Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/"Llestri Digofaint" a "Llestri Trugaredd"
← Tristâu yr Ysbryd Glan | Cofiant y diweddar Barch Robert Everett gan David Davies (Dewi Emlyn) |
Swyddogaeth Eglwys Crist → |
"LLESTRI DIGOFAINT" A "LLESTRI TRUGAREDD."
Rhuf. 9: 22—24. "Beth os Duw, yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a pheri adnabod ei allu, a oddefodd trwy hirymaros lestri digofaint wedi eu cymwyso i golledigaeth: Ac i beri gwybod golud ei ogoniant ar lestri trugaredd, y rhai a rag—barotodd efe i ogoniant? Sef nyni y rhai a alwodd efe, nid o'r Iuddewon yn unig, eithr hefyd o'r Cenedloedd."
Y prif bwnc yr ymdrinir ag ef yn y benod hon a'r ddwy ganlynol ydyw Cyfiawnder Duw yn rhoi yr Iuddewon i fyny i farn am eu hanghrediniaeth—a’i anfeidrol drugaredd yn ngalwad y Cenedloedd.
Nid anfuddiol, efallai, fyddai gwneyd rhai sylwadau ar adnodau blaenorol i'r testyn hwn. Pan y dywed yr apostol, adn. 3, "Canys mi a ddymunwn fy mod fy hun yn anathema oddiwrth Grist, dros fy mrodyr, sef fy nghenedl yn ol y cnawd," &c.,—nid y meddwl yw y buasai yn foddlon bod yn ddyn colledig er mwyn ei genedl, oblegid nis gallasai fel Cristion ddymuno y fath beth, ac nis gallasai hyny lesâu dim ar sefyllfa y genedl mewn unrhyw fodd. Ond iaith gref yw y geiriau, yn gosod allan ddymuniad yr apostol, na byddai i'r Iuddewon gymeryd dim tramgwydd oddiwrth ddim rhagfarn allasai fod ynddynt ato ef yn bersonol, i'w hatal rhag dyfod at Grist a'i wasanaeth—ond ar iddynt edrych yn uniongyrchol at Grist ei hun, a'i dderbyn er ei fwyn ei hun. Fel pe dywedasai, Teflwch fi yn hollol o'r neilldu—alltudiwch fi yn hollol oddiwrth bob braint, o ran eich meddyliau a'ch dychymyg, fel pe byddwn i "anathema oddiwrth Grist," ac ymofynwch am sicrhau eich iachawdwriaeth eich hunain trwy gredu ynddo,—ac nid troi ymaith oddiwrtho o herwydd rhyw dramgwydd all fod ynoch tuag ataf fi sydd yn un o'i annheilwng weision.
Adn. 11—13, "Canys cyn geni y plant eto, na gwneuthur o honynt dda na drwg, &c., y dywedwyd, Yr hynaf a wasanaetha yr ieuangaf, megys yr ysgrifenwyd, Jacob a gerais, eithr Esau a gaseais." Nid meddwl y gair hwn yw fod yr Arglwydd wedi caru un o'r plant, a chasâu y llall, cyn eu geni na gwneuthur o honynt dda na drwg, ac mai hyny oedd yr achos o gymeriadau moesol gwahanol y ddwy genedl, ac o’i wahanol ymddygiadau ef tuag atynt. Meddwl felly fyddai meddwl fod Duw yn awdwr drygau y rhai drygionus fel y mae yn awdwr rhinweddau y rhai rhinweddol. Ond nid dyna yw athrawiaeth ei air sanctaidd, mewn un modd. Ond y meddylddrych yn yr adnodau hyn yw, i'r Arglwydd "ddywedyd" neu hysbysu, cyn geni Jacob ac Esau a chyn gwneuthur o honynt dda na drwg, beth a fyddai cymeriad moesol y ddwy genedl a'r modd y byddai iddo yntau ddangos ei ffafrau dwyfol at y naill a'i ddigofaint dwyfol at y llall. Wrth y gair "Jacob a gerais" y meddylir cenedl Jacob, ac wrth y gair, "Esau a gaseais " y meddylir cenedl Esau—nid y plant cyn eu geni. A bwriad yr apostol yn ei gyfeiriad at hyn, oedd egluro i'r Iuddewon, er i'r Arglwydd ddangos ei ffafrau yn rhyfedd at eu tadau yn yr oesoedd blaenorol, eto os troent hwy o lwybrau eu tadau, a cherdded llwybrau hiliogaeth anghrefyddol a drygionus Esau, mai y cyffelyb dynged fyddai yr eiddynt hwy ag eiddo y rhai hyny.
Adn. 18, "Felly gan hyny y neb y myno y mae efe yn trugarhau wrtho, a'r neb y myno y mae efe yn ei galedu." Yr oedd llawer o'r Iuddewon (ac y mae llawer i'w cael eto) yn dra thebyg i Pharaoh, yn ymgaledu yn fwyfwy dan bob triniaeth o eiddo Duw tuag atynt, a'r genedl galed hon yr oedd Duw yn ei rhoi i fyny o herwydd eu hanghrediniaeth i'r farnedigaeth drymaf a ddisgynodd ar genedl erioed. Pan ddywedir i Dduw galedu calon Pharaoh, nid y meddwl yw i'r Arglwydd ddylanwadu ar ei feddwl i'w galedu, na dwyn un oruchwyliaeth arno i'r dyben hwnw; ond mai dyna oedd effaith alarus goruchwyliaethau Duw tuag ato. Dyben y goruchwyliaethau oedd meddalhau ei galon, a pheri iddo ollwng Israel yn rhydd—caledu yr oedd yntau dan bob goruchwyliaeth. Ond paham y dywedir mai Duw a galedodd ei galon? Gellir ateb y gofyniad yna trwy sylwi mai y goruchwyliaethau, y rhai oeddynt ddwyfol a daionus yn eu tuedd eu hunain, a fuont yn achlysuron o'i galedwch. Felly yr oedd y genedl Iuddewig yn nyddiau yr apostol, yn eu caledwch yn erbyn Crist a'i achos; ac felly y mae pob dyn eto sydd yn ymgaledu mewn pechod yr achos o'i galedwch yw ei anghrediniaeth a'i ddrygioni ei hun—ond yr achlysuron o'i galedwch yn fynych ydynt oruchwyliaethau barnol neu waredigol Duw tuag ato.
Pan y dywedir, "Y neb y myno y mae yn trugarhau wrtho, a'r neb y myno y mae yn ei galedu," nid y meddwl yw fod yr Arglwydd yn ymddwyn mewn trawsawdurdod (arbitrarily) tuag at ei greaduriaid, am ei fod yn uwch na phawb ac yn helaethach yn ei allu na phawb; ond y meddwl yw ei fod yn ymddwyn yn ol ei ewyllys sanctaidd ei hun, ac y mae yn gwneyd hyny yn y gweddusrwydd mwyaf, at bob dyn dan bob rhyw amgylchiadau.
Adn. 20, 21, ❝Yn hytrach, O ddyn, pwy wyt ti yr hwn a ddadleui yn erbyn Duw? a ddywed y peth ffurfiedig wrth yr hwn a'i ffurfiodd, Paham y'm gwnaethost fel hyn? Onid oes awdurdod i'r crochenydd ar y priddgist, i wneuthur o'r un telpyn pridd un llestr i barch, ac arall i anmharch?" Nid meddwl y gair hwn ydyw, fod yr Arglwydd wedi gwneuthur o'r un ddynoliaeth rai i fod yn bechadurus ac yn ddamniedig, a rhai i fod yn rhinweddol ac yn gadwedig. Annhraethol bell oddiwrth hynyna yw meddwl y gair. Dweyd felly fyddai dweyd fod Duw yn awdwr pechod, a bod yr holl ddrygau moesol sydd yn y byd, ag y cyhoeddir anfoddlonrwydd Duw yn eu herbyn yn mhob oes, wedi deilliaw oddiwrtho ef. O! na, nid felly y mae y gwirionedd dwyfol yn ein dysgu. Dangos mae yr apostol fod gan Dduw yr un hawl i droi y genedl anghrediniol hono i farnedigaeth a dinystr ag sydd gan y crochenydd i droi y telpyn pridd "a ddifwynwyd❞ yn ei law, i fod yn llestri anmharch, pryd y gallasai fod, mewn amgylchiadau gwahanol, yn llestr i barch. Yr oedd y genedl hon wedi ei "difwyno" trwy bechod, yn enwedig y pechod o wrthod ei Gwaredwr a ddaethai atynt oddiar y fath haelfrydigrwydd, ac yr oedd yn gweddu i Dduw (er cymaint y ffafrau a ddangosid yn flaenorol tuag at eu tadau) i ddangos ei gyfiawnder a'i doster arswydol tuag atynt hwy yn y farnedigaeth ag yr oeddynt yn awr wedi ymaddfedu iddi. Os edrychwn ar y geiriau yn Jer. 18: 1—10, o'r lle y dyfynwyd hwy gan yr apostol, cawn weled mai dyna eu gwir ystyr. "Onid allaf fi, fel y crochenydd hwn, wneuthur i chwi, ty Israel?" &c. Edryched y darllenydd ar y geiriau. Yr oedd amgylchiadau y genedl yn nyddiau yr apostol yn dra chyffelyb i'r hyn oeddynt yn nyddiau y prophwyd—eu hysbryd annghrediniol ac eilunaddolgar oedd wedi eu "difwyno yn llaw y crochenydd" ar y ddau amgylchiad, ac yr oedd y farn yn ymyl. Sylwn ar y testyn:
I. Y ddau nodweddiad a enwir.
1. "Llestri digofaint." Pwy oedd y rhai hyn? Anghredinwyr yr oes hono—ac anghredinwyr pob oes. Anghredinwyr y gynulleidfa hon a gynwysir yn y darluniad, "Llestri digofaint!" Gelwir hwy yn "llestri digofaint" am eu bod yn wrthddrychau digofaint yr Arglwydd. "Duw sydd Farnydd cyfiawn, a Duw sydd ddigllawn beunydd wrth yr annuwiol." Nid digllawn wrtho fel ei greadur—mae yn dirion iawn tuag ato yn yr ystyr hono―ond mae yn ddigllawn wrtho fel "annuwiol"—ac yn ddigllawn wrtho am barhau yn annuwiol. Dywedir yn mhellach, "Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hoga ei gleddyf;" hyny yw, efe a ymbarotoa i fwy o ddialedd. Dywedir hefyd ei fod yn "dal dig" at ei elynion; hyny yw, nid yw yn ildio dim iddynt―ni rydd i fyny un o'i egwyddorion tragywyddol i gefnogi yr annuwiol yn ei bechod a'i anufudd—dod—rhaid iddo fe ildio trwy ymostwng—ni wna Duw ildio dim—mae holl egwyddorion ei drefn ef yn anhyblyg dragywyddol. Am hyny, priodol iawn yw'r cyngor, "Yn gymaint a bod digofaint, gochel, rhag iddo dy gymeryd di ymaith â'i ddyrnod, yna ni'th wared iawn mawr!"
"Llestri digofaint." Fel y mae y llestr a sudda yn y môr yn cynwys ei llonaid o ddwfr, felly bydd yr annuwiol a sudda yn uffern yn llawn o ddigofaint yr Arglwydd. Pob teimlad ynddo—pob cyneddf—fydd yn llawn o'r meddwl fod Duw yn ddigllawn wrtho—a'i fod yn gyfiawn yn ddigllawn. Os oedd y meddwl fod Sarah yn ddig yn gwneyd sefyllfa Agar yn annyoddefol yn nheulu Abraham, beth fydd teimlad yr annuwiol pan bo yn cofio fod Duw yn ddig wrtho, a hyny am byth!
2. "Llestri trugaredd." Nid oes eisiau llawer o amser i hysbysu pwy yw y rhai hyn. Mae yr apostol yn eu nodi allan yn amlwg——"Sef nyni y rhai a alwodd efe, nid o'r Iuddewon yn unig, eithr hefyd o'r cenedloedd." Y dychweledigion oeddynt yr holl ddychweledigion―yr holl gredinwyr—pawb duwiolion—pa un bynag ai Iuddewon ai cenedloedd. Dyma y ddau ddosbarth moesol i ba rai y rhenir y byd ar blatform mawr cyfryngdod Mab Duw—sef credinwyr ac anghredinwyr—rhai yn parchu y Mab, a rhai yn ei ddirmygu—dyma y dau gyflwr—a dyma ddeiliaid y ddwy sefyllfa dragywyddol. Y Beibl a olyga bob dyn yn ngwlad efengyl yn perthyn i un o'r ddau raniad yma, yn llestr trugaredd neu yn llestr digofaint, yn ol y peth yw ei ymddygiad at y Gwaredwr mawr. Mae y saint yn llestri trugaredd fel y maent yn ddeiliaid ffafrau rhyfedd o law yr Arglwydd. Ffafr ryfedd i ni oedd fod yr efengyl yn y byd o'n blaen ni, a ninau yn cael bodolaeth ganddo ef yn ngwlad efengyl. Ffafr ryfedd oedd i ni gael ein harwain gan ryw law dyner dan ei gweinidogaeth hi, a chael ein dysgu i nabod llythyrenau ei enw anwyl Ef. Ffafr ryfedd oedd y dylanwad dwyfol a roddodd i ni y tueddfryd sanctaidd hwn y dduwiol anian—ac a'n cychwynodd ar y ffordd tua'r bywyd. A ffafr fawr oedd y gynaliaeth a dderbyniasom bob cam o'r yrfa, a'r gobaith sydd ynom, yr hwn a dry yn fwynhad cyflawn fry yn nhy ein Tad. Diau mai llestri trugaredd yw'r saint.
Ond cofier mai llestri trugaredd ydynt. Nid oes yma ddim defnydd hunan—ymffrost. Gwrthddrychau heb haeddu dim yw gwrthddrychau trugaredd. Mae'r saint yn edrych ar bob bendith a fwynhant ar y ddaear yn drugaredd, a byddant yn edrych ar bob bendith a fwynhant yn y nefol wlad fel rhoddion heb eu teilyngu o'u tu hwy. Er mai "coron cyfiawnder" fydd y wobr, ac er y bydd gweddusrwydd priodol yn y gweinyddiad o honi i bob un o'r teulu, eto rhoddion fydd yr holl ffafrau tragywyddol iddynt hwy.. Dyma a bâr newydd—deb tragywyddol yn molianau y nef, “Iddo ef, yr hwn a'n carodd ni, ac a'n golchodd oddiwrth ein pechodau yn ei waed ei hun.”
II. Y gweinyddiadau gwahanol o eiddo Duw a enwir yma at y gwrthddrychau hyn.
Am ei weinyddiadau tuag at anghredinwyr neu wrthodwyr o'r Gwaredwr, mae yma amrywiol bethau difrifol yn cael eu nodi.
1. Dangos ei ddigofaint—"Beth os Duw yn ewyllysio dangos ei ddigofaint." Fe ddangosodd yr Arglwydd ei ddigofaint mewn modd dychrynllyd iawn yn y farn dymorol ar y genedl Iuddewig (fel y sylwyd) am eu gwrthodiad o'r Messiah. Yr oeddynt wedi cael eu rhybuddio o hyn gan y prophwydi, a chan Grist ei hun mewn dagrau, ac y mae y darluniad a roddir o'r farn hon gan Josephus, yr hanesydd Iuddewig, yn arswydol yn wir, pan gylchynwyd y ddinas gan y lluoedd Rhufeinig—y ddinas ei hun o'i mewn fel crochan berwedig gan bleidiau gwrthwynebol yn dinystrio eu gilydd yr Iuddewon wedi hyny yn cael eu croeshoelio ar brenau, tra yr oedd pren i'w gael yn y wlad i groeshoelio dyn arno. Yna eu gwasgaru a'u halltudio, megys gyda phedwar gwynt y nefoedd. Yma yr oedd Duw mewn barn dymorol yn dangos ei ddigofaint yn arswydol, eto yn gyfiawn, at wrthodwyr ac erlidwyr ei Anwylfab. Ond beth a ddywedwn am y farn dragywyddol ar yr holl anghredinwyr, y rhai na fynant ufuddhau i efengyl Mab Duw, nac ymddiried ynddo? Y bywyd naturiol a ddinystrir gan farnau tymorol—bywyd yr enaid fydd dan y farn hono. Peth dros amser yw pob barn dymorol peth i barhau byth fydd y digofaint hwnw. Dydd i "ddangos ei ddigofaint" fydd dydd y farn gyffredinol—a dydd i "ddangos ei ddigofaint" fydd cyfnod y gosp dragywyddol.
2. "Peri adnabod ei allu." Ei allu barnol yn ddiau a feddylir wrth y gair yma. Mae llawer yn ymddwyn yn awr mewn gwawd a dirmyg a rhyfyg, gan gymeryd yr enw mawr yn ofer, diffodd argyhoeddiadau eu cydwybodau eu hunain, a mynu eu ffordd yn mlaen tuag uffern trwy bob moddion a roddir i'w hatal, fel pe na byddai gan Dduw allu i'w galw i gyfrif. Ond y mae ganddo allu, ac fe bâr adnabod ei allu pan bydd yn galw yr adyn euog i wely angau, a thrwy angau i'r farn, a phan y bydd yn galw ei holl elynion o'u beddau yn y dydd mawr a ddaw.
3. "A oddefodd trwy hir ymaros." Dyna fel yr oedd yr Arglwydd wedi ymddwyn at y genedl wrthnysig hono—a dyna fel y mae yn ymddwyn eto at lawer o wrthodwyr ei Fab—goddef yn hir cyn tarorhoddi amser iddynt i edifarhau, fel y Jezebel hono a enwir yn llyfr y Datguddiad—eu cymell yn dirion—eu ceryddu weithiau—eu gwaredu bryd arall—" hirymarhous yw efe" tuag at y rhai cyndyn ac anufudd.
4. Rhai wedi eu "cymwyso i golledigaeth" oedd y rhai hyn. "A oddefodd trwy hir ymaros lestri digofaint wedi eu cymwyso i golledigaeth." Nid oes dim yn cymwyso dyn i golledigaeth mor effeithiol a'i fod yn gwrthod yr unig Waredwr a drefnodd Duw i ddyn, ac yn y sefyllfa hono yn byw mewn pechodau rhyfygus. Dyma oedd sefyllfa y rhai a ddarlunir gan yr apostol yma—yr oeddynt yn gymwys i'r farn, ac wedi eu hir oddef cyn i'r farn ddisgyn. Ei gymwyso ei hun i golledigaeth y mae yr annuwiol trwy ei anghrediniaeth a'i galedwch. Meddwl y gair hwn ydyw fod yr Arglwydd o'i anfeidrol amynedd yn goddef llawer o ddynion ar y ddaear, er eu bod eisoes wedi eu cymwyso eu hunain i golledigaeth.
Dau beth a enwir gyda golwg ar y gweinyddiad dwyfol at "lestri trugaredd."
1. "Peri gwybod golud ei ogoniant" yn eu hiechydwriaeth. Iaith aruchel iawn yw hon—peri gwybod ei ogoniant, a golud ei ogoniant yn iachawdwriaeth ei bobl. Mae gogoniant yr Arglwydd i'w weled yn ei holl weithredoedd, ond yn iachawdwriaeth ei saint gwelir golud ei ogoniant. Yma y gwelir golud ei allu, ei ddoethineb, ei gyfiawnder a'i drugaredd dros byth.
2. Eu "rhagbarotoi i ogoniant." Dyma ddyben grasol holl oruchwyliaethau Duw tuag atynt, a dyma yr effaith y mae y goruchwyliaethau yn gael arnynt—eu rhagbarotoi i ogoniant. Gwaith mawr ydyw hwn—addysgu boneddigeiddrwydd y nef i'r teulu ar y ddaear.
III. Yr herfeiddiad sanctaidd a wneir
"Beth os Duw yn ewyllysio," &c. Mae y gair hwn yn cyfeirio at y ddau weinyddiad. Yr oedd gwrthddadleuon yn codi yn meddyliau llawer i'r athrawiaeth fod y fath genedl ag oedd hen genedl yr Iuddewon, eiddo y rhai oedd y tadau, a dodiad y ddeddf, a'r cyfamodau, &c., yn cael ei rhoi i fyny i'r fath farn. Ac yr oedd gwrthddadleuon i'r meddwl fod y cenedloedd yn dyfod i mewn i'r fath ffafrau goruchel. Sylwn air yn fyr yma.
1. Ar gyfiawnder Duw yn ngweinyddiad y farn ar yr Iuddewon, ac yn ngweinyddiad y gosp dragywyddol ar bawb anghredinwyr.
(1.) Hwy a wrthodasant Dduw eu tadau, ac nid efe a'u gwrthododd hwy. Yr apostol a ofyna gydag eiddigedd sanctaidd (pen. 11: 1), "A wrthododd Duw ei bobl? Na atto Duw," &c. Nid efe oedd yn troi ymaith oddiwrth ei bobl, ond hwy oeddynt yn troi ymaith oddiwrth eu Duw a'i wasanaeth. Dyna a agorodd y genllif o ddigofaint i ddyfod arnynt. Felly y mae eto—"Ni fynwch ddyfod ataf fi, fel y caffoch fywyd."
(2.) Y pechod mwyaf o bob pechod ydyw anghredu yn y Gwaredwr. Mae yn fwy na phechod paganiaid—mae yn fwy na phechod cythreuliaid. Pechod y pechodau ydyw anghredu yn Iesu Grist. Y weithred fwyaf ysgeler a gyflawnwyd erioed gan ddynion oedd gweithred yr Iuddewon yn erlid yr Iesu. Gwawdiasant, dirmygasant, croeshoeliasant Anwylfab y Nef. Ac y mae y rhai a anufuddhant i'w efengyl yn awr yn ei ail groeshoelio.
(3.) Gweithred rydd yw credu tystiolaeth Duw am ei Fab, a gweithred rydd yw anghredu y dystiolaeth. Nid yw yr Arglwydd yn gorfodi neb yn hyn. O fodd y derbynir Iesu Grist, ac o fodd y gwrthodir gwneyd derbyniad o hono. O'u bodd y gwaeddai yr Iuddewon, "Ymaith ag ef, ymaith ag ef," &c. Ac felly eto, o fodd y mae dynion yn anufuddhau i'r efengyl.
(4.) Mae anghrediniaeth yn cau unig ddrws iachawdwriaeth yn erbyn y pechadur. Nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, nac enw arall wedi ei adael, trwy yr hwn y mae modd bod yn gadwedig. Ni fedd Duw un drefn arall. Pan anfonodd Duw ei Fab i'r byd, anfonodd y genad olaf. Dyma, megys, y cynygiad diweddaf os gwrthodid ef, nid oedd un arall. 'Duw, wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd gynt wrth y tadau trwy y prophwydi, yn y dyddiau diweddaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab." Dyma yr urdd fwyaf dyma y graslonrwydd rhyfeddaf—dyma y genad olaf!
(5.) Mae hir oediad y farn (fel y nodwyd) yn cyfiawnhau ei gweinyddiad. "A oddefodd trwy hir ymaros." Nid oedd y Duw cyfiawn yn dewis goddef nac ymaros yn hwy. Felly y mae eto gyda golwg ar y rhai sydd bob amser yn gwrando, heb un amser ddyfod i wybodaeth o'r gwirionedd.
Wel, "Beth os Duw, yn ewyllysio dangos ei ddigofaint," &c., onid cyfiawn yw iddo wneyd hyny? Bydd gweinyddiadau y farn olaf bydd llais y gydwybod ei hun—bydd loesion y gosb yn y boenfa dragywyddol yn adleisio, Mae'r gosb yn gyfiawn. Un gair eto,
2. Ar y gweddusrwydd o'i fod yn dangos golud ei ogoniant ar lestri trugaredd, y rhai a ragbarotodd efe i ogoniant. Beth os Duw yn ewyllysio gwneyd hyn hefyd? Rhyw drugaredd ryfedd i'r cenedloedd oedd iddo agor y drws, a dywedyd wrth ei weision, Ewch bellach i ffordd y cenedloedd. Pan yr ymesgusodai y "rhai a wahoddid," ac ni fynent ddyfod i'r "swper mawr," trugaredd oedd dweyd wrth y gwas, "Dos allan i'r prif—ffyrdd a'r caeau, a chymell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhy." Trwy ffydd y derbyniwyd y cenedloedd, a thrwy ras heb ci fath—a bydd uchel ganmol byth am y gras hwn. Ceir gweled "golud ei ogoniant" yn y gwrthddrychau wedi i'r gwaith gael ei orphen. Gwelir y drefn yn ogoneddus—y gwaith yn ogoneddus—a'r diwedd a fydd yn ogoneddus byth.
Edrychwn na wrthodom yr hwn sydd yn llefaru o'r nef, Rhoddwn ufudd—dod parodol iddo—a chawn fynegu ei fawl ddydd a ddaw am ei ddawn annhraethol i wrthddrychau annheilwng.