabeth Richard, Uwch-glan, Llanfair; Jane Richard, Ymwlch—mam y diweddar Morgan Owen, Glynn, Talysarnau; a Gwen Pugh, priod Mr. Thomas Pugh, Dolgellau, at yr hwn y bydd genym achos i alw sylw eto. Daeth Gwen Pugh i ddiweddu ei hoes i Dy Capel y Dyffryn. Yr oedd yn hynod o ffraeth. Yr oedd i Jennet Griffith hefyd frawd a chwaer: Humphrey Griffith, Taltreuddyn Fawr, plwyf Llanfair—taid Mr. J. H. Jones, Penyrallt, a Dr. Griffith, Taltreuddyn Fawr. Enw ei chwaer oedd Ann Griffith: priododd Richard Roberts, Bryncoch, yr hwn oedd yn frawd i Henry Roberts, Uwchlaw'r-coed.

Bu i Humphrey Richard a Jennet Griffith bedwar o blant, dau fab a dwy ferch, Richard a Griffith—Mary a Jane. Aeth Griffith i Lundain pan yn ieuanc, ac ymsefydlodd yno; ac ymunodd a phlaid o'r Undodiaid, a elwir y Free Thinkers, yr hyn a fu yn dristwch nid bychan i'w frawd Richard. Priododd, a bu iddo chwech o blant. Y mae rhai o honynt yn Llundain yn awr, a'r lleill wedi ymwasgaru. Priododd Mary gadben llong o Ddolgellau, a bu iddynt amryw blant; ond buont oll feirw yn ddibriod. Priododd Jane hefyd Richard Thomas o Benymorfa, Sir Gaernarfon, a bu iddynt saith o blant; ac y mae llawer o wyrion ac wyresau yn aros. Gellir dyweyd am y briodas hon iddi fod yn ddechreuad cenedlaeth fawr.

Ganwyd Richard Humphreys yn Mehefin, y flwyddyn 1790, yn Ngwernycanyddion, hen gartref ei dad a'i daid. Symudodd ei dad pan oedd efe yn bur ieuangc o Wernycanyddion i'r Faeldref—nid i'r Faeldref bresenol, ond i'r hen ffermdy, o'r hwn nid oes yn aros ond ychydig o'r muriau i ddangos y fan lle y safai. Nid oedd y symudiad hwn ond bychan, gan fod y ddau, Gwernycanyddion a'r Faeldref, yn yr un plwyf, ac nid oes ond o gylch milldir rhyngddynt. Saif y Faeldref ar lanerch brydferth o gylch hanner y ffordd rhwng y Dyffryn a phentref bychan a swynol Llanbedr. I'r gorllewin iddo mae y Cardigan Bay yn gorwedd yn llon'd ei wely, yr hwn a ymddengys weithiau fel pe byddai wedi digio wrth yr holl fyd: "rhua a therfysga ei ddyfroedd, a chryna y mynyddoedd gan ei ymchwydd ef;" bryd arall ymddengys mor dawel, llyfn, a llonydd, fel pe byddai yn edifarhau am ei wylltineb diangenrhaid y dydd o'r blaen. Ar ddystyll, bydd Sarn Badrig i'w gweled, yn ymddolenu am filldiroedd i'r môr, a'r tonau yn ymddryllio arni. Tybia rhai fod y cadarn-fur hwn yn rhan o'r môr—glawdd oedd yn diogelu Cantref y Gwaelod—sef yr un dref ar bymtheg hyny a foddwyd, fel y dywedir, yn y chweched canrif, a hyny trwy feddwdod dyhiryn a osodasid i wylied y dyfrddorau. Y mae y sarn hon, pa un bynag ai natur ai celfyddyd fu yn ei gosod ar ei gilydd, wedi bod yn ddinystr i ddegau o longau godidog, a llawer morwr glew a gyfarfu â dyfrllyd fedd arni. Clywsom y diweddar Mr. Morgan yn dyweyd na byddai byth yn cynefino ag edrych ar y môr; a pha ryfedd? onid yw y golygfeydd yn newid mor fynych, fel ag y mae newydd-deb yn cael ei gadw arno yn barhaus?

Nid oedd i enw y Faeldref na swyn nac enwogrwydd cyn y dyddiau hyny, fel ag i roddi arno unrhyw uwchafiaeth ar ffermdai eraill y gymydogaeth. Ond y mae llawer lle digon di-nod ynddo ei hun wedi dyfod trwy ei berthynas a phersonau neu ddygwyddiadau yn fyth gofiadwy. Bydd Waterloo mewn cof tra y bydd dŵr yn rhedeg, a Phant-y-celyn yn mhell ar ol hyny—y cyntaf ar gyfrif y ffrydiau o waed dynol a gollwyd ar y llanerch; a'r diweddaf ar gyfrif yr "hymnau a'r odlau ysbrydol" a anadlwyd allan gan ysprydoledig awen "Per Ganiedydd Cymru.' Felly hefyd y mae y Faeldref wedi dyfod yn household word trwy Gymru benbaladr, fel lle a fu yn drigfan am flynyddoedd lawer i ddau o arwyr "Rhyfeloedd y Groes," sef y Parchedigion Richard Humphreys ac Edward Morgan. Bychan feddyliodd ei dad, Humphrey Richard, pan yn symud o Wernycanyddion, y byddai i'r bachgen Richard gyrhaedd y fath enwogrwydd fel ag i anfarwoli enw ei gartref newydd.

Nis gwyddom beth oedd oedran Richard pan y gwnaeth ei dad y symudiad hwn. Y mae yn rhaid nad oedd ond ieuange, oblegid bu farw ei fam yn Ngwernycanyddion pan nad oedd efe ond saith mlwydd oed. Rhaid fod colli ei fam wedi bod yn golled fawr iddo. Y mae yn haws i blentyn yn yr oedran tyner hwn fforddio colli pob peth na cholli mam; yn enwedig os bydd yn fam synwyrol, ofalus, a chrefyddol; ac yr oedd ei fam ef yn meddu y rhagoriaethau hyn. Cawsom un awgrymiad ar ei ol sydd yn dangos fod ei fam yn wraig bwyllog iawn. Dywedai wrth fyned trwy un o gaeau Gwernycanyddion gyda Mr. Harri Roberts, Uwchlaw'r-coed-yr hwn oedd yn un o hen flaenoriaid parchus y Dyffryn, ac yn ŵr a berchid yn fawr gan Mr. Humphreys,—"Yr wyf yn cofio fy hun pan yn fachgen bychan yn dyweyd wrth rhywun y gallaswn fod wedi palu y cae hwn drosodd tra y bu fy mam yn bygwth fy chwipio." "Bum yn meddwl gannoedd o weithiau," ebe fy hysbysydd—Mr. Rees Roberts, Harlech, yr hwn oedd yn myned gyda'r ddau, yn hogyn bychan yn llaw ei dad-fod oediad cosp fygythiol y fam yn dra nodwedd- iadol o dynerwch ei mab mewn cylchoedd eangach.' Byddai yntau ei hun yn barnu iddo dderbyn y pwyll a'r arafwch oedd yn ei feddu, yn nghyda'r parodrwydd i gyd- ymdeimlo â rhai mewn cyfyngder a chaledi, oddiwrth ei fam, yr hon oedd wraig dosturiol a meddylgar. Ac adroddai yr hanesyn canlynol i ddangos hyny:- Digwyddodd i wraig o'r gymydogaeth ddyfod i'r tŷ at fy mam, a chwynai o herwydd ei hamgylchiadau isel; ond dangosai eiddigedd wrth ganfod teulu arall, heb fod yn mhell, yn glyd eu trigfan. O,' meddai fy mam wrth y wraig gwynfanus, 'y mae yn debyg mai doethach i ni fyned i'r Ys-ll-n i farnu ein hamgylchiadau nag i E-th-n-f-y-dd." Yr oedd y sylw hwn yn llawn synwyr, oblegid y mae yn llawer mwy priodol i ni fyned i farnu ein hamgylchiadau wrth ein hisradd nag wrth ein huwchradd.

Yn mhen yr wyth mlynedd ar ol colli ei fam bu ei dad farw, ac felly gadawyd ef, yn ei bymthegfed flwyddyn o'i oedran, yn fachgen amddifad o dad a mam. Y mae yr adeg hon ar oes yn ddechreuad cyfnod peryglus; a diau y gall y rhai hyny sydd wedi dinystrio cysuron bywyd, trwy fyw yn afradlon, olrhain eu dinystr i'r camrau gwyrgam a gymerasant pan o bymtheg ugain oed. Beth bynag ydyw maint yr anfanteision sydd mewn colli gofal mam dyner, a chynghorion tad doeth, cafodd Richard Hum- phreys eu profi hwynt oll. Collodd eu haddysg dda, eu hesiampl rhinweddol, yn nghyda'u gweddiau taerion drosto. Ond nid yw Duw yn tori bylchau mewn teuluoedd heb fod yn barod i lenwi yr adwy ei hunan; a chafodd y bachgen Richard ef yn "Dad yr amddifad," yn ol ei addewid.

Trwy fod y teulu yn dda allan o ran pethau y byd, cafodd Richard yr ysgolion cartrefol goreu oedd i'w cael y pryd hwnw; a bu am beth amser yn yr Amwythig yn yr ysgol, ond nid hysbyswyd ni pa hyd. Daeth trwy hyn yn gydnabyddus yn ieuango a'r iaith Saesneg, fel ag yr oedd yn gallu ei darllen, ei hysgrifenu, a'i siarad yn rhwydd; a chlywsom ef fwy nag unwaith yn pregethu yn yr "iaith agosaf atom." Byddai rhai o'r crach-feirniaid gorddysgedig yn ceisio dyweyd y byddai yn siarad Saesneg yn rhy Gymreigaidd; ond yr oedd ef yn rhy fawr i sylwi ar y pethau bychain. Trwy ei fod o duedd fyfyrgar, ac yn ymroddi at ei wersi, yr oedd y plant oedd yn gyd-ysgoleigion ag ef yn meddwl nad oedd mor galled a hwy. Gofynai un o'i hen gyfoedion iddo, "Sut y mae hyn yn bod, Richard Humphreys? Nid oeddym ni yn eich ystyried chwi mor galled a ni pan oeddym yn blant, ond erbyn hyn dyma chwi wedi myned o'n blaen yn mhell." "Oni wyddost ti, Morris," ebai yntau, "fod pob llysieuyn mawr yn cymeryd mwy o amser i ymagor." Er mai o ddigrifwch y dywedodd hyn am dano ei hunan, ni ddywedwyd erioed well gwir. Llysieuyn mawr mewn gwirionedd ydoedd.

Wedi marw ei dad syrthiodd gofal y fferm yn gwbl arno ef; a daeth yn fuan i gael ei ystyried yn amaethwr da. Ei hoff waith ar y fferm ydoedd trin y tir-ei sychu, ei arloesi, a gwneuthur cloddiau o'i hamgylch; ac y mae yr olwg drefnus sydd ar gloddiau a chaeau y Faeldref heddyw yn ffrwyth llafur ei ddwylaw—ef. Yr oedd yn gallu troi ei law at bob gwaith coed a cherig. Yr oedd mor hoff o saernïo fel ag y byddai ar adegau yn cymeryd tai i'w hadeiladu, a gallai weithio gyda'r crefftwyr ar bob rhan o honynt; ac yr oedd y medrusrwydd hwn yn fanteisiol iawn iddo fel amaethwr. Nid oedd mor fedrus gyda phrynu a gwerthu anifeiliaid; a byddai yn galw am help rhai o'i gymydogion at hyny. Trwy yr hyn a adawyd iddo gan ei dad, ei ymdrech ei hun, a bendith y nefoedd ar ei lafur, llwyddodd i gadw cartref cysurus iddo ei hunan, yn ngyda'i frawd a'i ddwy chwaer, tra y buont gydag ef.

Nid oedd yn proffesu crefydd am y rhan gyntaf o'i oes; etto yr oedd yn dra ystyriol o'i gyfrifoldeb fel penteulu, er mai dyn ieuange ydoedd. Wrth weled ei weision, a gweision cymydog iddo, yn gwneuthur llawer o bethau nad oedd rydd eu gwneuthur ar y Sabboth, galwodd gyda'u meistr, yr hwn, fel yntau, oedd heb fod yn proffesu, a dywedai wrtho, "Y mae cyfrifoldeb mawr arnom ein dau, fel penau teuluoedd, a dylem gadw gwell llywodraeth ar ein gwasanaethyddion ar ddydd yr Arglwydd;" a bu yr awgrymiad yn lles mawr. Adwaenem un dyn o'r enw Richard Griffith, yr hwn a fu yn ei wasanaeth pan yn fachgen lled ieuangc, a digwyddodd fyned adref unwaith yn feddw. Aeth ei feistr ag ef i "dir neillduaeth," ac yno "nid arbedodd y wialen." Nid oedd Richard Griffith, mwy nag ereill, yn gweled y cerydd dros y pryd hwnw yn hyfryd, ond yn anhyfryd; er hyny, diau fod yr oruchwyliaeth hon yn un o'r rhai mwyaf bendithiol a gymmwyswyd at ei ddyn oddiallan erioed; ac nid oes neb a wyr pa faint o bethau blinderus a chwerw yn ei yrfa a ragflaenwyd trwy gerydd caredig, ond llym, ei feistr. Bob amser y cyfarfyddai yr hen feistr y gwas hwn, y peth cyntaf a ddywedai fyddai,—

"Fe wnaeth y gwrfa hono les i ti onido, Richard?"

"Do, Mr. Humphreys," fyddai ateb Richard Griffith bob amser.

Buasai moesoldeb ein gwlad yn llawer uwch pe buasai mwy o ffermwyr Cymru yn ei efelychu [trwy roddi 'gwialen i gefn yr ynfydion a ddigwyddai fyned i'w gwasanaeth].

Nodiadau

golygu