Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth/Y Diwedd

Fel Gweinidog Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth

gan John Evans, Abermeurig

Serchgoffa ac Englyn

PENOD V.

Y Diwedd.

EI GYSTUDD—LLYTHYR—EI BROFIAD—RHAGFYNEGIADAU—YN MARW—EI FEDDROD—EI DEULU A'I BERTHYNAS.

Bu am amser maith yn gystuddiol, gan wanhau yn raddol hyd yr ymddatodiad. Gan fod y dioddefiadau yn ysgeifn, cafodd hamdden i ysgrifenu y Cofiant a Hanes Crefydd yn Cwmystwyth. Darfu i ni ysgrifenu ato am hyn, ond ni ddarfu iddo ein hysbysu ei fod yn gwneyd yr oll. Beth bynag, ysgrifenodd y llythyr caulynol atom ar y pryd :

Fron, Cwmystwyth
Tachwedd 5ed 1886

F' Anwyl Gyfaill—

Daeth eich llythyr caredig o gydymdeimlad â mi yn fy nghystudd i law yr wythnos o'r blaen, a dymunaf ddychwelyd fy niolchgarwch diffuant i chwi am dano. Oblegid gallaf ddweyd ei fod wedi lloni fy meddwl yn fawr, mewn gair, mae wedi bod yn foddion gras i mi, wrth ei ddarllen eilwaith ac eilwaith drosodd. Yr ydych wedi cyffwrdd ynddo â llawer iawn o danau fy nghalon a'm profiad. Fel y dywedasoch, bum yn y blynyddoedd diweddaf, braidd y cawn hamdden i feddwl am fy achos personol, gan amrywiaeth amgylchiadau, llafur i gael tipyn i ddweyd wrth eraill, yr amryw gyfarfodydd wythnosol yr oedd y pwys o'u cadw yn ddyddorol yn disgyn arnaf fi mewn rhan fawr ; ac, fel rheol, y teithiau Sabbothol pell o le mor anghysbell, ynghyd a llawer o ofal a llafur, fel y gwyddoch trwy brofiad, gydag amgylchiadau allanol crefydd. Mae yr hyn a ddywedasoch yn peri i mi frawychu weithiau, rhag fy mod yn anghofio fy achos fy hun yn nghanol man ddyledswyddau; er, trwy drugaredd, byddaf weithiau yn cael golwg arnaf fy hun hefyd.

"Ond wele fi er's deunaw mis bellach wedi fy ngosod mewn sefyllfa o seibiant oddiwrth yr helyntion a nodwyd i raddau mawr. Nis gall fy natur ddal i roddi i chwi fraslun o'm profiad yn y cystudd presenol. Mae llawer o bryder, ofnau ac amheuon pwysig, wedi myned drosof yn y cyfnod hwn. Ond gallaf ddweyd fod rhyw ddisgleirdeb, fel yr Urim a'r Thummim, wedi disgyn ar ryw adnodau yn yr hen Feibl, nes gyru pob ofn ac amheuaeth ymaith. Trwy ryw ymosodiad o eiddo anghrediniaeth yn y ffurf o amheuaeth, digalonais yn fawr, ond cefais nerth i orchfygu yr oll trwy ddarllen llythyrau Paul a hanes ei dröedigaeth. Bum yn aros uwchben y ffaith o adgyfodiad Crist, a gwelais wirionedd a chadernid y grefydd Gristionogol, nes mwynhau cysur cryf. O, fy nghyfaill, yr wyf wedi cael ambell i olwg ar gadernid y drefn, a'i chymhwysder i gyfarfod ein trueni, nes codi awydd arnaf i ddiolch, a graddau o hiraeth am gael cyfleusdra i ddweyd tipyn am dani wrth y cynulleidfaoedd. Oes, mae arnaf hiraeth am gael gweled y frawdoliaeth yr arferwn ymweled â hwynt, er ei bod yn bur debyg na chaf. Ar yr un pryd, mae arnaf rwymau i ddiolch ei bod hi arnaf fel y mae yn un peth, fy mod yn cael fy nghystuddio mor dyner, ac hefyd am y nerth wyf yn gael hyd yn hyn i ddioddef heb rwgnach, mewn ymostyngiad i ewyllys ein Tad nefol, er fod fy ewyllys fach i dipyn yn wahanol. Mae cofio am yr Hwn a ddywedodd uwchben y cwpan erchyll Dy ewyllys di a wneler,' yn nerth i mi dawelu i'r cwpan bach hwn. Yr oeddych yn awgrymu i mi y dymunoldeb o gofnodi rhyw ffeithiau hynod mewn cysylltiad â hanes Methodistiaeth yn Cwmystwyth. Ymgymerais y gauaf diweddaf â hyny, ac ysgrifenais ymlaen hyd adeiladu y capel presenol, pan y gorfu i mi adael gan wendid, gan obeithio y cawn ychydig adnewyddiad nerth i orphen. Rhaid i mi beidio bellach, mae natur a gofod yn cyd ddarfod. Gweddiwch drosof, am i mi gael nerth yn ol y dydd. Gyda chofion cynhesaf atoch chwi a'r teulu,

"Yr eiddoch yn ddiffuant,

"THOS. EDWARDS."

Dywedai wrth un o'r brodyr oedd yn ymweled ag ef yn ei gystudd: "Bum wrth wely marw llawer Cristion, a dywedent fod blychau yr addewidion yn tori yn braf; nid oeddwn yn eu deall y pryd hwnw yn dda; ond y mae yn dda genyf ddweyd yr un peth am danaf fy hun, a byddai yn dda genyf pe buasent yn rhoddi ychydig yn llai i mi yr wythnos ddiweddaf yma, mae y mwynhad yn llawn mwy nag y medraf ei ddal." Un arall a ddywed am dano: "Yn ei gystudd olaf, yr oedd holl goncern yr achos yn cael ei sylw, a llanw ystadegau yr eglwys oedd gyda'r gwaith olaf a wnaeth. Ac fel yr oedd ei ofal yn fawr am had yr eglwys trwy ei oes, dywedai yn ei gystudd fod 'swn tyrfa o had yr eglwys yn dyfod i gymundeb.' Yr oedd hyn yr wythnos olaf y bu fyw, a dywedodd ef lawer gwaith. Ac y mae yn rhyfedd meddwl, yr ail Sabbath ar ol ei gladdu, yr oedd rhes faith o had yr eglwys yn cofio angau y groes am y tro cyntaf. Mae hyn yn dangos ei fod wedi myned ag enwau y plant ar ei galon at Dduw lawer gwaith, ac i'w Dad nefol ei fendithio â rhyw ymwybyddiaeth sicr fod y pethau a ofynai yn cael eu caniatau.

Nid dyna y tro cyntaf i bethau rhyfedd gymeryd lle mewn canlyniad i'w weddiau ef. Mr. William Howells, blaenor yn y Cwm, a glywodd y dyn ei hun yn adrodd yr hanes canlynol, a bu Mr. Oliver mor garedig a'i anfon i ninau :—“ Yn llanc ieuanc, aeth un William Moses, o Cwmystwyth, i weithiau Morganwg, lle y lletyai gyda gwraig grefyddol o'r un lle ag yntau, yr hon a ymddygai ato fel mam, gan ei gynghori, a gweddio drosto yn gyhoeddus yn y weddi deuluaidd. Cymhellai ef yn daer i roddi ei hunan i Grist, a gwneyd proffes o hono. Ond cyn gwneyd hyny, daeth y diafol i gyfryngu. Amser diwygiad 1859 ydoedd ar y pryd, a chlywai y bachgen y gair diwygiad yn fynych, ond ni wyddai beth ydoedd. Ryw nos Sabbath, wrth gerdded o'r capel yn nghwmni rhai oedd yn canmol y diwygiad, digwyddodd fod gwraig elynol i'r diwygiad yn y cwmni, ac er mwyn dangos nad oedd dim sylwedd ynddo, gofynodd, 'A fuoch chwi yn nghyfarfod gweddi y bobl ieuainc boreu heddyw, ac a glywsoch chwi hwn a hwn yn gweddio? Nid oedd yn ei weddi fwy na llon'd pibell.' Aeth yr ymadrodd yn ddwfn i feddwl y bachgen; a phan yn meddwl am ymuno a'r eglwys, yr oedd yr ymadrodd 'Nid oedd yn ei weddi fwy na llon'd pibell' yn dyfod i'w feddwl yn y fan, gan ei rwystro i gyflawni ei fwriad. Ymfudodd i America, a bu yno yn ddifater am ei enaid, gan lwyr ymroddi i'r byd a'i amgylchiadau. Ryw ddiwrnod, yn ddisymwth fel fflachiad mellten, deffrowyd ei gydwybod, nes ei wneyd yn hollol anesmwyth am ei gyflwr. Ond, pan yn meddwl dyfod at grefydd, daeth hen air bustlaidd y wraig 'w feddwl o newydd, 'Nid oedd yn ei weddi fwy na llon'd pibell,' nes ei rwystro eto i gario allan argyhoeddiad ei gydwybod. Beth bynag, yr oedd y dyn yn methu deall y paham a'r pa fodd yr aflonyddwyd ar ei feddwl am grefydd, a hyny mor ddisymwth. Ymhen ysbaid o amser ar ol hyny, daeth yn ol i Gymru, ac i'w hen ardal. Yr oedd ei fam wedi marw pan oedd ef yn America. A pan oedd ei dad yn adrodd yr hanes wrtho am gladdedigaeth ei fam, dywedai, 'Wrth godi dy fam, gweddiodd Mr. Edwards yn ddwysa difrifol iawn drosot ti oedd ymhell o gartref.' 'Beth,' meddai y bachgen, 'pa ddydd oedd hyny, a pa adeg ar y dydd.' Ar ol cymharu, cafwyd allan mai yr adeg yr oedd Mr. Edwards yn gweddio yn y Cwm, yr aflonyddwyd ar ei feddwl ef yn America. Mae y person yn awr yn fyw, ac yn aelod gyda'r Wesleyaid mewn cymydogaeth arall."

Mae yn bosibl y bydd rhai yn ameu yr hanes uchod gyda golwg ar ddylanwad gweddi. Os credwn holl-bresenoldeb Gwrandawr gweddi, ni fydd yn anhawdd credu gwirionedd hanes fel hwn a'r cyffelyb. Yr ydym wedi ei roddi i fewn oblegid y cyflawnder o addysgiadau sydd ynddo. Cafodd Mr. Edwards hefyd fyned i fewn i gyfrinach Duw gyda golwg ar adeg ei farwolaeth. Nos Sadwrn cyn ei farwolaeth, dywedodd wrth un o aelodau yr eglwys y byddai y tren yn ei gyrchu adref dranoeth am bump o'r gloch, ac am bump boreu Sabbath yr ymadawodd, sef y 27ain o Chwefror, 1887, pan yn 62ain oed. Pwy all ddweyd na chafodd y gwr da hwn fynediad helaeth i mewn i'r dragwyddol deyrnas ? Cafodd ei gladdu y dydd Gwener canlynol, yn y fynwent newydd ar bwys y capel, mor anrhydeddus a thywysog. Dywedai y Parch. T. C. Edwards, D.D., wrth ei roddi yn y bedd, "Ychydig o Mr. Edwards sydd yn yr arch yma, ond y mae yr ychydig yna yn gysegredig, ac yn awr yr ydym yn cysegru y fynwent hon â gwir ' halen y ddaear,' ac ni bydd iddi byth fyned ar dân, hyd nes yr adgyfodir y gyfran gysegredig o'r brawd anwyl sydd yn cael ei roddi i orwedd yma."

Efe yw yr hedyn cyntaf, a diweddaf hefyd hyd yn hyn, sydd wedi ei gladdu yn y fynwent newydd, erbyn y cynhauaf mawr. Gwelir ei feddfaen, a railing hardd o'i amgylch, o dan y capel newydd, a diameu genym y gwna llawer o ddieithriaid ymofyn am dano ac edrych arno. Mae teulu Mr. Edwards, sydd yn fyw, fel y canlyn:-Mrs. Edwards, a dwy o'r merched yn y Fron, sef Sarah Anne, y drydedd ferch, awdures y Serch-goffa, yr hon sydd o feddwl galluog, ac yn gadarn yn yr Ysgrythyrau. Mae awydd mawr yn hon i fyned allan yn genhades, ond oblegid rhyw amgylchiadau yn methu cael ei hamcan hyd yn hyn. Mae Margaret Jane hefyd gartref ar hyn o bryd, ac wedi dysgu y gelfyddyd o milliner. Mae y ferch hynaf, Mary, yn briod â Mr. John Jones, B.Sc., ysgolfeistr yn Gaerwen, Sir Fon, a phregethwr cymeradwy gyda'r Methodistiaid. Mae yr ail ferch, Lizzie, yn ysgolfeistres yn Alltwallis, Sir Gaerfyrddin. Mae Mr. Michael Edwards, C.M., yr unig fab sydd yn fyw, yn cadw ysgol yn New Inn, Pencader, yn agos i'w chwaer, ac yn ddyn ieuanc galluog, a defnyddiol iawn gyda chrefydd. Dyna yr oll o'r teulu sydd wedi eu gadael, a gellir dweyd am danynt eu bod oll yn ofni Duw, ac yn cilio oddiwrth ddrwg.

Mae amryw bregethwyr yn berthynasau i Mr. Edwards. Yr oedd y diweddar Barch. Joseph Jenkins, Ph.D., Builth, yn eu plith; y Parch. John Thomas, Rhydfelin, a Mr. Lewis Thomas ei frawd, yr hwn a fu farw yn ddyn ieuanc gobeithiol; Parch. Michael Williams, Blaenplwyf; Parch. T. Briwnant Evans, Llaugurig; Parchn. Thomas Morgan, Neyland, a D. Morgan, ei frawd, ficer, Treforris; Parch. John Morgan, Abercynffig; Parch. Thomas Jones, America; Parch. Joseph Jenkins, Caerphilly; Parch. T. M. Jones, Ysbytty, a Mr. John Thickens, Pentre Rhondda, sydd yn awr yn Nhrefecca. Daethant allan i gyd o Gwmystwyth, fel o ysgol enwog o broffwydi.

Nodiadau

golygu