Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Pennod VI
← Pennod V | Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn gan Griffith Williams, Talsarnau |
Pennod VII → |
PENNOD VI.
MR. HUMPHREYS A DIRWEST.
CYFIAWNDER â choffadwriaeth Mr. Humphreys ydyw gosod ei enw yn un o'r rhai blaenaf ar list cedyrn dirwest yn Nghymru. Yr oedd wedi arfer a byw o'i ieuengetyd uwchlaw gwasanaethu chwantau, nac unrhyw flysiau. Dywedodd gwraig gyfrifol wrthym ei bod yn cofio Mr. Humphreys yn galw yn eu tŷ hwy, pan nad oedd ond dyn lled ieuangc, ac iddynt hwythau, yn ol arfer y dyddiau hyny, estyn gwydriad o win ato, ac iddo yntau wrthod ei gymeryd. "Cymerwch ef, fe wna les i chwi," meddent hwythau. Ond atebodd yn gryf a phenderfynol, "Nis cymeraf ef; nid am nad allwn ei yfed, ond nis gwnaf rhag ofn i mi fyn'd yn fond o hono." Yr oedd hyn flynyddoedd cyn bod dirwest yn y ffurf o gymdeithas. Pan sefydlwyd y Gymdeithas Ddirwestol, daeth Mr. Humphreys allan ar unwaith yn bleidiwr gwresog iddi, a pharhaodd i'w phleidio hyd ddiwedd ei oes. Wrth edrych dros yr hen Ddirwestydd, a misolion eraill lle y cawn hanes Cymanfaoedd a Gwyliau Dirwestol, y mae enw y Parch. Richard Humphreys o'r Dyffryn, i'w ganfod mor aml ag enw neb o hen amddiffynwyr yr achos hwn. Teithiodd lawer trwy Dde a Gogledd Cymru i areithio ar ddirwest, a byddai ei ymweliadau yn dra llwyddianus bob amser. Digwyddodd iddo, pan ar daith yn Llandeilo-fawr, gyda chyfaill ieuangc o'i gymydogaeth, fyned i wrthdarawiad yn nhŷ'r Capel a hen ŵr, oedd eto heb ei enill i'r ffydd ddirwestol, a elwid gan y cymydogion yr "hen brophwyd." Dadleuai yr hen frawd yn wresog dros ragoriaeth y ddiod gref; ac wrth ei glywed yn siarad mor uchel o'i phlaid, dywedodd Mr. Humphreys, "Ni fynwn i er deg punt feddwl yr un fath a chwi, hen frawd, am dani." Na fynech mi wn," atebai yntau, "a chwithau yn meddwl gwneyd can' punt wrth ddyweyd yn ei herbyn." Ar hyn chwarddodd Mr. Humphreys yn galonog wrth glywed syniad masnachol yr "hen brophwyd," a rhoddodd haner coron iddo am ei atebiad parod.
Byddai Mr. Humphreys hefyd yn cael ei alw i ddadleu hawliau yr achos dirwestol yn y Cymanfaoedd Chwarterol a'r Cyfarfodydd Misol; a mynych y gofynid iddo ddyweyd gair, cyn neu wedi pregethu, yn y gwahanol deithiau Sabbathol y byddai yn myned iddynt. Ac nid yw yn anhawdd rhoddi rheswm am hyn. Yn un peth, gwyddai pawb y byddai Mr. Humphreys yn barod ar rybydd byr, neu heb rybydd o gwbl, i siarad ar yr achos. Hefyd, gwyddid, er ei fod yn ddirwestwr da, nad oedd yn ddirwestwr penboeth, ac am hyny nad oedd perygl iddo archolli teimladau neb o'i wrandawyr. Yr oedd yn dysgu trwy "fwyneidddra doethineb," ac felly yn gallu myned rhwng dynion a'u harferion pechadurus heb friwio eu teimladau. Rheswm arall ydoedd, fod ganddo gyflawnder o chwedleuon difyrus i egluro a chadarnhau ei osodiadau, fel ag y byddai pawb wrth eu bodd tra y byddai efe yn llefaru; ac er na lwyddodd i gael pawb fu yn gwrando arno oddiwrth eu harferion ffol, ni byddai un amser yn methu enill eu barn a'u cydwybod, a theimlent mai synwyr ynddynt fuasai gadael eu harferion drygionus.
Yr ydym wedi derbyn lluaws mawr o sylwadau a draddodwyd ganddo o bryd i bryd, ac ni a ddodwn amryw o honynt i lawr, fel y gallo y darllenydd weled o ba gyfeiriadau y byddai y doethawr o'r Dyffryn yn edrych ar waith dynion yn ymwneyd â'r diodydd meddwol. Dywedai y diweddar Barch. John Jones, Tremadog, yn un o Gymdeithasfaoedd Pwllhelli, "Ein harferiad er's blynyddoedd bellach ydyw cael rhyw frodyr i ddyweyd gair ar ddirwest ar yr adeg hon (sef ar ol pregethau y prydnawn cyntaf), ac nid ydym wedi annghofio dirwest eleni; ac yr ydym wedi meddwl i frodyr ddyweyd am ugain mynyd bob un, a chan fod yr amser eisoes wedi rhedeg yn mhell, y mae arnom eisieu i'ch anerch rai a fedr fyned at y pwnc heb fawr o ragymadrodd; ac i'r pwrpas yna," meddai, ar dop ei lais clir," yr ydym yn galw ar Mr. Richard Humphreys o'r Dyffryn." Gyda fod y gair olaf dros wefusau Mr. John Jones, yr oedd Mr. Humphreys ar ei draed yn tynu ei het yn dyfod ymlaen a het fawr yn ei law—yn ei gosod o'i flaen, ac meddai
"Wel heb ragymadrodd ynte. Yr wyf fi yn ddirwetwr bellach, er's saith mlynedd, ac ni bu yn edifar genyf am saith mynyd. Mi ymbriodais i â'r Gymdeithas Ddirwestol ar y cyntaf, fel y darfu i mi a'r wraig acw; mi gymerais y naill a'r llall er gwell ac er gwaeth, er tlotach ac er cyfoethocach.' Ond erbyn i mi weled, nid oedd gwaeth o honi hi gyda'r naill mwy na'r llall. Ac wrth weled peth mor dda ydyw dirwest, yr wyf fi bellach wedi ei dyweddio hi â mi fy hun yn dragywydd, mewn cyfiawnder, mewn barn, ac mewn ffyddlondeb.' Ac mi rown i gynghor i chwithau i wneyd yr un fath a mi, yn hyn, beth bynag. A hyny yn un peth, trwy i chwi ddyfod yn ddirwestwyr, chwi fyddwch ar dir safe rhag cael eich niweidio gan y diodydd meddwol. Peth pwysig iawn i ddyn ydyw bod yn safe, ac y mae perygl yn ddigon siwr i chwi, hyd yn nod oddiwrth arferion cymedrol o honynt. Mae y rhai sydd yn arfer llawer â hi yn teimlo fod ynddi berygl. Yr oedd yn ein cymydogaeth ni acw un ag oedd yn bur ffond o yfed y diodydd meddwol; byddem yn arfer ei alw F'ewythr Hugh Rhisiard Evan. Un tro yr oedd wedi bod yn yfed trwy y dydd, ac wedi iddi fyned yn nos, cymhellwyd myned i'w ddanfon adref; ond ni fynai arweinydd ar gyfrif yn y byd. Yr oedd y rhan gyntaf o'r ffordd yn un go dda, ond yr oedd gallt serth yn niwedd y daith. Pan ddaeth i waelod yr allt fe deimlodd nad oedd yn ddigon safe: a dyma lle yr oedd yn ceisio sadio ei hun, gan ddweyd wrtho ei hunan, Wel voyage,. i'r allt yrwan.' Wedi un ac ail gynyg, a dyweyd wrtho ei hunan o hyd, Wel voyage i'r allt yrwan,' dyna fo yn cychwyn, a thros y llwybr, ac i lawr a fo; ond cyn iddo rowlio i'r. afon, yr oedd rhywun wedi bod yno er's blynyddoedd yn planu onen, (ond nid ar ei gyfer ef bid siwr) a'r gwlaw: wedi ei maethu, ac erbyn hyn yr oedd yn bren mawr, yr hon a'i daliodd ef yn safe. Oni buasai am dani hi, buasai wedi roulio i'r afon a boddi yn ddigon tebyg. Ydych chwi yn gweled, fy mhobl i, nad oedd ganddo ef ei hunan yr un syniad ei fod yn safe, wrth gychwyn i'r allt, pan oedd yn pryderu cymaint am y voyage i'r allt;' a chwaneg o lawer, nid oedd efe yn safe, o achos fe gwympodd dros y llwybr, ac nid dim byd ynddo ef, druan, a'i cadwodd rhag syrthio i'r afon a boddi. Yn wir, ni raid i mi ond eich adgofio chwithau, pobl dda Lleyn ac Eifionydd yma, y mae aml un o honoch chwithau wedi gwirio hyn lawer gwaith, wrth fyned o ffeiriau a marchnadoedd Pwllheli yma. Cymerwch gynghor genyf fi gadewch lonydd iddi tra y byddoch yn y Gymanfa beth bynag, ac efallai y bydd i chwi trwy hyny allu gadael llonydd iddi am byth.
Ni wn i paham y mae eisieu perswadio cymaint arnoch i adael y diodydd meddwol. Y mae rhai o honoch yn ceisio dyfod a rhyw bethau ydych yn ei alw yn rhesymau dros eu harfer yn gymedrol: ond ni welais i lawer o rym yn rhesymau neb drostynt; ac o'm rhan i, haws fyddai genyf o lawer gredu mai ffond o honynt ydych. Ond nid hawdd genych addef hyny. Gwirionedd ydyw hwn y rhaid ei wasgu allan o honoch. Yr oedd yn ein gwlad ni acw ŵr a gwraig yn byw yn weddol gysurus. Rhyw ddiwrnod fe darawodd cymydog wrth y gŵr, ac fe ddywedodd wrtho, Gwraig go sal a gefaist ti, hwn a hwn.' Be' sydd arni hi,' meddai y gŵr. Wel,' meddai y cymydog, 'y mae hi yn aml iawn ar hyd tai y cymydogion.' O felly,' ebai y gŵr. Y mae hi yn ddiog iawn hefyd.' 'O felly,' meddai y gŵr drachefn. Yn wir y mae hi yn un fudr iawn.' Wel,' meddai y gŵr, 'dywed di a fynoch di am Betty Rhys, y mae yn dda gen i hi.' Yr oedd y cymydog yn dyweyd y gwir bob gair am dani, mi hadwaenwn i hi, ac un fudr ddiddaioni oedd hi. Mi fu y cymydog yn bur hir cyn cael gan y gŵr i ddyweyd fod yn dda ganddo Betty Rhys; ond wedi iddo ddyweyd, fe welodd y cymydog mai y peth goreu iddo ef, oedd rhoddi ei gerdd yn ei gôd, a gadael rhwng y ddau a'u gilydd. Ond rhywfodd nis gallwn ni yn ein byw adael Ilonydd i chwi, er ein bod yn gwybod fod yn dda genych am y ddiod feddwol, oblegyd y mae y drygau sydd yn perthyn iddi yn llawer gwaeth, fy mhobol i, na'r drygau oedd y cymydog yn eu rhoi yn erbyn Betty Rhys. Gadewch hwy; ac ond i chwi eu gadael, chwi gewch fanteision lawer iawn i chwi eich hunain ac i'ch teuluoedd. Byddwch fyw yn hwy ond i chwi eu gadael. Fe ellir dyweyd am Ddirwest,' Y mae hir hoed yn ei llaw ddeheu hi, ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant.' Fe fyddai eich cael i gredu hyn yn rhywbeth;—o'm rhan i, yr wyf yn ei gredu yn fy nghalon er's blynyddoedd. Yn wir, yr oedd hen berson yn byw tua'r Bala acw, wedi dyfod i ddeall hyn, flynyddoedd lawer cyn bod son am y Gymdeithas Ddirwestol.' Fe aeth hen gyfaill iddo i edrych am dano, ac fe aeth y person i gwyno mai degwm bychan iawn oedd yn perthyn i'r plwyf hwnw. Pa faint ydyw?' gofynai y cyfaill. Nid yw ond hyn a hyn,' ebai y person. O, y mae hyny yn o lew, y mae genych gyda hyny dipyn i'w dderbyn oddiwrth briodi a chladdu,' atebai y cyfaill. Yn wir,' meddai yntau yn ol, nid oes yma neb byth yn priodi, ac ychydig iawn sydd yn marw yma hefyd: ni welsoch erioed lai.' Wel y mae hyn yn beth rhyfedd iawn; y mae marw yn mhobman; beth sy arnynt na farwent hwy yma?' ychwanegai y cyfaill. Ond yfed dŵr oddiar y clai glas (neu fel y gelwch chwi ef yn Lleyn yma, marl glas) y maent.' Yr oedd y gŵr parchedig wedi deall y rheswm. Ewch chwithau a gwnewch yr un modd." * * * *
Dywedai unwaith yn iaith y gwrth-ddirwestwr, "Y mae genych lawer o swn gyda 'Dirwest;' ond nid yw fawr o beth wedi y cyfan." "Nac ydyw, o ran hyny," atebai yntau, "ond y mae yn rhywbeth i ni y dirwestwyr yma, er hyny. Er's ychydig amser yn ol, aeth tŷ ar dan heb fod yn mhell, a digwyddodd fod yno deiliwr yn gweithio; aeth yn rhy boeth arno, a neidiodd i lawr o ben y bwrdd ac allan ag ef. Ar ol myned allan, tarawodd ei law ar ben ei glun a dywedai, Ni buaswn yn hitio llawer pe cawswn fy arfau allan.' Pa beth, tybed, oedd ganddo ar ol? Siawns nad oedd ei nodwydd yn ei lawes, a'i wnïadur ar ben ei fys, y scissors yn ei logell wrth gychwyn; odid nad oedd ei esgidiau wrth droed y bwrdd; am yr haiarn pressio ni buasai hwnw ddim gwaeth ond gadael iddo oeri, ond hwyrach i'r lap-wood fyned ar dân, ac er nad oedd hono o fawr werth, yr oedd yn rhywbeth i'r teiliwr."
Dywedai fod siawns dda gan ferched ieuaingc i enill dynion i fod yn ddirwestwyr. "Yr wyf fi yn siwr," meddai, "pe bai rhai o honoch chwi yn arfer meddwi, y dywedai y llangciau na fynent hwy yr un ddynes feddw yn fam i'w plant. Returniwch y compliment, a dywedwch yn benderfynol na fynwch chwithau yr un dyn meddw yn dad i'ch plant."
Arferai ddyweyd fod dyn wrth yfed yn iselhau ei hun yn fawr, ac nad ellid ymddiried i'w air pan o dan effeithiau y diodydd meddwol. Fel y llygoden hono oedd wedi syrthio i'r breci. Wedi iddi ddeall fod pob gobaith am dani wedi darfod, dywedai y lygoden wrth gath oedd yn sefyll yn ymyl y badell, "Os gwnei fy nghodi i fyny o'r fan hon, ti a'm cei." Estynodd y gath ei phawen a chododd hi i fyny. Yna dechreuodd chwareu â hi, fel y gwna cathod. Ond meddai y lygoden, "Gad i mi ymysgwyd dipyn, yr wyf yn wlyb iawn." Gollyngodd y gath hi, ac yr oedd hithau yn ymysgwyd ei goreu oddiwrth y breci, ac wrth ymysgwyd canfu dwll yn y pared, a neidiodd iddo. "Beth y gwnaethost fel yna?" gofynai y gath, "oni ddywedaist y cawn i di ond i mi dy godi o'r breci?" "Do, mi ddywedais," ebe y lygoden, ond yn fy niod yr oeddwn y pryd hwnw." Felly nid oes coel ar neb yn ei ddiod, mwy nag ar y lygoden yn y breci.
I ddangos fel y byddai y diodydd meddwol yn hurtio meddyliau eu hyfwyr, adroddai yr hanesyn canlynol: "Darllenais hanes am dair boneddiges wedi myned i ball yn Edinburgh, ac yfodd y tair yn rhy uchel. Wrth ddychwelyd adref ar hyd un o'r heolydd, ar ochr yr hon yr oedd eglwys a chlochdy uchel arni: gan fod y lleuad ar y pryd yn tywynu, yr oedd cysgod y clochdy ar draws yr heol, a dychrynwyd y boneddigesau yn fawr, gan iddynt dybied mai afon oedd yno. Dyna lle y bu y tair yn synfyfyrio ar y lan, ac yn methu gwybod beth a wnaent. Ond o'r diwedd, fe ddywedodd un o honynt, mi fentraf fi drwodd yn gyntaf.' Tynodd am ei thraed, ac aeth o gam i gam, gan ofni bob cam a roddai gael ei hunan dros ei phen. Ond o'r diwedd cafodd y lan, a dywedai, Thank God! Ac yna gwaeddai ar ei chyfeillesau, Come my friends, I am all safe. Onid oedd yn ddiraddiad mawr ar y boneddigesau hyn eu gweled yn tynu am eu traed i groesi cysgod y clochdy oedd yn gorwedd ar draws yr heol?"
Mewn atebiad i waith rhai yn dyweyd fod llawer yn gwneyd crefydd o ddirwest, dywedai, "Nid ydym yn dyweyd fod dirwest yn grefydd, ond dywedwn hyn am dani, y mae yn fantais fawr i grefydd; ac y mae y Duw mawr yn gadael i ni yspïo ein mantais; ac yr ydym yn arfer gwneyd hyny gyda phethau eraill. Ni welsoch chwi neb erioed yn gwneyd cais i fyned ar gefn ei geffyl yr ochr isaf iddo, ond cymer pawb fantais ar yr ochr uchaf iddo. Byddwch chwithau synwyrol, a chymerwch fantais ar ddirwest i fyw yn grefyddol."
Anogai y dirwestwyr rhag cymeryd eu hudo gan weniaith y tafarnwyr. "Cofiwch," meddai, "ddameg y llwynog a'r frân. Yr oedd y frân wedi d'od o hyd i gŷn go lew o gaws, ac aeth i ben coeden gydag ef. Yr oedd y llwynog wedi gweled y caws, ac yn chwenych yn fawr cael gafael arno; ond, yn anffodus i madyn, nis gallai fyned i ben y goeden; felly yr oedd yn ymddangos yn lled dywyll arno am y caws. Ond daeth cynllun i ben y llwynog, a hrwy hyny sicrhawyd y caws yn bur ddidrafferth. Eisteddodd wrth fôn y goeden, a dechreuodd ganmol y frân: dywedai mai hi oedd yr aderyn harddaf yn y goedwig,yn ddu loyw landeg o'i phen i'w thraed, ac nad oedd ef yn amheu, pe buasai yn ymwadu ychydig â hi ei hun, na buasai yn canu mor beraidd a'r un o'r adar. Y frân, druan, ar hyn a ddechreuodd ymchwyddo, a gwneyd egni i ganu: ond wrth iddi agor ei phîg, syrthiodd y caws i safn y llwynog, a chafodd y frân, druan, ganu a dawnsio fel y mynai wedi iddo ef gael y caws. Felly chwithau, fy mhobl i, fe ddywed y tafarnwyr balch yma wrthych, Ni buasai raid i chwi lwyrymwrthod, ni fyddwch chwi byth yn yfed gormod; ac yr ydym yn eich gweled yn rhoddi anfri go lew arnoch eich hunain, wrth ymrwymo i'r fath gaethiwed, a chysylltu eich hunain â dosbarth o ddynion nas gallant gymeryd gofal o honynt eu hunain.' Tendiwch chwi hwy, fy mhobl i; y gwirionedd yw, am eich caws chwi y maent yn chwareu."
Anogai ieuengctyd i beidio bod yn mysg y rhai sydd yn meddwi ar wîn, rhag tynu arnynt eu hunain yr un gwaradwydd. Ac er argraffu hyn ar eu meddyliau, dywedai," "Yr oedd ffermwr yn y pen arall i'r sir, yn cael ei boeni yn fawr gan adar oedd yn bwyta ei ŷd, ac un diwrnod saethodd i'w canol, ac wrth edrych y celaneddau, canfu yn eu canol Robin Goch yn gorph marw. "Wel, Robin, Robin,' meddai, 'nid oeddwn yn meddwl dy ladd di, ond nid oedd achos i ti fod yn eu plith hwy.'
Dywedir fod llawer o bethau annoeth yn cael eu dyweyd gan rai wrth areithio ar ddirwest, ac er eu bod yn wir, nid yw pob gwir yn briodol i'w adrodd bob amser; ac i egluro hyn dywedai:—"Yr oedd brawd a chwaer yn cydfyw unwaith, a drwg iawn y cytunent â'u gilydd. Yn mhen amser bu y chwaer farw; ac arfer y pryd hwnw oedd hoelio yr arch ar ol rhoi y corph ynddo; a'r brawd, wrth glywed y joiner yn hoelio, a ddywedai, Hyna, hoeliwch,— da iawn—hoelen eto; gwnaeth lawer o boen i mi erioed.' Yr oedd hyny yn wir, ond nid gwir i'w ddyweyd y pryd hyny ydoedd."
"Nid oes arnoch fwy o eisieu y diodydd meddwol, mwy nag sydd ar geiliogwydd eisieu umbrella.'
Cwynai unwaith am fod mor anhawdd cael gan ddynion gredu am y diodydd meddwol yn wahanol i'r hyn oeddynt wedi arfer gredu am danynt; ac i egluro hyn, adroddodd am hen ŵr oedd yn masnachu mewn hosanau. Byddai yn cymeryd y baich hosanau ar ei gefn ei hun, ac yna fe âi yntau ar gefn y mul; ac nid allai neb ei berswadio nad efe oedd yn cario yr hosanau, a'r mul yn ei gario yntau. Ond pe buasai yr hen ŵr yn deall, y mul, druan, oedd yn cario y ddau; ac esmwythach o lawer iddo ef fuasai iddo roddi yr hosanau oddiar ei gefn ei hunan, ac ni buasai ond yr un peth i'r mul.
"Mae rhai, wrth weled ychydig o'r rhai a fu yn ddirwestwyr wedi troi yn ol at eu chwantau, yn dyweyd fod pawb wedi myned, a bod dirwest wedi darfod am dani. Y maent yn debyg i ryw hen wraig oedd yn y Dyffryn acw yn achwyn ar y barcutan; dywedai ei bod wedi dwyn ei holl gywion bach ond saith, a naw oedd eu nifer yn y dechreu. Chwareu teg i'r barcutan, nid oedd wedi cymeryd ond dau allan o naw."
"Gadewch y diodydd meddwol yma, fy mhobol i, oblegyd y maent yn llawer rhy ddrudion. Y maent yn rhy ddrudion o ran eu defnyddiau—o ran yr amser a gymerir i'w hyfed—ac o ran eu heffeithiau yn y byd hwn, a'r hwn a ddaw."
Byddai yn bur hawdd gan Mr. Humphreys pan yn areithio ar ddirwest ddyweyd gair yn erbyn y Tobacco a'r Snuff. Ond ni byddai yn hyn yn myned mor eithafol a rhai o'i frodyr. Byddai yn arfer dyweyd "Mai tri o blant annghyfreithlon y mae natur yn ei fagu, sef Cwrw, Tobacco, a Snuff; ac fe wyr pawb mai pethau pur ddrudion i'w cadw ydyw plant felly."
Byddai yn dra gochelgar wrth gynghori y bobl ieuainge i beidio ymwneyd âg ef, rhag archolli ei frodyr oedd wedi ffurfio yr arferiad.
Gofynodd blaenor parchus iddo unwaith, mewn Cyfarfod Misol, i ddyweyd gair yn erbyn Tobacco. Teimlai yntau yn anhawdd ganddo wneyd, gan fod cymaint o'i frodyr oedd yn bresenol yn ei arfer; a chyfarfu â chais y blaenor trwy ddyweyd, "Darllenais yn hanes campaign Duke of Wellington yn Yspaen, fod y ddwy fyddin yn gwersyllu heb fod ymhell oddiwrth eu gilydd, ac yr oedd ffynnon o ddwfr wedi ei darganfod rhwng y ddau wersyll, ond ei bod ychydig yn nes at y Ffrangcod nag at y Saeson; a phan y byddai milwyr y wlad hon yn myned i gyrchu dwfr iddi, byddai y gelyn yn cymeryd mantais arnynt, ac yn saethu llawer o honynt. Yr oedd colli ei ddynion fel hyn yn flinder mawr i ysbryd Wellington, ac nis gwyddai pa beth a wnai; yr oedd yn rhaid cael dwfr, ac nid oedd dim yn un lle arall i'w gael. Ond o'r diwedd gwelodd ei ffordd i gael dwfr, ac i arbed ei ddynion hefyd. Yr oedd ganddo ryw nifer o'r Ffrangcod yn garcharorion, a chymerodd hwy ac a'i gosododd yn gylch o gwmpas y ffynnon, fel na byddai modd i'r gelyn saethu y Saeson, heb ladd eu pobl eu hunain yr un pryd. Felly am y Tobacco yma, y mae lot o ddynion go dda yn sefyll o'i gwmpas, fel ag y mae yn anhawdd saethu ato heb eu harcholli hwy, yr hyn nas mynem er dim."
Cofus genym ei glywed yn dywedyd fel hyn, "Ni chymerwn i lawer a dywedyd fod cymeryd Tobacco a Snuff yn bechod mawr—mor fawr ag i gau y nefoedd rhagoch; ond byddaf yn teimlo felly bob amser, fod hyny y maent yn eu wneyd i ddyn yn ei ddarostwng. Ni ddywedaf fod hyny yn llawer, ond hyny ydyw,—ei dynu i lawr y maent. Cofus genym fod dau ŵr parchedig ar eu taith trwy ein gwlad; ac yr oedd un o'r ddau yn cymeryd Snuff, ac yr oedd wedi myned yn demtasiwn mor gref iddo fel y byddai yn rhaid cael y blwch o dan y gobenydd, fel y gallai ei ffroen yfed o hono yn y nos. Ond un noson fe annghofiodd y blwch, a chododd o'i wely i chwilio am dano; ond, wedi iddo ei gael, nid oedd dim ynddo. Wedi hyny bu yn ymbalfalu yn y t'w'llwch am y Snuff oedd ganddo mewn papyr, ac wrth geisio ei dywallt i'r blwch, collodd yr oll ar hyd y llofft. Wedi i'r anffawd hon ddigwydd, nid oedd ganddo ond disgyn ar ei balfau, a cheisio ei snuffio oddiar y llofft. Ni ddywedaf fod hyn yn bechod mawr ynddo, ond nis gallaf yn fy myw lai nag edrych arno yn ei ddarostwng yn fawr." Ac y mae yn ddiau fod y darllenydd yn bur barod i gydsynio âg ef.
Byddai yn bur hawdd hefyd ganddo daflu gair yn ei herbyn hithau,—"Deilen bach yr India," fel y galwai hi; a hyny am ddau reswm: credai nad oedd llawer o faeth ynddi; ac yr oedd bob amser yn barnu fod y dosbarth cyffredin yn gwario mwy nag oedd eu hamgylchiadau yn ei ganiatai iddynt arni, heb iddynt wneyd cam â phobl eraill. Yr oedd yn teimlo yn dra gelynol i'r arferiad o fyned o'r naill dŷ i'r llall i dê, neu i wledda, fel y gelwir ef fynychaf. Yr oedd gŵr a gwraig yn byw heb fod yn mhell oddiwrtho, ac yr oedd y gwendid hwn yn y wraig; byddai yn galw yn nghyd ei chyfeillesau a'i chymydogesau yn bur aml, i gydlawenhau â hi. Ond yr oedd y gŵr yn elyn calon i hyny; yn benaf, am y gwastraff oedd yn nglyn âg ef. Un diwrnod aeth y gŵr i'r tŷ, pan oedd y chwiorydd ar ganol eu llawenydd o amgylch y ford; ac yn yr olwg ar y gwastraff, collodd ei dymher; ymaflodd yn nghynwysiad y ford, a thaflodd hwy i ryw gornel yn y ty, nes oedd y llestri yn chwilfriw mân, a chymerodd y teapot a chadwodd ef yn nhaflod y beudy. Pan y gwelodd Mr. Humphreys, dywedodd yr holl hanes iddo. Gwyddai yntau fod hyn yn achos gryn annghydfod yn y teulu, a dywedodd, "Wel, y mae yn dda genyf dy fod o'r diwedd wedi dinystrio yr Amaleciaid, a chymeryd Amalec ei hun yn garcharor."