Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Pennod VIII

Pennod VII Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn

gan Griffith Williams, Talsarnau

Pennod IX

PENNOD VIII.

MR. HUMPHREYS A DYSGYBLAETH EGLWYSIG

CYHUDDID ef weithiau o fod yn rhy dyner wrth ddysgyblu. Gwyddai yntau fod hyny yn cael ei roddi yn ei erbyn, a byddai yn arfer dyweyd, "Y maent yn dyweyd fy mod yn rhy find, ond ni chlywais i neb erioed yn cwyno fy mod yn rhy find wrthyn' nhw." Ar ryw ymddyddan rhyngddo ef a'i hen gyfaill, y Parch. Griffith Hughes, Edeyrn, dywedai, "Y mae ar y mwyaf o bupur a halen ynot ti, Griffith, fel sydd yn Ann acw." Atebwyd ef yn ol gan Griffith Hughes, "Y mae yn dda ei fod ynddi hi ac mewn eraill, canys yr ydych chwi fel flour—box yn peillio pawb." Er mai o ddigrifwch diniwaid a chyfeillgar y gwnaed y sylwadau hyn ganddynt, eto yr oedd y ddau yn dyweyd wrth eu gilydd yr hyn yr oedd llawer yn siarad am danynt. Y mae rhai nad ystyriant ddim yn ddysgyblaeth ond tori allan, ac ni bydd hyd yn nod tori allan yn werth dim heb iddo gael ei wneyd mewn dull haerllug a dideimlad—dull a fydd yn caledu y troseddwr, ac yn peri i gydymdeimlad llawer yn yr eglwys fyned o'i blaid i'r fath raddau fel y cuddir y trosedd gan dosturi at y troseddwr. Pa sawl gwaith y mae nwydau drwg wedi trawsfeddianu enw sêl grefyddol : a thaiogrwydd natur afrywiog, annghoethedig, wedi cael ei alw yn blaender crefyddol? Ond gan y dysgwylir i ddysgyblaeth eglwysig fod yn foddion o ras i'r troseddwr, yr ydym yn credu fod y dull tyner, a'r ysbryd addfwyn, yn mha un y byddai Mr. Humphreys yn gweinyddu y cerydd yn llawer tebycach o ateb y dyben.

Dywed un o'i hen ddysgyblion (Mr. Rees Roberts, Harlech) fel hyn am dano yn y cysylltiad hwn: "Yr oedd yn geryddwr ffyddlon a chywir, yn un yn dwyn argyhoeddiad i bob calon a chydwybod mai mewn ffyddlondeb i Grist a'i achos, a chariad diledrith at y troseddwr, y byddai yn gweinyddu y cerydd. Y mae ambell un yn ceryddu yn y fath fodd ac yspryd fel ag y mae yn ddigon o waith i ddyn allu credu na fydd yn mwynhau y gwaith, trwy ei fod wrth hyny yn cael cyfle i ollwng allan gryn lawer o chwerwder ei dymer afrywiog, a surni ei yspryd cul ei hunan; yn bur debyg i gi coch, curliog, mawr, a welais y dydd o'r blaen wrth gadwen gref; wrth lwc, mewn yard goed yr oedd yn chwyrnu ac yn bygwth, fel pe buasai yn eiddigeddus i'r eithaf dros bob ysglodyn o eiddo ei feistr; pryd, mewn gwirionedd, nad oedd y creadur ond gollwng allan ffyrnigrwydd a mileindod ei natur giaidd ei hunan. Gwnaethai yr un peth yn gymwys pe buasai wedi ei ystancio ar y domen ludw fwyaf diwerth yn y byd. Ond ni thybiwyd gan neb erioed fod Mr. Humphreys yn ymhyfrydu mewn gweinyddu cerydd ar undyn. Gallai efe geryddu, ond nis gallodd erioed chwyrnu; gwnai ei gaswaith yn ffyd'ilon ac effeithiol, mae yn wir; ond teimlem i gyd mai oblegyd yr angenrhaid a osodwyd arno y cyflawnai y gorchwyl hwn. Os byddai rhaid i'r cerydd fod yn llym a miniog, argyhoeddid ni oll mai er mwyn y dyoddefydd y byddai efe yn hogi ei arfau, a sylweddolid yn bur gyffredin gan wrthddrych y cerydd eiriau Dewi Wyn,

'Gwybydd tan law tyner Dad
Nad yw cerydd ond cariad'.

Trwy ei fod yn ŵr o gynghor, galwyd ef gan swyddogion llawer eglwys i'w cynorthwyo pan y byddai rhyw annghydfod wedi tori allan, neu gwestiwn o ddysgyblaeth y byddai arnynt eisieu help i'w ddwyn i derfyniad. Teimlai Mr. Humphreys wrthwynebiad cryf i roddi cyhoeddusrwydd i bob achos o ddysgyblaeth, trwy ei ddwyn gerbron yr holl eglwys, os gellid mewn un modd ei derfynu mewn cylch llai, a diau fod pob swyddog o brofiad yn barod i gydnabod 'doethineb y cwrs hwn a gymerid ganddo. Y mae yn beth i'w ryfeddu, pan y meddylier am gynifer o gwestiynau bychain a dibwys a roddwyd ger bron eglwysi lluosog, fod can lleied o rwygiadau wedi bod ynddynt. Pan y byddai i frawd neu chwaer wneyd llongddrylliad ar ei ffydd, ei gwestiwn cyntaf ef fyddai, "Beth ydyw y peth goreu a ellir ei wneyd o'r drwg hwn?" Ni byddai byth yn ceisio chwyddo y bai; ond rhoddai bob mantais a allai, heb gefnogi y trosedd, o blaid y troseddwr. Dyma y rheswm fod y gair wedi myned ar led yn ei gylch, ei fod yn rhy dyner gyda "dysgyblaeth eglwysig." Pan y byddai Mr. Humphreys yn cael ei anfon gan y Cyfarfod Misol i ryw eglwys Île y byddai achos neillduol wedi tori allan, dywedai y cymydogion mor fuan ag y clywent pwy fyddai y llysgenadwr, "Ni bydd eisieu yr un crogbren y tro hwn." Wedi bod yn trin mater rhyw frawd yn Ll-n-f-n, dywedai cyfaill wrtho ar ol myned i'r tŷ, " Yr oeddwn yn eich gweled yn trin y ddysgyblaeth a'ch menig am eich. dwylaw, Mr. Humphreys."

"Mi fum yn poeni lawer gwaith," ebe yntau, "am fod yn rhy chwerw, ond ni phoenais erioed am fod yn rhy dyner."

Ond efallai mai mwy dewisol gan y darllenydd ydyw i ni gilio o'r neilldu, a galw Mr. Humphreys ei hunan yn mlaen, trwy yr hanesion ydym wedi eu derbyn am dano, fel y gallont ei weled yn myned trwy y gorchwyl o weinyddu dysgyblaeth.

Digwyddodd iddo fod mewn eglwys heb fod tu allan i Sir Feirionydd pan yr oedd achos bachgen lled ieuangc yn cael ei drafod. Y trosedd ydoedd myned i lân y môr ar y Sabbath. Yr oedd yr achos yn cael ei roddi ger bron gan hen ŵr ffyddlon a chydwybodol iawn dros gadwraeth y Sabbath, ac yr oedd yn eithaf amlwg ei fod wedi bwriadu yn sicr ddiarddel y bachgen. Coffaai am y cynutwr hwnw a labyddiwyd â meini am halogi dydd yr Arglwydd, a dywedai nad oedd yr hyn a wnaeth yntau yn ddim llai pechod, nac yn haeddu dim llai cospedigaeth. Wrth weled cyfeiriad y sylwadau mor uniongyrchol i fwrw y llangc dros y drws, dywedai Mr. Humphreys :—"Gwir nad yw halogi y Sabbath yn ddim llai pechod nag oedd y pryd hwnw, ond yn hytrach yn fwy: ond cofier nad ydym ni dan yr un oruchwyliaeth ag oedd y cynutwr." Ac yna cymerodd yr ymddyddan canlynol le rhwng Mr. Humphreys a'r bachgen :

"A fuost ti yn nglan y môr ar y Sabbath ?"

"Do, mi fum," ebe yntau.

"A ydyw yn edifar genyt fyn'd?" gofynai Mr. Humphreys.

Ydyw yn wir, yn edifar iawn genyf," oedd yr ateb. Yna gofynodd y gweinidog drachefn, "A wnei di beidio a myn'd byth yn ychwaneg ?"

"Na, ni bydd i mi byth fyn'd eto," oedd yr ateb.

Wedi cael y gyffes hon ganddo, dywedai Mr. Humphreys wrth y frawdoliaeth, "Mi a'ch cynghorwn gyfeillion i adael ar hyn o gerydd i'r bachgen y tro hwn;" a chytunodd pawb a'r cynghor, oddigerth yr hen ŵr; ond bu yntau yn ddigon doeth i dewi. Wrth fyned o'r Cyfarfod dywedai Mr. Humphreys wrth gyfaill oedd yn cydgerdded âg ef: "Yr oedd yr hen frawd wedi meddwl rhoi dau fis o garchar i'r bachgen, ond yr wyf fi yn credu fod yr hyn a wnaed yn debycach o ateb y dyben."

Yr oedd i fod yn Sm ryw nos Sadwrn yn cadw seiat, ac yr oedd y swyddogion wedi darparu gwaith iddo pan y y deuai, a phan yn cychwyn i'r capel dywedai un wrtho : Mae yma ddyn ieuangc yn cyfeillachu gydag un heb fod yn proffesu; ac yr oeddym wedi meddwl ei alw yn mlaen heno gael i chwi ymddyddan ag ef." "Nid wyf yn barnu yn briodol iawn," ebe yntau, "ymddyddan yn gyhoeddus ar bwnge fel yna, ond os ydych yn dewis, ymddyddanaf yn bersonol ag ef ar ol i'r cyfarfod derfynu;" ac felly y cytunwyd. Wedi ymddyddan ychydig a'r bachgen, deallodd Mr. Humphreys ar ei atebion penderfynol ei fod wedi gwneyd ei feddwl i fyny i briodi yr eneth, ac nad oedd un dyben ymresymu ag ef, a therfynodd yr ymddyddan trwy ddyweyd wrtho, "Wel edrych di rhag gwneyd dy botes yn rhy hallt, tydi raid ei fwyta." Ar ol hyn prïododd y bachgen, ac yn mhen yspaid o amser yr oedd Mr. Humphreys yn myned i'r un lle drachefn, ac yn mysg y rhai oedd yn myned i ysgwyd llaw â'r pregethwr, adnabu Mr. Humphreys y dyn ieuangc, yr hwn erbyn hyn oedd yn ŵr a thad, a gofynodd iddo," Wel, sut y mae y potes yn troi allan?" "Hallt iawn, Mr. Humphreys," oedd yr ateb.

Ni byddai yn caru gweled neb yn cyffroi wrth drin achos. brawd fyddai wedi colli ei le. Anfonwyd ef a'r diweddar Barch. Cadwaladr Owen i eglwys lle yr oedd achos o ddysgyblaeth, ac yr oedd yr achos wedi bod ger bron y frawdoliaeth lawer gwaith. Wedi gwrando yr achwynion, ac iddynt hwythau eu dau wneyd sylwadau, a dechreu gofyn barn yr eglwys, cododd un gŵr ar ei draed a dywedodd yn bur gynhyrfus:—"Nid oes eisieu colli ychwaneg o amser gyda'r dyn yna, yr ydym wedi arfer digon o amynedd gydag ef yn barod." "Wel, frawd bach," ebe Mr. Humphreys, "mi feddyliwn eich bod chwi wedi arfer cymaint ag sydd genych."

Edrychai Mr. Humphreys ar fai bob amser yn ei gysylltiad âg amgylchiadau a themtasiynau y troseddwr, ac y mae y neb a farno drosedd heb roddi ystyriaeth briodol i'r pethau hyn yn y perygl o wneyd camgymeriadau, a thrwy hyny guro â llawer ffonod yr un na ddylasai gael ond ychydig, a rhoddi ychydig ffonodiau i'r un a ddylasai gael llawer. Trwy y byddai efe yn mesur a phwyso amgylchiadau fel hyn, byddai gwrth-darawiad yn cymeryd lle weithiau rhyngddo âg ambell i eglwys y byddai wedi ei anfon i'w chynorthwyo. Digwyddodd fod achos aelod yn cael ei drin mewn eglwys unwaith, ac yr oedd yr holl frawdoliaeth yn teimlo mai allan y dylasai y cyhuddedig fyned: ond cynghorodd Mr. Humphreys hwy i'w adael i mewn. Ar ddiwedd y cyfarfod dywedodd un o'r blaenoriaid wrtho: "Rhaid i chwi ddyfod i fyw at y bobl hyn, gan eich bod yn mynu eu cadw i mewn ; yr ydym ni yn methu a chael dim trefn arnynt." "Mae yn ymddangos i mi," ebe yntau, "nad yw y dyn yna yn bur gall, ac yr oeddwn yn ofni os buasai i chwi dynu pob llyfethair oddiarno mai ar ei ben i ddinystr y buasai yn myned yn fuan."

Dro arall, gofynodd swyddog rhyw eglwys iddo beth a wnaent i hwn a hwn: "y mae wedi colli ei le eto," meddai. Yr oedd Mr. Humphreys yn adwaen y troseddwr yn dda, a dywedai: "Un rhyfedd ydyw, ac nis gwn beth gwell a ellir wneyd na chymysgu tipyn o gyfiawnder a thrugaredd iddo."

Cofus genym glywed swyddog eglwysig yn gofyn iddo beth oedd eu dyledswydd at aelod oedd yn eu heglwys wedi taro ei gymydog. "Wel," ebe yntau, mae llawer o ddynion câs iawn yn bod, a byddant yn cymeryd mantais ar grefyddwyr i'w poeni yn ddiachos, gan drustio i'w crefydd; ac mi fyddaf fi bron a meddwl mai purion peth ydyw fod ambell i grefyddwr na waeth ganddo daro na pheidio, a hyny er gosod ofn ar weilch felly."

Byddai yn cael ei demtio weithiau i fod yn llym, a byddai y pryd hwnw yn llefaru yn arw. Yr oedd hen ŵr yn y G——n yn dechreu canu, ac am fod y rhan hon o wasanaeth y cysegr yn cael cam oddiar law yr hen wr, gosodwyd dyn ieuangc yn ei le. Teimlodd yr hen ŵr yn fawr. a llwyddodd i godi terfysg yn yr eglwys; a galwyd ar Mr. Humphreys a brawd arall i lonyddu y cythrwfl. Wrth weled yr un oedd wedi dechreu y terfysg mor hunanol ac anmhlygiedig, dywedai Mr. Humphreys, "Nis gwn beth ydyw dyben y Brenin mawr yn gosod ambell un ar y ddaear, os nad i brofi amynedd pobl eraill;" ac yna trodd at yr hen frawd, a dywedai ei fod yn ofni y byddai ei ddiwedd yn waeth na'i ddechreuad.

Yr oedd yn y Dyffryn ryw henafgwr, yr hwn a fyddai a'i law yn drom ar y bobl ieuaingc. Byddai yn gweled rhyw ysmotiau duon arnynt bob amser, ac ar ol iddo fod yn eu fflangellu am rywbeth a ystyriai ef yn feius, dywedai Mr. Humphreys, " Y mae pawb yn gweled y gwrthddrychau yr edrychir arnynt trwy wydr yr un lliw a'r gwydr ei hunan: os du fydd y gwydr, du yr ymddengys pob peth drwyddo;" ac wedi gwneyd y sylw trodd at y brawd a dywedodd, "Fe fyddai yn burion peth i tithau newid dy spectol."

Dro arall, wrth glywed y plant yn cael eu ceryddu am fyned ag afalau surion i'r capel, cymerodd Mr. Humphreys yr ochr amddiffynol, a dywedai:—"Mae yr hen bobl yn methu a gwybod beth ydyw y bwyta sydd ar y plant yn y capel, a'r plant yn methu gwybod beth ydyw y cysgu sydd ar yr hen bobl; ac o'm rhan i byddai yn well genyf eich gweled yn bwyta i gyd na chysgu : byddai rhyw obaith i chwi glywed wrth fwyta, ond dim wrth gysgu.'

Byddai yn cael ei demtio weithiau i ddywedyd gair lled ysmala wrth drin achosion na byddai yn gweled pwys mawr ynddynt. Yr oedd annghydfod wedi tori allan rhwng brawd a chwaer perthynol i'r eglwys, a dywedai y brawd fod y wraig wedi ei daro. Gofynai Mr. Humphreys i'r wraig, a oedd hi wedi gwneyd hyny.

"Wel do," ebe y wraig, "mi a'i tarewais ef."

"Gyda pha beth?" gofynai Mr. Humphreys.

"Gyda'r golch-bren," ebe y wraig.

"Wel oni chefaist di beth pwrpasol iawn!" ychwanegai y gweinidog.

Collodd ei olwg ar y bai yn nghyfaddasrwydd yr offeryn a ddefnyddiodd y wraig i ddial ei cham. Ei esgusawd dros wneyd sylwadau o'r fath fyddai nas gallai yn ei fyw arbed pêl deg pan y deuai ato.

Dengys yr hanesyn hwn am dano pa mor aeddfed ydoedd i roddi barn ar bob cwestiwn a osodid o'i flaen. Dygwyddodd pan oedd yn myned gyda chyfaill i dê un prydnawn Sabbath i'r Mail Car eu pasio, yr hwn a redai rhwng Dolgellau a Chorwen, ac y mae yn ymddangos fod y gŵr oedd yn gyru y car yn perthyn i'r seiat yn y dref lle yr oedd yn byw; ac nid oedd yn gallu cael ond y moddion nos Sabbath yn unig. Pan oedd y cerbyd yn myned heibio, gofynai y cyfaill i Mr. Humphreys,

"A ydych chwi yn meddwl fod yn iawn i grefyddwr gyflawni gorchwyl fel hyn ?"

Beth fyddai i chwi newid y cwestiwn, W. E., gofynai yntau, "A ydyw yn iawn i ddyn ei gyflawni? Ac os ydyw, mi allwn i feddwl mai crefyddwr ydyw y goreu i'w gyflawni."

Anfonwyd Mr. Humphreys a'r hen flaenor hynod William Ellis, o Faentwrog, i eglwys lle yr oedd gweinidog a chanddo gŵyn yn erbyn rhai o'r aelodau. Cwynai y gweinidog wrth y ddau fod llawer o ddynion hyfion yn cyfodi yn yr eglwysi—dynion nad ofnent Dduw ac na pharchent ei weision. "Wel D. bach," ebe W. Ellis, "nid oes dim i'w wneyd ond ceisio dringo yn uwch i'r mynydd, gael i'n gwynebau ddysgleirio gormod i ddynion cnawdol fel yna allu gwneyd yn hyfion arnom." "Nis gwn a ydych yn iawn ai peidio, William," ebe Mr. Humphreys, ac ychwanegai, "ni bu gŵr erioed yn llenwi ei gadair yn well na Moses, ond yr oedd rhyw Jannes a Jambres i'w cael yn ddigon hyfion i godi yn ei erbyn ef."

Yn Nghyfarfod Misol Corris flynyddoedd yn ol galwyd sylw at achos yr hen frawd Owen Williams, Towyn. Yr oedd wedi arwain ei hunan ac eraill i brofedigaeth wrth gloddio y ddaear am ei chyfoeth mwnawl. Credai fod llawer o hono ar ei gyfer, a gobeithiai ei fod yn ei ymyl. Llawer gwaith y dywedodd ei fod o fewn "tew' cosyn" i'r wythïen y chwiliodd gymaint am dani; ond nis gwyddom pa le y gwelodd gosyn a'r fath drwch ynddo. Rhoddwyd llawer o rybuddion difrifol iddo, ac yr oedd rhai o'i frodyr llefaru yn galed wrtho. O'r diwedd cododd Mr. Humphreys ar ei draed, a dywedodd, "Derbyniwch y cwbl yn garedig Owen Williams, a chredwch mai nid am eich gyru i'r ddaear yr ydym, ond am eich cadw o'r ddaear."

"Yn wir, Humphreys bach," ebe yntau, "nid yw y cwbl sydd yn cael ei ddywedyd am danaf yn wir; ni chaf fi fyned â na chaib na phal na rhaw ar fy ysgwydd, na byddant yn dyweyd mai myn'd i chwilio am fŵn y byddaf."

"O," meddai Mr. Humphreys, " mi fyddaf finau a chaib a rhaw ar fy ysgwydd weithiau, ond ni chlywais neb erioed yn dyweyd fy mod i yn myn'd i chwilio am fŵn."

Y mae hanesyn arall am dano yn ei berthynas âg Owen Williams y gallwn ei osod yn ddiweddglo i'r bennod hon. Yn Nghymdeithasfa Caernarfon, yn y flwyddyn 1851, bu sylw ar achos adferiad yr hen frawd Owen Williams, Towyn, wedi rhyw gymaint o attaliad arno. Yr oedd Mr. Humphreys ei hunan yn lled drwm arno, ac fe ddywedodd bethau hallt iawn wrtho. Ond nid oedd yn foddlawn i neb arall fod yn rhyw lawer felly—tra yr oedd cryn nifer yn tueddu at fod, yn enwedig o'r blaenoriaid, o rai o'r siroedd. Yr oedd y diweddar Mr. Hugh Jones o Lanidloes, yn teimlo yn gryf iawn yn ei erbyn, ac yn siarad yn dra gwrthwynebol i'w adferiad. "Does dim rheswm," meddai, 'gadael i ddyn fel yna fyned ar draws y wlad; yn dangos lwmpiau o lô, a darnau o gerig mŵn yn ei bocedau; yn dangos y rhai hyny yn nhai y capelau, ac yn perswadio pobl dlodion i roi eu harian, ac i gymeryd shares mewn rhyw weithiau, a'r rhai hyny yn troi allan heb ddim ynddyn' nhw: a'r bobl druain yn colli eu harian. 'Does dim synwyr gadael y pulpud i ddyn fel yna."

"Yn wir," meddai Mr. Rees, "y mae pethau fel yna, os ydynt yn wir, yn bethau tra difrifol."

"A hyn a fu i rai o honoch chwi, Henry," meddai Mr. Humphreys, "y mae gormod o rywbeth fel yna yn sicr wedi bod: ond credu yr oedd Owen Williams fod rhyw doraeth o gyfoeth ar ei gyfer o yn yr hen ddaear yma yn rhywle, pe cawsai o afael arno; ac yn wir yr oedd yn ddigon rhaid i'r truan wrtho; oblegyd ni chafodd o ddim rhyw lawer erioed gan yr hen Fethodistiaid yma.'

"Nid oedd y dyn," meddai Mr. Hugh Jones drachefn, "yn gofalu dim am ei gyhoeddiadau. Yr oedd cyhoeddiad ganddo gyda ni yn Llanidloes acw, ac yr oedd son mawr am dano, a dysgwyliad mawr wrtho. Yr oedd y dyn wedi bod mewn print: ac yr oedd y bobl—fel y mae nhw yn meddwl llawer iawn o ddyn felly. Fe ddaeth y boreu Sabbath, a llon'd y capel o bobl; ond nid dim hanes Owen Williams o Dowyn. A dyna lle lle y buom ni trwy y dydd heb neb. Ond yn fuan ar ol hyn, clywem bod Owen Williams, y diwrnod hwnw, yn Aberteifi, neu Gaerfyrddin. Beth dâl dyn fel yna na ellwch chwi ro'i dim ymddiried y daw o i'w gyhoeddiad ?"

"Ydyw yn siwr," meddai Mr. Humphreys, "y mae Owen Williams wedi bod yn feius iawn yn hyn yna. Fe fyddai rhyw yspryd yn myned ag o i rywle yn bur fynych. Ond beth a wnewch chwi yn son? Felly y byddai fo yn cipio Phylip :— A Phylip a gaed yn Azotus,' heb neb am a wyddom ni yn ei ddysgwyl o yno."

Nodiadau

golygu