Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth/Hanes Crefydd yn Nghwmystwyth

Pregeth X Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth

gan John Evans, Abermeurig

HANES CREFYDD YN NGHWMYSTWYTH.

SAIF yr ardal hon bron yn nherfyn dwyreiniol Sir Aberteifi. Mae Pentre Briwnant, canolbwynt yr ardal, 15 milldir ar y dwyrain o Aberystwyth, 15 i'r gogledd-ddwyrain o Tregaron, 15 i'r deorllewin o Lanidloes, a 15 i'r gogledd-orllewin o Rhaiadr. Ac oblegid ei bod mor ganolog, syniad yr ysgrifenydd yn moreu ei oes oedd, mai Cwmystwyth a Pentre Briwnant oedd canolbwynt y belen ddaearol. Mae yr ardal, er fod llawer o bethau dyddorol yn perthyn iddi, yn bur debyg i'r Lais hono y sonir am dani yn Llyfr y Barnwyr, yn cael ei thori allan o fanteision cymundeb âg ardaloedd eraill, oblegid ei sefyllfa ddaearyddol. Ar y gorllewin cauir hi allan o ardaloedd y sir gan goedwigoedd eang ystad yr Hafoduchryd, ar ein dyfodiad allan o ba rai y mae yr ardal yn ymagor o'n blaen ar ffurf padell, am ryw filldir a haner, ac yn cael ei hamgylchu gan fynyddoedd; yna crynhoa yn gwm cul, a'r afon Ystwyth yn rhedeg drwyddo, a'r brif-ffordd ar hyd yr hon gynt y rhedai y Mail Coach o Aberystwyth i Henffordd, hyd nes myned ryw bum' milldir ymlaen, lle y mae terfyn y sir. Tua milldir a haner o'r Pentre y mae un o hen weithiau mwn plwm, a ystyrir yr hynaf yn y sir, os nid yn Nghymru; gweithir ef, meddant, er's yn agos i 2000 o flynyddoedd. Mae y Graig Fawr, a elwid gan y Saeson Gibraltar Rock, wedi ildio rhyw doraeth o'r mwn o oes i oes, ac yn parhau i roddi. Ni buasai yn yr ardal hon ond ychydig o luestai bugeiliaid, a rhyw haner dwsin o ffermydd oni bai am yr alwedigaeth fwnawl.

Ni buasai yr uchod yn werth y papyr a'r inc i'w ysgrifenu oni bai fod rhywbeth gwell i'w ddweyd am yr ardal. Wrth ystyried anwybodaeth y dyddiau gynt, a bod tynu mawr i'r ardal oblegid y gwaith, rhaid ei bod yn ardal hynod am ei llygredigaeth, ei meddwdod, a'i champau annuwiol o bob math. Profir hyn trwy fod gweddillion y rhai hyny wedi bwrw yn rymus ymlaen wedi i oleuni y Diwygiad Methodistaidd dywynu ar y lle, a thrwy ymdrech mawr o eiddo y tadau crefyddol y gyrwyd yr adar nosawl hyny yw llochesau.

Dygwyd pregethu i'r ardal hon drwy offerynoliaeth rhyw wragedd da a arferent fyned i wrando y diwygwyr i Bengwernydd, lle gerllaw gwaith Frongoch, lle yr oedd un Mr. Edward Jones yn byw. Pregethwyd yn gyntaf yn Nghefnyresgair, ffermdy rhwng Cwmystwyth a'r Eglwys Newydd, lle y magwyd yr offeiriad duwiol, y Parch. Thomas Jones, Creaton, yr hwn fu yn llafurio llawer gyda Mr. Charles y Bala, i ffurfio y Feibl Gymdeithas. Yr oedd gwasanaeth crefyddol yn yr Eglwys Newydd, gerllaw yr Hafod, er y flwyddyn 1620, pan godwyd yr eglwys, a bu ynddi rai offeiriaid da yn gwasanaethu. Nid oedd yr achos Methodistaidd yn sefydlog, ond yn myned o dy i dy. Cafodd nodded yn hir gan un Mr. R. Jenkins, Ty'nddol, lle bychan rhwng y Cwm a Blaenycwm, a chan Mr. David Jenkins, ei frawd, yn Gilfachyrhew, yr ochr arall i'r afon Ystwyth. Cedwid y seiat yn Ty'nddol, a phregethid yno yn aml. Bu yma beth erlid ar y cynghorwyr a'r crefyddwyr, ac oblegid hyny, pan fyddai cynghorwr yn dyfod i Ty'nddol, byddai un o'r teulu yn taenu rhyw ddilledyn o liw neillduol ar lwyn neillduol, er rhoddi ar ddeall i'r caredigion fod yno odfa i fod. Yr oedd y lle yn ngolwg y gwaith, a chan fod yr arwydd yn wybyddus i'r cyfeillion, elent i'r odfa pan yn gadael y gwaith. Ond er fod yma gynal moddion am 50 mlynedd, dywedir nad oedd yn niwedd byny ond o 10 i 16 o aelodau; er hyny cadwodd y llin i fygu nes yr aeth yn fflam, a'r gorsen fach i dyfu nes myned yn gedrwydden gref. Rywbryd tua diwedd y ganrif o'r blaen, cymerwyd lle a elwid yr Efailfach, yn mhentref Briwnant, at gael pregethu cyson ynddo, a dechreuwyd cadw Ysgol Sabbothol ynddo tua'r flwyddyn 1802. Cafwyd odfaon bythgofiadwy yn y lle bychan hwn gan yr hen Ishmael Jones ac eraill. Yr oedd yr hen bregethwr poethlyd hwnw yn adrodd am un odfa hynod pan ddechreuodd un Wil Herbert bach y cyfarfod, ac y tynodd y nefoedd yn gawodydd i lawr.

Mae yn debyg i'r eglwys fechan gael adnewyddiad nerth tua'r flwyddyn 1804, trwy ychwanegiad o amryw benau teuluoedd ieuainc ati, nes iddi fyned i ddweyd, "Cyfyng yw y lle hwn i mi." Y pryd hwnw hefyd y gwnaed y ffordd goach at balas yr Hafod. Codwyd[1] y capel cyntaf yn 1805, yn 30t. wrth 19t., a thŷ capel yr un lled âg ef, ond bychan ei hyd, wrth ei dalcen. Towyd yr adeiladau â llechau. Yr oedd ffenestri i'r capel yn yr ochr, y tucefn i'r pulpud, ac un arall yn y talcen deheuol. Yr oedd iddo ddau o ddrysau, a dwy eisteddle, y rhai a elwid y "côr bach" a'r "côr mawr." Llawr o bridd, a meinciau, rhai a chefn ac eraill hebddo. Yr offerynau oeddynt yn blaenori y pryd hwnw oeddynt, Mr. Abraham Oliver, Ty'nglog, taid y Parchn. David Oliver, Twrgwyn, a'r diweddar Abraham Oliver, Llanddewibrefi, a Mr. Abraham Oliver, y blaenor presenol; Mr. William Herbert, Ty'nffordd; a Mr. Thomas Rees, Bwlchgwallter, a gwyr a gwragedd da eraill oeddynt yn seconds iddynt. Nid oedd yr eglwys eto ond rhyw 30 mewn nifer, er hyny nerthwyd hwy o wendid i gynal yr achos, er fod yno lawer o bregethwyr teithiol yn dyfod heibio, a'r gwaith mwn yn dlawd arno yn fynych. Ond yn y flwyddyn 1820, daeth saith i ymofyn am le yn yr eglwys, o ba rai yr oedd tri yn feibion i'r Abraham Oliver uchod. A gelwir y diwygiad hwnw "Diwygiad y Saith." Rywbryd yn y cyfnod yma y dewiswyd blaenoriaid rheolaidd gyntaf, y rhai oeddynt, Mri. Isaac James, o'r Diluw, rhwng y Cwm a Rhaiadr, a John Jones, Botcoll, ffermdy yn agos i Mynach. Yr oedd i bob un ei hynodion. Yr oedd gan y cyntaf bum' milldir o ffordd fynyddig i ddyfod i'r capel, eto byddai yno yn brydlon a chyson yn yr holl gyfarfodydd. Yr oedd yn rhaid myned i'r Cyfarfod Misol y pryd hwnw bob mis, er cael cyhoeddiadau pregethwyr am y mis arall; ac er nad oedd ef ond mwnwr tlawd, elai iddynt yn gyson, a hyny mor bell a Thwrgwyn, Penmorfa, a Cheinewydd, ryw 40 milldir o ffordd, a mwy, 80 rhwng myned a dyfod. Ond byddai ei gydweithwyr yn rhoddi ei gyfran iddo yn llawn fel hwythau, o barch i grefydd. Yr oedd J. Jones, hefyd, yn nodedig am fwyneidd-dra ei dymer a'i dduwioldeb amlwg. Bu farw yn ieuanc o'r cancer.

Gwnaeth y Bedyddwyr ymdrech i godi achos yma tua dechreu y ganrif hon, a bu eu henwogion yma yn pregethu ; ond ni ddarfu iddynt fedyddio ond un, Richard Barkley, a gelwir y pwll lle y bedyddiwyd ef hyd heddyw," Pwll Dic Barkley." Tua'r flwyddyn 1843, gwnaeth y Wesleyaid brawf ar y gymydogaeth, gan gael gweinidogion o Ystumtuen, Pontrhydygroes, a Llangurig i gynal cyfarfodydd. Aethant mor bell a thori lle i gapel yn Blaenycwm, mewn man lle codwyd tai anedd wedi hyny, a elwir Nantwatkin. Enillasant o 8 i 10 o aelodau : ond wedi gweled eu bod yn myned i gynal achos, cilio wnaeth y bobl. Felly, lle anffafriol i gynydd pob enwad yw yr ardal hon ond y Methodistiaid, ac y mae ein cyfrifoldeb ni yn fawr oblegid hyny am ei thrigolion.

Wedi codi y capel cyntaf, yr oedd ansawdd caniadaeth y cysegr yn wael iawn. Yr hwn oedd yn arwain gan amlaf oedd un Lewis Thomas, o'r Garallt; ond gan ei fod yn glochydd yn yr Eglwys Newydd, yr oedd yn gorfod ymadael yn fynych cyn y canu ar y diwedd d; ac anffodus fyddai tynged llawer hen benill melus o'r herwydd. Ond y mae angen yn creu darpariaeth. Wedi dioddef llawer, galwyd un Mr. Thomas Edwards, Erwtome, o ardal Aberffrwd, yma i ddysgu yr oes ieuanc i ganu a deall notes, fel y dywedent. Bu yma am un gauaf. Ymhlith y rhai a gyrchent i'r ysgol ar y pryd, yr oedd un nodedig, sef Mr. Thomas Oliver, mab Mr. John Oliver, y blaenor. Yr oedd ef yn meddu ar un o'r lleisiau mwyaf swynol a ddisgynodd ar ein clustiau erioed. Ymgymerodd ef a dysgu elfenau cerddoriaeth, a daeth yn arweinydd galluog. Cafodd Mr. John Howells, tad Mr. William Howells, yr arweinydd presenol, ei fedyddio â'r un ysbryd. Arweiniai T. Oliver y tenor a'r treble, a J. Howells y bass, fel eu gelwid y pryd hwnw. Codwyd dwy oes o gantorion trwy lafur T. Oliver, yn feibion ac yn ferched, nad oedd eu cyffelyb yn yr amgylchoedd yn y dyddiau hyny. Dywedir fod ei gôr yn nechreuad y gwyliau dirwestol yn destyn sylw a son i'r holl wlad. Ymfudodd i America yn 1846, ac yr oedd ei ymadawiad yn golled fawr.

Dychwelwn, bellach, i roddi hanes adfywiad crefyddol a gymerodd le yn 1825 a 1826. Yr oedd y praidd bychan oedd yma mewn teimlad yr adeg yma am gael genedigion yn Seion. A chymerodd dwy ffaith bur hynod le, y rhai oedd yn rhagflaenu, neu yn ddechreuad y diwygiad hwnw. Y gyntaf ydyw yr hyn a gymerodd le mewn cysylltiad â merch ieuanc, o'r enw Mary Morris, merch i Daniel a Sarah Morris, Galmast, fferm rhwng Pontarfynach a'r Cwm. Dywedir fod ei thad yn berthynas i'r Parch. James Hughes, Llundain. Yr oedd y ferch ieuanc yn ddiarhebol am ei hanystyriaeth a'i balchder. Ond bu digwyddiad hynod yn foddion tröedigaeth iddi. Pan oedd yn myned i Aberystwyth, ar gefn merlen a arferai fod yn ddiareb am ei harafwch a'i diogi, i brynu gwisgoedd ar gyfer rhyw briodas rwysgfawr oedd i fod yn y gymydogaeth, gwelodd y gaseg rywbeth ar le uchel ac eglur a wnaeth iddi dasgu a rhedeg yn ol tua'i chartref, gan adael y ferch ar ol ar ganol y ffordd. Wedi gweled y ferlen heb y farchoges, rhedwyd i chwilio am dani, a chafwyd hi mewn llewyg yn y fan lle cwympodd. Wedi ei dwyn adref, ac iddi ddyfod ati ei hun, gwelwyd fod achos ei chyflwr yn gwasgu arni yn drwm. Galwyd am frodyr i gadw cyfarfod gweddi gyda hi; ac wedi cael ymddiddan ychydig â hi ar ol y cyfarfod, dywedodd yn benderfynol, "Frodyr anwyl, waeth beth a ddywedo neb am yr hyn a welais, y Gwr ei hun a welais i." Beth bynag oedd hanfod y weledigaeth, bu yn fendith iddi hi am ei hoes; ac wedi ei hadferu, dangosodd hyny trwy gyflwyno ei hun i bobl yr Arglwydd, a phrofodd am y gweddill o'i gyrfa ei bod yn greadur newydd. Daeth amryw eraill at grefydd yn y misoedd. dyfodol.

Y ffaith arall a fu fel yn ddechreuad i'r diwygiad oedd yr hyn a gymerodd le mewn cyfarfod gweddi ar foreu Sabbath. Yr oedd y cynhyrfiad oedd yn y Cwm yn peri fod cryn gyrchu yma o ardaloedd eraill i'w weled. Yn eu plith yr oedd Shôn, Cwmffrwd, taid y pregethwr nodedig hwnw, Mr. John Jones, Ysbyty, yr hwn a fu farw yn bur ieuanc, yn nghanol ei ddefnyddioldeb. Yr oedd. arogl esmwyth yn yr holl gyfarfod gweddi hwnw ; ond wedi i'r gynulleidfa ymwahanu, arosodd rhai ar ol. Ymhlith y rhai hyn, yr oedd yno wraig o gymeriad disglaer iawn mewn crefydd, wedi yfed yn lled helaeth o'r "gwin sydd yn gwneyd i wefusau y rhai fyddai yn cysgu lefaru," ac yn dechreu canu y penill hwnw, Gras, gras, eginyn byw eginyn bras," &c. Yna ymlaen at y penill, "Daeth. trwy, ein Iesu glan a'i farwol glwy," &c. Yr oedd y mawl yn chwyddo bob llinell. Pan yn canu, "Beth am yr awr cawn fyn'd i'r môr," gwaeddodd Shôn Cwmffrwd allan, "Wel, dos i'r môr ynte, Pally Fach." Gyda hyny dechreuodd ef ac amryw eraill orfoleddu. Wedi clywed y swn, daeth llawer o'r rhai a aethant allan yn ol, a dyna olygfa ogoneddus a gawsant, gweled teulu Seion yn gwledda ar ryfeddodau cariad a gras yr Iesu. Yr oedd hyn yn ngwanwyn 1826. Cynyddodd y teimladau crefyddol yn fawr, fel yr oedd dynion yn dyfod i'r cyfarfodydd wedi eu trallodi am eu cyflwr, a'r meibion a'r merched bychain yn dechreu proffwydo. Mewn cyfarfod gweddi arall ar foreu Sabbath, torodd cynwys mawr y cwmwl. Yr oedd yno rai o'r hen famau, a rhai o'r plant ieuainc wedi tori allan i orfoleddu yn ystod y cyfarfod. Ond wedi i lawer fyned allan, clywyd rhyw waedd aruthro!, o eiddo gwrywiaid cryfion, fel y dychwelodd pawb yn ol i'r capel. Ymhlith y rhai oedd yn gwaeddi, yr oedd gwr ieuanc corffol, o'r enw Joseph Hughes, yr hwn oedd wedi tynu sylw llawer yn y cyfarfod, gan ei fod wedi myned can ddued bron a'r glo wrth atal ei deimladau. O'r diwedd, gwaeddodd gyda nerth rhyfedd, "Fy mywyd i mi,” a dyna y floedd a glywodd y rhai oedd wedi myned allan, a rhai wedi myned chwarter milldir o ffordd. Sonir am yr odfa byth fel yr odfa y gwaeddodd Jo ynddi. Ymunodd rhai ugeiniau â'r eglwys ar ol hyn. Cafwyd odfa ryfedd hefyd pan oedd y Parch. John Williams, Lledrod, mewn hwyl nefolaidd, yn holi plant ieuainc wrth eu derbyn i gymundeb. Holodd hwy yn galed, a dywedodd dan wylo, "Wel, wel, mae y plant yma wedi fy nhrechu yn deg." Gwrthgiliodd llawer ar ol hyn, ond, trwy drugaredd, darfu iddynt ddychwelyd bob yn un ac un, fel mai ychydig o honynt a fu farw ar dir gwrthgiliad.

Cafodd yr eglwys adgyfnerthiad rhyfeddol yn y diwygiad a nodwyd, yn neillduol yn ei chysylltiad â'r Ysgol Sabbothol. Rywbryd yn yr adeg yma, trwy anogaeth y Parch. Ebenezer Richard, Tregaron, dechreuwyd cynal cyfarfod neillduol, er rhoddi mantais i athrawon ac eraill i roddi cynghorion cyffredinol i ddeiliaid yr ysgol. Mae y cyfarfod hwn yn cael ei gynal bob dau fis yn y lle hwn hyd heddyw, ac y mae wedi bod yn fendithiol iawn. Cofir yma yn dda am un o'r cyfarfodydd, yn yr hwn yr oedd Mr. Richard ei hun yn bresenol, ar nos Sabbath. Yr oedd yno ar y pryd ryw lanc tal, cryf, a gwisgi, tua 18 oed, wedi dyfod o gymydogaeth Ffair Rhos i wasanaethu i'r gymydogaeth hon. Yr oedd yn hynod am ei regfeydd, y rhai oedd yn dispedain trwy y gymydogaeth Sul, gwyl, a gwaith, fel y gwnaeth gynydd mawr ar lygredigaeth yr ardal-gellir dweyd i'r ychwanegiad at annuwioldeb fod yn 50 y cant. Ond rhyfedd yw dirgelwch ffyrdd yr Ior, tynodd rhai o'i gyfoedion ef i'r cyfarfod crybwylledig, yn yr hwn yr oedd y fath ddylanwad, nes oedd y bobl ieuainc yn wylo ac yn gwaeddi trwy yr holl le, ac yn eu plith y llanc hwnw. Yr oedd wedi ei hollol syfrdanu, fel yr aeth adref heb ei het. Ond er cymaint y clwyfau a gafodd, ni ddaeth at grefydd ar y pryd; ond daeth ymhen blynyddoedd ar ol hyny, a bu yn frawd defnyddiol, ac yn un o'r athrawon goreu yn yr Ysgol Sabbothol, hyd nes yr aeth i America, lle y gorphenodd ei yrfa.

Cynyddodd y gynulleidfa a'r Ysgol Sul yn rhyfedd ar y pryd, fel yr aeth y capel a'r ty capel yn rhy fychain yw cynwys. Cymerai ieuenctyd ddyddordeb mawr mewn dysgu y Beibl a'i adrodd yn gyhoeddus, a dysgu pynciau a'u hadrodd, a chafwyd cyfarfodydd hynod o lewyrchus gyda hyny yn fynych. Aeth y capel yn anghysurus o lawn, ac adeiladwyd un arall yn 1835, yn 13 llath wrth 10 a dwy droedfedd, ac yn cynwys tua 40 o eisteddleoedd. Traul yr adeiladaeth yn 240p., heblaw llafur a gwaith gwirfoddol y trigolion. Casglwyd 150p., erbyn yr agoriad, yr hyn a gymerodd le Mehefin 1836, pryd y pregethodd y Parch. Ebenezer Richards ddwywaith oddiar Exodus xxxiii. 16, a Salm xxvi. 8; David Jenkins, Llanilar, oddiar 1 Tim. iv. 9, a Dr. Edwards, Bala, ddwy waith oddiar 2 Chron. vi. 18, a Mat. xiv. 23. Yr oedd pryder mawr yn rhai o'r brodyr cyn dechreu adeiladu, a phan adawyd dyled o 80p., dywedent na welai neb mo'r capel wedi ei lenwi na thalu am dano; ond mae yr ysgrifenydd yn dyst fod rhai o'r cyfryw wedi ei weled yn fuan yn rhy gyfyng, a thalwyd y ddyled, gyda symiau llawer mwy, mewn 22 mlynedd.

Yn y flwyddyn 1836 hefyd y dewiswyd Mri. David Davies, Nantcwta, a Thomas Oliver, Tynfron, y canwr enwog, yn flaenoriaid. Yr un flwyddyn, hefyd, cynhaliwyd y Cyfarfod Misol hwnw yma, sydd yn hynod fyth fel yr un y dygwyd y Gymdeithas Ddirwestol iddo yn fater ymdriniaeth. Credai Mr. Richard, a rhai swyddogion eraill, yn naioni y symudiad, ac eraill a edrychent arno fel gwegi. Yr oedd traul fawr y pryd hwnw i ddarllaw diodydd ar gyfer y Cyfarfod Misol. Traddododd Mr. Richard bregeth ar ddirwest dranoeth, oddiar Act. xxiv. 25, ac un hynod o effeithiol ydoedd. Cyn diwedd y flwyddyn hon, daeth yr Hybarch Evan Evans, Aberffrwd, a Thomas Edwards, Penllwyn, yma i sefydlu y gymdeithas, pryd yr ardystiodd ugeiniau. Cododd llawer garden goch cymedroldeb, ond y rhan fwyaf garden wen llwyrymwrthodiad. Yr oedd sel y swyddogion yn gymaint fel yr enillwyd yr holl aelodau yn fuan yn ddirwestwyr, ac ni dderbynid neb yn aelod heb arwyddo yr ardystiad. Enillodd dirwest y maes yn y gymydogaeth. Yr oedd dau dafarndy yma o'r blaen, un yn Pentrebrunant a'r llall yn Tyllwyd. Ond pan ymadawodd y teulu oedd yn y cyntaf, ni chadwyd ynddo ddiod feddwol byth wedi hyny. Gwnaed ymgais i godi mân dafarnau yn yr ardal wedi hyny, ond yn hollol aflwyddianus. Gwelwyd yr ieuenctyd am beth amser yn tori yr ardystiad, ond yr oedd ymdrech y dirwestwyr yn gymaint, fel yr enillwyd hwynt yn ol yn fuan. Y pryd hwnw yr oedd Mr. Evans, Aberffrwd, yn llywyddu Cyfarfod Daufisol Dosbarth Cynon, a gosodai ar y cynrychiolwyr i gynal cyfarfodydd dirwestol yn eu cartrefi, fel yr enillwyd yr eglwys hon yn llwyr at hyny, trwy fod yma swyddogion loyal i'w dyledswyddau. Pa fodd bynag, gwelwyd amser ar ol hyny, pan gyhoeddid cyfarfod dirwestol, braidd y deuai neb o'r gwrth ddirwestwyr iddo. Yn ngwyneb hyn, penderfynodd y brodyr gynal cyfarfod ar nos Sabbath, a rhoddi yr athrawon i areithio, os na fyddai pregethwr. Felly y mae y terfyn a osododd y tadau yn cael ei gadw yma o hyd-sef cynal cyfarfodydd, a bod holl aelodau crefyddol yn ddirwestwyr; ac ni chafwyd ond rhyw dri neu bedwar o gwynion am yfed yn ystod y 50 mlynedd Jiweddaf. Nid oes yr un dafarn yn y gymydogaeth chwaith er's 40 mlynedd.

Wedi myned i'r capel newydd, araf fu cynydd yr eglwys yn y blynyddoedd cyntaf. Ond yn 1841, cafwyd diwygiad grymus. Yr hyn fu yn foddion i barotoi meddwl yr eglwys ato oedd haf sych, pryd yr oedd yr anifeiliaid yn methu gan syched, a'r gwaith wedi sefyll o ddiffyg dwfr, fel yr oedd pawb yn edrych yn bryderus ar y dyfodol. Ryw nos Sabbath, yn y ty capel, awgrymodd un o'r brodyr y priodoldeb o gynal cyfarfod ymostyngiad i ofyn am wlaw. Dywedodd un arall fod yn rheitiach cynal cyfarfod gweddi i ofyn am "dywalltiad o'r Ysbryd Glan i achub y bobl." Cymerwyd awgrym yr olaf i fyny, cynhaliwyd y cyfarfod y nos Lun canlynol. Cafwyd cyfarfod hyfryd, fel y penderfynwyd cael un o'r fath drachefn. Ac felly yn methu rhoddi fyny nes cael yr hyn y gofynid am dano. Nid oedd neb ond yr aelodau crefyddol yn y cyfarfodydd hyn. Treulid y rhan fwyaf o'r amser mewn mawl a gweddi, a rhyw 20 mynyd i gydymddiddan ar fater y cyfarfod; a byddai llawer oedd yn fudan yn y cyfarfodydd gynt, yn llefaru pethau rhyfedd yn y rhai hyn. Yn misoedd y gauaf canlynol, dechreuodd dychweledigion ddylifo i'r eglwys, nes bod yn 50 neu 60. Wedi yr ychwanegiad, nid oedd yn bosibl rhoddi y cyfarfod nos Lun i fyny, gan ei fod yn fanteisiol iawn yn awr i gael y dychweledigion i ymarfer â'r dyledswyddau. Cynhaliwyd ef ymlaen am 30 mlynedd, wedi meddwl sawl gwaith am ei roddi i fyny; ond wedi meddwl felly, ymddangosai y gogoniant ynddo, fel y rhoddid i fyny y cyfryw feddwl drachefn. Y rhai cyntaf a ddychwelwyd fel blaenffrwyth oedd dwy hen chwaer, o'r enw Pally Burrell, Penffynon, a Pally Howell, Tycoch, y ddwy oddeutu 80 oed, trwy weinidogaeth y tanllyd John Morgans, Drefnewydd. Wedi hyny daeth tri neu bedwar o benau teuluoedd o le a elwid Penybryn, fel y galwyd y diwygiad o'r herwydd "Diwygiad Penybryn," lle yr oedd rhes o dai diweddi, ond yn awr a ddaethant yn dai gweddi. Codwyd colofnau i'r achos yr adeg hon, ac eithriadau oedd y rhai a wrthgiliasant.

Cafwyd gauaf oer ar ol hyn. O'r flwyddyn 1842 hyd 1849 a 50, nid oedd nemawr neb yn ceisio Seion; ond lliaws o'r bobl ieuainc yn ymgaledu mewn drygioni, ac yn tori eu hardystiad dirwestol. Ond nid oedd yr eglwys yn llaesu dim yn ei gofal am y ddisgyblaeth; ac y mae yn rhaid dweyd ei bod yn eiddigeddu cymaint dros gyfiawnder a glendid, nes y byddai trugaredd weithiau yn cael ei chymylu. Os byddai un am ddyfod i'r eglwys, ymofynent yn fanwl a fyddai arwyddion edifeirwch ynddo; ac ni chawsai un ei dderbyn i gymundeb heb gael tystiolaeth ei fod yn cadw y ddyledswydd deuluaidd yn gyntaf. A diau genyf fod gwybod hyny wedi bod yn foddion i dramgwyddo llawer meddwl ieuanc, a pheri iddynt gadw draw. Heblaw hyny, ystyriai yr hen dadau fod rhanu y gwallt a chodi qupee, fel ei gel wid, yn arwydd o feddwl balch. Erbyn y flwyddyn 1849, wrth weled fod annuwioldeb wedi ym. byfhau, lliaws o benau tenluoedd diweddi yn yr ardal, a lliaws yn yr eglwys wedi myned i ymdrybaeddu yn y llaid, daeth teimlad dwys yn yr eglwys o'r herwydd, a daeth arwyddion fod Duw yn trugarhau wrth Seion unwaith eto. Un arwydd fod yr argyhoeddiadau yn dechreu oedd bod rhai yn dyfod yn ddistaw ac o'u bodd i ardystio yr ymrwymiad dirwestol; arwydd arall oedd eu bod yn anfon rhyw gymaint yn fisol at gynal y weinidogaeth; ac arwydd arall oedd fod llawer yn tori y qupee. Byddai llawer o siarad am rai yn awr eu bod yn sicr o ddyfod i'r seiat, am fod yr arwyddion yna i'w gweled arnynt, ac yn ddieithriad felly y byddai, rhai wedi darfod am danynt yn y tir pell oeddynt, ac eisiau ymwasgu at y disgyblion. Daeth llawer at grefydd yn 1850, oud tua chalanmai 1851, y bu y cynhyrfiad gryfaf. Daeth amryw o lanciau o 15 i 17 oed i'r eglwys, a dechreuasant dyru at eu gilydd ar awr hwyrol i gadw cyfarfodydd gweddiau. Aeth son am hyny allan, a daeth lliaws ynghyd at y capel i'w clywed. Wedi i'r cwrdd gweddi bach," fel ei gelwid, gael ei aflonyddu fel hyn, cymerai y bechgyn ofal na ymgasglent ynghyd nes i'r bobl fyned i'w gwelyau. Ond ryw noson disgynodd rhyw awel nerthol ar y rhai oedd oddifewn, nes y daeth lliaws i fewn atynt, gan gael eu synu yn fawr wrth weled y fath gymeriadau oedd wrth y gwaith.

Pa fodd bynag, parodd y cyhoeddusrwydd hwn i'r bobl ieuainc roddi fyny y cyfarfodydd am rai nosweithiau. Ond ymhen ychydig dechreuwyd hwynt eilwaith, a hyny ar awr fwy hwyrol. Ni bu eu hymgais ond ofer, gan fod y bobl yn loitran o gwmpas i'w gwylio; a phan ddygid y newydd eu bod wedi myned i'r capel, byddai yr ugeiniau, weithiau ganoedd, yn myned ar eu hol nes y byddai y lle yn orlawn. Yr oedd rhyw eneiniad rhyfedd ar y gweddïwyr ieuainc; a byddai y fath fwynhad mewn ambell gyfarfod, fel mai toriad gwawr y bore fyddai yr achos i'w roddi i fyny. Byddai y mwnwyr a adawent y gwaith am 10 y nos yn prysuro yno i gael rhan cyn yr ymadawent. Yr oedd graddau o ragfarn yn erbyn y bobl ieuaino, gan feddwl eu bod yn hyfion iawn, ac nid oeddwn i fy hun heb deimlo peth o'r fever, ond pan ddywedid "Tyred a gwel," cael ein hunain ymysg y proffwydi fyddai y canlyniad. Ni pharhaodd y gwynt nerthol ond am ychydig fisoedd; ond yr oedd y llef ddistaw fain wedi cyraedd llawer o galonau, fel y daethant yn ddau ac yn dri i'r eglwys ar ol hyn, fel y cafodd yr eglwys adgyfnerthiad mawr, trwy gael llawer o wragedd o brofiad gwir grefyddol, a brodyr lawer oeddynt dywysogion mewn gweddi. A da oedd hyn ar y pryd, gan fod bylchau lawer wedi eu gwneyd y blynyddoedd blaenorol, trwy ymadawiad llawer o deuluoedd i America, ac yn eu plith y blaenor a'r canwr Thomas Oliver. Ymadawodd llawer hefyd i weithfeydd y Deheudir. Bu feirw llawer o'r hen bobl dda, ac yn eu plith y ddau hen flaenor Isaac James a John Oliver. Yn y cyfamser hefyd, symudodd Mr. David Jones, yr hwn oedd flaenor yn Llanilar, i Llaneithir i fyw, a chymeradwyodd yr eglwys yma ei fod i barhau yn ei swydd. Yr oedd yma fintai dda o flaenoriaid eto, fel nad oedd raid pryderu am bregethwr i gadw seiat-byddai David Jones yn agor y cyfarfod yn fyr ac i bwrpas, yna yn galw am rai i ddweyd eu profiad. Yna codai David Davies i athrawiaethu yn fedrus, ac adrodd rhai o sylwadau yr hen Buritaniaid, a'r rhai hyny bob amser yn ffitio fel "afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig." Tueddai weithiau i fod yn rough wrth ambell un, ac weithiau yn gynhyrfus; ond pan fyddai felly, codai Mr. William Burrell i fyny, gan dywallt olew a gwin yn y briwiau. Ac os byddai Mr. Thomas Howells yn bresenol, aroglai larieidd-dra drwy yr holl le.

Tua dechreu y diwygiad, yn 1850, cymerodd amgylchiad le a deif oleuni ar ansawdd y byd a'r eglwys ar y pryd. Yr amser hwnw daeth rhyw nifer o lanciau o Fynwy a Morganwg drosodd yma, ac ni ddarfu i'w dyfodiad ychwanegu dim at foesoldeb y lle. Gwnaethant godi seindorf bres (brass band) o'r bechgyn gwaethaf yn yr ardal. Wedi dyfod yn fedrus, deallwyd eu bod wedi trefnu cynulliad lliosog mewn tafarndy o'r enw Tyllwyd; math o ball a dance oedd i fod, ac i fod ar nos hen Nadolig, sef Ionawr 6ed, 1851. Teimlai yr eglwys yn ddwys, gan yr ystyriai y byddai y cyfarfod yn effeithiol i gynydd llygredigaeth yr ardal, a gwneyd bwlch mawr yn rhengau y dirwestwyr. Yn y teimlad hwnw cynlluniodd yr eglwys hithau gyfarfodydd gweddiau i fod yr un noson, un yn y Cwm a'r llall yn Penybryn. Pan ddaeth y noswaith, gwelid nad oedd pryder y brodyr heb sail-heidiai y llanciau o 12 i 18 oed tua'r tafarndy yn gynar, a llawer hefyd o rai hynach. Cynullodd yr eglwys hithau i'r ddau le a nodwyd, ac nis gall y rhai oedd yno byth anghofio y nerth a deimlid gyda'r brodyr oedd yn cyfarch yr orsedd. Dadleuent gyda thaerni ac awdurdod am i Dduw atal rhwysg annuwioldeb oedd yn cymeryd lle yn y gymydogaeth. Dadleuent yn gryfach gan fod had yr eglwys yn brif golofnau yn y cyfarfod llygredig. Yr oedd rhyw nerth gorchfygol gyda gwaith brawd yn y Cwm ar ddiwedd y cyfarfod, yn gofyn am ataliad y rhwysg annuwiol, pan ddywedodd, "Ië, gosod, Arglwydd, ofn arnynt, fel y gwybyddont mai dynion ydynt." Mae yn rhyfedd i'r brawd oedd yn diweddu y cyfarfod yn Penybryn ddefnyddio yr un geiriau, gyda'r un dylanwad. Dyna ochr crefydd. Cymerodd ffeithiau rhyfedd le yn y cyfarfod llawen bron yr un pryd, os nad i'r fynyd. Pan oedd y seindorf yn barod i'w gwaith hwy, ac eraill yn barod at y dance, a'r ty yn orlawn, a llawer yn barod i wrando, dyna swn gwynt nerthol yn dyfod ar unwaith, ac yn taflu yr holl ddrysau yn agored. Yna daeth gwaedd fod merch hynaf y ty mewn llewyg (bu farw mewn dau fis wedi cystudd difrifol). Rhoddwyd terfyn mewn mynydyn ar yr oll o'r chwareu. Rhedodd y llanciau ieuaine allan mewn dychryn; ac er mawr syndod, yr oeddynt wedi cyraedd y Pentref, 3 milldir o bellder, erbyn bod y bobl yn dyfod allan o'r capel. Yr oedd hamdden yn y capel, a dychryn a brys yn y cwmni llawen. Clywais frawd credadwy yn dweyd, yn mlynyddoedd olaf ei oes, ei fod ef yn y cyfarfod llawen, a'i fod wedi gweled a chlywed pethau mor rhyfedd nes gwneyd i'w wallt sefyll ar ei ben, ac i'w chwys ddiferu yn gyflym i lawr.

Wedi yr adfywiad a nodwyd, barnodd yr eglwys mai buddiol fyddai ychwanegu at y blaenoriaid. Ebrill 8fed, 1853, daeth y Parch. Evan Evans, Aberffrwd, a Thomas Edwards, Penllwyn, yma i'r gorchwyl, a syrthiodd y goelbren ar Mri. John Howells, Galmast; John Davies, Cnwcbarcut, a minau. Ni oedd y bedwaredd set o flaenoriaid. Yr ydym wedi nodi y cyntaf a ddewiswyd yn rheolaidd. David Davies a Thomas Oliver oedd yr ail; a William Burrell a Thomas Howells, Tygwyn, oedd y drydedd. Y pryd hwn y daeth David Jones, Llaneithir, a bu yma nes y codwyd capel Mynach, pryd yr aeth yno. Y 5ed set oedd Mri. John Howells, Blaenmilwyn, a Morgan Morgans, Tynewydd, yr hwn sydd eto yn aros. Y 6ed oedd Mri. Lewis Oliver, Penygraig; John Thomas, Ysguborfach, a Charles Burrell, Pencnwch, y tri wedi marw. Yr oedd John Thomas yn dad i'r ddau bregethwr, y Parchn. John Thomas, Gosen, a Lewis Thomas, a fu farw yn ieuanc. Y 7fed yw, Mri. Abraham Oliver; Shop; William Howells, Cwmglas, a John Davies, Ty'r Capel.

Ond i ddychwelyd. Wedi cael y fath adfywiad, naturiol oedd disgwyl mai nid mwynhau a gwledda oedd i fod yn barhaus. Yr oedd yma waith i gael ei wneyd. Un peth oedd symud y ddyled oedd ar yr hen gapel, y llall oedd cael tŷ capel newydd teilwng o'r achos, a darparu i roddi cydnabyddiaeth well am y weinidogaeth. Gwnaed yr olaf, a bu yn fendith i'r eglwys, gan y byddai yr hen frawd David Jones yn llwyddo i gael goreuon y sir yma i bregethu. Mewn rhyw gyfarfod, wedi bod yn edrych dros amgylchiadau yr achos, rhoddwyd ar Mr. Lewis Oliver a minau fyned i dalu 2p. o log oedd ar y 40p. dyled oedd ar y capel, i Mr. Thomas Edwards, Lluestdedwydd. Ac wrth dori yr interest ar gefn y note, gwelwyd ein bod wedi talu 40p. o log ar y 40p. Wrth ddyfod adref, darfu i ni siarad am yr afresymoldeb o dalu arian mor afreidiol. Penderfynwyd cynhyrfu y gwersyll, ac wedi rhoddi yr achos gerbron, dywedai yr hen bobl, "Ni ddaeth yr amser eto," bod yr enillion yn fach, a'r angenrheidiau cyffredin yn ddrud. Dadleuai eraill mai wrth fod ar lwybr dyledswydd yr oedd llwyddo, a dygent hanes Israel i brofi hyny. Yn y diwedd, penderfynwyd gwneyd casgliad yn yr Ysgol Sabbothol unwaith bob mis, penodwyd rhai i fyned o amgylch yr ardal i 'mofyn addunedau, a dosbarthwyd hier mantais y casglwyr. Hyn a wnaed, a gwelwyd y byddai digon mewn llaw yn ddioed. Yn y cyfamser, aed o ddifrif i adeiladu tŷ capel, yr hwn yr oedd y 40p. yn fwgan rhag myned ato trwy y blynyddoedd. Y ffaith fu i amgylchiadau y gymydogaeth wellhau yn gyflym mewn enillion; a barned y darllenydd pa un ai damwain oedd hyn, ai ynte y Penllywodraethwr mawr oedd yn dangos ei fod yn un a'i air. Costiodd y tŷ capel 100p., ond trwy fyned ymlaen gyda'r casglu, cliriwyd yr oll erbyn Mawrth, 1854. Yr oedd y Parch. Robert Evans, Llanidloes, yma yn pregethu rywbryd yn Gorphenaf, pan oedd y casglwyr yn dyfod a'r cyfrif i fewn, a gwelwyd fod 20p. yn aros o ddyled. Diolchodd Mr. Evans i'r gynulleidfa am ei haelfrydedd, a dywedodd ei fod ef yn myned i ben isaf y sir, a bod ganddo un cais iddynt erbyn y daethai yn ei ol. Ni ddywedodd beth oedd nes cael addewid bendant y gwnaethent y cais. Yna dywedodd, "Dyma y cais, bod i chwi gasglu yr 20p. yna erbyn y deuaf yn fy ol yma, i ni gael yr achos fel y gadawodd Mab Duw ben Calfaria wedi dweyd Gorphenwyd 'Nawr dim heb dalu, rhoddwyd lawn, nes clirio llyfrau'r nef yn llawn.'" Addawyd y gwnaem ein goreu. "Wel, chwi lwyddwch," meddai yntau. A llwyddwyd i gasglu yr 20p., a 5p. dros ben, fel y teimlai pawb yn llawen.

Gyda hyn dechreuodd y cyfeillion crefyddol yn Blaenycwm fyned yn aflonydd eisiau cael ysgoldy, gan eu bod yn cadw Ysgol Sabbothol yno o dŷ i dŷ er's dros ugain mlynedd. Wrth siarad am ysgoldy aeth yn gapel, a rhaid oedd cael eglwys ynddo ar ei phen el hun. Adeiladwyd capel 9 llath wrth 7 o fewn i'r muriau, am y draul o 160p. Llwyddwyd i gasglu digon at hwn eto hyd at 20p., y rhai sydd yn aros hyd heddyw. Agorwyd ef Hydref 1, 1856, pan y pregethodd y Parchn. Edward Jones, Aberystwyth; Thomas Edwards, Penllwyn; Daniel Jones, Rhaiadr, a Lewis Davies, Llanwrtyd, y rhai sydd oll wedi meirw. Yr oedd gwedd lewyrchus ar yr achos yma pan gychwynodd. Dewiswyd pedwar yn flaenoriaid, sef Mri. Moses James, Esgairwen; Thomas Davies, Blaencwm; Benjamin Jonathan, Tymawr, a William Howells, yr Arddlas. Bu y tri olaf farw yn ystod yr un dwy flynedd, a Moses James heb fod yn faith ar eu hol. Collodd y fechan lawer o frodyr a chwiorydd eraill hefyd o fewn ychydig flynyddoedd i'w gilydd. Cafodd yr eglwys adfywiad grymus yn 1858 a 1859, pryd y cipiwyd rhai cymeriadau rhyfedd o'r gyneuedig dân. Wedi marw y brodyr uchod, dewiswyd Mr. Richard Howells, Cwmdu, yn flaenor. Ond byr fu ei ddyddiau yntau i wasanaethu ei swydd. Yna dewiswyd Mri. John Howells, Dolbwle, a John B. Morgans, Penybryn, yn flaenoriaid.

Nodaf yma un engraifft mewn cysylltiad â'r cynllun doeth o gadw mis, i ofalu am y pregethwyr. Y cynllun o'r dechreuad yw cymeryd cynifer o ewyllysgaryddion at hyny ag a geid, ac yr oedd y rhai hyny yn lliaws, a hyny dan amgylchiadau pur anffafriol yn fynych. Mewn ffermdy o'r enw Dolyrychcefnog, yr oedd un o'r enw John Jenkins, yn byw, sef taid y diweddar Barch. Joseph Jenkins, Ph.D., Llanfairmuallt. Adnabyddid ef a'i briod mewn siarad cyffredin dan yr enwau Jack Shencyn a Bety. Yr oedd y ddau yn grefyddol iawn, ac yn llawn teimlad caredig at yr achos. Darfu iddynt fagu amryw o blant, a hyny pan yn gyfyng arnynt yn aml. Ar y pryd yr oeddynt i gadw mis, nid oedd ganddynt unwaith ond un fuwch, ac yntau fel miner wedi bod yn anffodus er's talm o amser, fel nad oedd ganddynt ddim i brynu y pethau angenrheidiol at y mis. Yr oeddynt yn bryderus iawn, a methasant gysgu un noswaith drwy y nos wrth feddwl beth a wnaent. Ar ol codi boreu dranoeth, beth welsant ond yr unig fuwch oedd ganddynt wedi treiglo dros graig beryglus oedd yn ymyl, ac wedi trengú yn y fan. Aeth y gwr a'r croen i Lanidloes i'w werthu, a phrynodd ei werth o'r pethau angenrheidiol at gadw y mis. Agorodd ffawd drysorau y mynydd iddo, fel yr oedd ganddo, gyda chynal teulu a chadw mis, ddigon wedi enill i brynu tair neu bedair o wartheg blithion cyn pen tri mis. Ffaith arall mewn cysylltiad â'r un teulu yw y ganlynol:-Ryw dro, pan oedd Jack a Bety yn cadw mis, digwyddodd i gyhoeddiad Mr. Richards, Tregaron, fod yn y Cwm, pan oedd ar ei ffordd i Rhaiadr, lle y byddai arferol o fyned. Nid oedd modd na chyfleusdra i gael darpariaeth briodol iddo dranoeth i ginio. Yr oedd gofid bron llethu Bety. Ond rhyfedd yw cariad am ddyfeisio. Dywedodd wrth Thomas, tad y Parch. J. Jenkins, ei mab hynaf, yr hwn oedd yn arfer bod yn ffodus am bysgota, am iddo dreio dal ychydig bysgod, gan obeithio y byddent yn boddloni Mr. Richards. Aeth yn y fan at lyn y Fyrdden, lle yr arferai ddal. Ond y tro hwn nid oedd un pysgodyn yn gwneyd attempt at yr abwyd o gwbl. Gorfu arno ymadael heb ddal yr un. Wylodd yn hidl wrth feddwl am deimlad ei fam, ac yntau ei hun yn meddwl y llwyddai yn awr yn anad un amser, gan fod ganddo y fath amcan. Ond wedi dyfod ryw gan' llath oddiwrth y llyn, cododd hwyaden wyllt o'i flaen, a gollyngodd yntau y line bysgota yn ei hyd ar ei hol, a rywfodd aeth am wddf y creadur fel y daliodd hi, er ei fawr lawenydd. Darparwyd hi i giniaw, a dywedai Mr. Richards na chafodd erioed bryd mwy blasus.

Ond i ddychwelyd eto at agwedd ysbrydol yr achos ar ol diwygiad 1850-1851. Profwyd nad oedd yr had oll wedi cael tir da, canys gwrthgiliodd rhai o'r llanciau trwy gellwair âg arferion sydd yn cwympo cedyrn. Yr oedd yr eglwys hefyd wedi gwrthgilio, fel erbyn 1855, ychydig fyddai yn cyrchu i'r moddion wythnosol. Ond nid oedd y gelyn yn hepian, gan fod annuwioldeb ar gynydd dirfawr. Cofus gan yr ysgrifenydd ei fod yn myned adref o gyfarfod gweddi, yn yr hwn nid oedd ond ychydig ynghyd. Ymddiddanai Mri. John Morgans, Ty'nrhyd; John Davies, Cnwcybarcut; a minau, ynghylch iselder crefydd ac annuwioldeb y gymydogaeth, ac nad oedd a wnai y tro heb gael yr Ysbryd i weithio, fod Iesu Grist wedi dweyd "Os mi a af mi a'i hanfonaf ef atoch." "Os cydsynia dau o honoch am ddim oll efe a wneir i chwi." Yr oedd yr ymddiddan yn hyfryd, a braidd na ddywedwn fod yr hyn a deimlwyd ar y ffordd i Emmaus yn cael ei deimlo hefyd genym ninau. Methwyd ag ymadael yn hir, a chyn gwneyd hyny, aethom i gyfamod â'n gilydd i geisio yr Arglwydd o ddifrif. Pan gyfarfu y brodyr yr wythnos ganlynol, yr oedd arwyddion fod yr Arglwydd yn eu plith. Ar y pryd daeth Mr. Thomas Probert, a'r Parch. Ebenezer Williams, Sir Frycheiniog, heibio wrth ddyfod o Gymanfa y Gogledd. Cymerodd yr olaf Mal. iii. 16 yn destyn. Yr oedd eneiniad ar y bregeth. Ac wrth fyned ymlaen, disgrifiai yr ymddiddan oedd rhwng pobl Dduw wrth feddwl am ei enw, bron yn y geiriau a arferwyd genym ninau y dyddiau cyn hyny. Yn y diwedd, dywedodd y pregethwr, "Yr wyf yn methu rhoddi fyny, mae yma rywbeth i fod mhobol i.” Darfu i'r bregeth chwanegu yn fawr at ein hyder. Y Sabbath canlynol, pan fethodd rhyw bregethwr ddyfod at ei gyhoeddiad, yr oedd y capel wedi ei orlenwi, a galwyd ar y brawd John Davies, a enwyd o'r blaen, i ddechreu y cyfarfod. Darllenai y benod gan sychu ei ddagrau yn fynych; a phan yn gweddio, hawdd oedd deall ei fod, fel Jacob, yn dweyd, "Ni'th ollyngaf oni'm bendithi." Yr oedd eraill yr un deimlad âg ef, fel y teimlid mor hyderus am ddiwygiad a phe byddem wedi ei gael. Gwelwyd yn fuan fod yr ansawdd grefyddol wedi newid, a bod y lliaws digrefydd dan ddylanwad argyhoeddiad. Nid oedd yn arferiad y pryd hwnw i gyhoeddi cyfarfod eglwysig ar ol yr odfa, na rhoddi anerchiadau, er mwyn enill rhai digrefydd i aros ar ol. Nis gwn a oedd hyn yn fai yn y tadau anwyl. A phriodol crybwyll yn y fan yma, nad oeddynt yn rhyw daer iawn chwaith wrth anog had yr eglwys i ddyfod i gymundeb, heb arwyddion digonol fod trallod am eu pechod yn eu meddianu. Tueddent yn fwy at gael ymweliadau diwygiadol i wneyd y cwbl, a dwysbigo y bobl.

Ond tua Hydref y flwyddyn a nodwyd, sef 1855, yr oedd yr eglwys wedi deffroi, a llawer dan argyhoeddiadau dwysion yn ymofyn am le yn yr eglwys. Cofir am ryw odfa hynod y pryd hwnw, pan oedd y Parch. Robert Roberts, Llangeitho, yma ar foreu Sabbath yn pregethu ar y geiriau, "Yr wyt o fewn ychydig i̇'m henill i fod yn Gristion." Yr oedd y fath nerthoedd gyda'r weinidogaeth, nes yr oedd yr holl gynulleidfa wedi codi ar eu traed heb wybod iddynt eu hunain, a'r dagrau yn llifo dros lu o wynebau, eto heb dori allan i orfoleddu. Bu yr odfa hono yn fendithiol i lawer i'w nerthu i dori y ddadl, fel yr oeddynt yn dyfod i'r eglwys bob wythnos hyd ddiwedd y flwyddyn, a'r flwyddyn ganlynol hefyd. Blynyddoedd llewyrchus a chynyddol iawn o ran hyny fu yr holl flynyddoedd hyd ddiwedd 1857, fel yr oedd rhai yn dyfod i geisio crefydd o hyd, nes yr ychwanegwyd oddeutu 60 at yr eglwys. Araf a dwys oedd nodwedd argyhoeddiad y dychweledigion, fel y gallem gredu eu bod oll wedi bwrw y draul. Maent wedi glynu bron yn ddieithriad hyd heddyw, a rhai wedi gorphen eu gyrfa mewn ffydd. Mae eraill wedi eu gwasgaru i wahanol barthau o'r ddaear, ac yn golofnau fel blaenoriaid, rai o honynt.

Cymhwyso i waith y mae diwygiadau, ac felly y gwnaeth y diwygiad i'r eglwys hon. Yr oedd y gymydogaeth wedi ei gadael heb ysgol ddyddiol er's dros flwyddyn, ac heb un lle cyfleus i'w chynal, gan fod y gwr bonheddig oedd yn yr Hafod wedi nacau yr ysgoldy, lle y cynhelid yr ysgol er's 25 mlynedd. Gan nas gellid dygymod a'r syniad o fod heb ysgol, penderfynwyd codi yr hen gapel cyntaf yn ddigon uchel i roddi llofft arno at gynal yr ysgol; ac addawodd cwmpeini y gwaith y byddai iddynt roddi cynorthwy misol at gynal yr ysgolfeistr. Ymaflwyd yn y gwaith o ddifrif, a gorphenwyd yr adeilad gyda'r draul o 120p. Parhawyd i guro yn araf ar y ddyled hon eto, fel, erbyn 1870, nid oedd ond 10p. ar ol. Cadwyd ysgol yn y lle am tua 10 mlynedd.

Ond i adael yr amgylchiadol. Fe gofia y darllenydd fod y flwyddyn a nodasom, sef 1857, wedi ein dwyn i ymyl y diwygiad mawr cyffredinol, sef diwygiad y Parchn. Humphrey Jones a David Morgans, Ysbytty. Dechreuodd hwnw yn haf 1858, tua Treddol ac Ystumtuen, trwy weinidogaeth y blaenaf a nodwyd, yr hwn oedd weinidog Wesleyaidd.

[Hyd yma y mae Mr. Edwards wedi myned â'r hanes. Clywsom ef yn dweyd iddynt hwy yn y Cwm gael y diwygiad cyn Diwygiad mawr 1859, ac na chawsant hwy gymaint a llawer o eglwysi o'r olaf oblegid hyny. Codwyd y capel hardd sydd yno yn awr tua'r flwyddyn 1870. Mae yno hefyd dŷ capel a vestry room hynod o gyfleus at wasanaeth yr achos, heblaw y fynwent fawr sydd rhwng hyny a'r afon Ystwyth. Mae ar y rhai hyn ryw gymaint o ddyled, ond y mae sefyllfa yr achos yn ddymunol iawn. ]

DOLGELLAU:

Argraffwyd gan E. W. Evans, Smithfield Lane.

Nodiadau

golygu
  1. Cyfrifir yr Efailfach yn gapel, ond na chodwyd ef i fod yn gapel, felly hwn oedd y ty cyntaf a godwyd i fod yn dy addoliad.