Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth/Tymor Diwylliant
← Tymor Mebyd | Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth gan John Evans, Abermeurig |
Argraffiadau Crefyddol → |
PENOD II.
Tymor Diwylliant.
YN YR YSGOL—YSGOL Y DUC OF NEWCASTLE—YN CHWAREU—CYNYG AR FYNED I LOEGR.
Y CYFNOD nesaf yn fy hanes ydoedd yr adeg i'm rhoddi dan addysg. Nid oedd fy rhieni, mae'n debyg, wrth fy rhoddi mewn ysgol, yn meddwl ond i mi gael digon i fy nghymhwyso i fod yn siopwr fel fy nhad. Yr oedd ef yn gweled gwerth mewn addysg trwy ei amddifadrwydd ef ei hun o hono, fel yr oedd dan angenrheidrwydd i ymddiried llawer mwy nag a ddylasai i eraill o'r herwydd. Ac i'r perwyl hyny, cefais i fy anfon i'r ysgol yn ieuanc iawn, a hyny yn llaw fy chwaer Sarah, yr hon oedd bedair blynedd yn henach na mi. Cefais bob caredigrwydd gan fy meistr, sef Mr. Thomas Jones, yr Arch; oblegid nid oedd neb yn agos mor fychan ac ieuanc a mi yn yr holl ysgol. Ond ni bum ond ychydig amser cyn cael fy hun yn y first class. Yr oeddwn mor fychan mewn cymhariaeth i eraill oedd ynddo, fel yr oeddwn yn destyn sylw a chwerthin iddynt oll. A chredaf fod y meibion a'r merched oedd gymaint arall a mi o ran oedran a maint, yn hollol foddlon i mi fod yno. Oblegid gwn fod ambell un weithiau yn gwneyd mistake mewn darllen, neu sillebu, er mwyn i mi eu correcto, ac felly gael y pleser o fy ngweled yn myned o'u blaen. Ac y mae yn gofus genyf i mi gael fy hun yn first yn y first class ryw ddiwrnod, pan nad oeddwn ond rhyw damaid bychan iawn, nes yr oeddwn yn destyn chwerthin i'r holl ysgol, a fy meistr yn fy nghanmol, nes yr oeddwn yn llawn o falchder. Nis gwn pa un ai oddiar deilyngdod ai er difyrwch y bu hyny. Ond gwn hyn, mai o deilyngdod y bu hyny byth wedi hyny, neu i mi fod hebddo o gwbl. Ac yr wyf yn meddwl byth fod cael y lle blaenaf felly pan yn fychan, wedi bod yn foddion i gadw fy llygad ar y safle hono trwy holl adeg fy ysgolheigdod; a gallaf ddweyd na fethais fawr yn hyny. Nid oeddwn yn foddlon i fod yn third nac yn second, a thrwy ymdrech a dyfalbarhad, ni bu raid i mi fod. Un peth i rwystro cynydd mewn dysg y pryd hwnw oedd, na byddai yr ysgol yn cael ei chadw ond am ddau chwarter yn y gauaf.
Pan gyfodwyd ysgol gan Sais o Kent, o'r enw William Fowl, yn y gymydogaeth, drwy appwyntiad y Duke of Newcastle, cefais beth mantais i gynyddu mewn addysg, erbyn fy mod o 12eg i 14eg oed. Ond nid oedd yr ysgol hon ond un digon cyffredin wrth yr hyn a ddylasai fod. Yr oedd hefyd yn hynod o Eglwysyddol. Yr oedd yn rhaid myned trwy ffurf o weddiau foreu a hwyr, a dysgu llawer iawn o gatecismau. Treulid llawer o amser yr ysgol i ddysgu ac adrodd y rhai hyny. A'r peth oedd fwyaf gwrthwynebol o bob peth i mi, oedd yr orfodaeth i fyned i eglwys y plwyf ar y Sabbath; a phwy bynag a esgeulusai fyned yno, pa un bynag ai gwlyb ai sych, oer neu deg, fyddai y tywydd, byddai yn sicr o gael ei alw i gyfrif a'i gosbi. Ac ni chosbid am unrhyw drosedd mor greulon ag am beidio myned i'r eglwys ar y Sabbath. Bum bron a cholli dagrau lawer gwaith oherwydd y gorthrwm anynol hwn, ond rhaid oedd iddo fod.
Wedi i mi ddyfod i deimlo awydd i ddysgu o ddifrif, yr oedd yn rhaid fy nghadw gartref yn misoedd y gwanwyn a'r haf, i edrych ar ol y defaid a'r wyn bach, a'u settlo ar y mynydd. Parai eiddigedd mawr ynof weled fy nghyfoedion, gan mwyaf, yn cael bod yn yr ysgol trwy y flwyddyn, a minau yn gorfod bod ar y mynydd. Ond yr oedd fy eiddigedd yn gymaint, fel nad arbedwn ddim llafur nes dyfod i fyny â'r penaf o honynt erbyn canol y gauaf. Mae arnaf ofid wrth edrych yn ol ar yr amser hwnw, a gweled mor ychydig o home lessons a roddid i mi, ac felly fethu cyrhaedd tir uwch o lawer mewn dysg. Yr oedd fy awydd am chwareu hefyd yn fawr, ac am ragori yn hyny; ac o bob chwareu, cicio y bel droed. oedd a mwyaf o swyn ynddo i mi. A chymaint oedd fy egni gyda hyn fel yr aethum yn ddiareb yn y gymydogaeth o'i blegid. Ac odid fawr, pan y byddid yn tynu match, na chawn fy ngalw yn un o'r rhai cyntaf, hyd yn nod pan y byddai rhai llawer mwy eu maint a hynach na mi yn bresenol. A pharai yr ystyriaeth yna i mi fod yn egniol dros fy ochr, ac anaml y byddai fy ochr yn colli, fel yr ystyriai fy nghyfeillion fod ffawd yn fy ffafr. Maddeuer i mi am. gofnodi pethau plentynaidd fel yma.
Pan o 14eg i 15eg oed, nis gallai fy rhieni fforddio rhoddi ychwaneg o ysgol i mi, oherwydd fod eu hamgylchiadau yn cymylu yn gyflym, ac felly gorfu i mi roddi fyny. Yn y cyfamser, cof genyf fod cymydog hynaws i ni yn dyfod at fy nhad, ac yn cynyg benthyg arian iddo, i mi gael myned i ysgol yn Lloegr. Mr. Thomas, Pentre Brunant, oedd y person caredig gynygiodd yr arian a hyny heb eu ceisio. Bu fy rhieni a minau yn petruso yn fawr beth i wneyd o'r cynyg, ond yr oedd yn anhawdd iawn iddynt hwy fy hebgor, a theimlwn inau yn hwyrfrydig iawn i dderbyn y cynyg, oblegid y rhesymau canlynol:—Yr oeddwn yn teimlo cryn an wyldeb at grefydd ar y pryd, ac hefyd at y Methodistiaid, ac yn penderfynu ceisio duwioldeb rywbryd ; ac ofnwn yn fawr os awn i rywle i Loegr, na byddwn yn debyg o gael crefydd dda. Yr oedd lle neillduedig fel Cwmystwyth wedi bod yn anfanteisiol iawn i mi, fel llawer eraill a anwyd ag a fagwyd yno, i wybod nemawr am y byd o amgylch, yn ei arferion na'i grefydd. Nid oedd ynddo ond dau enwad crefyddol, sef y Methodistiaid ac Eglwys Loegr; ac yr oeddwn bron wedi myned i synied nad oedd dim crefydd dda ond gan y cyntaf. Yr oeddwn wedi cael lle i feddwl felly oblegid y gwahaniaeth mawr oedd y pryd hwnw rhwng y ddwy blaid. Am y rhai oedd yn grefyddol o'r Methodistiaid, yr oeddynt i gyd yn cymeryd crefydd i fyny yn ei holl ddyledswyddau; a bron i gyd yn gyfryw ag yr oedd arnaf ofn dweyd na gwneyd dim anweddus yn eu presenoldeb. Edrychwn arnynt oll fel angylion, yn enwedig eu pregethwyr. Ond am gynifer ag a adwaenwn o aelodau Eglwys Loegr, nid oeddynt yn gofyn bendith ar eu bwyd, nac yn cadw dyledswydd deuluaidd; ond gan mwyaf yn arfer iaith anweddus. Modd bynag, nid oeddynt ond ychydig o nifer. Ac am Ygol Sabbothol, cyfarfod gweddi, a seiat, nid oeddynt wedi cael bodolaeth yn eu plith yr amser hwnw. Yr oedd y gwahaniaeth dirfawr yna wedi cael argraff ddofn ar fy meddwl ieuanc, fel y credwn na byddai cystal cyfleusdra i mi am dduwioldeb, os awn oddicartref i un o drefi mawrion Lloegr. Rhyfedd mor blentynaidd oeddwn; ond barned pawb fel y mynont. Modd bynag, hyny yn benaf a barodd i mi aros gartref gyda fy rhieni, i ymladd å ffawd ac anffawd fel y deuent, a bod heb ychwaneg o ysgol.