Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/At Weinidogion yr Efengyl

Dyfyniadau o Bregeth Cofiant y diweddar Barch Robert Everett

gan David Davies (Dewi Emlyn)

Gorseddfainc Anwiredd

AT WEINIDOGION YR EFENGYL,

O'R GWAHANOL ENWADAU CREFYDDOL YN MHLITH Y CYMRY YN

AMERICA.

Anwyl Frodyr yn y Weinidogaeth: Llawer gwaith y meddyliais ac y bwriedais gyfeirio ychydig o ymad- roddion atoch fel cyd-lafurwyr yn nheyrnas ac amynedd Iesu Grist, yn achos y gaeth wasanaeth a'r gaethfasnach a ddygir yn mlaen yn ein gwlad; ond hyd yn hyn yr oedd ofnau rhag y byddwn trwy hyny yn dangos hyf`dra anweddaidd, ac felly yn clwyfo meddyliau rhai o'm brodyr, yn fy lluddias, Ond nid oedaf yn hwy; anturiaf yn addfwynder yr efengyl ddyweyd gair o'm meddwl yn y modd hwn. Yr ydym wedi bod yn rhy ddystaw, anwyl frodyr yn yr achos hwn. Mae yma bechod o'r rhyw ffieiddiaf yn cael ei goledd yn ein gwlad, a gwae a fydd i ni yn ddiau oni rybuddiwn y bobl o'i herwydd. Mae yr ystyriaethau canlynol wedi cael dwys le ar fy meddwl yn yr achos hwn.

1. Yr ydym wedi ein gosod er amddiffyn yr efengyl. Ond yn mha le y mae dim sydd yn taro yn fwy yn erbyn yr efengyl na bod dynion dan broffes o'i sanctaidd egwyddorion yn masnachu mewn cnawd dynol! yn prynu ac yn gwerthu am yr uchaf geiniog y rhai a grewyd ar ddelw Duw, ac a adnewyddwyd, rai o honynt, ar yr unrhyw ddelw trwy ei Lân Ysbryd? "Oni wyddoch chwi,” medd yr apostol, "fod eich cyrph yn demlau i'r Ysbryd Glan?" ac y mae y gwaelaf o blant yr Arglwydd felly; ac a yw temlau yr Ysbryd Glan yn cael eu gwerthu dan y morthwyl yn ein gwlad, a ninau yn ddystaw heb yngan gair dros ein brodyr a'n chwiorydd a brynwyd â phriod waed Mab Duw? Mae pob peth a berthyn i'r gaethfasnach yn wrth-efengylaidd—cymeryd yn lladradaidd y bobl dduon o Affrica sydd groes i'r efengyl—ffieidd-derau a chreulonderau y trosglwyddiad yn y caethlongau—("the horrors, of the middle passage") sydd yn warth tragywyddol ar ddynoliaeth—y fasnach yn y trueiniaid di-amddiffynedig yr ochr hon—gwahardd y Gair Dwyfol iddynt, i'r dyben i'w cadw mewn anwybodaeth, fel y gwasanaethant yn fwy tawel y dyn gwyn—eu codi i'r farchnad trwy odineb—dileu y berthynas deuluaidd o blith yn agos i dair miliwn o eneidiau, mwy o nifer nag sydd o drigolion yn nhalaeth boblog Caerefrog Newydd o rai canoedd o filoedd—pregethu (lle y pregethir hefyd iddynt) ran o'r gair ac nid yr "holl gyngor" fflangellu yn noethion feibion a merched yn ngolwg haul y nefoedd eu dilyn, pan ddiangont, i goedwigoedd a chorsydd, â drylliau ac â gwaedgwn—gwadu iddynt yr hawlfraint o dystio yn erbyn eu gorthrymwyr mewn llysoedd barnol, ac. o flaen eu brodyr yn nhy yr Arglwydd—amddiffyn y gyfundraeth gaethfasnachol trwy y weithred bwysig o bleidleisio dros y gorthrymwr a'i bleidwyr, a'u codi i swyddi o ymddiried i lywyddu ein gwlad—yr holl bethau hyn a'u cyffelyb yn dal perthynas a'r fasnach mewn dynion, ydynt yn hollol groes i ysbryd i ysbryd a llythyren yr efengyl. Ac a ydyw yn addas i ni, a osodwyd er amddiffyn yr efengyl i fod yn ddystaw yn y pethau hyn?

2. Mae gweision yr Arglwydd wedi eu gosod er amddiffyn dynoliaeth a moesoldeb. Ond yn mha le y mae dim sydd yn fwy anghyson â dynoliaeth, hynawsedd cymdeithasol, a gwir foesoldeb na'r gaethfasnach a'i chysylltiadau? Y duwiol John Wesley a'i geilw yn grynöad o'r holl ysgelerderau, "the sum of all villainies."

3. Mae gweision yr Arglwydd i ddefnyddio eu holl ddylanwad er amddiffyn y gweiniaid, yr amddifaid, a'r rhai a orthrymir yn y byd pechadurus hwn. "Agor dy enau dros y mud yn achos holl blant dinystr, agor dy enau, barn yn gyfiawn, a dadleu dros y tlawd a'r anghenus." Dyma a ddywed yr Arglwydd wrth bob dyn, ac yn enwedig wrth ei weision cyhoeddus. "Cofiwch y rhai sydd yn rhwym, fel pe baech yn rhwym gyda hwynt." "Bum newynog a rhoisoch i mi fwyd, noeth a dilladasoch fi; bum glaf, ac ymwelsoch a mi; yn ngharchar, a daethoch ataf.” Yn mhersonau pwy y bu Iesu Grist yn yr amgylchiadau yna? Y mae yn ateb ei hun, yn mhersonau ei "frodyr lleiaf;" a phwy yw "brodyr lleiaf” ein Harglwydd yn y dyddiau hyn, onid y rhai sy'n ofni ei enw yn y gaethglud fawr o fewn ein gwlad? a phwy a ddylai eu cofio, dadleu drostynt, ac amddiffyn eu hachos, oni ddylem ni wneyd, anwyl frodyr yn yr efengyl? Diau y dylai pob dyn amddiffyn cam y gweiniaid a'r gorthrymedig; ond y mae rhyw beth neillduol yn natur ein swydd ac yn yr ymddiried a roddwyd ynom gan ein Harglwydd, yn galw ar ein bod ni yn llefaru drostynt pe b'ai pawb eraill yn tewi.

4. Gweinidogaeth y gair yw y brif offerynoliaeth a ddefnyddir gan Dduw yn mhob oes i ddileu trefniadau gorthrymus, y rhai a safant ar ffordd llwydd ei achos a Iles ysbrydol a thragywyddol eneidiau dynion. Eglwys Dduw yw y Gymdeithas er diwygiad moesol (moral reform society) benaf ar y ddaear, ac y mae i fod felly yn mhob ystyr dirwest, diweirdeb, rhyddid, addysgiadau Sabbothol i'r "oes a ddel "—yr holl bethan hyn a gyfansoddant faesydd i eglwys Dduw i weithredu ynddynt i ddwyn y byd i'w le, i ddadymchwelyd teyrnas y fagddu, ac i gael llafur enaid Iesu tuag adref; ac ynddynt oll y mae gweision cyhoeddus yr Arglwydd Iesu i flaenori. Hwy mewn gwirionedd a fuont yn blaenori yn mhob oes o'r byd yn y cyfryw ddiwygiadau. Pa offerynoliaeth a ddefnyddiwyd i gael Israel o'r Aipht? onid Moses ac Aaron fel proph wydi yr Arglwydd a safasant yn yr adwy danllyd? Pwy a safodd yn erbyn gorthrwm Ahab? Onid Elias ac Eliseus, a chyda hwy yr oedd "saith mil y rhai ni phlygasant eu gliniau i Baal." Pwy a safasant flaenaf yn erbyn gorthrwm y Pab yn y 16eg canrif? Pwy a fuant ar y maes yn nghychwyniad cyntaf y diwygiad dirwestol, onid gweision yr Arglwydd, ac onid hwy yn wir a ddylasent fod, ac a ddylent fod eto yn selog a diflino gyda yr achos gwerthfawr hwnw, a phob achos o'r cyfryw natur.

5. Mae y dylanwad a fedd gweision yr Arglwydd yn rhy werthfawr i'w golli. Nid oes genym ddim i ymffrostio yn ddynol ynddo, anwyl frodyr, ond y mae dylanwad yn perthyn i'n swydd oruchel ac i ninau ynddi, yr hyn a roddwyd i ni gan Dduw, a dylai gael ei ddefnyddio o blaid pob achos sydd yn dal perthynas a dinystr pechod, llwydd efengyl a chadwedigaeth eneidiau.

A oes arnom ofn difriaeth gwrthwynebwyr yr achos gwrthgaethiwol? Na, hyderaf na chaiff hyny ein rhwystro yn y gradd lleiaf. Pa beth a all dyn wneyd i ni, yr hwn y bydd ei wyneb ef fel yr eiddom ninau yn fuan yn glasu yn angau! Gwael iawn yw ceisio boddhau neb dynion ar y draul o esgeuluso dyledswyddau pwysig ein hadeg a'n tymor yn nhy a theyrnas ein Harglwydd ar y ddaear.

A oes arnom ofn nas gallwn lwyddo? Hyderaf na chaiff hyny le ar ein meddyliau am eiliad tra y cadwom olwg ar addewidion y digelwyddog Dduw. Er fod anhawsderau yn bod, eto y mae genym y sicrwydd mwyaf o lwyddiant, ond bod yn ffyddlawn—mae Duw trosom, mae ei ragluniaeth yn gweithio o du y caethwas, mae y fasnach yn cael ei rhoi i fyny a chaethfeistri diwygiedig yn dyfod i bleidio yr achos; mae miliynau yn cael eu rhyddhau mewn gwledydd eraill, mae cydwybodau pawb o du ein llwyddiant, mae gwawr llwyddiant eisoes yn chwareu ar y terfyngylch, a diau ceir clywed udgorn y Jubili cyffredinol cyn bo hir iawn. Anwyl frodyr, deffrown a byddwn ffyddlawn.