Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry (testun cyfansawdd)

Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry

gan Thomas Lewis Jones, Machen

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader




Adgof uwch Anghof."

COFIANT

Y

PARCH. ISAAC MORGAN HARRY,

O'R MORFA, SWYDD FYNWY.

GAN Y

PARCH. T. L. JONES,

MACHEN.

"Mae efe wedi marw yn llefaru eto."

CAERDYDD:

E. WALTERS, ARGRAFFYDD, NORTH CHURCH-STREET.

1863.

Pris Chwe' Cheiniog.


RHAGYMADRODD.

Dymunaf hysbysu y darllenydd fy mod wedi awgrymu i'r hen dad, Mr. Harries, lawer gwaith, y buaswn yn ysgrifenu Cofiant iddo, os na fuasai neb arall yn gwneyd. Dywedai wrthyf bob amser nad oedd dim yn werth i'w ddweyd am dano; ond nid felly yr wyf fi ac ereill yn gweled. Diau ei bod yn ddyledswydd arnom gadw mewn cof y rhai hyny ag fu yn llafurio yn galed ar hyd eu hoes yn ngwinllan Iesu; ac yn sicr y mae yn iawn i mi gofio am yr hynod Mr. Harries, o herwydd ei fod wedi bod yn llafurio cymaint yn y lle ag yr wyf yn aros ynddo. Ni welodd y lle hwn neb yn fwy selog a pharod nag efe, o blaid yr achos yn ei holl dywydd.

Cryn orchwyl yw ysgrifenu hanes bywyd dyn na ysgrifenodd ddim ei hunan o'i feddyliau a'i ddywediadau. Y mae yr hyn a gedwir ar gof yn agored i gael ei gamddyweyd; a phe byddai y cof yn gywir, nis gellir trosglwyddo ei ddull ef ei hun gyda'i bethau, ac o herwydd hyny collant lawer ar eu nerth a'u heffaith, ond y mae mantais gan y rhai a'i clywsant, oblegid wedi iddynt glywed rhai o'i bethau, cofiant ar unwaith am ei ddull ef o'u dweyd, ac ychwanega hyny lawer at eu gwerth.

Dymunir ar i'r darllenydd gofio mai un Cofiant yw yr holl lyfr; nid wyf, mor bell ag yr wyf yn cofio, wedi ail-ddyweyd yr hyn a ddywedir yn y llythyrau; gan hyny, er cael golwg gyflawn ar Mr. Harries, angenrheidiol yw "bwyta y llyfr" i gyd.

Cafodd eglwys y Morfa golled fawr ar ei ol; ond byddai yn dda iddynt gofio, mai Arglwydd y lluoedd wnaeth y bwlch, ac nad yw ef un amser yn galw neb o'i weision tua thre heb ofalu llanw eu lle yn rhyw ddull neu gilydd. Hyderaf y bydd cariad, tangnefedd, a llwyddiant mawr yn eu plith tra byddo eglwys yn y lle. Dywedai Mr. Harries yn aml, mai cariad brawdol ddylai fod yn chairman yn mhob cyfarfod; ac hyderaf y bydd y gwr boneddig hwn yn y gadair lywyddol yn y Morfa, yn gystal ag yn mhob eglwys arall drwy sir Fynwy a'r byd.

Yr ydym yn dymuno cyflwyno ein diolchgarwch gwresocaf i'r Parchn. J. Mathews, Castellnedd; D. Davies, New Inn; H. Daniel, Cefncrib; W. C. Williams, Groeswen; J. Jones, Rhydri; T. Rees, D.D., Abertawy; J. Thomas, Carmel; a Mrs. Hughes, Dowlais. Bu amryw frodyr a chyfeillion ereill yn gryn help i ni hefyd, i'r rhai yr ydym yn teimlo yn wir ddiolchgar.

Ein pwnc mawr ni yn awr yw byw bywyd yr uniawn, fel y byddo ein diwedd ni fel yr eiddo yntau; ac os cawn wneyd felly, ni gawn dragywyddoldeb dedwydd i ddarllen hanes ein bywyd yn y byd cyfnewidiol hwn. Nid yw ef ond wedi ein blaenu am ychydig, byddwn yn fuan iawn wedi teithio'r llwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelwn yn ol.

T. L. JONES.

Machen, Chwefror 11, 1863.

TAFLEN

YN RHOI

BRASLUN O HANES EI FYWYD.

Ganwyd ef yn Twyncadnaw, plwyf Bassaleg, yn y flwyddyn 1782. Enw ei dad oedd Thomas Morgan Harry. Bu farw yn 92 oed. Priododd â Miss Mary Morgan, Coed Cernyw, yn 1807. Aeth at grefydd pan yn 25 oed. Ganwyd iddo bedwar o blant-Anne, Mary, Hannah, a Ruth; tair o'r rhai'n sydd yn fyw, oll yn grefyddol, ac yn gwneyd yn gysurus. Dechreuodd bregethu pan tuag 28 oed.

Ordeiniwyd ef yn mis Mehefin, 1829. Bu farw yr ail o Awst, 1862, yn 80 oed. Rhif yr eglwys ar y cyntaf oedd dau; pan fu efe farw, yr oedd yn 70.

COFIANT, &c.

Y MAE pedwar ugain mlynedd yn effeithio cyfnewidiadau mawrion, yn wladol a chrefyddol. Mae y ffaith yma yn amlwg iawn, wrth i ni droi ein golwg yn ol i edrych ar fro Mynwy, tua'r flwyddyn 1782. Yn yr adeg hon, nid oedd yr un eglwys Annibynol yn y fro, oddieithr yr un yn Heol-y-felin, Casnewydd, ac efallai ychydig frodyr yn ymgyfarfod yn Machen i addoli eu Duw, yn ol y drefn Annibynol. Mae yn wir fod eglwys Annibynol wedi bod am rai blynyddau yn nhŷ Jane Rowlands, yn Marshfield, ond yr oedd hono yn awr wedi gwywo a marw, a dim ond ychydig yn gwybod fod y fath beth wedi bodoli erioed."

Golygfa resynus iawn oedd i'w chanfod ar foesoldeb y wlad hon y pryd hwnw. Y rhan fwyaf o arweinyddion y bobl yn ddeillion, a'r ddau yn syrthio yn yr un ffôs ddofn o lygredigaeth-llèn gaddugawl yn gorchuddio meddyliau y bobloedd-dydd yr Arglwydd yn cael ei halogi-y bêl-droed yn cael ei chicio, a nerth corphorol amryw o'r bechgyn ieuainc yn cael ei brofi ar ddiwedd y chwareu, drwy ymladd â'u gilydd, nes byddai eu gwaed yn llifo i'r llawr-talcen yr eglwys yn cael ei ddefnyddio i guro'r bêl yn ei erbyn, a'r offeiriad mewn nwyfiant a hwyl yn eistedd ar y gareg farch gerllaw, i gadw cyfrif pwy oedd ar y blaen-y Beibl yn llyfr seliedig i'r lluaws-angeu'r groes, a'r Iawn a roed yno, yn bethau dyeithr, a'r bobl yn rhedeg i golledigaeth dragywyddol, heb ond ychydig i'w rhwystro. Ond, yn yr amseroedd tywyll hyn, yr oedd rhywrai yn mro Mynwy ag ofn Duw o flaen eu llygaid, a'u calonau yn teimlo wrth weled trueni trigolion y wlad. Yr oedd eglwys go gref yn Heol-y-felin, Casnewydd, ac amryw ar hyd y wlad yma ac acw yn aelodau o honi, ac yn eu plith yr oedd Thomas Morgan Harry, o Dwyncadnaw, (Twyncanddo, godreu Mynwy,) gerllaw'r 'pump heol,' yn mhlwyf Bassaleg, neu yn hytrach Maesyrhelyg, a'i briod. Mae Twyncadnaw yn aros hyd heddyw, ac wrth edrych ar ei furiau llathen o lêd, y beam derw dwy droedfedd betryal, ag sydd a'i ysgwydd gadarn dan y lloft, a'r tylathau brâff ag sydd yn dal y tô, y gall aros yn ddigwymp am un oes eto beth bynag Cafodd gwr a gwraig Twyncadnaw y fraint o ymuno â chrefydd yr addfwyn Iesu, yn y flwyddyn 1760. Nis gwyddom pa fodd yr argyhoeddwyd hwynt; ond nid yw fawr gwahaniaeth, gan fod digon o brofion eu bod wedi cael troedigaeth gyflawn a thrwyadl. Ymddengys fod y ddau ddyn hyn yn esiampl i'w cymydogion ac yn anrhydedd i grefydd yr Oen. Felly, rhesymol dysgwyl iddynt orphen eu gyrfa mewn llawenydd, a'u llygaid yn gweled iachawdwriaeth Duw. Gweinidog Heol-y-felin y pryd yma, oedd y Parch Rosser Prosser; bu farw yn fuan wedi hyn.

Cafodd Thomas Morgan Harry ei fendithio â theulu lluosog, yr ieuengaf o ba rai oedd gwrthrych ein Cofiant. Cafodd Isaac Morgan Harry ei eni i fyd gofidus a thrafferthus, ac nid hir y bu heb gael teimlo y groes ar ei ysgwydd dyner. Bu farw ei fam cyn iddo ef gyrhaedd ei ddwy flwydd oed, yr hyn fu yn golled ddirfawr iddo ef a'r plant ereill, ond gallodd y lleill ymdaro yn well nag ef, o herwydd eu bod yn henach, a chaletach i ddal y tywydd garw oedd yn eu haros yn myd yr anial. Yn mhen rhyw ychydig amser ar ol y tro chwerw hwn, meddyliodd ei dad y byddai yn well iddo gael ymgeledd gymhwys iddo yr ail waith, a thybiai yn ddiau ei fod yn gwneyd lles mawr i'r rhai bychain oedd ganddo wrth wneyd hyny; ond buan y cafodd ef a hwythau deimlo nad oes modd cael ychwaneg nag un fam. Ymddengys i Isaac bach gael teimlo pwys dyrnodiau y ddynes hon lawer gwaith, a mynych yr wylai ei dad yn chwerw dost am fod y fath anffawd wedi dygwydd iddo; ond yr oedd erbyn hyn yn rhy ddiweddar i gael unrhyw gyfnewidiad, oblegid hyd angeu yr oedd priodas y pryd hwnw fel yn awr. Mae llawer iawn o blant Duw wedi myned i'r fagl hon yn eu hen ddyddiau, a phrydnawn digon ystormus a gofidus a ddaeth i'w rhan yn herwydd hyn. Mae llawer un wedi canu oddiar brofiad chwerw gyda Dafydd Williams, Llanbedr-y-fro

"Yn y dyfroedd mawr a'r tònau," &c.

Bu gwrthddrych ein Cofiant dan anfantais fawr pan yn ieuanc, o herwydd nad oedd ei dad mewn amgylchiadau cyfleus i roi ysgol iddo; ni bu ddiwrnod yn yr ysgol yn un man, hyd nes i'r ysgol Sul i ddangos ei gwyneb llachar, ac erbyn hyn, yr oedd wedi cyrhaedd yn mlaen mewn dyddiau lawer.

Yr oedd llawer iawn o ymdrech yn ei dad i'w ddysgu mewn gwybodaeth gyffredinol, a gwnaeth ei ran yn dda gyda'r plant hynaf; ond pan yr oedd Isaac mewn oedran i gael ei ddysgu, ni chai yr un llyfr aros y gyfan gan ei lys-fam. Mae yn debyg fod yr hen frawddeg hono wedi gwreiddio yn ddwfn yn ei chalon hi, "Mammaeth duwioldeb yw anwybodaeth;" beth bynag am hyny, aberth-llosg oedd tynged pob llyfr a ddeuai o hyd iddi; a'r unig fan ag y cai ei dad lonydd i ddysgu yr A B C iddo oedd, ar ben y tŷ wrth doi; a mynych y dywedai "Fod y pregethwyr yn awr yn cael eu dysgu yn y tŷ—y coleg-dŷ, ond ei fod ef wedi ei ddysgu ar ben y tŷ. Er holl drafferth T. M. Harry, ni anghofiodd grefydd. Mae llawer yn crefydda pan fyddo pob peth o'u tu, ond pan ddel ystorm i'w cyfarfod, ymofynant am loches yn rhyw le heblaw yn nghysgod eu crefydd; ond am yr hen bererin o Dwyncadnaw, gyrodd gofid a thrafferth teuluaidd ef yn nes at ei Dduw nag erioed o'r blaen.

Nid oedd yn meddu ar lais i ganu; ond eto, canai lawer wrtho ei hun, a diau fod ei ganu yn fwy derbyniol gan y Nefoedd nag eiddo llawer un ag sydd yn meddu ar well llais. Bu farw mewn oedran teg, ac nid bychan oedd colled yr eglwys yn Casnewydd ar ei ol. Bu yn aelod eglwysig am 70 o flynyddoedd.

Bachgen go ddrwg oedd Isaac pan yn ieuanc; yr oedd gyda y blaenaf yn y gymydogaeth am bob math o ddrygau cyffredin. Man-cyfarfod y bechgyn ieuainc yn y gymydogaeth hon ar brydnawn Sul, oedd y 'pump heol,' sef y man lle y mae pump o heolydd yn cyfarfod a'u gilydd. Yn y cyfarfodydd wythnosol hyn, byddai tri o bethau yn cael eu gwneyd yn gyffredin :

1. Dyweyd hanes y gymydogaeth; yn enwedig, sut yr oedd business y llanciau a'r llancesau yn cael ei gario mlaen.

2. Codymu a neidio.

3. Taflu y bar a'r goetan, a rhwng y tri pheth hyn parhaai y cyfarfod yn gyffredin o ddwy i dair awr. Dywedir nad oedd nemawr o un yn gallu trechu Isaac yn y campiau hyn, a hawdd iawn genym gredu hyn, o herwydd yr oedd ei gyfansoddiad naturiol yn gryf, a'i freichiau a'i ddwylaw mawrion fel wedi eu bwriadu i wneyd caledwaith. Yn yr amseroedd hyn byddai yn myned aml i dro i wrando pregethu yr Efengyl. Bu yn gwrando lawer gwaith ar y Parch. Mr. Heir, Casbach, yr hwn oedd genad gwrol dros Arglwydd y lluoedd yn y dyddiau hyny. Clywodd hefyd y Parchedigion John Elias a Christmas Evans; ond er cystal eu doniau hwy, nid effeithiai dim er ei ddarbwyllo ef i adael ei ffyrdd drygionus o fyw.

Byddai yn myned gyda'i dad yn aml i Heol-y-felin. Gwrandawodd lawer ar y Parchedigion Howel Powel ac R. Davies, ond nid oedd dim yn tycio er ei ddwyn i'r goleu am ei gyflwr. Ymholai yn aml â'i dad wedi dyfod adref o'r cymundeb, i ba ddyben oedd cymeryd yr elfenau; a meddyliwn fod yr eglurhad a gafodd droiau gan ei dad ar natur y Swper Santaidd a dyoddefiadau y Gwaredwr, wedi bod yn gam pwysig er ei enill at Waredwr. Yr oedd llawer o ddynion cyfrifol yn perthyn i hen eglwys Heol-y-felin yn yr adeg hon, megis P. Rees, Ysw., tad Treharne Rees, Ysw., &c. Heol-y-felin oedd Jerusalem y rhan isaf o sir Fynwy, yn yr adeg hon. Drwg genym weled golwg mor İlwydaidd ar yr achos yno yn awr. Pe byddai rhai o'r hen deidiau yn cael rhoi tro yno ar foreu Sabboth, synent weled y gynulleidfa mor fechan. Yr oedd golwg ardderchog ar gynulleidfa yr hen gapel hwn yn amser y Parchedigion T. Sanders, H. Powel, &c.; yr oedd eu gweled yn ymdynu yno o bob cyfeiriad yn ddigon i greu parch yn meddyliau y trigolion oddiamgylch at grefydd yr addfwyn Iesu.

Yr oedd crefyddwyr yr oes hono yn ystyried fod boreu'r Sabboth mor santaidd a'i brydnawn. Meddyliwn nad yw yr un farn yn ffynu yn awr; o'r hyn leiaf, ni weithir y grediniaeth allan, os yw yno o gwbl, o herwydd dangosir mwy o barch i gwrdd y nos na chwrdd y boreu; ond yn yr hen amser gynt byddai cyfarfod y boreu yn enwog iawn, ac ni byddai yr un pregethwr yn cael ei demtio i barotoi gwell pregeth erbyn yr hwyr na'r boreu, yn nyddiau boreuol I. M. Harry.

Pan fyddai Isaac yn myned i Heol-y-felin, eisteddai yn gyffredin yn agos i gefn y capel, ac wrth ei ochr eisteddai dyn o'r enw John Williams; byddai John Williams yno yn wastad, ac ni fyddai nemawr oedfa yn myned heibio heb fod John yn wylo y dagrau yn hidl, ond arosai Isaac yn galed a dideimlad. Bu yr eglwys yn dysgwyl am weled John yn dyfod i ymofyn am grefydd, ond nid oedd yno neb yn dysgwyl am Isaac mwy na rhywun arall, ond ei dad; yr oedd ei dad yn pryderus ddysgwyl, o herwydd yr oedd wedi anfon aml i weddi at orsedd nef am i'w fab gael teimlo i fywyd, a chafodd y fraint o weled ei weddiau yn cael eu hateb cyn ei briddo yn y cudd-fedd caeth. Nid â gweddiau y saint yn ofer, ond bendith fawr i rieni yw gweled eu gweddiau ar ran eu plant yn cael eu hateb cyn eu marw.

Pan oedd Isaac yn agos i bump-ar-hugain oed, daeth y Parch. D. Williams o Ferthyr, (M.C.) heibio ar ei dro, a chafodd yntau y fraint, yn mysg ereill, o fyned i'w wrando, ac yn yr oedfa hon, glynodd y saeth yn ei galon-llefarodd ysbryd Duw wrth ei enaid-hyd yma yr âi, ac nid yn mhellach. Bu yn glaf iawn ar ol hyn am rai wythnosau, ond ychydig oedd ar y Morfa y pryd yma yn deall dim am glefyd o'r fath. Yr oedd y pryd yma newydd briodi â Miss Mary Morgan, o Goed Cernyw; ond er ei fod yn hoff o wraig ei ieuenctyd, a hithau yn hoff o hono yntau, nid oedd hyny yn ddigon i esmwythâu doluriau ei fron. Yr oedd yn byw y pryd yma yn agos i eglwys Llansantffraid, ac yr oedd ganddo yn agos i bedair milltir o ffordd cyn gallu cyrhaedd cyfeillach grefyddol, yn yr hen fan ag yr arferai ei dad fynychu; ond ar ryw ganol dydd, dacw ef yn cychwyn, am y tro cyntaf erioed i'r gyfeillach, yr hon a gynelid am ddau o'r gloch yn y prydnawn. Nid oedd neb dynion yn gwybod y terfysg oedd dan ei fron yn yr amser hwn. Bu amser maith yn myned o'r Morfa i Gasnewydd y tro hwn, o herwydd byddai yn aml yn sefyll, ac yn troi yn ol, ond o'r diwedd cyrhaeddodd gapel Heol-y-felin; ond er ei ofid, yr oedd y drws wedi ei gau, ac nid oedd digon o nerth yn ei fraich yntau ar y pryd i godi y clicied, ac felly trodd yn ei ol; ond cyn gadael y lle, pwysodd ei ben ar y mur gerllaw, fel un ar ddiffygio, ac yn yr adeg daeth Mary Powel yn mlaen, yr hon oedd gyda chrefydd er ys blynyddau; adnabu hi yn union glefyd y dyeithr, ac ymafaelodd yn ei law, gan ei arwain yn dirion at y brodyr tufewn, y rhai pan welsant, a lawenychasant â llawenydd mawr dros ben, am weled gras Duw yn gweithio ar feddwl un yn ychwaneg.

Yr oedd John Williams yn gwrando y Parch. D. Williams, a gwelwyd ef yn wylo dagrau fel arfer yno, ond ni roddodd ef ufudd-dod i'r alwad, ond caledodd yn ei bechod, nes o'r diwedd iddo fyned yn ddigon caled i wrando y doniau goreu heb wylo dim, ac fel hyn y bu farw. Cyfaddefodd cyn ei farw ei fod yn teimlo ei hun mor galed a'r gareg. Llawer un o hen wrandawyr efengyl sydd yn ymrithio o flaen ein llygaid wrth ysgrifenu y llinellau hyn, rhai y gwelwyd eu llygaid yn ffynonau o ddagrau, ond yn awr y maent wedi sychu. Y maent yn nes i fyd arall, ond yn llawer mwy difater.

Os achubir y rhai yma, fel yr ydym yn gobeithio y gwneir, dygir hyny oddiamgylch drwy edifeirwch cryf a dagrau, o herwydd mae eu pechod yn fawr iawn. Hoffem yn fawr weled gras Duw yn cael ei ogoneddu yn achubiaeth y rhai hyn eto cyn eu marw; ond bydd yn rhy bell yn fuan, gan hyny, O! Arglwydd, tyred yn awr. Derbyniwyd Isaac M. Harry yn gyflawn aelod pan yn llawn pump-ar-hugain oed, gan y Parch. Rees Davies, gweinidog Heol-y-felin ar y pryd. Wedi ei dderbyn yn aelod, nid eisteddodd i lawr. Gwelsom rai yn ffyddlon iawn am wythnosau eu prawf, fel y dywedir; ond wedi eu derbyn yn gyflawn aelodau, meddylient fod pob peth yn iawn, y frwydr trosodd, y fuddygoliaeth wedi ei henill, y goron yn eu haros, y gwaith wedi ei orphen, a'r nef wedi ei sicrhau ; ond nid un felly oedd Mr. Harries; na, aeth i'r winllan fel gweithiwr, ac nid fel segurwr, a theimlodd yr eglwys yn fuan ei bod wedi cael caffaeliad gan Dduw ynddo. Yn mhen rhyw ychydig flynyddau, dechreuodd rhai o'r bobl graffus yn yr eglwys weled cymhwysderau ynddo i fod yn rhywbeth mwy nag aelod cyffredin. Bendith fawr i eglwys yw cael dynion o'i mewn â llygad digon craff i weled pwy ddylai esgyn grisiau yr areithfa, a phwy ddylai drigo yn dawel yn ei eisteddle, gan wneyd ei ran fel aelod cyffredin. Cymhellwyd Mr. Harries at y gwaith pwysig o bregethu Crist i'w gyd-greaduriaid. Ië, cymhellwyd ef, nid rhuthro a wnaeth. Byddai yn burion peth i ni gofio yn y dyddiau hyn, mai peth eglwysig yw codi pregethwyr, ac nid peth personol, ac fod yr eglwys a gwyd bregethwr, yn gyfrifol i'r eglwysi o'r bron am ei gymhwysder fel pregethwr. Meddyliwn ei bod yn llawn bryd i'r eglwysi fagu digon o wroldeb a gonestrwydd i ddyweyd wrth lawer un a deimla awydd pregethu, eu bod yn seiri, gofiaid, glöwyr, neu fasnachwyr ardderchog; ac yna gadawer iddynt hwy ddychymygu y rhan arall o'r ymadrodd, ac os bydd dim ynddynt, gwelant yr awgrym yn fuan.

Bu Mr. Harries yn petruso cryn lawer cyn cydsynio â chais yr eglwys, ond o'r diwedd cynygiodd hi, ac yr oedd y cynyg cyntaf yn lled awgrymu i'r hen bobl a'u gwelodd gyntaf, nad oeddynt wedi camsynied yn eu dewisiad. Y tro cyntaf y pregethodd yn gyhoeddus oedd ar brydnawn Sabboth, yn nhŷ Sion Howel, ar y Morfa, yr hwn oedd yn glaf iawn ar y pryd. Nid oedd ond dau yn proffesu crefydd gyda'r Annibynwyr ar y Morfa y pryd yma, sef Mr. Harries a Mrs. James, gwraig Mr. Edward James. Buont felly am rai blynyddau. Byddai brodyr o'r Casnewydd, a rhai a berthynent i enwadau ereill yn y gymydogaeth, yn eu cynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddio, a byddent yn cael pregethwyr yn o aml i dŷ Mr. James. Bu y Parchedigion canlynol yno droion:-G. Hughes, Groeswen; Jones, Llangan; D. Thomas, Penmain; E. Jones, Pontypwl, &c. Meddyliwyd yn mhen ychydig am gael capel yn y lle, ac amlygwyd y bwriad i Mr. James, yr hwn, yn ol ei garedigrwydd arferol, a roddodd dir iddynt at gapel a monwent, am bum swllt yn y flwyddyn, yr hwn sydd agos cystal a freehold', gan fod hyd y lease yn 999 o flynyddau. Mae y cyfraniadau canlynol tuag at y capel newydd yn deilwng o gael eu coffhau:—

Parch. Rees Davies ........ £10/0/0
Mr. Edward James ........ £10/0/0
" Edmund James ........ £10/0/0
" David Francis ........ £5/0/0
Mrs. Blanch Baker ........ £5/0/0
Mr. David Williams... ........ £5/0/0
" D. Turberville ........ £2/2/0
" J. Rees, Llanvabon ........ £2/2/0
" I. Morgan Harry ........ £6/0/0
" T. Harries, Mardy ........ £2/2/0
Casgliad o'r Rhydri ........ £1/4/0
" " New Inn ........ £10/0/0

Yr oll a gasglwyd erbyn yr agoriad oedd £88 17s. 10c. Costiodd y capel £230, ac felly talwyd yn agos yr haner erbyn dydd yr agoriad, yr hyn oedd yn weithio go dda, wrth ystyried sefyllfa yr achos yn y lle ar y pryd.

Agorwyd y capel newydd ar y drydedd o Dachwedd, 1826. Y gweinidogion a weinyddasant ar yr achlysur oeddynt y Parchedigion D. Jones, Llanharran; W. James, Caerdydd; H. Jones, Llaneurwg, (M.C.); E. Jones, Casbach, (B.); D. Davies, New Inn; ac E. Jones, Pontypwl. Corphorwyd yr eglwys yn y lle ar Sabboth canlynol. Nid oeddynt eto yn ddim ond dau. Wedi i'r Arglwydd gael lle i aros, daeth yno at y brawd a'r chwaer, ac nid hir y buont heb gynyddu i unarddeg, yr hyn oedd yn rhif mawr yn eu golwg. Teimlwyd yn awr fod eisieu bugail i ofalu am y praidd bychan, ac nid oedd neb yn fwy cymhwys yn eu golwg na Mr. Harries; o ganlyniad, cafodd alwad ganddynt, a chydsyniodd yntau â'u cais; penodwyd dydd y sefydliad, a daeth y brodyr yn nghyd. Cymerodd hyn le ar y 18fed o Fehefin, 1829. Bu y rhai canlynol yn cymeryd rhan yn ngwaith y dydd :-y Parchedigion G. Hughes, Groeswen; D. Jones, Taihirion; T. Harries, Mynyddislwyn; E. Jones, Tabernacl, Casnewydd; Jenkin Lewis, Časnewydd; a D. Davies, New Inn; E. Rowlands, Pontypwl; W. Watkins, Pontypwl; a Rees Davies, Heol-y-felin. Wele ef yn awr yn gyflawn yn ei swydd fel gweinidog i Iesu Grist, ac nid yw heb deimlo fod rhwymau newydd arno yn ei sefyllfa newydd. Yr oedd erbyn hyn wedi symud i fyw i'r Heol-las—ffarm fechan yn agos i'r capel. Bu yno am flynyddoedd lawer; ac yno y magodd y plant, y rhai oeddent bedwar mewn rhif, sef pedair merch—Anne, Hannah, Mary, a Ruth, tair o'r rhai'n sydd yn fyw yn awr, ac un, sef Mary, wedi huno yn yr angeu, gan adael rhai bychain i alaru eu colled ar ei hol.

Yn y flwyddyn 1841, daeth amgylchiad chwerw i'w gyfarfod, sef marwolaeth ei anwyl briod. Wedi iddynt fod mor hir gyda'u gilydd, nid hawdd oedd tòri y cwlwm; ond er agosed oedd y cysylltiad, yn rhydd y daeth, pan oedd Mrs. Harries yn 56 oed, ac felly cafodd yr hen frawd deithio dyffryn galar ei hunan, am dros ugain mlynedd; ond yn yr yspaid hirfaith hyn, gweddus crybwyll fod ei blant wedi dangos pob caredigrwydd tuag ato, a diau na chollant eu gwobr am eu llafurus gariad a'u gofal am eu tad.

Er ys rhyw ddeng mlynedd yn ol, symudodd o'r Heollas i ymyl y capel, lle y gorphenodd ei yrfa yn nhŷ ei ferch Hannah, ac y mae hi a'i phriod yn haeddu parch am eu caredigrwydd a'u hynawsedd tuag ato yn ei hen ddyddiau. Bydded fod bendith yr Arglwydd yn dilyn ei blant, a phlant eu plant, o genedlaeth i genedlaeth, hyd byth.

YN AWR, NI DAFLWN OLWG FER AR MR. HARRIES YN EI HYNODION.— Os bydd rhyw un yn ei ystyried yn bwysig iddo gael gwybod pa fath ddyn oedd o ran ei ymddangosiad naturiol a chorphorol, gallwn ddyweyd nad oedd yn un o'r rhai glanaf o feibion Adda, ac ni byddai un amser yn cymeryd fawr o drafferth i harddu tipyn ar ei gyfansoddiad. Pwy bynag a welodd Mr. Harries, gwelodd ef fel yr oedd yn union; yr oedd ef yn wan iawn ei ffydd yn yr athrawiaeth o newid y ffasiwn; yr oedd ef yn gwbl yr un farn a'r Llyfr Gweddi Cyffredin gyda golwg ar hyn—"Fel yr oedd yn y dechreu, y mae'r awr hon, ac y bydd yn oes oesoedd. Amen." Ychydig iawn oedd newidiadau a ffasiynau'r byd yn effeithio arno ef. Buasai wedi myned yn newyn yn y West of England er ys llawer dydd, oni buasai fod rhyw rai yn gwisgo mwy o'u broad cloth nag efe; ac ni fuasai eisieu cael rhyfel gartrefol America, i beri i felinau cotton Manchester aros, pe buasai pawb yn gwisgo cyn lleied o'u lliain main ag efe. Nid oedd efe 'chwaith, fel llawer, yn credu fod rhyw rinwedd neillduol mewn ymlynu wrth hen arferiadau. Meddylia rhai fod cadw gwallt i dyfu lawr dros y talcen, fel bargod tŷ nhadcu—gofalu fod yr hugan wedi ei thòri yn unol â'r hen ffasiwn, a'r holl ddillad ereill yn cyfateb, yn haner, ac yn wir, os nid yn ddigon o grefydd iddynt; a phwy bynag a anturia ddilyn y dull cyffredin, mae yn ddyn colledig, beth bynag yw ei rinweddau; ond nid oedd Mr. Harries o'r sect hon. Yr oedd efe yn ddigon boddlon i ddyn wisgo coat o sidan, os gallasai ei chael; ond fel arall yr oedd efe yn dewis byw, heb osod unrhyw bwys neillduol ar y dull allanol.

Byddai yn werth i ni hefyd edrych ar Mr. Harries fel cyfaill. Nid un o'r pethau hawddaf yw cael cyfaill cywir yn y byd drwg presenol, ond pwy bynag a gafodd Mr. Harries yn gyfaill, cafodd un cywir. Nid oedd un amser yn newid ei gyfeillion heb gael rhyw achos digonol i hyny. Mae rhai a'u cyfeillion yr un fath a'r plant a'u teganau—mor gynted ag y cânt un newydd, taflant yr hen o'r neilldu; ond gweithredai Mr. Harries gyda hyn yr un fath a'r cybydd a'i arian; pan fyddai yn gwneud eyfaill newydd, ychwanegu at ei stock y byddai, ac nid newid y naill yn lle y llall. Mae llawer wrth newid yn myned heb un yn mhell cyn marw. Ni chlywais ef erioed yn dyweyd mwy yn nghefn rhywun nag a ddywedasai yn ei wyneb, ac ni welais nemawr o neb erioed yn casâu ymddygiad felly yn fwy nag efe. Os na fuasai ganddo ryw dda i ddyweyd am frawd, yr oedd wedi dysgu tewi. Yr oedd yn medru codi pob da i sylw, a chladdu pob drwg o'r golwg. Gwyddai yn dda ei fod yn meddu ar golliadau ei hunan, ac nid oes neb o'r rhai felly yn rhy barod i estyn bys at ei gymydog. Mae cyfeillgarwch ac ymlyniad yn elfen bwysig iawn yn nghymeriad gweinidog, ac yn ychwanegu llawer at ei ddylanwad a'i werth yn y man lle mae yn aros. Mae yn anmhosibl bod yn weinidog da, heb fod yn gyfaill trwyadl.

Heblaw hyn, yr oedd Mr. Harries yn Gristion da. Yfodd yn helaeth o ysbryd Crist. Llefarai ei ymddygiadau mai Cristion iawn ydoedd. Nid wyf yn meddwl fod neb a'i adwaenai wedi cael lle i gredu erioed nad oedd gras Duw wedi gafael yn ei enaid. Y siomedigiaeth fwyaf erioed i ganoedd yn sir Fynwy fyddai gweled "Harries o'r Morfa" ar yr aswy law, o herwydd credai pawb am dano ei fod yn blentyn i Dduw, ac yn etifedd teyrnas nef, a diau ei fod felly mewn gwirionedd. Deuai ei gymeriad i'r amlwg yn ei weithgarwch gyda chrefydd. Gweithiwr caled ydoedd yn mhob ystyr. Mae llawer o hen dai y Morfa a'r cylchoedd yn dystion heddyw, mai nid dyn segur oedd efe gyda ei orchwyl gwaith, sef toi; ond er gweithio yn galed ar hyd yr wythnos, ni rwystrai hyny ef i wneud ei ran gyda chrefydd. Byddai yn aml yn myned tuag ochr Risca a manau ereill i doi ; ond ni fyddai un amser braidd yn colli cyfarfod gartref; cerddodd ganwaith wyth a deg milltir o ffordd i'r cyfarfod gweddi neu y gyfeillach gartref, wedi gweithio yn galed drwy y dydd. Pregethodd lawer yn y cylchoedd oddiamgylch; ond nid yn aml y byddai yn aros dros nos yn un man.

Rhaid fod ganddo gyfansoddiad tuhwnt i'r cyffredin, ac onide, nis gallasai wneud y pethau hyn. Gwnaeth ef bethau ag ydynt yn ein golwg ni yn awr y nesaf peth i wyrthiau. Yr ydym ni yn awr yn masweiddio ein cyfansoddiadau, nes y mae yr awel leiaf yn effeithio arnom; tra yr oedd ein tadau yn haiarneiddio eu hunain trwy galedwaith a phenderfyniad, hyd nes oeddynt yn alluog i ddal pob tywydd braidd, a dichon y byddai yn dda i ni gymeryd gwersi oddiwrthynt yn hyn o beth. Gwir ei fod ef wedi cael cyfansoddiad tuhwnt i'r cyffredin, a chafodd fwynhau y fendith o iechyd yn dra rhyfeddol ar hyd ei oes, ac o herwydd hyn, nid pawb allasai gystadlu ag ef mewn cerdded a phregethu; ond eto, mae yn ddiddadl y gallai y gweiniaid gryfhau llawer arnynt eu hunain drwy beidio anwesi ac ofni cymaint ; gwyddom am rai ag ydynt yn or—ofalus am eu hiechyd, a hwynt—hwy yw y mwyaf afiach wedi yr holl drafferth. Weithiau iawn y byddai Mr. Harries yn gwisgo dwy hugan, (coat), ac ni thrafferthai ei hun drwy wisgo dau gadach am ei wddf, hyd yn ddiweddar iawn; ond er hyny, ychydig iawn o weithiau yn ei oes y bu yn achwyn o herwydd anwyd, ac os na chai gystal hwyl ag arfer wrth bregethu, ni fyddai un amser yn gwneud ystumiau a phesychu, gan ddyweyd fod yr "anwyd just ei ladd." Bu yn dyfod i'r Rhydri bob mis am tuag ugain mlynedd. Deuai oddicartref boreu'r Sabboth, gan groesi y caeau, hyd at Bont Llanfihangel, a thrwy y Draethen, a byddai yn dra sicr o fod yn y Rhydri erbyn deg; pregethai am dri o'r gloch yn y prydnawn yn nhŷ Mrs. Gibbon, yn y Ffaldgerrig gerllaw Rhydri, a chyrhaeddai y Morfa erbyn chwech. Byddai felly yn pregethu dair gwaith ar y Sabboth hwn, a cherdded tua phymtheg milltir o ffordd; ond nid oedd gwneud hyn ond un o'i orchestion cyffredin ef. Byddai weithiau yn myned mor bell a Tabor, ar foreu Sabboth, a chyrhaedd gartref cyn cysgu, wedi pregethu ddwy waith, ac weithiau âi i Fynyddislwyn ac yn ei ol, wedi pregethu dwy, ac weithiau dair gwaith. Byddai hyn dros ugain milltir o gerdded yn yr un diwrnod, a phregethu yn galed drwy y dydd. Nid oedd yn edrych fawr ar ddyfod i Machen yn y boreu, a phregethu dair gwaith, ac yn ei ol y noswaith hono. Gwnai hyn o herwydd ei fod yn ewyllysio gwneud. Pe buasai yn dewis, cawsai le cyfleus i aros dros nos, a digon o garedigrwydd. Pan yn dyfod ar ei deithiau Sabbothol i'r Rhydri, deuai Mr. P. Rees, tad Treharne, Ysw., gydag ef, braidd bob amser. Yr oedd Mr. Rees yn hen aelod parchus yn Heolyfelin, ac yn golofn gadarn dan yr achos yn y İle. Bydded fod Duw y tad yn Dduw i'r plant, a phlant eu plant hyd byth. Ymddengys fod Mr. Rees yn hoff iawn o Mr. Harries, er yr amser y daeth at grefydd, ac wedi iddo ddechreu pregethu, daeth yn hoffach o hono. Bu yn pregethu lawer gwaith yn ei dŷ, a dilynai ef, fel y nodwyd ar ei deithiau, i lawer man, a gweddus yw crybwyll fod ceffylau Mr. Rees at wasanaeth Mr. Harries pryd bynag y buasai yn dewis.

Crybwyllasom am Mrs. Gibbon, Ffaldgerrig. Yr oedd y ddynes dda hon yn aelod gwreiddiol o Heolyfelin, ac felly yn teimlo yn gynhes at Mr. Harries, gan ei fod yntau hefyd yn aelod gwreiddiol o'r un lle. Yr oedd hon yn un o'r tri ag fu yn cadw y ganwyll i oleuo pobl ardaloedd y Rhydri am flynyddoedd Mrs. Gibbon, Mrs. M. Edmunds, a Mr. D. W. Dafydd, dyma y tri chedyrn a fuont nerthol yn y dyddiau gynt. Mae yn wir nad oedd Mrs. Gibbon yn gallu myned gyda'r ddau ereill i'r cyfarfodydd; eto, yr oedd ei henw yn berarogl yn y gymydogaeth. Profwyd wedi hyny fod gweddiau y tri hyn yn dderbyniol gan Dduw. Daeth bechgyn gwrol, megis Thomas Harry Jenkins, David Morgan, George Lewis, Edward Sion, &c., &c., 1 ymoryn am grefydd yn yr ardal, ac mae yr agwedd lewyrchus sydd ar yr achos yn y lle dan ofal Parch. J. Jones, yn eglur dangos mai nid ofer fu llafurus gariad crefyddwyr cyntaf y Rhydri. Gallem hefyd grybwyll gair am Mr. Harries, fel un o synwyr cyffredin cryf iawn. Dyma beth gwerthfawr iawn i weinidog sefydlog,—yr wyf yn dyweyd gweinidog sefydlog, am fod yn hawddach i ddyn deithio o fan i fan ag ychydig o synwyr cyffredin, nag aros yn yr un fan. Gwelai Mr. Harries yn mhell iawn, a thrwy hyn y bu yn alluog i gadw llawer terfysg maes o'r eglwys. Yr oedd yn gall fel y sarph, ac yn ddiniwed fel y golomen. Nid yn aml y gwelais ddyn â llygad mor graff ganddo i adnabod dynion ac amgylchiadau. Mae rhagweled y drwg yn fwy o gamp na'i attal wedi y tòro allan. Clywais ddyweyd am weinidog yn y Gogledd unwaith, mai y ffordd oreu i wneud ag ef fuasai rhoi gwely, bwrdd, a llyfrgell gydag ef yn y pulpud, a digon o fwyd o Sabboth i Sabboth, a gofalu na fuasai yn cael siarad â neb, ond â'r gynulleidfa, ar y Sabboth; ond nid oedd angen gwneud felly â Mr. Harries. Meddai ef ar ddigon o ddoethineb i ymddwyn yn briodol a chymeradwy yn mhob man. Pa le bynag y buasai yn cael drws agored unwaith, gallasai droi ei wyneb yno yr ail waith, a buasai ei roesaw yn sicr o fod gymaint, os nad mwy, yr ail waith na'r tro cyntaf. Fel enghraifft o'i sylw craff, cawn nodi y canlynol:—Pan nad oedd neb ond Mrs. James ac yntau yn grefyddol gyda'r Annibynwyr yn y Morfa, dywedodd Mrs. James wrtho un diwrnod, "Mr. Harris, rhaid i ni gael cyfeillach yma yn awr, yr ydym yn cael cyrddau gweddi a phregethu yma er ys blynyddau; ond ni chawsom yr un gyfeillach yma eto." "Na," meddai yntau," nis gallwn gael cyfeillach yn awr, o herwydd nid ydym ond dau, a rhaid i ni edrych at ein cymeriadau ar ddechreu yr achos yn y Morfa. Mae yn debyg ein bod ni yn ddigon gonest ein dau; ond beth ddywed y bobl am danom wedi i ni fod gyda'n gilydd yn cynal cyfeillach am awr neu awr a haner; pan gawn un atom, i fod yn witness, ni gawn gyfeillach.'

Gwelir wrth hyn, ei fod â'i "lygad yn ei ben," ac yn deall yn dda duedd lygredig pobl y byd, yn enwedig pan siaradant am grefydd a chrefyddwyr. Yr oedd ei ddoethineb yn uchel iawn yn ngolwg yr eglwys dan ei ofal; ei farn ef yn gyffredin oedd i fod yn derfyn ar bob dadl. Nid ydym wrth ddyweyd hyn, am daflu yr awgrym lleiaf ei fod yn tra awdurdodi ar etifeddiaeth Duw; na, deallai reolau y Testament Newydd yn well na hyny, ond yr oedd gan y bobl gymaint o olwg ar ei dduwioldeb a'i gallineb, fel y trosglwyddent yr hawl yn ddieithriad braidd i'w ddwylaw ef. Eisteddai ef yn y gadair isaf yn wastad, ond gorfodai y bobl ef i eistedd yn uwch, ac felly yr oedd iddo glod gerbron yr holl eglwys.

Gweithiodd yn galed am ychydig iawn o dâl. Yr oedd hyn o angenrheidrwydd yn y rhan gyntaf o'i weinidogaeth, o herwydd nad oedd yr eglwys ond bechan; ond ni fu ei fwrdd ef yn fras iawn wedi i'r eglwys gynyddu. Yr ydym wedi bod yn chwilio yn fanwl am yr achos o hyn, a dymunwn fod yn onest iawn wrth grybwyll am y ffaith. Mae yn eglur iawn mai golwg isel oedd gan Mr Harries arno ei hun, ac o ganlyniad nid oedd yn ystyried fod ei waith yn gofyn am dâl priodol; ac o herwydd hyn, ni byddai yn cymhell y bobl i fod yn haelionus tuag at y weinidogaeth gartrefol. Mae yn wir ei bod drueni mawr fod yn rhaid i weinidog son gair am arian; ond eto, lle na byddo'r egwyddor wirfoddol wedi ei deall, rhaid i'r gweinidog wneud, os na wna neb arall. Yn ol dim ag wyf wedi ddeall, byddai Mr. Harries yn gwrthwynebu pob symudiad er ychwanegu ei gyflog. Nis gwyddom pa beth oedd ei amcan yn hyn; dichon ei fod yn rhagweled y buasai symudiad o'r fath yn debyg o greu oerfelgarwch yn meddyliau rhyw rai, ac fod yn well ganddo adael pob peth fel yr oedd na hyny. Mae yn ddiau fod yn rhaid cael penderfyniad meddwl go gryf mewn gweinidog sefydlog i ddysgu y ddyledswydd bwysig hon i'r gynulleidfa, yn enwedig lle mae pregethu rhad yn boblogaidd iawn gan lawer. Nis gallwn gydymdeimlo yn iawn â Mr. Harries yn y peth hwn, gan na chawsom y drafferth ein hunain erioed. Mae peth arall yn amlwg iawn yn y cysylltiad hwn, sef fod cyfeillion y Morfa yn dra haelionus at amrywiol achosion a ddygwyddent ddyfod dan eu sylw; megis, y Colegau a chasglu at wahanol gapelau. Casglasant yn 1862 at y Genadaeth £3 6s., yr hyn oedd yn dda iawn mewn lle fel y Morfa. Casglasant at Fund yr hen weinidogion £4 4s., yr hyn oedd yn rhagorol.

Wrth edrych yn fanwl dros lyfr eglwys y Morfa, mae yn eglur fod yno un dosparth wedi bod yn ffyddlon a chyson iawn yn eu cyfraniadau, ac ni fyddai yn iawn beio eglwys y Morfa gyda'u gilydd, heb grybwyll y ffaith hon; ac felly yr hyn sydd yn angenrheidiol yn eglwys y Morfa, fel degau o eglwysi ereill, yw cydweithrediad. Mae yn llawn bryd i'r eglwysi yn mroydd Mynwy a Morganwg ddeall a chredu fod llafur meddyliol yn haeddu ei gyflog fel rhyw lafur arall, a dylent gofio gyda llaw mai cyflog gyfiawn yw tâl gweinidog, ac nid elusen. Mae'r eglwysi yn credu yn dra chyffredin yn awr mai melldith ac nid bendith yw gweinidogaeth rad.

Y mae yn llawn bryd i ni bellach grybwyll am dano fel pregethwr. Gellir dyweyd am dano, beth bynag, ei fod yn gwbl wreiddiol yn ei ddull ac yn ei bethau; ond, o ran hyny, gan ei fod ef wedi boddloni byw yr un fath ag y gwnaeth ei Greawdwr ef, nis gallasai fod fel arall, oblegid nid yw Efe yn gwneud dau yr un fath.

Yr oedd dull corph Mr. Harries yn hynod, ac felly am ei feddwl a'i ystum. Yr oedd ei ddull yn y pulpud yn effeithiol iawn, pan fuasai mewn hwyl. Nid oedd erioed yn ei fywyd wedi darllen unrhyw fath o draethawd ar araethyddiaeth; ac eto yr oedd ei ystumiau yn hollol naturiol ac effeithiol, a'r rheswm am hyny yn ddiau oedd, ei fod yn meddu ar brif elfen araethyddiaeth, sef teimlad: nid yw yr holl reolau ereill yn werth dim, os bydd hon ar goll. Nid yn fuan yr anghofiaf ei freichiau hirion yn estynedig dros yr areithfa, ar flaenau y rhai'n yr oedd dwylaw gyda'r mwyaf a welais erioed; a phan y byddai ef yn ei hwyliau goreu, rhedai hyawdledd a theimlad megis drwy flaenau ei fysedd. Nis gellir ei alw yn bregethwr mawr, yn ol yr ystyr a roddir i'r gair mawr yn y cysylltiad hwn yn gyffredin; ond er hyny, yr oedd yn bregethwr mawr mewn gwirionedd. Nid oedd yn fawr o herwydd ei fod yn gallu dyweyd pethau na ddeallai y bobl, ac na ddeallai ei hun—nid oedd un amser yn gwneud hyn. Nid oedd yn fawr o herwydd ei fod yn alluog i ddyweyd brawddegau hirion, nes y gellid gwneud rhaff llong o honyntnis gallai wneud hyn; ond os yw pregethu Crist, a hwnw wedi ei groeshoelio, i dorf o bobl, nes peri iddynt deimlo, yn gwneud pregethwr, yr oedd Mr. Harries felly; os yw bod yn ddefnyddiol ar hyd oes hir i droi pechaduriaid cyndyn at Waredwr, yn gwneud pregethwr mawr, gwnaeth ef hyny; ac os yw enill cymeradwyaeth gyffredinol yn y manau yr adwaenir dyn oreu, yn gwneud pregethwr mawr, yr oedd ef yn wir fawr. Buasai yn dda genym allu cael gafael mewn rhai o'i bregethau, fel y meddyliodd ac y dywedodd ef hwynt; ond nid oes dim o honynt ar gael; o herwydd ni ysgrifenodd ef linell o'i bregethau erioed. Nid oedd angen neillduol am hyny pan oedd yn ei nerth, o herwydd yr oedd ei gof rhyfeddol yn cario'r cwbl. Cofiai unwaith wyth ugain o bregethau; yr oeddent at ei law fel saethau mewn cawell, a gallasai afael yn yr un a fynai. Cofiai y pedair Efengyl bob gair unwaith, ac âi drostynt yn ei wely'r nos, pan fuasai pawb ereill yn cysgu yn dawel. Treuliodd ddegau o nosweithiau fel hyn heb gysgu dim; ond buasai yn dda iddo ef erbyn ei hen ddyddiau, yn gystal ag i ereill, pe buasai wedi ysgrifenu ei bregethau.

Yr oedd yn gyfarwydd iawn yn y Beibl, a medrai gymhwyso amgylchiadau ac adnodau er grymusu ei bwnc, yn hynod fedrus. Yr oedd mor gyfarwydd yn ei Feibl, fel yr oedd yn gallu darllen Cymraeg pur mewn Beibl Saesneg, yr hwn a ddygwyddai weithiau fod ar y pulpud; ac nid yn unig darllenai ryw sut, ond cadwai yr attalnodau a'r pwyslais yn rhagorol dda; ac yr oedd ei gydnabyddiaeth â'r Beibl yn gymhorth mawr iddo ar hyd ei oes.

Pregethodd lawer yn y blynyddoedd diweddaf ar y testun hwnw, "Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr—lanhâ ei lawr dyrnu, ac a gasgl ei wenith i'w ysgubor, eithr yr ûs a lysg efe â thân anniffoddadwy."

I. Yr eglwys dan y gymhariaeth o lawr-dyrnu.

II. Y gwaith mae Crist yn wneud ar ei eglwys—ei "llwyr-lanhau."

III. Yr hyn y cyffelybir y saint a'r rhagrithwyr iddynt "gwenith ac ûs."

IV. Yr hyn a wneir â'r ddau yn y diwedd,—"Casglu y gwenith i'r ysgubor, a "llosgi yr ûs." Sylwai fod gan Grist "wyntyll yn ei law, ac fod gan y "wyntyll " hono "bedair aden—aden y ddysgyblaeth—aden rhagluniaeth—aden erlidiau, ac aden y farn." "Yr wyf i, meddai, "wedi bod ar y llawr dyrnu am flynyddoedd lawer bellach, ac yr wyf wedi dal y driniaeth hyd yn hyn; ond mae y nithio mawr heb fod yn mhell, gobeithio na cha i ddim myned gyda'r gwynt y pryd hyny—ni cha y gwenith gwan, os yn wenith, ddim myned dros y garthen—gogoniant; a mwy na hyny, mae Duw yn gallu gwneud mwy nag un ffarmwr yn y wlad; mae Ef yn gwneud yr ûs yn wenith, ac yn wenith a ddaliant nithio y boreu mawr; mae y gwenith yn werthfawr iawn, mae yn cyrhaedd pris uchel yn y farchnad; mae y saint yn werthfawr—gwerth gwaed ydynt; talwyd yn ddrud am danynt gan Iesu wrth farw ar y groes.' Byddai yn hoff yn y blynyddoedd diweddaf o bregethu ar y testun hwn hefyd, "Tyn fi, a ni a redwn ar dy ol." "Gelwir y llyfr hwn" meddai (Caniad Solomon,) "yn gân cariad, ac mae yn right ei alw felly, o herwydd mae yma ddau yn caru, a'r ddau ryfedda 'rioed, sef Crist a'r eglwys. Crist garodd gynta', a fe sydd wedi caru fwya'. Peth rhyfedd iddo garu'r eglwys hefyd, oblegid 'doedd dim yn lân ynddi; na, yr oedd yn ddû ei lliw; ond fe'i carodd, a dylai hithau yn awr garu yn ol. Mae yma sŵn dyn ar lawr yn y testun"tyn fi—dyma'r fi ar lawr yn gofyn am help; tyn fi, 'rwy'n ffaelu d'od fy hunan; tyn fi, y fi sy' ar ffordd ; tyn fi, ac yna fe ddaw'r lleill—ni a redwn ar dy ol."

[ocr errors] Er ys tuag ugain mlynedd yn ol, yr oedd yn pregethu mewn cyfarfod chwarterol yn Sion, Rumni. Ei bwne oedd, "Undeb y saint â Christ." Dywedai, "Mae nerth yn yr undeb hwn; i chi'n cofio am y cawr Goliah o Gath yn myned i warthruddo byddinoedd y Duw byw, a Dafydd, llencyn gwridgoch, yn myned i fanc yr afon i hol pump o gerig yr oedd crac yn ei ffydd ef hefyd, buasai un yn ddigon—dododd un o honynt yn ei sling, a tharawodd y cawr nes y soddodd y gareg fach yn ei dalcen, a Dafydd bach yn fuddygoliaethwr." Dywedai yn mhellach, mae yr undeb hwn yn un bywiol, ac mae yr holl aelodau yn derbyn eu bywyd a'u nerth o'r Pen. Mae holl aelodau y corph dynol yn derbyn cyfnerthiad o'r pen; mae co's bren weithiau, ond rhaid cael strap i ddal hono—dioich am y strap hefyd, pan fyddo angen am dani; ond nid oes ei heisieu ar aelodau Crist, oblegid mae bywyd ganddynt."

Soniai yn fynych am y dysgyblion yn ceisio attal y wraig o Ganaan at yr Iesu, ac mewn atebiad iddynt, dywedai hithau, "Gadewch i fi fyn'd." "Paid a blino'r Athro." "Sefwch o'r ffordd, (gan agor ei freichiau mawr,) mi fyna fyn'd;" "a phan ddaeth at y Gwaredwr, gofynai iddi, 'Be wyt ti yn mo'yn (mofyn)?' Mo'yn iechyd i'm merch.' 'Be 'dy'r mater arni?' 'Mae'n ddrwg ei hwyl gan gythra'l.' 'Ni'm danfonwyd i ond at ddefaid cyfrgolledig tŷ Israel.' Be 'dy hyny i fi? mo'yn iechyd i'm merch w i.' 'Nid teilwng rhoddi bara'r plant i'r cwn.' 'Nid dyna mhwne i, mo'yn iechyd i'm merch w i. Os na cha i fara, rho friwsionyn bach i fi, fe fydd hyny'n ddigon i fi.' 'Hwra, (gan gydio yn y Beibl â'i ddwylaw), 'dyma'r dorth bob tamaid i ti, a gad lonydd i fi?'"

Clywais ef lawer gwaith yn myned dros ei hanes cyn iddo gael crefydd, ac yn rhoi y goron ar ben gras am ei attal ar y ffordd tua dystryw. "Clywais Heir, Casbach; ond myn'd own i. Gwrandewais John Elias; ond myn'd own i. Clywais Christmas Evans fawr o Fôn; ond myn'd own i. Yr own yn gwneud sport o Morgan Howell, o'r Casnewydd; ond, gogoniant, daeth Efe, a chas finau lawr."

Pregethai yn Nghymanfa Tresimwn, yn haf 1861, am saith o'r gloch yn y boreu. Ei destyn yno oedd, "Gwlad well y maent hwy yn ei chwenych,"—un o'i hoff destynau. Yr oedd yr effaith a ganlynai y bregeth hon yn dra nodedig, ac yr oedd ei leferydd y tro hwn yn profi yn amlwg ei fod yn addfedu yn gyflym i'r nefoedd. "Gwlad well y maent hwy yn ei haeddu," meddai. Nage, gwlad well y maent hwy yn ei chwenych. Mae yma lawer wedi ei chwenych er ys blynyddau, ac yr wyf inau wedi ei chwenych, ac 'rwy' i yn meddwl mai yno yr â i, onide, frodyr (gan droi at y gweinidogion ar y stage). Gwlad well,—mae yn well yn ei thrigolion; mae gen i lawer o ffryndiau da yn y wlad yma, ond mae gwell yno; yno mae llawer o'm hen gyfoedion i. Yno mae Hughes, Groeswen; Rowlands, Pontypwl, &c., a chyn y cwrddwn ni eto, yno bydda inau yno y cwrddwn ni nesaf; gobeithio y bydd yno lawer iawn o bobl y Gymanfa yma."

Yr oedd yn gwbl wreiddiol, ac ar ei ben ei hun fel pregethwr, ac anhawdd yw rhoi unrhyw ddrychfeddwl i'r rhai na chlywsant ef erioed, pa fath ŵr ydoedd ; ond yn awr, rhaid i ni adael yr hen frawd; ond cyn sychu yr ysgrifell, gadawer i ni roi tro i'w ystafell wely. Yr oedd er ys rhai misoedd yn methu pregethu, a bu am wythnosau yn methu dyfod o'i wely. Cawsom ein siomi yn hyn. Credem bob amser am dano, mai ar unwaith y buasai yn cael myned; a'n rheswm dros feddwl hyny oedd, ei fod wedi cael iechyd mor dda am oes mor hir; ond nid felly y bu. Buom yn ei weled ychydig o wythnosau cyn iddo huno, ac ni fuom mewn lle mwy cysegredig erioed. Yr oedd y dyn oddiallan â golwg wael arno, ond yr oedd rhyw arogl esmwyth ar yr ystafell, ac arwyddion eglur fod yno blentyn i Dduw ac etifedd teyrnas nef. Dywedai wrthym fod pob peth yn sound rhyngddo â Duw, ac adroddai yr hen bennill hwnw gyda nerth,—

Cyfamod rhad, cyfamod cadarn Duw,
Ni syfl o'i le, nid ïe nage yw," &c.

Dywedai wrth Mr. Davies, Risca, ar y pryd, ei fod ar ymadael â'r wlad yma; ac mewn atebiad, dywedai Mr. Davies fod gwlad well yn ei aros. "Ie, llawer gwell," meddai yntau, "a pheidiwch chwi myned i gountio tua Risca oco, oblegid nis gellir dweyd faint gwell." Yr oedd yn ceisio canu llawer iawn yn ei gystudd diweddaf. Nid oedd ganddo lais peraidd i ganu, mae'n wir; ond eto, canai â'r ysbryd, ac erbyn heddyw, mae yn gallu canu yn dda. Pan ddaeth awr ei ymddattodiad, yr oedd yn llawer cryfach nag yr oedd wedi bod, er dechreu ei gystudd, a gofynai yn hyf a gwrol, yn ngwyneb angau, "Angau, pa le mae dy golyn ?" Nid oedd ganddo yr un colyn i Mr. Harries, ac felly nid oedd ond cenad oddiwrth ei Dad i'w ymofyn tua thref. Cafodd fyned yn ei lawn hwyliau, ar yr ail ddydd Awst, 1862; ac ar y Mercher canlynol, ymgasglodd torf luosog i isod ei ran farwol yn y ddaear, gerllaw drws y capel ag y bu yn pregethu ynddo mor hir. Nid ydym yn cofio i ni weled angladd mwy galarus erioed. Nid yn unig yr oedd y perthynasau yn wylo, ond yr oedd yr holl eglwys â chalon drom, ac nid yn unig ei eglwys a'i enwad ei hun, ond enwadau ereill hefyd; ac nid oedd hyn yn rhyfedd 'chwaith, o herwydd yr oedd ef yn byw mewn heddwch â phawb, ac yn barod iawn i roi help llaw i bawb wrth angen, ac nid oedd neb yn fwy cymeradwy nag efe, gan wahanol enwadau y gymydogaeth. Gallesid meddwl weithiau ei fod ar fyned yn Drochwr, a phrydiau ereill ei fod ar droi yn Drefnydd, o herwydd byddai yn pregethu yn aml yn nghapeli y ddau enwad a nodwyd, ac yn barchus iawn ganddynt. Nid rhyfedd, o ganlyniad, eu bod yn galaru ar ei ol.

Ar ddydd ei angladd, pregethodd y Parchedigion H. Daniel, Cefncrib, a D. Davies, New Inn. Dechreuwyd gan y Parch. L. Lawrence, Mynydd Seion, Casnewydd. Anerchwyd y dorf ar lan y bedd gan y Parch. J. Jones, Rhydri, a gweddiodd yr Ysgrifenydd. Heddwch fyddo i'w lwch. Bendith a llwyddiant a ddilyno ei blant, a'i ŵyrion, a'i orŵyrion. Arosed tangnefedd a chariad yn yr eglwys; a phan ddelo boreu'r codi, bydded ein bod oll ar y ddeheulaw. Pregethodd Mr. Davies, New Inn, yn ol ei orchymyn, y trydydd Sabboth ar ol ei gladdu, ar ei destun ef ei hun, "Mi a ymdrechais ymdrech deg," &c.

LLYTHYRAU.

Castellnedd, Tach. 19eg, 1863.

ANWYL SYR,-Gydag hyfrydwch mawr yr ydwyf yn cydsynio â'ch cais, trwy ysgrifenu yr ychydig linellau canlynol, o berthynas i'r diweddar Barch. Mr. Harries o'r Morfa, yr hyn a gyflwynaf i'ch gwasanaeth, gyda golwg ar y Cofiant a fwriedir genych.

Yr eiddoch yn ffyddlon,

Parch. T. L. Jones. J. MATHEWS.

"Coffadwriaeth y Cyfiawn sydd fendigedig;" felly y mae coffadwriaeth y Parch. Isaac Morgan Harry o'r Morfa, yn meddwl a chalon yr ysgrifenydd. Cofio yr ydwyf er yn ieuanc iawn weled y gwr duwiol uchod yn dyfod i bregethu ar foreu Sabboth i Bethel, Mynyddislwyn, gan fyned y prydnawn i Toniddon, i dŷ Mr. P. Williams, i bregethu eilwaith ar ei ffordd wrth ddychwelyd adref; gan ddyfod a dychwelyd yr un dydd, a theithio drwy hyny tua deg ar hugain o filltiroedd.

Byddai Mr. Harries yn cael ei ystyried y pryd hwnw yn ddyn hynod mewn duwioldeb, ac hefyd mewn ffyddlondeb yn mhob peth gydag achos Duw. Bu cyfnithder i'r ysgrif enydd yn aros yn nghymydogaeth y Morfa am ryw dymhor, pan yn ferch ieuanc (sef Rachel Mathews, gwraig wedi hyny i'r brawd R. Morris, Ffynonygwaed,) yr hon sydd wedi marw, a phawo ar a'i hadwaenai yn lled sicr am ei duwioldeb hithau. Clywais hi yn dywedyd ei bod yn arfer myned i'r cyfeillachau a'r cyfarfodydd gweddi at Mr. Harries, a thystiai hi na fu erioed yn well wrth ei bodd na phan yn ei gyfeillach ef a'i bobl. Teimlai pawb ag oedd yn adnabod y gwr da ryw barch mawr ato, ar gyfrif ei dduwioldeb, pa un bynag ai gartref ai oddicartref. Cafodd amryw wŷr a gwragedd parchus fagwriaeth grefyddol fendithiol iawn dan weinidogaeth Mr. Harries, rhai o'r cyfryw a adwaenai yr ysgrifenydd yn dda, fel rhai yn dwyn mawr sêl dros eu gweinidog parchus. Cof genyf am Mrs. James y cyntaf, a Mrs. James yr ail, yr hon sydd yn byw yn awr yn y Casnewydd; Mrs. Williams hefyd, priod y Parch. D. Williams, gynt o Aberafon, yr hon oedd yn ddynes rinweddol a duwiol iawn. Mae hithau wedi marw er ys blynyddoedd. Cafodd hi ymgeledd mawr yn y Morfa pan yn ieuanc iawn. Mrs. Hughes, Dowlais, oedd un arall a hoffai ei gweinidog Mr. Harries yn fawr iawn; ac mae yn awr yn cofio am lawer cyfarfod gwerthfawr a gafwyd yn y Morfa, pan yn ddynes ieuanc, yn byw gydag offeiriad yn y gymydogaeth, yr hwn oedd yn ewythr iddi. Diau mai tragwyddoldeb yn unig a esbonia y daioni a gafwyd yn y Morfa drwy weddiau taerion, pregethau gwresog, anerchiadau siriol, a chyfeillachau nefol y diweddar Mr. Harries.

Yn mhen blynyddoedd wedi dyfod i adnabyddiaeth bersonol ag ef, cafodd yr ysgrifenydd ei symud gan ragluniaeth i dref Casnewydd. Cymerodd hyny le yn y flwyddyn 1841. Daethum drwy hyn i fwy o gyfeillach neillduol ag ef. Byddai gan bobl Mynydd Seion barch mawr i Harries o'r Morfa, a chawsant lawer cyfarfod hwylus dan ei weddiau a'i bregethau dylanwadol—nefoedd ar y ddaear fyddai y cyfarfodydd gydag ef ar rai amserau. Mae cydmares bywyd yr ysgrifenydd yn cofio cyfarfod dan bregeth Mr. Harries yn Mynyddislwyn ag a gafodd effaith ryfeddol ar ei meddwl— pan ag y darluniai ef y modd yr oedd y bugail da yn dyfod â'r ddafad gyfrgolledig tuag adref; codai y Beibl ar ei ysgwydd, fel y gwnai y bugail â'r ddafad, gan ei‘dwyn ar ei ysgwyddau ei hun yn llawen.' Yr oedd Mr. Harries mewn rhyw hwyl nefolaidd anghymharol ar y pryd, fel y byddai ar rai troion, fel y gŵyr pawb a'i hadwaenai. Bûm yn newid pulpidau â'r hen frawd o'r Morfa amryw weithiau; ac nid oedd neb yn fwy parod i roi help llaw, pan ag y byddai cyfyngder arnaf, nag efe.

Claddwyd plentyn saith mlwydd oed i'r ysgrifenydd yn y lle crybwylledig, ac nid oedd neb yn fwy agos at deimladau y fam a'r tad i'w wahodd i'w chladdu nag ef, ac fe ddaeth, ac a bregethodd yn Mynydd Seion, ar yr ymadrodd, “Och, fy meistr, canys benthyg oedd." Efe hefyd a fedyddiodd Mary—Ann. Yr oedd ef a'i bobl anwyl yn y Morfa yn gyfeillion calon genyf bob amser, ac nid yw y cariad a'r cyfeillgarwch ag oedd genyf gynt wedi ei ddileu o'm calon hyd yn hyn. Yr oedd Mr. Harries wedi addaw lawer gwaith i dalu ymweliad â Chastellnedd; ond daeth angau i roddi terfyn ar ei fywyd gwerthfawr, cyn iddo gael cyfleusdra i gyflawni ei addewid. Buasai yn dda gan laweroedd drwy siroedd Cymru ei weled a'i glywed, y rhai ni chawsant hyn o fraint erioed; ond yn awr y mae efe wedi ei symud i'r 'wlad well,' am yr hon y pregethai yn Nghymanfa Tresimwn yn y flwyddyn ddiweddaf (1861). Yr oedd arwyddion amlwg arno yn y Gymanfa hon fod y diwedd yn agosâu; ac ni chefais yr un olwg eilwaith ar yr hen bererin duwiol; ond henffych i'r dydd ag yr wyf yn hyderu y cawn gyfarfod mewn gwell teimlad nag y buom erioed ar y ddaear hon.



NEW INN, Rhagfyr 4, 1862.

ANWYL FRAWD,—Llawen genyf ddeall eich bod yn bwriadu parotoi bywgraffiad i'r hybarch Isaac Morgan Harry, o'r Morfa, Llansantffraid, Mynwy. Y mae efe yn haeddu gwneuthur o honoch hyn iddo, ac nis gallaf feddwl am neb cymhwysach i'r gorchwyl; oblegid eich bod yn byw yn agos iddo, a chael rhai blynyddoedd o adnabyddiaeth o hono. Y mae fy nghalon mewn galarwisg, wrth feddwl, siarad, ac ysgrifenu am dano; a'i gofio fel dyn, brawd, priod, tad, a gwir gyfaill; a phe gwybyddwn holl ieithoedd plant Adda i gyd, mi a'u defnyddiwn i roddi clod i'r gras a'i galwodd, a'i neillduodd, a'i cymhwysodd, a'i arddelodd, a'i llwyddodd, ïe, ac a'i gogoneddodd. Rhyw hen bererin rhyfeddach na'r. cyffredin ydoedd—un da gan bawb, ewyllysiwr da i bawb, ac i bob peth da yn mhob man. Yr wyf yn ofni nas gallaf wneud dim a fydd yn gynorthwy i chwi dynu portrait cywir a chyflawn o hono, er fod yn wir dda genyf gael cynyg i osod careg yn y gofadail a gyfodir iddo. Nid yw ond fel doe genyf gofio y tro cyntaf y gwelais ef yn yr hen gapel yn Heolyfelin, Casnewydd, lle yr oedd yn aelod. Ar ol y cyfarfod, aeth yn ymddyddan rhyngom ein dau, wedi i'r bobl wasgaru oll; ac ni fuom yno yn agos i ddwy awr yn ymddyddan yn wresog â'n gilydd; yn benaf, yn nghylch ein galwad i bregethu yr efengyl. Yr oeddem ein dau yr un brofiad, ac yn cael ein maeddu gan yr un ofnau, rhag ein bod wedi ymaflyd mewn gwaith na pherthynai i ni. Daeth gyda mi y noson hono i̇'m llety, gan ein bod yn ofni fod y drws gartref wedi ei gau. Y mae mwy na deugain o flynyddoedd wedi myned heibio er y noswaith ryfedd hono. Oddiar hyny hyd y diwedd, buom yn gyfeillion mynwesol.

Mi ddymunwn ei goffa—

1. Fel Cristion. Yr oedd yn rhagori ar y cyffredin. Meddyliai pawb a'i adwaenai yn uchel am ei dduwioldeb—nid yn unig crefyddwyr o bob enw, ond hefyd bobl ddigrefydd. Yr oedd pawb yn ungred ac unfarn am dano drwy'r holl wlad. Bu yn byw am flynyddoedd mewn tyddyn bychan, lle yr oedd yn cadw tair neu bedair o wartheg. Perthynai y lle i eglwys Llansantffraid. Gofynai yr offeiriad yn aml i Mr. Harries paham na ddeuai i'r eglwys. "Wel, Syr," meddai yntau, mae ychydig o bobl yn y tŷ cwrdd acw, ac y maent yn dysgwyl i mi fod gyda hwynt, ac yr wyf inau yn hoffi bod gyda hwynt." Gofyn y byddai yr offeiriad drachefn a thrachefn. "Wel," ebai Mr. Harries, o'r diwedd, "mi newidiaf i â chwi ryw Sabboth, os leiciwch." Ffromodd yr offeiriad yn aruthrol, ac a ddywedodd, "Isaac, mi ro i notice i chwi;" a notice a gafodd i ymadael â'r fferm. Aeth y son allan drwy y gymydogaeth yn fuan, a dechreuodd y bobl erlid yr offeiriad, gan fygwth gadael yr eglwys i'r offeiriad, os anfonai Mr. Harries ymaith; ac mewn canlyniad cafodd y notice ei dynu yn ol, a chafodd yntau aros yn ei fferm. Fel Cristion, yr oedd yn neillduol o hawddgar a didramgwydd. Yr oedd o feddwl rhydd a dirodres-yn hawdd ei adnabod, yn ddilen a diragrith. Hynawsedd ac addfwynder Crist oedd yn ei nodweddu, a gellir yn briodol ddyweyd am dano, mewn symlrwydd a phurdeb duwiol-nid mewn dichell na doethineb cnawdol, yr ymddygodd efe yn y byd trwy ras Duw. Yr oedd yn esiampl i'r ffyddloniaid mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn ffydd, ac mewn cariad.

2. Mi ddymunwn ei goffa fel gweddiwr. Yr oedd yn rhagori yn hyn ar y rhan fwyaf o'i frodyr yn y weinidogaeth. Yr oedd yn nerthol ac yn arswyd i gnawd rai prydiau. Y mae Cymanfaoedd Mynwy a Morganwg yn dystion o hyn. Yr wyf yn cofio ei fod yn gweddio yn y New Inn ar gyfarfod gweinidogion, ac yr oedd yn arddeledig, ac mor effeithiol, nes yr oedd yr holl dorf yn foddfa o ddagrau. Ar ganol ei weddi, yr oedd yn diolch gyda rhyw awdurdod rhyfedd, am grefydd yn talu ei ffordd bob tymhor o'r flwyddyn. "Ydyw," meddai, "mae'n talu ei ffordd drwy holl fis dû cyn Nadolig;" ac fe gynhyrfodd ereill cyn diwedd ei weddi i ddiolch mor uchel ag yntau am grefydd yn talu ei ffordd. Mi glywais am dano mewn cyfarfod gweddi, ger Maesllech, rhwng Caerlleon a Brynbiga; yr oedd wedi dyfod i'r gymydogaeth hòno i doi y teisi gwenith; ac un noson, yr oedd cwrdd gweddi yn ymyl, ac aeth yntau iddo; galwyd arno i weddio ar ddiwedd y cwrdd, plygodd wrth ystol deir-troed; ac ar weddi anghofiodd ei hun, a rowndiodd ar ei liniau yr holl room ddwy waith, a'r bobl yn cilio rhagddo, iddo gael ei ffordd. Mawr y son fu am y cyfarfod gweddi hwnw drwy'r holl ardal, ac mae rhai yn cofio am dano hyd heddyw.

3. Dymunwn ei goffa hefyd fel gwrandawr. Un bywiog iawn ydoedd-nid oedd efe, fel mae llawer, yn twymno wrth dân neb ond ei dân ei hunan, ac nid oes fawr gwres yn hwnw chwaith. Os buasai dim goleu yn llewyrchu, yr oedd efe yn sicr o gynhyrfu. Yr wyf yn cofio yn Nghymanfa Caerdydd, pan oedd yr enwog Rowlands, Cwmllynfell, yn pregethu ar anchwiliadwy olud Crist, tòrodd allan mewn bloedd o ddiolch, "Oni buasai ei fod yn anchwiliadwy, buasem wedi ei dreulio allan ys llawer dydd; ond, diolch, anchwiliadwy olud," nes yr oedd yr holl dorf yr un ysbryd ag yntau. Llawer gwaith y clywais ef yn molianu ei Arglwydd yn groyw. Nid oedd ddim cantwr, ni chafodd ddawn canu; ond byddai bob amser yn adrodd y gair fyddai yn cael ei ganu gan y gynulleidfa; ond os nad oedd ganddo ddawn canu, yr oedd ganddo ddawn diolch a molianu mor effeithiol a neb a glywais erioed.

4. Fel pregethwr. Yr oedd weithiau yn isel iawn, nes y y byddid yn ofni nas gallasai ddyfod drwyddi; brydiau ereill yr oedd yn uchel iawn, nes yr oedd yn ddigon i arswydo cnawd i eistedd dan ei weinidogaeth. Yr oedd yn hynod o hoff o'r testun hwnw, "Caned preswylwyr y graig," &c. 1. Y graig. 2. Preswylwyr y graig. 3. Eu dyledswydd,— "Câned preswylwyr y graig;" ac yr oedd yn debyg iawn o gael yr awel wrth son am y graig a'i phreswylwyr, a pheru i'w wrandawyr ganu mewn hwyl nefolaidd, am glywed son am y graig. Ei athrawiaeth a ddefnynai fel gwlaw, a'i ymadrodd a ddiferai fel gwlith. Crist wedi ei groeshoelio oedd testun mawr ei holl bregethau, a'i ddymuniad gwirioneddol oedd am fodd i draethu holl gynghor Duw, heb attal dim o'r pethau buddiol. Canolbwynt ei weinidogaeth oedd pregethu gras Duw i ddynion, yr hwn sydd yn eu dysgu i ymadael ag annuwioldeb a chwantau bydol. Yr oedd yn hoff iawn o osod o flaen ei wrandawyr Grist fel Gwaredwr, cyfoeth ei ras, ei swyddau cyfryngol, y cyfamod tragwyddol, yr Ysbryd Glân a'i weithrediadau, yn nghyd â breintiau'r duwiolion, addewidion y gair, a buddygoliaethau y credinwyr. Rhyfeddais lawer gwaith at ei fedrusrwydd, ac ystyried na chafodd awr o ysgol erioed, hynod mor fedrus ac effeithiol y pregethai yr efengyl ar amserau. Nid oes achos ofni dyweyd mai gwr Duw oedd Mr. Harries, wedi ei alw ganddo at ei waith, a'i wisgo â nerth mawr o'r uchelder. Yr oedd yn debyg i'r hen Simeon, yn ŵr cyfiawn a duwiol, gŵr anwyl gan Dduw a dynion. Puredd a gaed ynddo ger ei fron Ef. 5. Dymunwn ei goffo eto yn y cyfeillachau neillduol. Yr oedd yn ŵr mawr, a llawn iawn ynddynt bob amser. Bu genym gyfarfod misol yn y rhan isaf o'r sir hon, pan ag yr oedd Llaneurwg, Morfa, Casnewydd, Machen, Risca, Cwmbran, Elim, Penywaen, New Inn, a Hanover, yn y Cyfundeb ; yr oedd genym gyfeillach yn y boreu, yr ail ddydd, i'r gweinidogion ac aelodau'r lle y byddai y cyfarfod yn cael ei gynal. Nid oedd neb yn fwy ffyddlon na Mr. Harries i ddyfod i'r cyfarfodydd gwresog hyny; ond yn y gyfeillach, weithiau, byddai Mr. Harries yn fwy llewyrchus na neb o honom. Nis gallaf anghofio y gyfeillach a gawsom yn Mynydd Seion, Casnewydd, ar un boreu pan oedd y cyfarfod misol yno. Nid oedd llawer o'r bobl wedi dyfod yn nghyd, gan hyny, aeth y gweinidogion i ddyweyd eu profiadau wrth eu gilydd, ac yn eu plith, dywedodd Mr. Harries air; cymerodd i fyny eiriau Paul, “Pan ddaeth y gorchymyn yr adfywiodd pechod, a minau a fum farw." "Nis gwn i ddim," meddai, а fuais i farw neu beidio, ond mi wn i mi fod yn glaf iawn, ond mae arnaf ofn yn fynych iawn na fuais i ddim marw; dywedai hyn gyda'r fath ddylanwad a nerth, nes oedd pob un yn y lle yn wylo fel plant, ac yntau ei hun a'i lygaid yn ffynonau o ddagrau. Yr oedd Mr. Ellis, Mynyddislwyn; Mr. Thomas, Tabernacl; a'r anwyl ymadawedig Mr. Griffiths yno yn bresenol, ac yr oedd Mr. Thomas yn diolch ei fod yn mhlith ei frodyr. Un rhyfedd mewn cyfeillach oedd gwrthddrych ein Cofiant, ac O! y golled a gawd ar ei ol.

[ocr errors][ocr errors] 6. Dymunwn ei goffa hefyd yn ei ymdrech gyda'r ysgol Sul. Yr oedd yn gwerthfawrogi hon yn hynod; ac yr oedd yn ei elfen bob amser wrth son am dani. Yr oedd gyda'r cyntaf ynddi yn ei gapel ei hun, bob Sabboth pan gartref; ac ni chymerai lawer am golli un pryd ysgol; anogai yr aelodau i ddyfod i'r ysgol Sul, ac anogai ereill i anfon eu plant iddi, fel y cawsent eu dysgu i ddarllen Gair Duw, a gweddio drostynt. Mawr oedd ei ofal am y genedl ieuano, ar iddynt gael eu dysgu yn nghyfraith yr Arglwydd. Cyfansoddodd benillion rhagorol i'r Ysgol Sabbothol.[1]

7. Dymunwn ei goffa eto yn ei haelioni at achos Duw. Efe oedd yn dal y pen trymaf i'r baich yn ei eglwys gartref. Yr oedd yn rhoi mwy na neb o'i aelodau; er nad oedd yn cael ond ychydig am eu dysgu yn y ffordd i'r nef. Pan y buasai cyfarfod chwarterol neu Gymanfa yn y lle, yr oedd ef gyda'r blaenaf i gynorthwyo. Efe oedd yn cadw y capel yn lân, ac yn ei wyn—galchu. Efe hefyd oedd yn glanhau y fynwent. Yr oedd ei galon gynhes mor anwyl at achos Duw, fel nad oedd dim yn ormod ganddo i'w wneud. Pan ddodwyd gallery yn y capel yn ddiweddar, rhoddodd fwy na neb arall at hyny, sef saith punt o'i logell ei hun. Y nod amlycaf o gariad at achos crefydd, ac o dduwioldeb yn y galon, yw haelioni at achos crefydd. "Yr hael a ddychymyg haelioni, ac ar haelioni y saif efe." Yr unig wendid oedd yn ymddangos yn yr hen frawd oedd, iddo ddysgu ei bobl i fod yn gul at achos crefydd. Gobeithio y gwnânt ddiwygio ar ol ei golli. Cawsant esiampl dda ganddo ef. Mi ddymunwn i achos Duw fod yn llwyddianus iawn yn y Morfa, a gweddiau yr hen frawd ymadawedig fyddo yn cael eu hateb; ac ysbryd crefydd a ddilyno ei blant, a phlant eu plant, o genedlaeth i genedlaeth, yw dymuniad eich annheilwng frawd,

D. DAVIES.



DOWLAIS, Rhag. 12fed, 1862.



BARCH. SYR,—Yn ol eich cais, wele fi yn anfon yr ychydig linellau canlynol, am fy hen gyfaill hoff ac anwyl, y Parch. I. M. Harries o'r Morfa. Bûm dan ei weinidogaeth am amryw flynyddau; treuliasom lawer awr yn nghyd i ymddyddan am yr achos a'i amgylchiadau yn nghapel ‘Rhagluniaeth.' Gwelsom haf a gauaf, oerni a gwres, gyda chrefydd yn y lle, fel nas gallaf byth ei anghofio. Cawsom gymaint o wenau'r Arglwydd yno, ag a gynaliodd ein gobaith yn y dydd tywyll a niwlog.

Un a meddwl isel iawn am dano ei hun oedd I. M. Harries; byddai bob amser yn dueddol i feddwl yn rhy isel am dano ei hun, ac o herwydd hyny, byddai ei ysbryd yn isel a llwfr yn aml. Pan yr oeddwn yn yr ardal, ymdrechais fyned drwy bob tywydd i'r cyfarfodydd er ei galonogi; ac yr oeddwn yn cael tâl ysbrydol i'm henaid dan ei weinidogaeth.

Yr oedd ef yn un nerthol iawn mewn gweddi. O! mor daer a ffyddiog yr oedd efe yn anerch ei Dad nefol; gallesid meddwl eu bod yn gyfeillion mawr. Yr oedd ei grefydd yn amlwg i bawb, bob amser, ac yn mhob amgylchiad; ni chlywais i fod neb erioed wedi amheu ei dduwioldeb. Ychydig oedd ei fanteision fel pregethwr; byddai yn gorfod gweithio yn galed bob dydd er cynal ei hun a'i deulu, er cael llawer o garedigrwydd gan ychydig ffryndiau gartref ac oddicartref; byddai weithiau ganddo filltiroedd i ddyfod oddiwrth ei waith i'r oedfa, ond byddai bob amser yn ymdrechu bod yn mhob cyfarfod wythnosol; a rhyfeddais lawer gwaith ei weled mor fywiog a chynhes yn y cyfarfodydd ar ol ei ludded caled drwy y dydd; hyfrydwch ei galon ef oedd gwaith ei Dduw. Defnyddiodd yr Arglwydd ef i raddau helaeth er enill eneidau at y Gwaredwr, yn ei ardal ei hun a lleoedd ereill. Byddai bob amser yn dderbyniol iawn gan eglwysi ereill yn nghyd a'u gweinidogion; ac nid ga gan neb yn fwy felly na'r enwog Mr. Hughes, Groeswen, yr hwn a'i dewisodd ef i bregethu yn ei angladd, gan nodi y testun hwnw iddo bregethu arno, "Gwir yw y gair." Parhaodd yn ffyddlon ac iraidd hyd y diwedd. Aethum i'w weled ychydig ddyddiau cyn ei farw, pan y dywedais wrtho, “Fod yn ddrwg iawn genyf weled yr hen dŷ yn dyfod lawr;' ac nis gallaf anghofio'r bywiogrwydd a'i meddianodd pan dorodd allan, gan ddywedyd, "Beth waeth am hyny;" yna cododd ei freichiau gwywedig i fyny, a dyrchafodd ei lais, gan ddywedyd yr ail waith, "Beth gwaeth am hyny, gan fod genyf dŷ tragywyddol yn y nefoedd." Yr oedd efe o ran ei leferydd yn llawn o dân y nefoedd yn ymadael â'r ddaear. Gellir dyweyd am dano, "Efe a ymdrechodd ymdrech deg, gorphenodd ei yrfa, cadwodd y ffydd," a'i fod yn awr yn mwynhau coron cyfiawnder.

Yr eiddoch, &c

 MARY HUGHES.





At y Parch. T. L. Jones, Machen.

ANWYL FRAWD,—Da genyf gael ar ddeall eich bod yn bwriadu gwneud bywgraffiad i'r Parch. I. M. Harries o'r Morfa. Dylai enw a choffadwriaeth y dyn teilwng hwn fod yn werthfawr gan ei gydwladwyr yn gyffredinol. Cefais lawer o gynghorion gwerthfawr ganddo. Un tro yn agos i Wenfoe, dywedodd wrthyf, " Mai yr unig beth a'i cododd ef i sylw, oedd byw bywyd duwiol." "Gofalwch," meddai, am eich cymeriad; nid oes dim yn well na chymeriad da.” Yr wyf yn cofio ei fod yn dyweyd y dull goreu o bregethu,—"Peidiwch pwyso gormod," meddai, "ar drefn a rheswm, oblegyd y ffordd sicraf i wanhau unrhyw beth, yw pwyso gormod arno; peidiwch trin eich pregeth yn oeredd, rhag iddi droi stymogau y gwrandawyr; gwnewch eich pregethau eich hun. Pan aeth Sian fy widw yn rhy ddiog i ddarllaw, ac i brynu cwrw Bristol, hi gollodd ei chwstwm. Pregethu gwresog sydd oreu, frawd, yn enwedig yn Mynwy a Morganwg." Yr oedd yn myned ryw Sabboth i'r Rhydri i bregethu, ac un cyfaill gydag ef, sef Mr. John French o'r Awst. Ar y ffordd, cyfarfuant â'r offeiriad duwiol hwnw, Mr. Jones o Barry. "I b'le yr wyt ti yn myned, fachgen ?" meddai Mr. Jones. "I Rhydri.' "Beth wnai di â'r bachgen yna gyda thi, ti dòri ei wddf cyn dôd yn ol ?" "Yr ydych chwi yn cael clerk bob Sabboth, ac mae yn iawn i finau gael un heddyw. Fy nymuniad yw am i'r Arglwydd fy ngwneud yn fwy tebyg iddo; a bydded iddo'ch cynnorthwyo chwithau i wneud y Cofiant yn deilwng o'r gwrthddrych.

J. THOMAS.

Carmel, Ion. 12fed, 1863.




CEFNCRIB, Rhag. 24ain, 1862.

ANWYL FRAWD,—Gan eich bod yn myned i gyhoeddi hanes bywyd y diweddar Barch. Isaac Morgan Harry o'r Morfa, arbeda hyny beth trafferth i mi, o herwydd pe na buasai neb arall yn gwneud hyny, buaswn yn cymeryd at y gorchwyl fy hun. Nid oes neb wedi marw yn ddiweddar yn fwy teilwng o hyny nag efe. Dichon fod llawer wedi meirw yn ddiweddar ag oeddent yn fwy dysgedig—yn fwy doniol i blethi geiriau a brawddegau coethedig, yn bereiddiach eu llais, ac yn harddach eu gwedd; ond, Pwy yn fwy gwreiddiol ei feddylddrychau? Pwy yn hawddgarach ei gyfarchiad? Pwy yn fwy ysgrythyrol ei olygiadau? Pwy yn fwy nefolaidd ei feddwl?—yn 'fwy diargyhoedd ei fywyd ? ïe, mewn gair, pwy yn fwy duwiol yn ei holl ymarweddiad? Nid buan y gallaf anghofio ei weddiau taerion a'i bregethau gafaelgar. Yr wyf yn cofio yn burion pa bryd y gwelais ac y clywais ef gyntaf erioed, ar foreu Sabboth, yn Ebenezer, Pontypwl. Y mae oddiar hyny dair blynedd a deugain. Yr oedd yno ddyn ieuanc o athrofa'r Drefnewydd, yn sir Drefaldwyn, lle yr oedd yr Athrofa ag sydd yn Aberhonddi yn bresenol. Yr oedd y dyn ieuanc yn un glân, ac wedi gwisgo yn bert, yn ol fashiwn y dyddiau hyny,—coat a waistcoat ddû, a napkin gwyn, breeches pen—lin o Kerseymere, a top boots eisteddai dan y pulpud; yn fuan, gwelwn ddyn lled dàl, teneu, a salw iawn, yn dyfod i mewn,—coat a waistcoat lâs, napkin brown am ei wddf, quarter boots o ledr cryf am ei draed, rhai hyny yn llawn o hoelion mawrion, breeches a leggings corduroy, safn go lydan, gwallt dû fel y frân yn gorwedd ar ei dalcen, a llygaid treiddgar iawn yn dyweud fod rhywbeth tu cefn iddynt. Dacw ef yn ei flaen at y pulpud, a'r hen bobl yn ysgwyd dwylaw ag ef yn hearty iawn, a minau yn ceisio dyfalu pwy a pheth allasai y dyn fod; ond, dacw'r dyn ieuanc i'r pulpud, ac wedi darllen, canu, a gweddio, dywedodd ei destun, bid siwr, fel pob pregethwr arall, a phregethodd am awr, nes oedd y gynulleidfa rhai yn cysgu, rhai yn gwrando, a rhai mewn tymherau drwg. Yn y diwedd, gwelwn hen ŵr yn codi ar ei draed, ac yn edrych i fyny tua'r areithfa, a chlywir ef yn dywedyd yn lled sarug wrth y gwr ieuanc, "Rhowch hi fyny bellach, i Mr. Harries gael lle; ac yn sicr rhoddodd y gwr ieuanc hi fyny, wedi iddo orphen chwareu ei dôn, fel y bachgen â'i delyn. Dacw Mr. Harries i fyny, a minau yn methu a deall beth oedd y fath un a hwnw yn myned i wneud; ond cefais wybod yn fuan. Dacw ef yn ymaflyd yn ei waith fel un ag oedd yn feistr arno, ac er fy mod yn ieuanc, cefais fy argyhoeddi yn fuan, nad gwisg bert a chadach gwyn oedd yn gwneud i fyny bregethwr. Pregethodd nes oedd y gynulleidfa oll mewn hwyl i "Gadw gwyl i'r Arglwydd." Dyna ddechreu ein hadnabyddiaeth a'n cyfeillach ni a'n gilydd. Llawer cyfeillach felus a gawsom wedi hyny, rhy faith i'w henwi mewn nodyn fel hwn; ond y ddiweddaf oedd ar ei wely angau, pan yn sefyll megys ar drothwy'r nef, yn dysgwyl am genad i ddyfod ac agor y drws iddo fyned i mewn i "lawenydd ei Arglwydd." Pan aethum at ei wely, ymaflais yn ei law, a gofynais pa fodd yr oedd yn teimlo. "Ni wn i yn y byd pwy sydd yna," ebai yntau. "Ceisiwch gofio," ebwn inau. Na wn i," meddai yntau. Yna dywedais fy enw wrtho. Gwaeddodd allan, "O, machgen anwyl i," ac a wasgodd fy llaw â'i ddwylaw yn galed. Bu ymddyddan lled faith rhyngom y noson hono a thranoeth. Gofynais iddo pa fodd yr oedd yn teimlo gyda golwg ar y mater mawr? "Pob peth yn dda,” meddai yntau; "mae y cyfamod yn sound rhyngwyf a'r Arglwydd ;" ac yna adroddodd eiriau Paul, "Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orphenais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydd," &c. "Mi a allaf adrodd yr adnod hono gystal a Paul," meddai, “Ac mi wn i bwy y credais," &c. Ni chaniatâ gofod i mi fyned dros yr holl hanes—ond un peth eto. Gofynais iddo, pa un well ganddo fyned adre yn awr, neu aros yma yn hŵy; “O, myned yn awr, oedd yr ateb; ond, os yw fy Nhad nefol am i mi aros rhagor, yr wyf yn foddlawn pregethu ugain mlynedd eto, am un enaid;" ond nid oedd ei Dad am iddo aros dim yn hŵy heb y goron. Yr oedd ei waith wedi ei orphen. Gweithiodd ddiwrnod maith, yn galed a ffyddlon, nos a dydd, y gauaf fel yr haf. Gorphenodd ei yrfa mewn llawenydd, a'r weinidogaeth a roddwyd iddo gan Dduw. Aeth adref yn fuan, wedi i mi ei weled, mewn hwyl i "gadw gwyl i'r Arglwydd." Y mae yno yn awr yn mwynhau tragwyddol Sabboth gyda'r Oen, heb friw, na phoen, na gofid.

Yr eiddoch yn ffyddlon,

 HERBERT DANIEL.





Tongwynlas, Chwefror 25ain, 1863.

ANWYL A PHARCHEDIG FRAWD,—Da genyf gael ar ddeall eich bod yn ymgymeryd â'r gorchwyl o osod mewn cof a chadw, trwy'r argraffwasg, Gofiant o ddyn Duw, sef y Parch. Isaac Morgan Harry, Morfa, swydd Fynwy.

"Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig," medd y Beibl. Nid cyfiawnder â'r cyfiawn hwn fuasai gadael ei enw i syrthio i ddinodedd. Cefais adnabyddiaeth helaeth o hono yn yr ysbaid o bum mlynedd ar hugain. Cefais y fantais hefyd o glywed tystiolaethau y rhai a gawsant y fantais o'i adnabod lawer o flynyddau yn flaenorol i hyny. Ni welais ynddo, ac ni chlywais am dano, ddim yn annheilwng o'r dyn, y Cristion, a'r gweinidog da i Iesu Grist. Gellir dyweyd mai un wedi ei wneud ar gyfer ei oes oedd ef—pan oedd nifer y crefyddwyr yn llawer llai, y capeli yn fwy anaml, a mintai y rhai a bregethent y gair yn llai lluosog, cododd Duw Harries i'r mur; yr oedd yn ddyn cryf, gewynog o gyfansoddiad, fel yr oedd yn gallu gweithio a theithio i bregethu yn fwy na'r rhan amlaf. (Braint yw cael corph da i enaid da breswylio ynddo.) Bu am flynyddau yn cyrchu i Rydri, ac yn gofalu am danynt, pan na allai eu parchedig weinidog, G. Hughes, Groeswen, gan gystudd, ddyfod atynt. Gwnaeth hyny yn ffyddlon. Deuai i fyny o'r Morfa, foreu y Sabboth, naw milldir o ffordd, erbyn deg; pregethai ddwywaith a cherddai adref erbyn chwech, a hyny heb deimlo unrhyw anghyfleusdra; ac mewn modd cyffelyb y gwnaeth â llawer o eglwysi ag oeddynt yn weiniaid. Cof genyf yn adeg yr adfywiad diweddaf, pan oeddym yn derbyn 26 yr un Sabboth, iddo ddyfod i fyny, a hynod y wledd a gafodd wrth weled y gwael yn magu nerth. Gwaeddai allan yn ei hwyl oreu, "Pe na chawswn ddim o'r blaen yma, dyma fwy na digon heddyw o ad-daliad am y llafur i gyd.” Y dydd diweddaf a ddengys pa faint o ymgeledd a roddodd i eglwysi bychain a gweiniaid. Yr oedd yn bregethwr a berchid yn fawr gan y gwahanol enwadau crefyddol, a chan amrywiol raddau cymdeithas. Yr oedd fel meddyliwr yn hollol wreiddiol, a'r un modd y byddai yn traethu. Nid oedd ef fel neb arall, ond yn hollol fel ef ei hun. Enillodd safle uchel yn marn a theimlad ei frodyr yn Mynwy a Morganwg, a'r un modd yn yr amrywiol eglwysi. Nid oedd unrhyw gyfarfod neillduol yn cael edrych arno yn llawn, heb ei fod yn bresenol—ïe, teimlid bod yno ryw ddiffyg yn ei absenoldeb; ond, meddyliwyf mai man cuddiad ei gryfder oedd ei agosrwydd at Dduw, a'i gymdeithas â Duw. Dywedai yn ardderchog dros Dduw wrth ddynion, ond llawer grymusach wrth Dduw dros ddynion. Mynych y gwelwyd cynulleidfaoedd yn foddfa o ddagrau, pan y byddai o flaen y drugareddfa yn dadleu eu hachos. Collodd y byd ddadleuwr mawr gerbron Duw; collodd yr Eglwys Gristion cywir, pregethwr da, a gweinidog rhagorol i Iesu Grist.

Pan ar lan y afon, telais ymweliad ag ef, (mynych y gofynai ar hyd y dydd, a ddaeth y brawd o'r Rhydri). Cefais ef yn ei wely yn wael iawn yr olwg arno. Gofynais pa fodd y teimlai. Atebodd yn ei ddull arferol ei hun, "Dyma lle yr wyf—nis gwn i ba beth, na thros ba cyhyd; ond dyna, dyna, fe ŵyr Ef, a'r hyn a wel Ef yn oreu, a'm boddlona inau." Cafodd ddiwrnod hir—gweithiodd yn galed—cyd—ddarfu ei oes a'i wasanaethgarwch—aeth i dangnefedd—gorphwysa yn ei ystafell, hyd foreu y dihuno cyffredinol—heddwch i'w lwch.

Eglwys y Morfa, meddyliwch lawer am eich blaenor, yr hwn a draethodd i chwi air Duw, ffydd yr hwn dilynwch, gan ystyried diwedd ei ymarweddiad. Wrth ei golli, collasoch gyfaill siriol, trwyadl, a didwyll. Collasoch Gristion a ddygai nodweddau Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll. Collasoch bregethwr gwreiddiol, eglur, a phwrpasol, —ïe, un lawer gwaith a bortreiadodd Grist Iesu fel wedi ei groeshoelio yn eich plith. Ië, collasoch weinidog llafurus, heddychol—un ag oedd yn esiampl o dduwioldeb. Syrthied deuparth ei ysbryd arnom ninau, fel brodyr sydd yn aros hyd yn hyn.

JOHN JONES, Rhydri.





Abertawy, Chwef. 23ain, 1863.

ANWYL FRAWD,—Mae yn dda genyf eich bod yn cyhoeddi hanes yr hen dad o'r Morfa. Nis gallaf feddwl yn awr am ddim neillduol i'w ysgrifenu am dano. Os gwelwch yr hyn a ganlyn yn werth, rhoddwch ef yn eich hanes.

Yr eiddoch yn serchog,

 THOMAS REES.

Fel dyn, yr oedd yn un o'r rhai mwyaf diddrwg a anadlodd erioed; o ran galluoedd meddyliol, talp o ddiamond heb ei gaboli ydoedd ; o ran ei dduwioldeb, yr oedd yn seraph mewn corph dynol; fel pregethwr, yr oedd bob amser yn dderbyniol; ond rai prydiau, llwyr amddifadai ei wrandawyr o'u hunan—feddiant ; ac fel gweddiwr cyhoeddus, nid wyf yn cofio i mi erioed glywed neb yn gyffelyb iddo, i gyfodi torf o ddynion i'r nefoedd, o ran teimlad, ac i dynu cafodydd o'r nefoedd i lawr ar ddynion. BARCH. SYR,—Llawenydd nid bychan yw genyf, eich bod wedi ymaflyd yn y gorchwyl o gyfodi cof—golofn ar bapyr ac inc i'r diweddar Barch. I. M. Harries. Byddai yn dda genyf, pe yn bosibl, i gael y golofn yn aur, fel y byddai ei enw i bara yn weledig tra haul yn goleuo. Bum yn aelod yn y Morfa am dair blynedd ar hugain, er fy mod wedi symud i'r Casnewydd er ys saith mlynedd cyn ei farwolaeth. Nis gallaswn feddwl ymadael ag eglwys y Morfa tra yr oedd I. M. Harries yn fyw, ac felly yr oeddwn yn myned yno yn awr ac eilwaith, hyd ei farwolaeth ; ac yr oeddwn yn cael fy nhalu yn dda am fy ngwaith. Wedi i mi golli fy hen gyfaill anwyl a hoff, ymadawais â'r Morfa, ac ymunais ag eglwys Mynydd Seion, yn y dref hon; ond mai cofio am y Morfa, ac am hyawdledd, taerineb, a'r geiriau melusion a ddyferai dros ei wefus, yn peri i mi wylo lawer tro wrth gofio am dano. Dyn oedd I. M. Harries ag oedd yn ddyn dau fyd—dyn y byd hwn a dyn byd arall. Cefais gyfle teg i weled hyny; bu am dair blynedd yn trafod cryn dipyn droswyf o amgylchiadau y byd hwn, ac yr oedd ei ddiwydrwydd a'i onestrwydd yn ei drafodaeth, yn ddigon ar unwaith i mi ffurfio barn am dano, mai dyn dau fyd oedd efe. Yr oedd dipyn o amser cyn ei farwolaeth wedi rhoddi rhyw gymaint o arian i mi i'w cadw, a dywedodd wrthyf ei fod am i mi eu cadw―mai arian oeddynt at ei gladdu; felly, rhoddais yr arian yn y Bank, ac yno yr oeddynt hyd ei farwolaeth, ond fod ychydig o honynt wedi eu cael allan pan oedd ef yn glaf. Yr oeddwn am grybwyll gair fel yna, am fy mod wedi cael ar ddeall fod eglwys y Morfa wedi cael ei beio am na thalodd am gladdu ei gweinidog; ond y gwirionedd yw, nid oedd y bai hwn ar yr eglwys, oblegid yr oedd wedi gwneud ewyllys, ac fe gafodd pobpeth ei wneuthur yn ol ei ewyllys ei hun. A'r arian oedd yn ngweddill wedi ei gladdu, maent wedi eu rhoddi i'r perthynasau, yn ol ei ewyllys. Yn awr, gobeithiwyf y caf weled Cofiant yr hen frawd anwyl cyn hir, yr hyn fydd yn dda gan filoedd yn Mynwy i gael ei bwrcasu. Dymunaf lwyddiant o'm calon i chwi, Syr.

MARY JAMES.

PENILLION A GYFANSODDODD MR. HARRIES
I'R
YSGOL SABBOTHOL.

[Er nad yw yr oll o Farddoniaeth Mr. Harries yn dyfod i fyny â safon y
Beirdd, eto, bydd yn dda gan ganoedd ddarllen ei waith ar yr Ysgol Sul, a'i Hymnau.]

Yr Ysgol Sabbothol rinweddol,
Cewch glywed ei helynt a'i hoed,
Mil, saith cant, ac wyth deg a phedair,
Y flwyddyn y cafodd hi fod;
Ganwyd hi yn sir Gaerloyw,
Meithrinwyd hi yno am dro
Dan aden boneddwr haelionus,
Ei enw yn barchus y bo.

Ei grefydd oedd lawn o Grist'nogaeth,
Ei amcan oedd gwelliant y byd,
Mae'n llwyddo yn hynod hyd yma,
Mae'r delwau yn cwympo o hyd;
Arosodd yr ysgol yn Lloegr,
Moesolodd, duwiolodd y wlad,
Hi fwriodd ei changau i Gymru,
Hi ddysgodd Gymraeg gwell na'i thad.

Lletyodd am dro yn y Bala,
Dan ofal offeiriad y llé,
Sef awdwr Geiriadur 'Sgrythyrol,
Mae hwnw yn awr yn y ne';

Arosodd yn ardal y Bala
Nes magu grymusder a nerth,
Mae'n awr wedi lledu dros Gymru,
Pwy dafod all draethu ei gwerth?

Mae'i meibion a'i merched yn filoedd—
Ië, miloedd ar filoedd yn awr;
Pe'u gwelid hwy oll yn yr unlle,
B'le gwelwyd cyn'lleidfa mor fawr;
Mae'n dangos i ddyn ei drueni,
Ei bechod a'i gulni o hyd;
Mae'n dangos Mab Mair yn wirfoddol
Yn marw dros bechod y byd.

Mae'n dangos y codwm yn Eden,
Mae'n dangos marwolaeth y gro's,
Fel haulwen daeth allan o'i 'stafell,
Nes ymlid tywyllwch y nos;
Mae'r Ysgol Sabbothol yn famaeth
Dysgeidiaeth i dlodion y wlad,
'Does yma ddim arian yn pasio,
Mae'r llafur a'r llyfrau yn rhad.

Mae'i llwyddiant o hyd yn dibynu
Ar haeddiant yr Aberth mor ddrud,
Hi lwydda yn enw'r Eiriolwr,
Nes gyru'r eilunod o'r byd;
'Rwyf inau'n dymuno ei llwyddiant
Yn haeddiant fy Mhrynwr a'm Pen,
A dyma fydd rhan o fy ngweddi,
'Rwy'n awr yn diweddu. Amen.

HYMNAU.—M. 10.

Arglwydd, tywallt o dy ysbryd,
Ysbryd argyhoeddi yw,
Ysbryd gras ac ysbryd gweddi,
Ysbryd caru delw Duw;
Ysbryd dewis byw yn dduwiol,
Ysbryd gwylio ar bob awr,
Ysbryd isel gostyngedig,
Ysbryd addfwyn Iesu mawr.

M. 3.

'Rwy'n teithio tua'r bythol fyd,
O! Dduw rho im' dy hedd,
Rho 'nabod Iesu'r ffyddlon ffrynd,
Cyn 'r elwyf lawr i'r bedd.

M. 3.

Mae'r Ysgol Sul yn fendith fawr
 A gwerthfawr yn ein gwlad;
O! de'wch i hon i gyd o'r bron,
  I dderbyn addysg rad.

M. 21.

Dyma ddydd y Sabboth hyfryd,
De'wch i ddysgu geiriau'r bywyd,
Ac i ganu mawl i'r Iesu,
Ddaeth o'r nefoedd i'n gwaredu.

M. 10.

Aed Efengyl dros y moroedd
I'r ardaloedd pellaf sydd,
Bloeddied hon yn mhlith y caethion,
Carcharorion ddelo'n rhydd;
Son am frwydr fawr Calfaria,
Iesu 'n marw ar y pren,
Mil o filoedd, myrdd myrddiynau,
O goronau ar ei ben.

GALARGAN

AR OL

Y PARCH. ISAAC MORGAN HARRY.

Mae hanes dynoliaeth o'r dechreu
Yn eglur fynegu i ni,
Mai'r beddrod, oer anedd y dyffryn,
Yw cartref y teulu llu;
Afrifed yw'r dorf sydd yn barod,
Yn dawel heb gynhwrf na phoen,
Arosant sain dreiddgar yr udgorn,
Ar ddydd priodas—ferch yr Oen.

I'r duwiol, mae angeu yn genad
O lys y tangnefedd sydd fry,
I'w gyrchu i fynwes ei Briod,
Lle'r erys mewn mawredd a bri;
Ond eto, nid ydym yn chwenych
Cael tynu y babell i lawr,
Gwell fyddai cael myned i'r nefoedd
Heb gymysg â phryfed y llawr.

Er hyny, rhaid yw bod yn foddlon,
Can's hyn ydyw rheol ein Duw,
Rhaid unwaith fyn'd drwy borth marwolaeth,
Cyn cyrhaedd yr hyfryd wlad wiw;

Er tlysed y blodau mewn bywyd,
Er cystal eu cwmni a'u gwedd,
Darfydda eu harddwch a'u mwynder,
Drwy chwythiad oer awel y bedd.

Pe buasai yn ngallu yr eglwys
I gadw saeth angeu yn ol,
Rhag taro ei Harries anwylgu,
A myned â'i bugail o'i chol,
Hi wnaethai bob ymdrech at hyny,
Heb groesi bwriadau ei Duw,
Can's trymaidd yw teimlad ei chalon,
O herwydd na chafodd ef fyw.

Ond ofer yw arf yn y rhyfel—
Ag angeu, ni lwydda hi ddim,
Rhaid myned pan ddelo yr alwad
Drwy dònau'r Iorddonen a'i grym ;
Ymddattod wna'r babell yn chwilfriw,
Pan dynir y c'lymau yn rhydd,
Nid digon yw gallu meddygon
I gadw y corph rhag y pridd.

Er meddu rhinweddau rhagorol,
Duwioldeb dra uchel ei dawn,
A nerth anorchfygol mewn gweddi,
Wrth geisio yn rhinwedd yr Iawn;
Nid digon oedd hyny er cadw
Ein brawd yn yr anial yn hŵy,
Aeth adref, gan waeddu "buddygol"
Yn haeddiant yr Iesu a'i glwy.

Cof—genyf ei glywed ef gyntaf,
Yn dyweyd am ogoniant yr Iawn
A roddwyd gan Iesu wrth farw,
Mewn lludded ar groesbren brydnawn;

Llefarai am gariad y duwdod,
A thoster trugaredd ein Duw,
Gan godi gogoniant y Meichiau,
Fel Ceidwad i holl ddynolryw.

Llefarai'r hyn brofai ei hunan,
Nid peiriant dideimlad oedd ef,
Dangosodd yr Iesu dderbyniodd,
Fel unig ddrws gobaith i'r nef;
Er na chafodd ysgol gan ddynion,
Bu'n ddiwyd yn ysgol y groes,
Nes gwybod yn fedrus a helaeth
Am Iesu, ei angeu a'i loes.

Bydd cyrddau chwarterol sir Fynwy
Yn gwisgo'u galar—wisg yn hir,
Y Gymanfa flynyddol sy'n wylo,
O herwydd ei golli o'n tir;
Drwy ddianc o'n Harries anwylgu
I fyd yr ysbrydoedd i fyw,
Collasom ddadleuwr cryf, nerthol,
Yn achos ei Geidwad a'i Dduw.

Nid siarad am Dduw wnai mewn gweddi,
Ac amgylchu y ddaear faith gron,
Gan hysbysu y duwdod yn Drindod,
Amgylchiadau y bydoedd o'r bron;
Ond ymaflai yn Nuw a'i gyfamod,
Gan ddadleu haeddianau yr Iawn,
Nes tynu y nefoedd i waered,
A gwneuthur ein calon yn llawn.

Mae "Capel Rhagluniaeth " y Morfa,
A'i agwedd yn edrych yn syn,
Am guddio cenadwr yr Iesu
Dan lèni caddugawl y glyn;

Yn y cyrddau wythnosol gofynir,
Mewn teimlad a phryder gwir ddwys,
"Pa fodd gellir hwylio y llestr,
A'n cadben daearol dan gwys."

Mae llais o'r bythol—fyd yn gwaeddu,
"Na wylwch heb obaith yn awr,
Nid pell ydyw dydd adgyfodi
Holl deulu lluosog y llawr;
Daw'r Iesu ar gwmwl gogoniant,
A llu o angylion y nef,

Ar foreu y farn gyffredinol,
Ei alwad pryd hyn fydd yn gref."
Daw fyny holl deulu y dyffryn,
Yn llu dirifedi o'r bedd,
Nid erys un ewyn heb ddeffro,
Rhyfeddod fydd gweled eu gwedd;
Pryd yma bydd "Harries o'r Morfa "
Yn ieuanc a gwrol ei wedd,
Ei waith yn drag'wyddol fydd moli
Ei Arglwydd yn ardal yr hedd.


Y DIWEDDAR
BARCH. ISAAC MORGAN HARRY.

Pregethwr heb bur goethiad,—nac addurn
Er cuddio 'i ddechreuad;
Ei eiriau a'i lefariad
Oedd o ryw les—boddiai'r wlad.

Hawdd i'w wel'd oedd gwreiddiolder—ei ddoniau
Dyddanol a'i ffraethder;
Yr ydoedd, er ei wywder,
Yn dân byw gyda'i dôn bêr.

Gwyneb ni feddai i gynyg—esgyn
Drwy wisgo plu benthyg;
Un o brofiad, heb ryfyg,
Yn ein plith—hollol un plyg.

Nid un wedi diwyno,—a golchiad
O galch teneu drosto;
Ond rhuddin,—yr un trwyddo,
Wirion frawd, addurn y fro.

 —CALEDFRYN.




ARGRAFFWYD GAN E. WALTERS, NORTH CHURCH-STREET, CAERDYDD.

Nodiadau golygu

  1. Gweler hwynt yn y diwedd.
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.