Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth/Y Gwaith Gafodd Wneyd
← Ei Helyntion fel Crefyddw | Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth gan John Evans, Abermeurig |
Sylw ar yr Hunangofiant → |
PENOD VI.
Y gwaith gafodd i'w wneyd.
YN ATHRAW—YN ATHRAW YR ATHRAWON—YN AROLYGWR—YN CYFANSODDI AREITHIAU MEWN CYFARFOD DAUFISOL —DDEWIS YN FLAENOR—EI DYWYDD GYDA GOLWG AR BREGETHU —YN MYNED TRWY Y DOSBARTH—YN DECHREU PREGETHU.
CEFAIS fy adferu i'r swydd o athraw yn uniongyrchol wedi fy nerbyn yn aelod eglwysig. Ac helaw hyny, heb fod yn faith, dechreuodd y brodyr roddi gwaith i mi gyda'r peth hyn a'r peth arall, ac yr oedd arnaf ofn dangos yr anufudd-dod lleiaf i wneyd yr hyn a allwn. Pan oeddwn tua 23ain oed, gosodasant fi yn athraw ar y dosbarth o athrawon cynorthwyol. Dyma pa bryd y teimlais yr anhawsdra lleiaf i ufuddhau iddynt, a hyny yn benaf oherwydd fy mod yn ieuanc, a'r nifer fwyaf yn y dosbarth yn ddigon hen o dadau i mi. A gallaf ddweyd fy mod, oblegid hyny, a phethau pwysig eraill, wedi gorfod teimlo fy hun yn annheilwng i'w cynghori, a gwasgu addysgiadau atynt oddiwrth y gwirioneddau dwyfol dan sylw. Nid oedd bod yn athraw yn faich arnaf, gan y teimlwn hyfrydwch mawr bob amser yn holl waith yr Ysgol Sabbothol; ond yr oedd ymgymeryd a bod yn athraw i athrawon yn ormod genyf. Yr oeddwn yn methu ymwadu a mi fy hun i wneyd yr hyn a ddylaswn, ac yn teimlo cyhuddiadau cydwybod yn fynych, fel na allwn dori trwodd atynt o ddifrif. Teimlwn fod fy mrodyr wedi gwneyd camgymeriad wrth fy ngosod yn y fath le mor ieuanc. Buasai yn well genyf gael dosbarth yn iau na mi, fel y gallaswn fod yn rhydd oddiwrth y cadwynau uchod, i wasgu addysg at eu meddyliau.
Wedi bod am ryw ddwy flynedd yn y lle a nodwyd, syrthiodd y coelbren arnaf i fod yn gyd—arolygwr â Mr. Thomas Jenkins, Pencnwc; a buom yn cydweithio yn y swydd hono am bump neu chwe blynedd. Cefais bleser mawr wrth weithio gyda y rhan hon o waith yr Arglwydd, yn enwedig gan fy mod yn gweithio megis dan aden y fath henafgwr a T. Jenkins. Ac yr oedd yma ar y pryd staff o athrawon cyfrifol a gweithgar, y rhai na byddent nemawr byth yn esgeuluso yr ysgol. Yr oedd y capel, hefyd, yn orlawn o aelodau bob Sabbath bron yn ddieithriad. Darfu i'r brodyr, yn y cyfnod hwn, fod yn dra haelionus i bentyru gwaith arnaf, trwy fy ngosod i gyfansoddi areithiau ar gyfer y Cyfarfodydd Daufisol, a myned yno yn fynych i'w traddodi. Diolch a ddylwn am hyn, gan i'r fath feichiau, ar ol eu dwyn, chwanegu fy nerth.
Ond nis gallaf anghofio y brofedigaeth a gefais unwaith oddiwith nifer mawr o'r brodyr blaenaf. Yr oeddwn wedi llafurio yn fawr i wneyd araeth ar "Y pethau anghenrheidiol i adnewyddu yr Ysgol Sabbothol;" ond wedi i mi ei hadrodd mewn cyfarfod athrawon, y Sabbath o flaen y Cyfarfod Daufisol, yn ol yr arferiad ar y pryd, ni chafodd yr araeth yr un gymeradwyaeth ganddynt Pan ddaeth y Cyfarfod Daufisol, yr oedd areithiau wedi dyfod o bob lle yn y dosbarth, ac areithiau rhagorol oeddynt. Ond gadawyd areithiau Cwmystwyth a'r Trisant heb eu hadrodd, hyd gyfarfod cyhoeddus dau o'r gloch. A phasiwyd penderfyniad, bod i ddwy araeth felly gael eu cadw ar gyfer y cyfarfod cyhoeddus yn y Cyfarfodydd Daufisol yn y dyfodol. Gwasgodd hyn yn drwm ar fy meddwl, gan nad oeddwn wedi dyfalu am ei hadrodd yn gyhoeddus felly. Wedi myned allan o gyfarfod y boreu, ceisiais am ryw le cuddiedig i loewi ychydig ar fy meddwl, ac i ddweyd fy nhywydd hefyd wrth fy Nhad nefol. Pan yn dychwelyd at y capel, clywn dri neu bedwar o frodyr yn siarad am y mur â mi, yn lled uchel; a swm eu hymddiddan oedd, fod yn gywilydd ganddynt i fy araeth i gael ei hadrodd yn gyhoeddus, gan nad oedd yn deilwng i'w chymharu ag areithiau y boreu. 'Felly," meddai rhyw frawd oedd heb ei chlywed y Sabbath; "rhai da oedd y rhai a adroddwyd." Gall pawb ddeall fod hyn yn tueddu at fy llwfrhau yn ddirfawr. Modd bynag, pan y'm galwyd, anturiais ddweyd, ac nis gallaf lai na chydnabod i mi dderbyn nerth a goleuni o'r tu allan i mi fy hun. Yr oedd yr Hybarch. Evan Evans, Aberffrwd, yn gwaeddi “Amen,” a "Ho, ho," cyfuwch a minau, a lliaws yn ymddangos fel yn cael mwynhad mawr, rhai mewn dagrau, ac eraill yn llawen. Ac wedi dyfod allan o'r odfa, y peth cyntaf a glywais oedd yr hen frawd W. Morgan, Gwndwngwyn, yn danod i'r brodyr oeddynt wedi barnu fy araeth yn ddiwerth, ac yn dweyd na roddai ef yr un pwys ar eu barn ar ol hyny. Mynent hwythau haeru nad yr araeth a glywsant hwy y Sabbath ydoedd. Os oeddwn yn isel fy meddwl o'r blaen, cefais frwydr galed gyda Satan gwyn ar ol yr odfa. Beth bynag yr oedd y wallet yn gydbwys. Gallaf ddweyd i lawer haf a gauaf fyned dros fy mhen yn y blynyddoedd hyn eto. Rywbryd, pan oeddwn tua 27ain oed, syrthiodd y goelbren arnaf i fod yn flaenor. Gyda gwylder mawr yr ymgymerais â'r swydd hon, yn enwedig gan fod yno gynifer o hen dadau a brodyr eraill, oedd yn fwy addfed o ran oedran a phrofiad i'w chymeryd. Ond oherwydd eu bod wedi dangos mor rhydd oddiwrth eiddigedd tuag ataf, ac yn fwy na hyny, rhoddasant i mi ddeheulaw cymdeithas, nes fy ngwroli i wneyd fy ngoreu yn y cylch hwnw drachefn.
Nid oeddwn yn cael llonydd gan ryw ysfa yn awr a phryd arall ynghylch myned i bregethu. Teimlwn awydd mawr am weled fy nghymydogion yn cael eu hachub. Ond nid oeddwn yn credu y gallai pethau ddyfod byth i hyny, fel ag i mi gael gwneyd lles iddynt trwy bregethu. Wrth weled pwysigrwydd y gwaith, gofynwn yn fynych, "Pwy sydd ddigonol i'r pethau hyn ?" Ac arswydwn rhag i neb ddyfod i feddu yr un syniad am y cymhelliad at hyny oedd yn fy meddwl. Pan yn ymddiddan â mi fy hun ynghylch myned i bregethu, a chadw seiat gydag eglwysi eraill, dywedwn yn y fan, "Na, nid ynganaf air byth am hyny." Modd bynag, dyfnhau yr oedd y peth yn fy meddwl yn barhaus, ac eto yn ymgadw rhag dweyd gair wrth neb am dano. Cymerais y peth yn destyn gweddi feunyddiol, am i mi gael llonydd gan y cyfryw feddwl, ac atolygais lawer dengwaith ar iddo ymadael a mi. Pan oeddwn tua 29ain a 30ain oed, ciliodd fy nghwsg oddiwrthyf oblegid yr anesmwythdra hwn, ac nid oedd heb effeithio peth ar fy iechyd. Gofynai Elisa, fy mhriod, i mi yn fynych beth oedd arnaf, pan oeddwn yn methu cysgu felly; a dywedai bethau rhyfedd weithiau oedd yn dyfod i'w meddwl, er mwyn tynu allan y dirgelwch oddiwrthyf, ond i ddim diben. Ond pan ddeallais fod y peth yn peri blinder mawr iddi, mynegais iddi, ar yr amod na byddai iddi ar un cyfrif hysbysu y gyfrinach i neb. Ond nid yn hir y darfu iddi ymgadw, a blinai fi yn fawr ynghylch rhoddi y mater o flaen y blaenoriaid, yn enwedig o flaen fy hen athraw anwyl, Mr. W. Burrell; ond ni chaniatawn o gwbl. Yr oeddwn ar y pryd yn hynod o druenus fy meddwl, a fy nghwsg wedi llwyr gilio. Nis gallaf anghofio un boreu Sabbath, yn haf 1854, pan oeddwn wedi methu cysgu, ac wedi codi oddeutu tri o'r gloch, pan oedd pawb mewn gorphwysfaoedd. Yr wyf yn cofio bod rhyw olwg brydferth ar natur, a'r haul yn saethu ei belydrau ar y prydferthion. Yr oeddwn wedi darllen rhyw gyfran o'r Beibl cyn myned allan, a mynwn gredu ei fod yn dweyd wrthyf, "Nid oes i ti ran na chyfran yn y gorchwyl hwn." Ymneillduais i ddirgelfa, i dywallt fy holl galon gerbron Duw; a chan mai boreu Sabbath ydoedd, a'i bod mor foreu, nid oedd perygl i mi gael fy aflonyddu gan neb byw. Dechreuais trwy ddiolch bod yr adnodau a nodais wedi dyfod i fy meddwl, gan gredu fod ganddynt lais ataf ynghylch rhoddi fyny y meddwl am fyned yn bregethwr. Ond tra yn tywallt fy myfyrdod ger ei fron Ef yn y fan hono, ymsaethodd gair arall i fy meddwl, sef yr adnod hono, "Am hyny, dos yn awr, a mi a fyddaf gyda'th enau di, ac a ddysgaf i ti yr hyn a ddywedych." Teimlwn erbyn hyn fy mod megis rhwng dau forgyfarfod, ac aeth yn waeth arnaf nag o'r blaen. Ofnwn y byddai i mi ddigio yr Arglwydd trwy nacau. Yr oeddwn tua diwedd 1854 yn gweithio mewn lle peryglus iawn; a rhyw wythnos, pan oeddwn yn gweithio turn nos, braidd y credwn wrth adael fy nghartref yr un noswaith y dychwelwn yn fyw dranoeth. Pan y byddwn mewn rhyw le penodol, wrth fyned, yn ceisio rhoddi fy ngofal i'r Arglwydd, deuai y cymhelliad i bregethu i fy meddwl yn y fan, nes y byddai i mi, fel Jacob, addunedu, os cedwid fi yn fyw ar y daith, y cawsai yr Arglwydd fod yn Dduw i mi, ac ychwanegu gyda golwg ar y pregethu, "Mi af yn wir Arglwydd."
Wedi hyn cymerais y mater mewn ffurf arall o flaen Duw, sef os oedd y cymhelliad oddiwrtho Ef, am iddo ei ddatguddio i eraill, gan feddwl pobl flaenaf yr eglwys. Heb fod yn faith, gwnaeth Mr. W. Lloyd, ysgolfeistr, a phregethwr cynorthwyol gyda'r Wesleyaid, daflu llawer awgrym ataf gyda golwg ar hyny, ac nis gallwn inau wadu nad oedd hyny ar fy meddwl. Pan oeddwn yn myned tua'r ysgol un boreu Sabbath, cyfarfyddais â Mr. John Morgan, Ty'nrhyd, a'r gair cyntaf a ddywedodd wrthyf oedd bod arno eisiau fy ngweled, i adrodd y breuddwyd oedd wedi gael neithiwr. "Gweled yr oeddwn," meddai," "dy fod di a minau wedi cael caniatad i dreio pregethu; ond gorfu i mi ildio wedi methu, ac aethost tithau trwyddi yn rhwydd." Dywedodd lawer o bethau eraill wrthyf: a chyn ein myned at y capel, tarawodd ei law ar fy ysgwydd, a gofynodd, "Pa bryd bellach yr wyt ti yn meddwl dechreu? Mae yn rhaid i ti fyn'd, cofia." Teimlais fy hun yn gwrido, ac ni ellais ateb gair iddo. Yn y cyfamser, yr oedd y diweddar Barch. Robert Roberts, Llangeitho, i fod yma ryw Sabbath, am ddau a chwech o'r gloch. Gan ei bod yn llawn amser arno yn dyfod, ceisiodd gan y blaenoriaid roddi ar rywun i ddechreu y cyfarfod, "Onid oes yma gyda chwi," meddai, "ryw fachgen bach a thuedd ynddo i bregethu ?" Darfu iddynt hwythau geisio gan frawd oedd ar y pryd yn ymgeisydd, ond nad aeth byth i bregethu. "Na, nid dyna yr enw," meddai Mr. Roberts. "Ai Thomas Edwards," gofynent hwythau. "Ië, dyna fe," oedd yr atebiad. Yr oeddwn yn y lle pan ddechreuodd y siarad, ond pan ddeallais i ba le y cyfeiriai Mr. Roberts, dechreuais weithio fy ffordd allan; ond gwaeddodd Mr. David Jones, Llaneithir, arnaf, bod yn rhaid i mi ddechreu y cyfarfod. Pe buaswn heb glywed yr ymddiddan, buaswn yn llawer rhyddach fy meddwl at y gwaith. Yn fuan wedi hyn, daeth y diweddar Barch. W. Davies, Rhymni, heibio ar gyhoeddiad, a chymerodd "Y gweision a'r talentau" yn destyn. Darfn i'w sylwadau fy nghornelu, fel nad oedd genyf yr un lle i gilio, ond rhoddi fy hun i'r brodyr i wneyd yr hyn a geisient genyf, deued arnaf fel y delo yn y canlyniad. Yn fuan daeth Mr. Roberts yma drachefn, a chlywais iddo roddi ychydig o sen i'r blaenoriaid am na fuasent wedi dwyn fy achos ymlaen. Eu hesgusawd oedd, eu bod yn disgwyl am i mi roddi fy achos iddynt. Yr oeddwn ar y pryd wedi pasio 30 oed.
Yr oedd genyf gymydog, Mr. Lewis Oliver, wedi dyfod i ddeall, trwy fy ngwraig, lawer o'r gyfrinach. Mynegodd hwnw y peth i'r blaenor, Mr. David Jones, Llaneithir. Wedi hyny cymerodd y blaenoriaid fy achos i fyny, a rhoddasant ef o flaen y Parch. Edward Hughes, Aberystwyth. Holodd hwnw fi yn y seiat am fy nghymhelliadau i'r gwaith, a gofynodd arwydd o gymeradwyaeth yr eglwys, yr hyn oedd yn unfrydol. Penderfynwyd myned a'r achos i Gyfarfod Misol Awst, 1855, yr hwn oedd i fod yn Rhydlwyd. Rhoddodd Mr. David Jones achos yr ymgeisydd o Gwmystwyth o flaen y frawdoliaeth yn y goleuni goreu. Apeliodd, hefyd, at swyddogion Dosbarth Cynon, y rhai oeddynt yn fy adnabod, ac wedi fy nghlywed yn areithio lawer gwaith yn y Cyfarfodydd Daufisol, a rhoddasant oll eu barn yn fy ffafr. Priodol dweyd yn y fan yma mai yn nechreu y flwyddyn hono y pasiwyd y ddeddf, fod yn rhaid i bob ymgeisydd fyned ar brawf trwy holl eglwysi dosbarth yr Ysgol Sabbothol i ba un y perthynai, a chael hefyd gymeradwyaeth y rhan fwyaf o honynt, cyn y cawsai fyned i bregethu. Gofynodd Mr. D. Jones am fy esgusodi i gael myned trwy y dosbarth; a chymerodd y Parch. Robert Roberts, Llangeitho, ei blaid, gan ddadleu fod hyny yn hollol afreidiol-fy mod yn awr dros 30 oed, fy mod wedi fy ngosod i lanw pob cylch yn eglwys Cwmystwyth, hyd at fyned i'r pulpud, &c. Ond dadleuai y Parch. Edward Jones, Aberystwyth, fod yn rhaid sefyll at y rheol (yr hyn yn ddiau oedd yn iawn), ac felly y pasiodd. Pan welodd yr hen frawd pybur, Mr. D. Jones, y modd y trodd y fantol, rhoddodd rybudd i holl flaenoriaid Dosbarth Cynon i fy ngalw i'w prawf yn ddioed. Yr wythnos ganlynol dyma dri neu bedwar o lythyrau, yn fy ngwahodd i wahanol leoedd y Sabbath canlynol; rhai a materion trymion i mi draethu arnynt, ac eraill heb yr un mater, pwnc i'w holi, na thestyn pregeth. Yr oedd y syniad gan rai mai ar y pryd yr oedd y testyn i gael ei roddi. Llethwyd fi i'r llawr gan yr holl faterion, a minau heb ddim amser i barotoi ar gyfer yr un o honynt. Daeth edifeirwch fel llifeiriant i fy meddwl, am i mi erioed roddi fy hun yn ymgeisydd. Penderfynais nad awn i un o'r lleoedd y Sabbath hwnw. Ond pan ddaeth y Sabbath, a minau gartref, a'r brodyr yn holi o un i un, "Paham yr wyt ti yma heddyw," aethum yn hynod o annedwydd. Wrth fyned adref o odfa y boreu, cenfigenwn wrth yr adar bach, a dywedwn, "O na buaswn yn aderyn, ac nid yn ddyn !" Ond trwy fod y brodyr yn nesau ataf, ac yn fy anog i ymwroli, trefnais i fyned i bob un o'r eglwysi; ac felly aethum trwy y prawf rywfodd mewn ychydig amser. Dangosodd pob lle serchawgrwydd mawr, a buont yn ddigon grasol i gyd i roddi eu cymeradwyaeth i mi. Wedi i'r llythyrau gael eu darllen i'r Cyfarfod Misol, trefnwyd i'r Parch. Edward Jones, Aberystwyth, a Thomas Edwards, Penllwyn, ddyfod i Gwmystwyth i fy holi fel arfer, yr hyn a fu Rhagfyr 18fed, 1855. Cefais gymeradwyaeth yr eglwys a'r ymwelwyr ; ac yn y Cyfarfod Misol dilynol rhoddwyd caniatad i mi ddechreu pregethu o fewn cylch y dosbarth.
Dyna beth anhawdd i'w sylweddoli, oedd fy mod i fyned i bregethu! Ond ar y 23ain o Ionawr, 1856, gosodwyd arnaf i roddi anerchiad mewn ffurf o bregeth am y waith gyntaf. Cymerais yn destyn, Act. iv. 12. Cefais nerth i fyned drwy y gwaith heb dori i lawr. Ac nis gallaf anghofio fel y cydymdeimlai yr holl gynulleidfa â mi, ac mor ffyddlon y bu yr hen frodyr a'r chwiorydd i gynal fy mreichiau gyda'u "Hamenau" gwlithog. Wele 30 o flynyddoedd wedi myned heibio oddiar hyny, ac y mae genyf achos i godi fy Ebenezer-" Hyd yma y cynorthwyodd yr Arglwydd fyfi." Yr oedd newydd-deb y gwaith odgodi pregethwyr yn Cwmystwyth yn peri i'r bobl wneyd mwy drosof. Myfi oedd yr ail ymgeisydd i fyned dan y rheol o basio trwy y dosbarth, ac yr oedd y ddau o'r lle hwn; ond ciliodd y cyntaf heb fyned trwy y prawf o gwbl, ac felly myfi oedd y cyntaf i ddechreu pregethu o'r lle. Nid anmhriodol i mi goffhau y peth a ddywedodd y Parch. E. Jones wrthyf, y noson y bu ef a'i gyfaill yma yn fy arholi. Wrth glywed y brodyr, y naill ar ol y llall, yn rhoddi eu tystiolaeth yn fy ffafr, dywedodd, "Anwyl frawd, os byddwch chwi yn onest dros Dduw yn eich swydd, cewch chwi weled gwedd wahanol i heno ar lawer o wynebau tuag atoch." Ac y mae yn rhaid i mi ddweyd fy mod wedi cael profi gwirionedd ei eiriau lawer gwaith yn ystod fy ngweinidogaeth.
[DIWEDD YR HUNANGOFIANT.]