Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth/Pregeth VIII
← Pregeth VII | Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth gan John Evans, Abermeurig |
Pregeth IX → |
PREGETH VIII.
DYFROEDD Y CYSEGR.
"Ac efe a'm dug i drachefn i ddrws y tŷ, ac wele ddwfr yn dyfod allan odditan riniog y tŷ tua'r dwyrain," &c. Ezec. xlvii. 1—12.
Un o'r proffwydi a godwyd gan Dduw i'r genedl Iuddewig, pan yn y caethiwed yn Babilon, oedd yr Ezeciel hwn. Yr oedd yn fab i offeiriad, ac wedi derbyn ei addysg fel Lefiad. Cafodd ei anrhydeddu â llawer iawn o weledigaethau arwyddluniol yn ngwlad ei alltudiaeth, ac y maent, gan mwyaf oll, yn dal rhyw berthynas â'r deml, fel y mae y weledigaeth hon. Ac onid oedd hyny yn fantais fawr i roddi argraffiadau dyfnach ar ei feddwl, gan ei fod mor gyfarwydd âg adeiladaeth y deml, ac â threfn ei gwasanaeth? A diau genym fod ei gyfarwyddyd â'r deml, wedi bod yn fantais fawr iddo gymeryd i'w feddwl gynllun a mesurau y deml weledig aethol, y rhoddir ei hanes yn niwedd y llyfr hwn.
Yn y benod hon cawn weledigaeth y dyfroedd sanctaidd, y rhai y mae y proffwyd yn weled yn tarddu o dan riniog y tŷ. Mae dwfr ac afon yn arwyddluniau Beiblaidd am yr iachawdwriaeth sydd yn Nghrist. Mae yma dri pheth yn cael ei gyflwyno i'n sylw : I. TARDDIAD Y DYFROEDD— o dan riniog y tŷ," sef y deml yn Jerusalem, lle preswylfa y gogoniant dwyfol. Nid oes neb mor ynfyd a meddwl y bydd i'r olygfa yma gael ei chyflawni yn llythyrenol byth, ond yn ysbrydol. Crist yw Sylwedd y deml a'r gwasanaeth, ac felly y mae holl ddrychfeddyliau y cysgodau yn cael eu sylweddoli ynddo ef. Mae yn anhawdd peidio gwneyd hyny yma, a dilyn y dyfroedd at y tarddiad, yn yr hen feddyliau tragwyddol o hedd. Yr oedd y dyfroedd yn tarddu o dan yr allor, sef allor yr aberth, a'r allor oedd yn rhoddi rhinwedd iddynt. Daethant i olwg ein daear ni yn yr ymgnawdoliad, a'r dioddefiadau iawnol.
"Hi darddodd o'r nefoedd yn gyson,
Hi ffrydiodd ar Galfari fryn."
Y dyfroedd hyn yw yr "afon bur o ddwfr y bywyd" a welodd Ioan, "tarddu o dan orseddfainc Duw a'r Oen." Yr afon yw afon iachawdwriaeth, sydd i'w gweled yn yr Eglwys Gristionogol trwy yr oesoedd, a rhinwedd yr oll yn dyfod o Grist a'i aberth. Ond diau y gellir ystyried y tarddiad yma hefyd yn ddechreuad pregethu yr efengyl yn Jerusalem, ac oddiyno yn myned allan at y cenhedloedd. "Y gyfraith a ä allan, a gair yr Arglwydd o Jerusalem. Oddiwrthych chwi y seiniodd gair yr Arglwydd," &c.
II. EU CYNYDD.—Mae yma ddisgrifiad prydferth iawn o gynydd y dyfroedd. Rhyw ffrwd fechan fain a welodd Ezeciel gyntaf, yn tarddu o dan riniog y tŷ. Ond y mae y gwr a'r llinyn, yn mesur mil o gyfuddau, ac yn ei dywys trwy y dyfroedd, ac erbyn hyny yr oeddynt hyd y fferau. Mil wedi hyny a'r dyfroedd hyd y gliniau; a mil arall a'r dyfroedd hyd y lwynau. Ond wedi mesur drachefn, yr oedd y dyfroedd yn afon yr hon ni allai y proffwyd fyned trwyddi. "Canys codasai y dyfroedd yn ddyfroedd nofiadwy, yn afon ni ellid myned trwyddi." Mae yr efengyl i lwyddo. Mae hyny wedi ei fwriadu yn y cyngor boreu, wedi ei ragfynegu yn y proffwydoliaethau, a'i bortreadu yn y cysgodau. Gan fod y ffynhonell yn ddihysbydd, mae yn rhaid iddi darddu; ac os tarddu, rhaid gorlenwi a llifo. Yr oedd hyn yn cael ei bortreadu yn brydferth iawn yn y môr tawdd oedd wedi ei osod ar ddeuddeg o ychain, y rhai oedd yn edrych tua phedwar ban y byd. Felly y gareg fechan a welodd Daniel, a dorwyd nid â llaw, a'r hon a dreiglodd ac a faluriodd y delwau, ac a aeth yn fynydd mawr, nes llenwi yr holl ddaear. Felly yr hedyn mwstard a'r surdoes.
O mor fychan a distadl oedd yr olwg ar Gristionogaeth, pan ddechreuodd yr apostolion anllythyrenog bregethu Iesu yn Arglwydd ac yn Grist. Nid oedd y dyfroedd i'w gweled ond yn ffrwd fechan iawn y pryd hwnw. A gellid meddwl y byddai i wres yr erledigaeth danllyd a gododd yr Iuddewon yn ei herbyn, ei sychu i fyny yn fuan, ac y byddai i'r gwrthgloddiau a gododd y Rhufeiniaid atal ei rhediad. Ond rhagddi yr aeth, nes y methodd holl nerth Rhufain baganaidd, mwy nag Iuddewiaeth, ei rhwystro, aeth yn ddyfroedd nofiadwy, y fath nad allai neb fyned trwyddynt.
III. EU HEFFEITHIAU.—Cyfeiriad y dyfroedd oedd tua bro y dwyrain, i'r Môr Marw, yr hwn y mae ei ddyfroedd yn eu natur yn farwol i'r bob creadur, a'i gyffiniau yn difwyno pob prydferthwch. Ond y mae y proffwyd yn gweled y caiff y dyfroedd hyn effaith ryfeddol arno, er cyfnewid ansawdd ei ddyfroedd, a rhoddi bywyd i bob creadur a ddelai yn agos atynt. Rhyw fôr marw yw yr oll o'n byd ni wrth natur. Yn mro a chysgod angau y mae pawb yn gorwedd. Ond wele yr afon bur o ddwfr y bywyd, hen afon iachawdwriaeth gras, yn myned allan o dan orseddfainc Duw a'r Oen, ac yn gwynebu ar fyd o golledigion, a'i rhinwedd yn ddigon effeithiol i roddi bywyd i bawb ddelo i gyffyrddiad â hi. Mae y dyfroedd yn gallu glanhau pob aflendid, ïe, "pe byddai eu pechodau fel ysgarlad, ant cyn wyned a'r eira, pe cochent fel porphor," gan fywyd o 60 mlynedd o bechu, mae gras yn ddigon effeithiol i'w gwneyd fel y gwlan. Gwna gras, nid yn unig roddi bywyd, ond gwna bawb yn iach. Ac oblegid fod y dyfroedd mor iach, bydd ynddynt bysgod lawer; ac oblegid hyny, bydd llawer o bysgodwyr. A bydd i'r pysgodwyr sefyll arni, o Engedi hyd Eneglaim, dau le un o bob tu i'r Môr Marw, yn dangos y bydd pysgodwyr yn sefyll ar hyd y mor i gyd,——" Yr efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy yr holl fyd."
Dywedir hefyd am rinweddau y dyfroedd, y byddant yn effeithiol i ffrwythloni a phrydferthu pa le bynag yr ant,—" Wele ar fin yr afon goed lawer iawn, o'r tu yma ac o'r tu acw. Ac wrth yr afon y cyfyd, ar ei min o'r deutu, bob pren ymborth; ei ddalen ni syrth a'i ffrwyth ni dderfydd yn ei fisoedd y dwg ffrwyth newydd, oherwydd ei ddyfroedd a ddaethant allan o'r cysegr: am hyny —y bydd ei ffrwyth yn ymborth, a'i ddalen yn feddyginiaeth." Nid yn unig bydd cadwedigion lawer iawn yn y lleoedd y bydd y dyfroedd hyn ynddynt, ond bydd y dyfroedd yn dylanwadu ar holl gylchoedd cymdeithas, o'r senedd—dai i lawr i'r cylchoedd iselaf. Gwelir heddyw nad oes sefydliadau dyngarol tebyg i rai ein gwlad ni. Mae yr efengyl yn adferu heddwch a rhyddid. A'r rheswm am y cwbl yw, fod Ysbryd Crist yn myned i bob man lle caffo yr efengyl dderbyniad.