Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth/At y Darllenwyr

Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth

gan John Evans, Abermeurig

Cynwysiad

AT Y DARLLENWYR.



ANWYL GYFEILLION,—

Dyma Gofiant ac Ysgrifeniadau eich anwyl-ddyn, y Parch. T. EDWARDS, o'r Cwm, wedi eu cyfansoddi ganddo ef ei hun. Nid wyf fi wedi gwneyd dim ond eu hail ysgrifenu a'u trefnu ar gyfer y wasg. Yn ei gystudd yr ysgrifenodd y "Cofiant" a "Hanes Crefydd yn Cwmystwyth," ac yr oedd llawer o nodau cystudd ar y ddau, er fod ganddo lawysgrif dda. Mae yn debyg nad oedd yn arfer ysgrifenu fawr o'i bregethau, ac na orphenodd gymaint ag un; felly nid oedd genym ond gwneyd y goreu o honynt, gan feddwl y byddech yn disgwyl cael gweled rhai o bregethau yr un y bu mor dda genych ei wrando. Am yr " Adgofion," dymunaf arnoch eu cymeryd yn garedig fel y maent, gan ryfeddu eu bod cystal wrth gofio pwy fu wrthynt. Gyda gweddi ar Dduw pob gras am wneyd y llyfryn yn gyfrwng bendith i chwi oll, y cyflwynaf ef i'ch sylw. A chan fod genych barch mawr i Mr. EDWARDS, a bod yr elw oddiwrth y gwerthiant yn myned i'w anwyl briod, yr wyf yn hyderu y prynir y Cofiant wrth y canoedd.

Y GOLYGYDD.

Nodiadau

golygu